Diwygiad ansylweddol i ddyluniad hawl cynllunio C21/0411/46/LL
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones
Penderfyniad:
DECISION:
To delegate the right to the Senior Planning Manager to approve the
application subject to the following condition:
1.
The
development hereby permitted shall be carried out in strict conformity with the
details shown on the plan(s) numbered 673-01B, Revised Elevation plan, Ground
Floor plan, First Floor plan submitted to the Local Planning Authority on 12
January 2026, and contained in the form of application and in any other
documents accompanying such application unless condition(s) to amend them
is/are included on this decision notice. Notwithstanding the amendments hereby
approved the remainder of the development shall be carried out in accordance
with the conditions and details contained within planning permission number
C21/0411/46/LL.
Cofnod:
Diwygiad ansylweddol i ddyluniad hawl
cynllunio C21/0411/46/LL .
a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio mai cais am ddiwygiad ansylweddol i gynlluniau a ganiatawyd o dan
ganiatâd Cynllunio blaenorol yn 2022 ar gyfer codi adeilad i gadw cyfarpar
porthiant amaethyddol gan gynnwys dwy stabl a storfa tac oedd dan sylw. Roedd y
diwygiadau yn cynnwys:
-
Newid gogwydd yr adeilad
ar ochr ddwyreiniol y safle i’r hyn a gymeradwywyd.
-
Diwygiad i rai agoriadau
ffenestri/ ffenestri to mewn lleoliadau gwahanol i’r cynlluniau gymeradwywyd, a
-
Diwygiad i’r deunydd to
i lechi Cymreig wedi eu hailgylchu yn hytrach na lleiniau dur lliw llwyd a ganiatawyd.
Eglurwyd bod yr adeilad eisoes wedi ei
adeiladu ac wedi ei gwblhau’n sylweddol. Cyflwynwyd y cais yn dilyn
archwiliadau gorfodaeth ac mewn ymgais i reoleiddio’r gwaith oedd wedi ei
gwblhau ar y safle yn wahanol i’r cynlluniau a ganiatawyd.
Mynegwyd, yn unol a chynllun dirprwyo’r
Cyngor, bod y cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn
berthynas agos i Aelod Etholedig y Cyngor.
Adroddwyd, gan mai cais ar gyfer newid
ansylweddol oedd gerbron, mai’r unig faterion oedd angen sylw oedd,
-
os oedd y newid mor fawr
fel ei fod yn cael effaith wahanol i’r cynllun gwreiddiol
-
os oedd y newid yn cael
effaith andwyol naill ai’n weledol neu o ran amwynder
-
a fyddai buddiannau
unrhyw drydydd parti neu gorff yn cael eu rhoi o dan anfantais o ran cynllunio
-
a fyddai’r newid
arfaethedig yn gwrthdaro a pholisïau cynlluniau cenedlaethol neu gynlluniau
datblygu?
Nodwyd mai newidiadau i ddyluniad yr adeilad
yn unig oedd dan sylw ac nid i faint na defnydd yr adeilad. Amlygwyd bod
amheuon wedi codi yn lleol am ddefnydd bwriadedig yr
adeilad, ond tynnwyd sylw bod amod, sy’n sicrhau mai defnydd amaethyddol neu
gadw ceffylau yn unig a wneir o’r adeilad, yn parhau ar y caniatâd ac y bydd
modd monitro unrhyw sefyllfa i’r dyfodol.
Ni ystyriwyd bod y newidiadau oedd wedi
cymryd lle yn cael effaith ar drigolion cyfagos nac yn sylweddol wahanol i’r
hyn a ganiatawyd yn flaenorol – y cais felly yn bodloni gofynion polisi PCYFF 2
y CDLl.
Argymhellwyd caniatáu’r cais yn ddarostynedig i amodau perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Yn unol a Rheoliadau’r
Cyngor, bod y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd cysylltiad teuluol gydag Aelod
Etholedig
·
Y cais am 2 stabl,
sgubor a storfa wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor yn 2022
·
Cyflwynwyd y cais yn
dilyn archwiliadau gan Swyddog Gorfodaeth yn 2025 oedd wedi cynnig newidiadau
ansylweddol
·
Bod addasiad i ogwydd yr
adeilad, i’r deunydd to i lechi Cymreig, ac i ddefnydd ffenestri cadwraethol
·
Bod yr adeilad yn llai o
faint erbyn hyn
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Diwygiad ansylweddol
ydoedd i adeilad porthiant amaethyddol
·
Yr adeilad yn un
gwledig, ymarferol a chynaliadwy
·
Bod safon i’r
adeiladwaith; pensaernïaeth gelfydd gan gwmni a chrefftwyr pren lleol
·
Yn gynllun amgen ac yn
adeilad fydd yn sefyll am genedlaethau
·
Yr adeilad yn addas a
phwrpasol – yn drawiadol a hardd
·
Bod addasiad i uchder ac
ôl troed yr adeilad, a bod angen defnyddio llechi Cymreig wedi eu hailgylchu yn
hytrach na lleiniau dur lliw llwyd
·
Yn diolch i’r swyddogion
gorfodaeth am ymweld â’r safle
·
Yr adeilad yn gweddu i’r
dirwedd, a chefn gwlad Llŷn
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais. Yr eitem
gerbron oherwydd bod yr ymgeisydd yn berthynas agos i Aelod Etholedig y Cyngor.
d) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod yr eiddo yn ymdebygu
i fyngalo
·
A fydd y cais, mewn amser
yn dychwelyd i’r Pwyllgor i’w addasu yn dŷ?
`
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais gyda’r amod
isod:
Cwblheir y
gwaith drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau
diwygiedig, Cynllun Lleoliad rhif 673-01B, Edrychiad diwygiedig, Cynllun Llawr
Daear a Chynllun Llawr cyntaf a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 12
Ionawr 2026, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill
gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi
ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn
rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac
amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif C21/0411/46/LL.
Dogfennau ategol: