Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.
Penderfyniad:
1. Sefydlu cyllideb o £379,701,110 ar gyfer 2026/27 i’w
ariannu drwy Grant Llywodraeth o £264,009,390 a £115,691,720 o incwm o’r Dreth
Cyngor (sy’n gynnydd o 4.75% sylfaenol ynghyd a 0.42% pellach i gyfarch ardoll
gan yr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, ac felly’n rhoi cyfanswm o 5.17%)
2. Sefydlu rhaglen gyfalaf o £40,179,430 yn 2026/27 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod nifer o gwestiynau yn
codi am sut mae’r dreth cyngor yn cael ei wario. Cyflwynwyd gwybodaeth a oedd
yn amlygu’r prif feysydd megis bod 80% o’r arian yn mynd tuag at Addysg a’r
maes Gofal. Amlygwyd fod 8,000 o oriau'r wythnos yn cael ei roi i ofal cartref
bob wythnos, gyda 1500 o unigolion yn cael gwasanaeth Teleofal.
Nodwyd fod 12,000 o bobl wedi cael cymorth drwy’r cynllun Gweithredu Tai ers
2020. Tynnwyd sylw at y ffigwr fod 93% o blant wedi gallu aros adref gyda’u teuluoedd
drwy ymyrraeth trobwynt, a bod 2 Gartref Bychan yn weithredol gyda 2 gartref
arall ar y ffordd. Mynegwyd fod gwaith da yn cael ei wneud a bod angen amlygu’r
llwyddiannau sydd yn cael ei gwneud gan staff y Cyngor.
Cyflwynwyd y gyllideb gan nodi fod angen cychwyn gyda’r
rhagolygon ariannol o’r flwyddyn ariannol bresennol er mwyn deall sefyllfa yn
llawn. Amlygwyd fod £5.3m o orwariant, ble nad oedd cyllidebau’r adrannau ddim
yn ddigon i ddiwallu’r galw am wasanaeth. Esboniwyd mai yn y maes gofal oedd y
prif alw gyda diffyg o £3m yn yr adran Oedolion a £1.8m yn Adran Blant. Ategwyd
fod y gorwariant wedi’i gyllido drwy ddefnydd o gronfeydd. Mynegwyd oherwydd y
fargen a wnaethpwyd yng Nghaerdydd ddiwedd flwyddyn ddiwethaf, roedd y setliad
yn llawer gwell na pheth oedd wedi ei ragweld sef 4.1% - sef £10.4m yn
ychwanegol.
Eglurwyd fel rhan o’r broses o osod cyllideb fod yr adran
wedi gwneud nifer o ragdybiaethau megis codiad cyflog o 4% i athrawon a 3.4% i
weddill gweithlu’r Cyngor. Nodwyd ynghyd a chwyddiant naturiol fod angen
buddsoddi mewn gwasanaethau, a mynegwyd fod cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y
flwyddyn i ddod megis buddsoddiad yn y gwasanaethau gofal ac addysg.
Amcangyfrifir y bydd angen gwario oddeutu £23.3m ychwanegol
y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn cynnal ein gwasanaethau gyda’r pwysau mwyaf
yn dod o chwyddiant cyflogau, chwyddiant cyffredinol a’r cynnydd mewn galw am
wasanaethau. Nodwyd fod hyn yn creu gofyniad gwario ar gyfer 2026/27 yn £380m.
Esboniwyd fod setliad gan Lywodraeth Cymru yn £264m sydd yn gadael bwlch o
£116m. O ran arbedion, amlygwyd fod gwerth £664,000 wedi eu cymeradwyo yn
barod, gyda chwarter miliwn ar gael i gael ei gyfrifo'r bwlch ariannu. O
ganlyniad, er mwyn gosod cyllideb gytbwys bydd hyn yn golygu codi’r Dreth
Cyngor i 5.17%.
Eglurwyd bod y sylfaen drethiannol yn cynyddu i ychydig o
dan 58k o anheddau oherwydd cynnydd yn nifer yr eiddo, y nifer sy’n destun y
Premiwm Treth Cyngor ar benderfyniad i gynyddu premiwm ar eiddo gwag hir dymor.
Mynegwyd ei bod yn siomedig iawn bod y cynnydd yn y dreth yn uwch na chwyddiant
unwaith eto, ond fod y sefyllfa llawr iawn gwell na beth oeddent yn ei ofni yn
ôl ym mis Rhagfyr.
Tynnodd y Pennaeth Cyllid Statudol sylw at Ddatganiad Adran
25 yn yr atodiadau, sydd yn ddatganiad personol ganddo yn amlygu cadernid
amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib a’r camau
lliniaru. Pwysleisiodd fod adroddiad tymor canolig wedi ei dderbyn gan y
Cabinet yn ôl ym mis Medi, a bod y rhagolygon yn cael ei diweddaru’n gyson ac
ar sail y wybodaeth ddiweddaraf. Mynegodd fod derbyn setliad blynyddol yn
heriol, ac y bydd canlyniad etholiad y Senedd ym mis Medi gydag oblygiadau i’r
Cyngor.
Amlygwyd cyd-destun y gyllideb drwy edrych ar ddiffyg
cyllidebol eleni sydd yn amlygu’r pwysau ariannol ychwanegol sydd ar
wasanaethau yn benodol gofal cymdeithasol. Eglurwyd fod argymhelliad i ariannu
£9.9m o fidiau er mwyn mynd i’r afael a hyn. Er gwaethaf hyn, nododd fod gan y
Cyngor hanes llwyddiannus o gydymffurfio a safonau ariannol, codau ymarfer a
threfniadaeth llywodraethu gadarn sydd yn cael ei gadarnhau yn flynyddol gan
arianwyr allanol. Eglurwyd fod graddau chwyddiant wedi lleihau i 2%, ond fod digwyddiadau
gwleidyddol dros yr wythnos diwethaf yn gallu eu heffeithio. Er hynny, nododd
ei fod yn n parhau yn hyderus bod y rhagolygon y gadarn.
Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, amlygwyd fod y
Cyngor wedi llwyddo i wneud arbedion dros y blynyddoedd ond fod pwysau yn
parhau i wireddu, ond fod camau lliniaru yn ei lle er mwyn ymdopi. Adroddwyd
fod £110m yn y cronfeydd wrth gefn, gyda £7.9m yn y balansau
cyffredinol yn ogystal. Eglurwyd fod y balansau
cyffredinol ar lefel rhesymol ond fod angen ei adolygu. Cyfeiriwyd fod
Archwilio Cymru wedi adolygu sut mae’r Cyngor yn rheoli balansau
ac wedi nodi ar y cyfan fod y Cyngor yn adeiladol ac yn rhoi sicrwydd fod
trefniadau i ddelio a chronfeydd.
Nodwyd drwy’r gwaith gofynnol a wnaed i adrodd ar gadernid
yr amcangyfrifon sydd yn sail i’r gyllideb, ac wedi ystyried yr holl risgiau
a'r camau lliniaru roedd y Pennaeth Cyllid o’r farn fod Cyllideb y Cyngor ar
gyfer 2026/27 yn gadarn, yn ddigonol a chyraeddadwy.
Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.
Nodwyd pwysigrwydd y penderfyniad i osod cyllideb mewn
cyfnod o bwysau ariannol, a diolchwyd i Blaid Cymru am ddod i gytundeb a
Llywodraeth Lafur. Pwysleisiwyd nad oes neb yn awyddus i godi’r dreth yn wyneb
pwysau ariannol ar drigolion. Amlygwyd fod gwaith arbennig yn cael ei wneud ar
gyllideb sydd ar gael a hynny heb wneud toriadau i wasanaeth rheng flaen. O ran
yr adran blant nodwyd fod cynnydd sylweddol wedi bod gydag unigolion gydag
anghenion cymhleth dwys sydd angen ymyrraeth arbenigol. Nodwyd nad yw’n
gyllideb hawdd ond ei bod yn gyfrifol ac yn blaenoriaethu plant a phobl fregus.
Diolchwyd am yr adroddiad a gofynnwyd o ran yr asesiad
ariannol pa mor gyfamserol yw’r asesiad oherwydd digwyddiadau’r wythnos
diwethaf, a bod costau olew wedi codi yn aruthrol. Mynegwyd fod yr adroddiad
wedi ei chyhoeddi dros wythnos yn ôl, ac felly doedd dim modd bod yn ymwybodol
o ddigwyddiadau’r wythnos diwethaf. Er hynny, mae’r asesiad wedi ei greu gyda’r
sefyllfa fel yr oedd hi dros wythnos yn ôl, ac felly gall roi sicrwydd ei fod
yn gywir pan gafodd ei anfon. Mynegwyd fod arian wrth gefn ar gyfer unrhyw
gostau a all godi megis costau ynni, ac felly y byddai’r Cyngor yn gallu ymdopi
a chynnydd mewn costau.
Bu i’r Aelod Cabinet dros Oedolion nodi ei fod yn croesawu’r
ymdrech i osod cyllideb gytbwys. Nododd ei fod yn ddyddiol yn gweld cynnydd yn
y maes, a bod y penderfyniad i ddiogelu £9.9m ar gyfer y pwysau ychwanegol yn
arwyddocaol i sicrhau gwasanaethau. Amlygodd fod gosod y gyllideb yn dangos
cefnogaeth i staff rheng flaen ac yn adlewyrchu gwir gost gofal er mwyn cynnal
ansawdd, cadw staff ac osgoi methiannau. Cydnabuwyd fod gosod cyllideb
gynaliadwy yn sail i wasanaeth cynaliadwy er yn heriol i ddod o hyd i’r balans
o godi treth a chynnal gwasanaethau. Pwysleisiwyd fod y gyllideb yn ddatganiad
clir o werthoedd yr aelodau, y sir a'u hymrwymiad i ofalu am drigolion bregus.
Derbyniwyd sylwadau gan yr Aelod Cabinet dros Addysg a
nododd fod cost dysgu’r genhedlaeth nesaf yn uchel. Tynnwyd sylw penodol at
Anghenion Dysgu Ychwanegol gan amlygu fod arian ychwanegol wedi ei nodi yn y
gyllideb. Mynegwyd ei fod yn arian newydd sydd ddim yn tynnu oddi wrth unrhyw
wasanaethau eraill. Er arian newydd yn cael ei groesawu nodwyd nad yw’r arian
ddim yn ddigon a bod angen chwildro cenedlaethol. Amlygwyd fod arian ychwanegol
wedi ei gynnig yn Lloegr ond nad oes arian cyfatebol am ei roi yng Nghymru. Er
hynny nodwyd fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd arian sylweddol yn dod i
Lywodraeth Cymru ar gyfer ADY. Addawodd pa bynnag blaid fydd yn arwain y Senedd
ym mis Mai y bydd yn ceisio ei orai i ddylanwadau ac i dderbyn cyfran deg o’r
arian.
Cytunwyd a sylwadau’r Aelod Cabinet dros Addysg gan
bwysleisio’r angen i lobio’r arian a bod gwir angen chwildro cenedlaethol.
Mynegwyd er bod £7.9 ar gael ym malansau
cyffredinol wrth gefn y Cyngor, amlygwyd fod hyn oddeutu 1.3% o’r gyllideb.
Nodwyd yr angen i’w gryfhau a bod angen rhwng 3-5%.
Nodwyd fod Llywodraeth Ganolog dros y blynyddoedd wedi rhoi
mwy a mwy o bwysau ar Lywodraeth Leol i gynnal gwasanaethau ar lefel is o
gyllidebau. Pwysleisiwyd yr angen i gael yr arian i gyflawni gwasanaethau
Holwyd os oes gan y
Cyngor fas data sydd yn monitro faint o bobl a oedd yn talu treth cyngor sydd
bellach wedi gorfod mynd i gael budd-daliadau, er mwyn gweld beth yw’r patrwm
dros amser. Nodwyd fod y wybodaeth gan yr adran am geisiadau am ostyngiadau i Wynedd,
ond nid ar lefel genedlaethol. Cynigwyd sgwrs bellach gyda’r aelod er mwyn
deall pa fath o wybodaeth maent ei angen.
PENDERFYNWYD
1. Sefydlu cyllideb o £379,701,110 ar gyfer
2026/27 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £264,009,390 a £115,691,720 o
incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.75% sylfaenol ynghyd a 0.42% pellach i
gyfarch ardoll gan yr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, ac felly’n rhoi
cyfanswm o 5.17%)
2. Sefydlu rhaglen gyfalaf o £40,179,430 yn
2026/27 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.
Dogfennau ategol: