Agenda item

I gynnig unrhyw awgrymiadau pellach cyn derbyn yr adroddiad.

Penderfyniad:

  1. Nodi a derbyn yr adroddiad.
  2. Gofyn am  adolygu  teitlau’r Hyfforddiant Craidd i Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Arweinydd Talent a Phrentisiaethau, yn absenoldeb y Rheolwr Dysgu a Datblygu. Cadarnhawyd penodiad Swyddog Datblygu Aelodau newydd a chroesawyd Catrin Owen i’r swydd. Manylwyd ar yr 8 Maes Craidd sydd wedi eu hadnabod i Aelodau, gan nodi bod Aelodau yn cael eu hannog a’u hatgoffa yn barhaus i’w cwblhau fel isafswm er mwyn gallu cyflawni eu rôl fel cynghorwyr yn effeithiol. Mynegwyd siom nad oes cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o Aelodau sydd wedi cwblhau rhagor o’r teitlau craidd ers mis Chwefror llynedd. Mynegwyd rhwystredigaeth bellach fod 7 Aelod heb gwblhau dim un o’r wyth teitl Craidd, yn dilyn amryw geisiadau i wneud. Atgoffwyd bod darpariaeth y cyrsiau craidd ar gael ar lein i aelodau gael mynediad iddynt ar unrhyw adeg a chroesawyd aelodau i gysylltu unrhyw bryd os oes unrhyw drafferthion. Nodwyd bod yr adran wedi uwch lwytho fideos a datblygu adnoddau ar y Fewnrwyd Aelodau i geisio hwyluso trefniadau. Eglurwyd bod hyn yn galluogi aelodau i wylio’r fideos ar amser cyfleus iddynt. Anogwyd aelodau i fynychu’r sesiwn hyfforddiant diogelu ar y 6 o Fawrth. Soniwyd bod cyfle i Aelodau dderbyn sgyrsiau datblygiad personol a bod rhai eisoes wedi manteisio ar y cynnig. Croesawyd Aelodau i gysylltu efo’r Rheolwr Dysgu a Datblygu’r adran os ydynt awyddus i ychwanegu unrhyw deitl neu sesiwn hyfforddiant gan ei fod yn flwyddyn olaf y cyfnod etholiadau presennol. Cyfeiriwyd at y teitl newydd - ‘Arweinyddiaeth Ward’ sydd mewn datblygiad ar hyn o’r bryd, gan nodi bod trefniadau mewn lle i sefydlu hwn yn fuan. Ymhelaethwyd bod trafodaethau gyda phenaethiaid adran yn mynd rhagddynt i bennu cynigion hyfforddiant pellach ar gyfer y cyfnod etholiadol newydd. Mynegwyd siom bod 6 aelod heb gwblhau dim o’r hyfforddiant, yn enwedig y maes Cod Ymddygiad. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cwblhau’r cyrsiau craidd, Nodwyd pwysigrwydd y cyrsiau craidd a’r posibilrwydd o’u hailenwi fel meysydd mandadol. Atgoffwyd bod y nifer o gyrsiau a gwblhawyd gan aelodau bellach yn wybodaeth gyhoeddus ar wefan y Cyngor. Holwyd os yw’n bosib i’r aelodau dderbyn negeseuon atgoffa personol ac uniongyrchol yn nodi yn union pa hyfforddiant nad ydynt wedi cwblhau. Esboniwyd bod nodyn ar gael ar dudalen personol aelodau ar y fewnrwyd i ddangos y wybodaeth yma ac yn nodi yn glir pa hyfforddiant craidd sydd wedi ei gwblhau. Anogwyd aelodau i gysylltu efo’r Swyddog Dysgu a Datblygu Aelodau os oes ganddynt unrhyw ymholiadau. Holodd Aelod os oes modd i’r Pwyllgor weithredu i sefydlu maes hyfforddiant LGBTQI+ fel hyfforddiant craidd ychwanegol. Mynegodd Aelod ei fod yn gwrs ddefnyddiol iawn ac yn helpu lawer o ran yr iaith addas i ddefnyddio yn y gymuned LGBTQI+. Atgyfnerthwyd byddai’r cwrs yma yn helpu sicrhau bod aelodau’r Cyngor yn fwy agored a chroesawgar. Soniwyd bod modd adolygu’r holl feysydd craidd i aelodau dros y flwyddyn nesaf ac adnabod pa hyfforddiant craidd bydd disgwyl i’r aelodau eu cwblhau a’u dilyn yn y cylch etholiadol nesaf. Mynegwyd yr awydd i aelodau gwblhau’r holl deitlau maes craidd yn fuan iawn yn y cyfnod etholiadol nesaf. Ystyriwyd y modd o glymu teitlau hyfforddiant craidd i swyddogaethau a seddi penodol o fewn cyfrifoldebau aelodau. Megis, sicrhau bod aelodau yn mynychu hyfforddiant penodol ym maes gofal, os ydynt am fod yn aelod o’r Pwyllgor Craffu Gofal. Cyfeiriwyd at ddatblygiadau’r Strategaeth Datblygu Aelodau, gyda’r bwriad o gryfhau disgwyliadau hyfforddiant i Aelodau. Sicrhawyd y bydd y Strategaeth yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd, cyn ei fabwysiadu yn ffurfiol gan y Cyngor Llawn ym Mawrth 2027.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: