(A)
RHYBUDD O GYNNIG GAN Y
CYNGHORYDD GRUFFYDD WILLIAMS
Yn
unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig fel a ganlyn:-
Ym
mis Ionawr 2026, cafwyd tro u bedol gan Lywodraeth San Steffan parthed eu
cynlluniau i wneud cardiau adnabod digidol yn orfodol ar gyfer profi'r
hawl i weithio,a hynny yn dilyn ymateb sylweddol gan Aelodau o’r
cyhoedd gyda deiseb hefo dros 3 mil yn cael ei gyflwyno gerbron y Llywodraeth
yn datgan eu gwrthwynebiad i DI . Er fod y gofyniad gorfodol am gyflogaeth
wedi'i ollwng, mae'r llywodraeth yn bwriadu symud prosesau dilysu ar-lein erbyn
2029, gan arwain at bryderon y bydd system adnabod ddigidol yn dal i gael ei
chyflwyno'n raddol drwy ‘r drws cefn fel petai
Bod
y Cyngor yma yn llwyr gwrthwynebu
cyfundrefn Digital Identification a bod Cyngor Gwynedd yn
galw ar Llywodraeth Cymru i wrthwynebu DI yn unol a ‘r Llywodraeth yn yr Alban
a hefyd yn unol a sawl awdurdod lleol ledled Gwledydd Prydain . Ni ddylai cyfleustra byth ddod ar draul rhyddid personol.
(B)
RHYBUDD O GYNNIG GAN Y
CYNGHORYDD ELIN HYWEL
Yn
unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Hywel yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae’r Cyngor hwn yn
cydnabod mai ymddiriedaeth yw sylfaen democratiaeth. Gwyddom fod digwyddiadau
diweddar yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol wedi tanseilio’r berthynas
honno â phobl Gwynedd. Ni all democratiaeth weithredu’n iach heb ymddiriedaeth
y cyhoedd yn y rhai sy’n eu cynrychioli; yr ymddiriedaeth honno sy’n galluogi
pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol ac, yn ei thro, yn sicrhau eu llais
wrth lunio eu dyfodol.
Noda dystiolaeth gan yr
Office for National Statistics fod ymddiriedaeth mewn
gwleidyddiaeth a gwleidyddion ar lefel isel iawn, gyda dim ond un o bob pump yn
ymddiried mewn pleidiau gwleidyddol, a bod cysylltiad uniongyrchol rhwng diffyg
ymddiriedaeth a diffyg cyfranogiad.
Yn wyneb hynny, mae’r
Cyngor hwn yn nodi’r cyfranogiad isel yn etholiad Cyngor Gwynedd 2022, yn unol
â thueddiadau ehangach ledled Cymru, gyda thua 38–39% yn pleidleisio, a bod 28
o’r 69 sedd wedi eu hethol yn ddi-wrthwynebiad, gan olygu nad oedd gan
nifer fawr o etholwyr Gwynedd ddewis democrataidd.
Cydnabu’r y Cyngor
bod y ffigyrau hyn yn amlygu her ddifrifol i iechyd democratiaeth leol ac i’r
berthynas rhwng etholwyr a’u cynrychiolwyr.
Cydnabu’r mai ein
hymddygiad ni fel arweinwyr cyhoeddus sy’n gosod safon y drafodaeth
ddemocrataidd. Na ellir adeiladu ymddiriedaeth, na chynyddu
cyfranogiad, oni bai ein bod ni’n modelu’r gwerthoedd hynny ein
hunain.
Mae’r Cyngor hwn yn
croesawu camau Y Senedd drwy Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig
(Cymru) i gryfhau uniondeb bywyd cyhoeddus a gosod gonestrwydd a gwirionedd
wrth wraidd ein diwylliant democrataidd.
Yn unol â hyn, mae’r
Cyngor hwn yn datgan yn glir mai arnom ni, yn bersonol ac ar y cyd, y mae’r
ddyletswydd i gynnal ac adfer ymddiriedaeth y cyhoedd.
Ymrwymwn i’r gwir, i
dryloywder, i degwch ac i barch – conglfeini ein hawl i gynrychioli pobl
Gwynedd.
Penderfyniad:
Eitem 13(A): RHYBUDD O GYNNIG Y CYNG. GRUFFYDD WILLIAMS
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn
unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, cytunwyd a cynnig y Cynghorydd Gruffydd
Williams fel a ganlyn:-
Ym mis Ionawr 2026, cafwyd tro u bedol gan Lywodraeth San
Steffan parthed eu cynlluniau i wneud cardiau adnabod digidol yn orfodol
ar gyfer profi'r hawl i weithio, a hynny yn dilyn ymateb sylweddol gan Aelodau
o’r cyhoedd gyda deiseb hefo dros 3 mil yn cael ei gyflwyno gerbron y
Llywodraeth yn datgan eu gwrthwynebiad i DI . Er fod y gofyniad gorfodol am
gyflogaeth wedi'i ollwng, mae'r llywodraeth yn bwriadu symud prosesau dilysu
ar-lein erbyn 2029, gan arwain at bryderon y bydd system adnabod ddigidol yn dal
i gael ei chyflwyno'n raddol drwy ‘r drws cefn fel petai.
Bod y Cyngor yma yn llwyr gwrthwynebu cyfundrefn Digital Identification a bod
Cyngor Gwynedd yn galw ar Llywodraeth Cymru i wrthwynebu DI yn unol a ‘r
Llywodraeth yn yr Alban a hefyd yn unol a sawl awdurdod lleol ledled Gwledydd
Prydain . Ni ddylai cyfleustra byth ddod ar draul rhyddid personol.
Eitem 13(B): RHYBUDD O GYNNIG Y CYNG. ELIN HYWEL
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn
unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, cytunwyd a cynnig y Cynghorydd Elin Hywel
fel a ganlyn:-
Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod mai ymddiriedaeth yw sylfaen
democratiaeth. Gwyddom fod digwyddiadau diweddar yn lleol, yn genedlaethol ac
yn rhyngwladol wedi tanseilio’r berthynas honno â phobl Gwynedd. Ni all
democratiaeth weithredu’n iach heb ymddiriedaeth y cyhoedd yn y rhai sy’n eu
cynrychioli; yr ymddiriedaeth honno sy’n galluogi pobl i gymryd rhan mewn
democratiaeth leol ac, yn ei thro, yn sicrhau eu llais wrth lunio eu dyfodol.
Noda dystiolaeth gan yr Office for
National Statistics fod ymddiriedaeth mewn
gwleidyddiaeth a gwleidyddion ar lefel isel iawn, gyda dim ond un o bob pump yn
ymddiried mewn pleidiau gwleidyddol, a bod cysylltiad uniongyrchol rhwng diffyg
ymddiriedaeth a diffyg cyfranogiad.
Yn wyneb hynny, mae’r Cyngor hwn yn nodi’r cyfranogiad isel
yn etholiad Cyngor Gwynedd 2022, yn unol â thueddiadau ehangach ledled Cymru,
gyda thua 38–39% yn pleidleisio, a bod 28 o’r 69 sedd wedi eu hethol yn ddi-wrthwynebiad, gan olygu nad oedd gan nifer fawr o
etholwyr Gwynedd ddewis democrataidd.
Cydnabu’r y Cyngor bod y ffigyrau hyn yn amlygu her
ddifrifol i iechyd democratiaeth leol ac i’r berthynas rhwng etholwyr a’u
cynrychiolwyr.
Cydnabu’r mai ein hymddygiad ni fel arweinwyr cyhoeddus sy’n
gosod safon y drafodaeth ddemocrataidd. Na ellir adeiladu ymddiriedaeth, na
chynyddu cyfranogiad, oni bai ein bod ni’n modelu’r gwerthoedd hynny ein
hunain.
Mae’r Cyngor hwn yn croesawu camau Y Senedd drwy Ddeddf
Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) i gryfhau uniondeb bywyd cyhoeddus a
gosod gonestrwydd a gwirionedd wrth wraidd ein diwylliant democrataidd.
Yn unol â hyn, mae’r Cyngor hwn yn datgan yn glir mai arnom
ni, yn bersonol ac ar y cyd, y mae’r ddyletswydd i gynnal ac adfer
ymddiriedaeth y cyhoedd.
Ymrwymwn i’r gwir, i dryloywder, i degwch ac i barch – conglfeini ein hawl i gynrychioli pobl Gwynedd.
Cofnod:
(A) RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD GRUFFYDD WILLIAMS
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd
Williams o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i heiliwyd.
Mynegwyd cefnogaeth i’r rhybudd gan nodi:-
·
Fod rhyddid personol yn holl bwysig ac yn
rhywbeth gall ei golli.
·
Amlygwyd yn aml fod gamau fel hyn digwydd -
dechrau yn fach ac yn tyfu dros amser a bod risg i ddata unigolion.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Ym mis Ionawr 2026, cafwyd tro u bedol gan Lywodraeth San
Steffan parthed eu cynlluniau i wneud cardiau adnabod digidol yn orfodol
ar gyfer profi'r hawl i weithio, a hynny yn dilyn ymateb sylweddol gan Aelodau
o’r cyhoedd gyda deiseb hefo dros 3 miliwn yn cael ei gyflwyno gerbron y
Llywodraeth yn datgan eu gwrthwynebiad i DI . Er bod y gofyniad gorfodol am
gyflogaeth wedi'i ollwng, mae'r llywodraeth yn bwriadu symud prosesau dilysu
ar-lein erbyn 2029, gan arwain at bryderon y bydd system adnabod ddigidol yn
dal i gael ei chyflwyno'n raddol drwy’r drws cefn fel petai.
Bod y Cyngor yma yn llwyr wrthwynebu cyfundrefn Digital Identification a bod
Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu DI yn unol ar
Lywodraeth yn yr Alban a hefyd yn unol â sawl awdurdod lleol ledled Gwledydd
Prydain . Ni ddylai cyfleustra byth ddod ar draul rhyddid personol.
11(b) RHYBUDD O GYNNIG Y CYNGHORYDD ELIN HYWEL
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Elin Hywel o
dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i heiliwyd. Gosododd yr aelod y cyd-destun
i’w gynnig, gan nodi:-
·
Nad oes modd i ddemocratiaeth weithredu heb
ymddiriedaeth, a'i fod yn cael ei ennill neu ei golli drwy'r ffordd mae pobl yn
siarad, yn ymddwyn neu’r penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud. Pwysleisiwyd
fod ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ar hyn o bryd yn hynod isel.
·
Cyfnod heriol dros ben i drigolion Gwynedd ar
hyn o bryd gyda digwyddiadau cenedlaethol a lleol wedi effeithio ymddiriedaeth
mewn gwleidyddion.
·
Nodwyd fod y cyfrifoldeb yn gorwedd gyda
Chynghorwyr gan ofyn y cwestiwn beth yw eu rhan. Fel cynghorwyr fod ganddynt
gyfrifoldeb i ddatgan a dangos
parodrwydd i arfer a chynnal ymddiriedaeth. Eglurwyd mai’r cam cyntaf yn unig
yw i ddatgan.
·
Mynegwyd mai dim ond 38-39% o drigolion Gwynedd
a bleidleisiodd yn yr Etholiad Llywodraeth Leol yn ôl yn 2022, gyda 28 sedd
wedi ei hethol heb wrthwynebiad. O ganlyniad doedd dim trefn ddemocrataidd yn
yr ardaloedd hynny oherwydd heb ddewis doedd dim etholiad.
·
Croesawyd camau'r Senedd drwy Ddeddf Etholiadau
a Chyrff Etholedig (Cymru) i gryfhau uniondeb bywyd cyhoeddus a gosod
gonestrwydd yn ganolog.
·
Mynegwyd fod y rhan fwyaf o’r Cynghorwyr yma am
y rheswm gorau sef i wella bywydau pobl
ac i greu cymunedau gorau. Amlygwyd fod trafodaethau yn gallu bod
tanbaid ond fod gwasanaethu trigolion Gwynedd yn ganolog i bawb.
·
Nodwyd fod angen i beth sydd yn digwydd yn y
Siambr fod yn cryfhau democratiaeth ac i feithrin parch a hyder mewn sefydliadau.
·
Eglurwyd os drwy eiriau mae modd arwain fod yn
rhaid bod yn onest a'i fod meddwl rhywbeth go iawn, oherwydd drwy golli
ymddiriedaeth mewn geiriau bydd colli ymddiriedaeth mewn democratiaeth.
·
Pwysleisiwyd mai dim cyhuddiad pleidiol na
phwyntio bysedd yw bwriad y cynnig ond cyd-sefyll ar un egwyddor ac i ddilyn camau’r Senedd i gryfhau
uniondeb. Nodwyd ei fod yn ddyletswydd
ar Gynghorwyr i gynnal ac adfer ymddiriedaeth y cyhoeddus.
Mynegwyd sylwadau i’r rhybudd gan Aelodau gan nodi:-
·
Mai sylfaen democratiaeth ydi ymddiriedaeth,
oherwydd os cyhoedd ddim yn cymryd rhan yna mae’r cysylltiad rhwng aelodau a
chyhoedd am ddiflannu. Rhaid ennill yr ymddiriedaeth, ac mae’n rhaid bod yn
dryloyw a parchus yn ein gwaith a thrafodaethau.
·
Cydnabuwyd fod heriau ond nad yw’r rhain yn
heriau unigryw. Mynegwyd fod y cynnig yn alwad cadarnhaol i arwain drwy
esiampl ac i ddatgan yn glir fod y
Cynghorwyr yn cymryd cyfrifoldeb o ddifri.
·
Anghytunwyd gyda’r paragraff am y Cynghorwyr a
etholwyd yn ddiwrthwynebiad yn golygu nad oes trefn democrataidd, gan fod gan
unigolion y dewis, y dewis i roi eu henwau ymlaen ac felly mae trefn
ddemocrataidd. Mynegwyd nad yw’n adlewyrchiad o ymddiriedaeth ond yr angen i
annog mwy o bobl i fod yn rhan ac i sefyll dros eu hardal, ac yr angen i
gynnwys hyn yn rhan o’r cynnig.
·
Amlygwyd fod rhai seddi yn cael eu hethol yn
ddiwrthwynebiad efallai gan fod y cyhoedd yn fodlon gyda’r Cynghorydd sydd wedi
bod yn eu gwasanaethu.
·
Trafodwyd rhesymau cyhoedd dros beidio â sefyll
gan amlygu fod ymrwymiad amser a gwaith yn gallu bod yn rhesymau.
·
Cefnogwyd y cynnig gan nodi fod ffigyrau 2022 yn
peri pryder o ran graddfeydd pleidleisio a nifer uchel yn cael eu hethol heb
wrthwynebiad. Cyfeiriwyd at yr angen i edrych ar ddiwylliant, gan fod
ymddiriedaeth yn ddibynnol ar sut mae unigolion a sefydliadau yn ymddwyn, a bod
y lle ac amgylchedd ble unigolion yn teimlo yn gyfforddus a saff i leisio ei
barn.
·
Nodwyd fod y cynnig yn amserol a bod angen
edrych be allwn ni neud yn lleol. Mynegwyd yr angen i edrych beth sydd yn afantol gan fod ymchwil yn dangos os pobl yn colli
ymddiriedaeth yn sefydliadol eu bod am symud at arweinwyr asgell dde an-sefydliadol.
·
Gofynnwyd i’r Blaid ymddiried yn y Grŵp
Annibynnol wrth ystyried cadeiryddion gan eu bod yn teimlo llais ddim yn cael
eu clywed.
·
Mynegwyd nad yw mynegi nad oes dewis
democrataidd os Cynghorydd yn cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad yn sarhad ar y
Cynghorwyr penodol hynny, ond yn hytrach yn adlewyrchiad o’r diffygion yn y
system.
·
Holwyd sut mae’r ddeddfwriaeth Senedd yn
berthnasol i’r rhybudd. Mynegwyd fod gwelliant wedi bod i’r ddeddfwriaeth i
sicrhau fod dweud celwyddau yn ystod ymgyrchu yn anghyfreithlon. Drwy wneud hyn
fod y Senedd wedi blaenoriaethu
gonestrwydd a chydnabod pwysigrwydd hynny. Nodwyd mewn cyfnod ble nad yw pobl
ymddiried mewn gwleidyddion fod angen amlygu fod tryloywder a gonestrwydd yng
nghalon gwleidyddiaeth Gwynedd.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn
unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Hywel yn cynnig fel a
ganlyn:-
Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod mai ymddiriedaeth yw sylfaen
democratiaeth. Gwyddom fod digwyddiadau diweddar yn lleol, yn genedlaethol ac
yn rhyngwladol wedi tanseilio’r berthynas honno â phobl Gwynedd. Ni all
democratiaeth weithredu’n iach heb ymddiriedaeth y cyhoedd yn y rhai sy’n eu cynrychioli;
yr ymddiriedaeth honno sy’n galluogi pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol
ac, yn eithro, yn sicrhau eu llais wrth lunio eu
dyfodol.
Noda dystiolaeth gan yr Office for
National Statistics fod ymddiriedaeth mewn
gwleidyddiaeth a gwleidyddion ar lefel isel iawn, gyda dim ond un o bob pump yn
ymddiried mewn pleidiau gwleidyddol, a bod cysylltiad uniongyrchol rhwng diffyg
ymddiriedaeth a diffyg cyfranogiad.
Yn wyneb hynny, mae’r Cyngor hwn yn nodi’r cyfranogiad isel
yn etholiad Cyngor Gwynedd 2022, yn unol â thueddiadau ehangach ledled Cymru,
gyda thua 38-39% yn pleidleisio, a bod 28 o’r 69 sedd wedi eu hethol yn
ddiwrthwynebiad, gan olygu nad oedd gan nifer fawr o etholwyr Gwynedd ddewis
democrataidd.
Cydnabu’r y Cyngor bod y ffigyrau hyn yn amlygu her
ddifrifol i iechyd democratiaeth leol ac i’r berthynas rhwng etholwyr a’u
cynrychiolwyr.
Cydnabu’r mai ein hymddygiad ni fel arweinwyr cyhoeddus sy’n
gosod safon y drafodaeth ddemocrataidd. Na ellir adeiladu ymddiriedaeth, na
chynyddu cyfranogiad, oni bai ein bod ni’n modelu’r gwerthoedd hynny ein
hunain.
Mae’r Cyngor hwn yn croesawu camau Y Senedd drwy Ddeddf
Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) i gryfhau uniondeb bywyd cyhoeddus a
gosod gonestrwydd a gwirionedd wrth wraidd ein diwylliant democrataidd
Yn unol â hyn, mae’r Cyngor hwn yn datgan yn glir mai arnom
ni, yn bersonol ac ar y cyd, y mae’r ddyletswydd i gynnal ac adfer
ymddiriedaeth y cyhoedd.
Ymrwymwn i’r gwir, i dryloywder, i degwch ac i barch –
conglfeini ein hawl i gynrychioli pobl Gwynedd.