Agenda item

I ystyried yr adroddiad

 

Bod y Pwyllgor Trwyddedu Canolog yn cytuno i ystyried cyfeiriad strategol cyffredinol y Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol mewn perthynas â phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan ei Is-bwyllgor, a

 

Cytuno i ymgorffori cyfeiriad strategol y Fframwaith i adolygiad nesaf y Datganiad o Bolisi Trwyddedu yn 2029.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Cymeradwyo cyfeiriad strategol cyffredinol y Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol mewn perthynas â phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan ei Is-bwyllgor

 

  • Cymeradwyo ymgorffori cyfeiriad strategol y Fframwaith i adolygiad nesaf y Datganiad o Bolisi Trwyddedu yn 2029.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn rhoi crynodeb o’r newidiadau y bydd diwygiad y Llywodraeth Ganolog o’r system drwyddedu eiddo yn effeithio ar benderfyniadau Trwyddedu lleol a pholisi yng Ngwynedd.

 

Eglurwyd bod y Llywodraeth Ganolog, drwy'r Tasglu sy’n gyfrifol am edrych ar ddiwygio Trwyddedu, wedi dangos dros y blynyddoedd bod mwy o bwysau yn cael ei roi i ddiogelwch y cyhoedd ac atal trosedd, dan yr amcanion trwyddedu statudol, a llai o ffocws ar dwf a gwydnwch busnes.

 

Mewn ymateb i’r canfyddiad, nodwyd mai prif argymhellion cychwynnol y Tasglu oedd creu Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol (NLPF) i ddarparu arweiniad anstatudol strategol ar gyfer awdurdodau trwyddedu yng Nghymru a Lloegr gyda’r nod o foderneiddio arferion trwyddedu, cefnogi twf economaidd a chynnal gwarchodaeth gymunedol drwy reoliad cymesur, sy'n cael ei arwain gan dystiolaeth.

 

Gwnaed cais gan y Llywodraeth Ganolog am dystiolaeth a barn rhanddeiliaid yn ystod cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Hydref 2025 gyda phwyslais ar dystiolaeth oedd yn berthnasol o werthu alcohol (tafarndai, clybiau nos ac adloniant sydd yn dod o dan Ddeddf Trwyddedu 2003). Ymatebodd Cyngor Gwynedd i’r cais ynghyd a nifer fwyaf o awdurdodau eraill Cymru a Lloegr a sefydliadau megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Heddlu Gogledd Cymru ac Iechyd Cyhoeddus.

 

Adroddwyd bod yr arweiniad statudol ar gyfer Awdurdodau Lleol (cyhoeddwyd dan a182 Deddf Trwyddedu 2003) yn parhau mewn grym, ond wedi cael ei adolygu'n ddiweddar gan Ganllawiau Diwygiedig y Swyddfa Gartref. Ategwyd bod yr arweiniad strategol yn sicrhau bod rhaid i'r egwyddorion craidd a danlinellwyd gan y Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol gael eu hystyried yn lleol wrth hysbysu Datganiadau o Bolisi Trwyddedu a gwneud penderfyniadau ar geisiadau Trwyddedu. Ategwyd bod y diwygiadau arfaethedig yn cynnwys hwyluso gwell cydweithredu rhwng Awdurdodau Lleol a'r diwydiant lletygarwch; ynghyd â gwell aliniad rhwng amcanion trwyddedu, cynllunio ac adfywio.

 

Cyfeiriwyd at sut y byddai’r Fframwaith yn cymhwyso gyda’r Polisi Trwyddedu Cenedlaethol a phenderfyniadau trwyddedu lleol yng Ngwynedd, ac at yr angen i gydweithio’n effeithiol gyda’r Gwasanaeth Cynllunio. Tynnwyd sylw hefyd at gyfrifoldebau a dyletswyddau swyddogion ac Aelodau wrth wneud penderfyniadau mewn Is-bwyllgorau Trwyddedu Canolog.  Er yr angen i barhau i gynnal mesurau diogel angenrheidiol, nodwyd bod y Fframwaith Cenedlaethol yn pwysleisio bod rhaid cael dull deuol o amddiffyn cymunedau dan y pedwar amcan trwyddedu wrth ystyried cefnogi adfywio, buddsoddi a thwf yr economi.

 

Bydd gofyn i’r awdurdodau trwyddedu arddangos fod cyfeiriad strategol eu Datganiad o Bolisi Trwyddedu yn cyfarch ac ystyried y Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol . Fodd bynnag, y disgwyliad yw nad yw hyn yn angenrheidiol tan adolygiad nesaf y Datganiad i Bolisi Trwyddedu, yn 2029. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol

·        Bod diogelu plant yn flaenoriaeth

·        Dylai unrhyw gyfundrefn sicrhau mai diogelu a diogelu iechyd yw’r prif ystyriaethau mewn gwrandawiadau trwydded - pryder y bydd y diwygiadau hyn yn arwain i gyfeiriad fydd yn tanseilio hyn

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pha Lywodraeth oedd yn gyfrifol am y diwygiadau, cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu mai Tasglu Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd wedi arwain ar y gwaith, ac nid oedd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r ymgynghoriad byr a gynhaliwyd yn ystod Hydref 2025. Er hynny, ategodd bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno sylwadau cynhwysfawr yn amlygu pryderon ar sut y bydd y Fframwaith yn cael ei gweithredu yng Nghymru.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag ystyriaethau twf economaidd mewn gwrandawiadau trwyddedu a bod yr Is- bwyllgorau Trwyddedu Canolog i bob pwrpas eisoes yn rhoi ystyriaeth allweddol i faterion economaidd, nodwyd bod y Llywodraeth yn honni bod anghysondebau mewn trefniadau gan Awdurdodau ac felly'r mesurau yn cael eu cyflwyno i gyfarch hyn.

 

Mewn ymateb i’r sylw ar sut y gall penderfyniadau o dan yr canllawiau newydd achosi trafferthion mewn ardaloedd gwledig, nodwyd bod swyddogion yr Awdurdodau, Yr Heddlu a rhanddeilaid wedi nodi y gall cyfundrefn fydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd e.e, i dafarndai gynnal adloniant tu allan, arwain at gynnydd mewn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol; tra byddai gwneud dim i fynd i’r adael â dwysedd yr achosion gyda photensial o gael effaith negyddol bosib ar les cymunedol.

 

PENDERFYNWYD

 

·        Cymeradwyo cyfeiriad strategol cyffredinol y Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol mewn perthynas â phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan ei Is-bwyllgor

 

·        Cymeradwyo ymgorffori cyfeiriad strategol y Fframwaith i adolygiad nesaf y Datganiad o Bolisi Trwyddedu yn 2029.

 

Dogfennau ategol: