Agenda item

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Pensiynau.

Penderfyniad:

Derbyniwyd y diwygiadau i’r Gytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Cyfreithiol mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid i gymryd y camau angenrheidiol i gwblhau y cytundeb.

Cofnod:

Bu i’r Swyddog Monitro amlygu’r rhesymau dros gyflwyno’r adroddiad hwn gan nodi fod y Cyngor yn ôl ym mis Gorffennaf wedi cytuno, gyda’r wyth awdurdod sy’n rhan o’r pwl buddsoddi i sefydlu cwmni. O ganlyniad i hyn, eglurwyd fod y Cydbwyllgor yn parhau ond o fewn cyfundrefn newydd. Amlygwyd mai dim ond y Cyngor Llawn sydd a’r hawl i newid y cylch gorchwyl, a bod angen addasu rôl y cydbwyllgor a chymeradwyo’r addasiadau cyn i’r cwmni fod yn weithredol ac i sicrhau craffu llawn o’i gwaith. 

 

Bu i Gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau nodi fod y Pwyllgor Pensiynau yn un trawsbleidiol a’u bod yn unfrydol gyda’r argymhelliad sydd wedi’i i gyflwyno. Eglurwyd fod gwaith enfawr wedi ei wneud i baratoi tuag at y newid i fod yn gwmni. Mynegwyd fod y mater yn un cymhleth ond fod y Pwyllgor wedi cymryd pob cam posib i sicrhau fod y penderfyniad hwn yn gywir ac wedi ei graffu yn llawn.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn chwilio am gymeradwyaeth i ddiweddaru’r Cytundeb Rhyng-Awdrudod rhwng yr wyth Cyngor yng Nghymru sy’n gweinyddu cronfeydd Pensiwn. Cymeradwywyd y cytundeb yn wreiddiol gan y Cyngor llawn ar 2il Mawrth 2017,

er mwyn sefydlu pŵl buddsoddi ar gyfer cronfeydd pensiwn Cymru.   Eglurwyd fod addasiadau wedi ei gymeradwyo yn ôl yn Hydref 2021. Pwysleisiwyd fod y drefn a sefydlwyd dan y gyfundrefn wedi gweithio yn dda gyda chydweithio effeithiol gyda’r bwriad o arbed ffioedd rheolwyr buddsoddi drwy fuddsoddi ar raddfa fwy.

 

Serch hynny, mae rhaglen “Addas ar gyfer y Dyfodol” Llywodraeth San Steffan dros y

ddeunaw mis diwethaf wedi golygu ein bod yn cael ei gorfodi i newid. Bu i’r Cyngor Llawn ym mis Gorffennaf gymeradwyo ffurfio endid corfforaethol sy’n berchnogaeth llwyr Awdurdodau Gweinyddu Partneriaeth Pensiwn Cymru, sef Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC, ac i gymeradwyo’r holl gamau eraill sy’n angenrheidiol i gyflwyno cais i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar gyfer awdurdodi’r cwmni.

 

Eglurwyd fod y newidiadau sydd wedi ei gorfodi wedi golygu gwaith sylweddol ynghyd ag amser ac adnoddau. Bydd y cwmni newydd i fod yn weithredol erbyn 1 Ebrill 2026. Er hyn mae un cytundeb arall na all y Cyngor ei ddirprwyo i’r Pwyllgor Pensiynau sef y Cytundeb Rhyng-Awdurdod. Amlinellwyd yr addasiadau sydd wedi ei wneud i’r cytundeb, gan egluro eu bod wedi bod yn destun gwaith gan ymgynghorwyr cyfreithiol. Mynegwyd fod nifer o drafodaeth wedi bod i gadw golwg o’r datblygiadau ac felly eu bod yn hyderus ei fod wedi ei graffu yn briodol.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Nodwyd cefnogaeth i’r penderfyniad gan bwysleisio nad oes llawer o ddewis, ond fod y Pwl yn gobeithio y byddant yn parhau i weithio yn dda gyda’i gilydd.

 

Mynegwyd gyda’r perfformiad da sydd wedi bod i’r pwl fod risgiau amlwg o beidio arwyddo hwn. Eglurwyd fod gwaith wneud ei wneud i sicrhau fod modd parhau i weithio fel partneriaeth ond y prif bryder yw ei fod wedi ei orfodi arnom.

 

Holwyd os oes buddiant os aelod yn rhan o’r cynllun pensiwn, nodwyd nad oes.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd y diwygiadau i’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Cyfreithiol mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid i gymryd y camau angenrheidiol i gwblhau'r cytundeb.

 

Dogfennau ategol: