Agenda item

I ystyried a nodi cynnwys yr adroddiad yma a’r atodiadau.

 

Argymell y Cytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) diwygiedig i'r Cyngor Llawn ar 5 Mawrth 2026 am gymeradwyaeth fel mater wedi ei neilltuo.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Nodi cynnwys yr adroddiad yma a’r atodiadau.

 

Argymell y Gytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) ddiwygiedig i'r Cyngor llawn ar 5 Mawrth 2026 am gymeradwyaeth fel mater wedi ei neilltuo

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr Buddsoddi yn amlygu'r angen i’r Pwyllgor argymell yn ffurfiol i’r Cyngor Llawn gymeradwyo’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA).

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai fframwaith cyfreithiol a  llywodraethu ffurfiol sydd yn rhwymo wyth awdurdod gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru i Bartneriaeth Pensiwn Cymru yw’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod. Adroddwyd bod y Cytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) wedi ei gymeradwyo yn gyntaf yn 2017 pan sefydlwyd PPC, ond yn dilyn ymgynghoriad ‘Addas i’r Dyfodol’, a’r addasiadau oedd eu hangen i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Llywodraeth y DU, sefydlwyd ac ymgorfforwyd cwmni rheoli buddsoddiadau ‘WPP IM Co. O ganlyniad, ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r IAA i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn briodol. Ategwyd, er bod  PPC  wedi  bod yn  llwyddiannus gyda llywodraethiant a threfniadau da yn arwain at ddychweliadau da, nid oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon parhau â’r trefniant ac felly bu rhaid ffurfio cwmni buddsoddi newydd; o dan ofynion ‘Addas i’r Dyfodol’ bydd addasiadau sylweddol i’r strwythur presennol, fydd angen bod yn weithredol erbyn y 1af o Ebrill 2026.

Cyfeiriwyd at brif newidiadau'r strwythur newydd ynghyd a’r nodyn sicrwydd roedd Hymans Robertson (ymgynghorydd goruchwylio a llywodraethu PPC) wedi ei baratoi i’r wyth awdurdod gweinyddol. Nodwyd bod y nodyn sicrwydd, yn cynnwys mewnbwn gan yr wyth awdurdod, ac yn rhoi trosolwg annibynnol ar y drefn newydd a’r diwygiadau allweddol arfaethedig oedd yn rhan o’r argymhelliad.

 

Tynnwyd sylw at waith a  baratowyd gan Burges Salmon (cynghorydd cyfreithiol PPC) oedd yn manylu at holl ddiwygiadau arfaethedig i’r IAA. Rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor bod sawl haen o oruchwyliaeth wedi craffu’r cytundeb arfaethedig oedd yn cynnwys trafodaethau gyda’r Grŵp Llywio, a Swyddogion Monitro'r wyth awdurdod gweinyddol wedi rhoi mewnbwn i sicrhau bod y Cynghorau unigol yn ddiogel; Bydd pob un o’r wyth awdurdod gweinyddol yn dilyn yr un drefn i gymeradwyo’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Diolchwyd am y gwaith cefndirol oedd wedi ei wneud i baratoi’r cytundeb o fewn amserlen dynn, ac i Hymans Robertson a Burges Salmon ar eu gwaith craffu da o amlygu’r goblygiadau.

 

Diolchwyd am y gweithdy rhannu gwybodaeth a drefnwyd ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Pensiynau a’r Bwrdd Pensiwn (23-02-26) y drafodaeth wedi bod yn werthfawr a buddiol ac wedi ei gynnal o fewn awyrgylch hynaws – yn rhoi sicrwydd bod y Pwyllgor yn gwneud penderfyniadau cywir.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Pryder bod rôl y Pwyllgor yn ymddangos fel corff goruchwylio ac yn colli’r hawl o fod yn rhan o drafodaeth buddsoddiadau

·        Pryder bod y Pwyllgor yn colli’r rôl reolaethol a’u cyfrifoldebau

·        Pam mai Uwch Swyddog ac nid Aelod sydd ar y Fforwm Cyfranddalwyr? Cyfle yn cael ei golli o gael llais Aelodau ar y Fforwm - bydd y cyhoedd yn cysylltu / rhannu eu pryderon gydag Aelodau Etholedig os na fydd pethau yn  mynd yn dda, felly doeth fyddai iddynt gael mewnbwn

·        Rhaid pwysleisio mai ymateb i ofynion statudol yw cymeradwyo’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod

·        Bod ansawdd y gwaith cefndirol o safon uchel iawn, yn broffesiynol a manwl - y Pwyllgor yn ddibynnol ar safon gwybodaeth o’r lefel yma

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, derbyniodd y Pennaeth Cyllid bod y sefyllfa yn un rhwystredig a bod haenau o gymhlethdod yn cael eu hychwanegu at y drefn bresennol sydd, hyd yma, wedi bod yn glir a threfnus iawn. Ategodd mai ef fel Swyddog Adran 151 fydd yn mynychu’r Fforwm Cyfranddalwyr ar ran y Cyngor (ac nid PPC) lle bydd dyletswydd ganddo i sicrhau bod cyfranddaliadau a gweithredoedd yn ddiogel. Ategodd y Swyddog Monitro mai Cyfranddaliwr yw’r Cyngor yn y sefyllfa yma sydd â hawl i bleidlais ar y penderfyniadau i warchod buddiannau Gwynedd; byddai modd trafod hynny yn yr eitem  cymeradwyo  Cytundeb Cyfranddalwyr.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r Cytundeb i’r Cyngor Llawn

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Nodi cynnwys yr adroddiad a’r atodiadau.

·        Argymell y Cytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) ddiwygiedig i'r Cyngor llawn ar 5 Mawrth 2026 am gymeradwyaeth fel mater wedi ei neilltuo

 

Dogfennau ategol: