Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

Cofnod:

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

  1. Cwestiwn Y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

Os nad ydych eisoes yn gwybod mae ymgyrch wedi ei ddechrau yn Harlech gan ddynes o’r enw Andrea Bowen I gael cofeb I Catrin merch Glyndŵr Mae hanes Catrin yn hynod o drist ac yn amlwg roedd yn ferch ddewr iawn.

 

Gai ofyn felly os buasai’r Cyngor yn gallu cefnogi mewn egwyddor yr ymgyrch gymunedol i godi cerflun o Catrin ferch Owain Glyndŵr yn Harlech, gan ystyried ei chysylltiad hanesyddol uniongyrchol â’r dref drwy Gastell Harlech, a’r ffaith nad oes ar hyn o bryd gofeb gyhoeddus yn cydnabod ei haberth a’i rôl yn hanes Cymru?

 

Ateb Yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, y Cynghorydd Medwyn Hughes

 

Diolch i’r Cynghorydd am ei gwestiwn. Mae gan Harlech ran amlwg yn hanes Cymru, ac mae hanes Catrin, merch Owain Glyndŵr, yn arwyddocaol yn yr hanes yma. Dwi’n siŵr byddai Cyngor Gwynedd yn cefnogi mewn egwyddor ymgyrch lleol i ddehongli’r hanes trwy greu cerflun o Catrin yn Harlech. Byddai’n gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r hanes i blant a phobl ifanc Gwynedd ac i ymwelwyr i’r dref a’r Castell, sydd wrth gwrs yn rhan o Safle Treftadaeth Byd. Gwn fod swyddogion o’r Adran Economi a Chymuned yn barod iawn i gefnogi’r grŵp lleol, a dwi’n siŵr bydd gwasanaethau eraill o’r Cyngor hefyd yn cefnogi’r ymgyrch i adnabod safle addas ar gyfer y gofeb.

 

Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Gwynfor Owen

                                   

            Diolchwyd am yr ymateb a'i fod yn edrych ymlaen at drafod y mater gyda’r swyddogion. Mynegwyd ei fod yn credu fod yr Adran yn siŵr o gytuno ei fod yn syniad da i gael cerflun o ferch yng ngogledd Cymru gan mai dim ond cofeb o ferch sydd i’w gweld ar draws Cymru gyfan.

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, y Cynghorydd Medwyn Hughes

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet i’r carn.

 

  1. Cwestiwn Y Cynghorydd Beca Brown 

 

Cyhoeddwyd adroddiad gan Archwilio Cymru ym mis Ionawr 2021 yn asesu pa mor llwyddiannus neu beidio oedd Ffordd Gwynedd. Mae darn o’r adroddiad sy’n dwyn y teitl ‘Diwylliant - Grymuso, Ymddiriedaeth ac Arweinyddiaeth’ yn rhybuddio am ddwy broblem, sef bod her adeiladol yn cael ei hatal a bod rhywfaint o her ddinistriol yn bodoli, yn aml gan rai mewn awdurdod - rhywbeth sy’n tanseilio ymddiriedaeth ac yn atal grymuso.

 

Mae’r ddau fater yn cyfrannu at yr un risg systemig: diwylliant ble nad yw pryderon yn cael eu codi’n effeithiol, ble nad yw syniadau’n cael eu rhannu’n ddiogel, a ble gall arferion anniogel fynd heb eu herio. Amlygwyd rhai o ganlyniadau diwylliant o’r fath yn adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder.

 

O ystyried bod y pryderon hyn wedi eu codi yn 2021 - ddwy flynedd cyn arestio Neil Foden - beth wnaethpwyd ar y pryd i wella ymddiriedaeth a cheisio datblygu diwylliant gwaith sydd yn grymuso herio iach ac adeiladol?

 

Ateb Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, y Cynghorydd Llio Elenid Owen 

 

Ffordd Gwynedd yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at ein ffordd ni o weithio yma yng Ngwynedd. Mae’n ffurfio 9 ffrwd gwaith sy’n rhan o’r Cynllun Datblygu Sefydliad. Mae pwyslais ar roi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud ac edrych ar y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu trwy lygaid y dinesydd.

 

Cynlluniwyd darn o waith ar y cyd gyda Swyddfa Archwilio Cymru i edrych ar sut oedd y diwylliant wedi gwreiddio erbyn 2020. Allbwn y gwaith hwnnw oedd llythyr yn crynhoi’r sefyllfa.

 

Prif gasgliad Archwilio Cymru yn y llythyr oedd bod:

 

“Ffordd Gwynedd yn ymwreiddio’n dda ac yn sbarduno newid diwylliannol, fodd bynnag, mae yna rai rhwystrau a chamsyniadau cyffredin yn bodoli sy’n arafu cynnydd Ffordd Gwynedd”.

 

Roedd y gwaith a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi ei seilio ar gyfweliadau gyda phob Pennaeth Adran a Chyfarwyddwr ar y pryd. Ymysg nifer o gasgliadau ac argymhellion adeiladol, adnabuwyd herio dinistriol fel un rhwystr:

 

“...er mwyn teimlo eich bod wedi eich grymuso, mae angen gallu ymddiried yn y rhai o’ch cwmpas. Mae angen iddynt fod yn gefnogol ac yn gadarnhaol, hyd yn oed wrth herio. Mae amgylchedd diogel yn allweddol, sef man diogel i arbrofi ac i edrych i mewn i syniadau. Man lle mae’n ddiogel i fethu a dysgu, gan geisio cefnogaeth a mewnbwn gan gydweithwyr. Yn amlwg, ar lefel uwch yn unrhyw sefydliad mae angen cynhenid i dderbyn ac ymateb i her, mae’n rhan o’r swydd. Ond rhaid ei wneud mewn ffordd adeiladol, gefnogol neu, fel arall, gall fod yn wrthgynhyrchiol. Ar hyn o bryd, yn y Cyngor, mae yna enghreifftiau lle nad yw’r berthynas hon o ymddiriedaeth a her adeiladol yn bodoli; caiff her ei disgrifio’n aml yng ngeiriau rhai pobl a caiff ei gweld gan eraill fel rhywbeth dinistriol.“

 

Mewn ymateb i lythyr y Swyddfa Archwilio, o ganlyniad uniongyrchol i’r sylwadau hyn, cymerwyd camau penodol gan swyddogion y Cyngor yn ystod 2021 i gryfhau ymddiriedaeth, ac i ddatblygu diwylliant yn bellach.

 

Yn dilyn apwyntio Prif Weithredwr newydd yn Mai 2021, un o’r camau cyntaf a gymerwyd ganddo oedd i geisio sicrhau fod pob her yn adeiladol ei natur. Newidiwyd ethos y cyfarfodydd Herio Perfformiad Adrannol i un lle'r oedd diwylliant a phwyslais o “Herio a Chefnogi”. Roedd y newid hwn yn cefnogi dwy egwyddor sylfaenol:

1.     Herio iach ac adeiladol, wedi ei seilio ar dystiolaeth ac arweinyddiaeth glir; a

2.     Cefnogi perfformiad drwy gryfhau sgiliau rheoli, sicrhau cysondeb, a meithrin agwedd sy’n canolbwyntio ar ddatblygu yn hytrach na beirniadu.

 

Ers hynny, mae’r trefniadau newydd wedi dod yn rhan o drefn lywodraethu’r Cyngor.

 

Yn ychwanegol i hyn:

1.     Adolygwyd y pecyn hyfforddi i Reolwyr gan sicrhau ei fod yn cynnwys hyrwyddo’r diwylliant o herio adeiladol. (Rhoddwyd hyfforddiant tebyg i Aelodau Etholedig yn dilyn etholiad Mai 2022.)

2.     Cyflwynwyd llythyr y Swyddfa Archwilio i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yng Ngorffennaf 2021 a Sefydlwyd Grŵp Tasg a Gorffen o Aelodau’r Pwyllgor i gydweithio â’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol i wneud Adolygiad manwl o sut oedd y ffordd o weithio yn datblygu drwyddi draw.

3.     Bu i’r Adolygiad gynnwys asesiad gan bob Tîm Rheoli Adrannol o sut oedd eu hadran yn gweithredu’r ffordd o weithio.

4.     Adroddwyd ar gasgliadau’r Adolygiad i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn Hydref 2022 gyda nifer o argymhellion am sut i barhau i ddatblygu’r ffordd o weithio.

 

Trafodwyd casgliadau’r Adolygiad yma yng nghyfarfod Ionawr 2023 o Dîm Arweinyddiaeth y Cyngor ac eto wrth fabwysiadu fersiwn newydd o Gynllun Ffordd Gwynedd 2023-28 yng nghyfarfod y Cabinet ym Mawrth 2023.

 

Mynegwyd amryw o sylwadau gan yr aelodau cabinet ar y pryd am wahanol elfennau o Ffordd Gwynedd gan gynnwys cydraddoldeb, gweithio gyda phartneriaid allanol a phwysigrwydd edrych ar wasanaethau’r Cyngor drwy lygaid y defnyddwyr.

 

Mae hi bellach hanner ffordd drwy’r cynllun a fabwysiadwyd yn 2023 ac mae’n fwriad gan y Prif Weithredwr i gynnal adolygiad pellach o’r cynnydd dros y misoedd nesa. Mae adolygu a gwirio diwylliant sefydliadol yn rhywbeth ddylai ddigwydd yn barhaus ac yn bendant yn dilyn cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder.

 

Mae adroddiad Cyfiawnder Drwy Ein Dewrder wedi ysgwyd y Cyngor cyfan ac yn berthnasol iawn wrth fynd ati i adolygu Ffordd Gwynedd. Bydd yn hanfodol sicrhau mewnbwn Aelodau i’r Adolygiad hwn a byddwn yn gofyn am fewnbwn Swyddfa Archwilio Cymru y tro hwn hefyd.

 

Fel bob amser, wrth drafod y pwnc pwysig yma, y dioddefwyr sydd ar flaen ein meddyliau. Dwi’n ategu ymddiheuriadau’r Cyngor hwn i’r dioddefwyr a phawb gafodd eu heffeithio gan y troseddau. Trwy’r Cynllun a’r Bwrdd Ymateb mae gweithredu yn digwydd er mwyn gwneud yn siŵr fod newid, gan gynnwys newid i ddiwylliant y Cyngor ar waith; hyn ydi’r deyrnged fwyaf y gallwn ei dalu i ddewrder y dioddefwyr.

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Beca Brown

 

Ag ystyried fod llythyr Archwilio Cymru 2021 yn codi pryderon am ddiwylliant sefydliadol sydd yn berthnasol i’r materion a archwiliwyd yn Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, ac nad yw’n ymddangos fod y ddogfen hon wedi cael ei rhannu ag yr adolygiad ymarfer plant, allwch chi egluro pa dystiolaeth sydd yna fod y camau a nodwch megis hyfforddiant a newidiadau i gyfarfodydd herio perfformiad wedi gwella ymddiriedaeth a gallu pobl i godi pryderon yn ddiogel.

 

Ateb yr Aelod Cabinet  Wasanaethau Corfforaethol, y Cynghorydd Llio Elenid Owen

 

Bu i Gyngor Gwynedd gydymffurfio a chydweithio yn llawn gyda’r adolygiad ymarfer plant, cafodd cronolegau manwl a thrylwyr ei pharatoi a rhannwyd cannoedd o ddogfennau gydant hwy. Bu i wybodaeth gefndirol hefyd gael ei rannu mewn ymateb i geisiadau pellach wrth i’r adolygiad fynd yn ei blaen. Rydym yn derbyn pob argymhelliad a gyflwynwyd gan Cyfiawnder Drwy Ein Dewrder ac yn benderfynol ar weithredu ar bob un o’r rhain drwy’r Cynllun Ymateb. Mae ymddiriedaeth yn rhywbeth hynod o anodd ei fesur fel sydd wedi ei grybwyll yn yr ateb. Mae adolygiad o ffordd Gwynedd ar y ffordd yn dilyn Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, a bydd cyfle i aelodau fod yn rhan o’r adolygiad hwnnw.

 

Dogfennau ategol: