Agenda item

I gyflwyno adroddiad Rheolwr Hafan a Harbwr Pwllheli.

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a godwyd yn ystod y drafodaeth, gan eithrio materion carthu’r Harbwr, oherwydd bydd y materion hynny yn cael eu trafod mewn cyfarfod anffurfiol ar 18 Mawrth 2026.

 

Cofnod:

Derbyniwyd diweddariad ar faterion rheolaethol yr harbwr gan Reolwr Hafan a Harbwr Pwllheli.

 

Manylwyd ar ddata perfformiad yr harbwr gan gadarnhau bod niferoedd Cytundebau Angori wedi aros yn gymharol gyson gyda’r blynyddoedd diwethaf. Eglurwyd bod rhai angorfeydd wedi cael eu colli ar ddechrau’r flwyddyn ariannol gyfredol oherwydd bod mwd a llaid wedi adeiladu yn yr harbwr, gan gadarnhau ei fod yn debygol bydd rhai angorfeydd yn cael eu colli yn fuan. Nodwyd y bwriedir agor ardaloedd gwahanol ar gyfer angorfeydd er mwyn ymateb i’r sefyllfa ddatblygol hon, a sicrhau bod swyddogion yn parhau i fonitro’r sefyllfa.

 

Diolchwyd i gwsmeriaid angorfeydd am gwblhau holiadur boddhad yn ddiweddar. Tynnwyd sylw bod swyddogion yn ymwybodol bod trafferthion ar hyn o bryd gyda dyfnder y sianel ac yr angen i gynllunio a cyflawni gwaith carthu yn yr harbwr, gan nodi bod yr holiadur boddhad hwn yn adlewyrchu’r angen hwnnw gan bod y lefel boddhad yn îs na’r blynyddoedd diwethaf. Nodwyd hefyd bod lefel boddhad cwsmeriaid angorfeydd gyda’r pontwns hefyd wedi gostwng eleni. Diweddarwyd bod pontwns allanol newydd wedi cael eu gosod ers cyflwyno’r adroddiad hwn. Eglurwyd bod rhai agweddau o’r holiadur yn disgyn i gyfrifoldebau’r swyddogion megis ffactorau staff, ar gynnydd, gan ymfalchïo fod y cwsmeriaid yn fodlon gyda’r gwaith a gyflawnwyd gan staff yr harbwr.

 

Adroddwyd bod yr harbwr wedi derbyn archwiliad gan Tŷ’r Drindod (Trinity House) er mwyn archwilio cymhorthion mordwyo a chofnodion. Mynegwyd balchder bod yr archwiliad yn dangos bod trefniadau’r harbwr yn foddhaol ac effeithlon.

 

Tynnwyd sylw bod diweddariad ysgrifenedig wedi cael ei gyflwyno o fewn yr adroddiad ar faterion carthu’r harbwr, a chytunwyd i drafod y materion hynny mewn cyfarfod anffurfiol o’r Pwyllgor Ymgynghorol hwn, sydd wedi ei drefnu ar brynhawn 18 Mawrth 2026.

 

Diweddarwyd bod gwaith yn cael ei wneud i ddiweddaru ystafell Erch yn yr Hafan i’w drawsnewid yn lolfa i rai sydd ag angorfa ar yr harbwr. Cydnabuwyd bod y gwaith yn fwy helaeth na rhagwelwyd ond cadarnhawyd bod gwaith yn cael ei gyflawni’n gyflym er mwyn osod gwres canolog, gosod drysau a ffenestri newydd yn ogystal â lloriau newydd er mwyn diweddaru’r adeilad.

 

Cadarnhawyd y gwahoddwyd tendrau yn ddiweddar ar gyfer y ddarpariaeth lanhau, yn unol â’r gofynion caffael. Rhannwyd bod cwmni Mynydd Cleaning & Maintenance Ltd o Borthmadog wedi eu penodi gan obeithio iddynt gymryd drosodd y ddarpariaeth lanhau o 23 Mawrth ymlaen. Ymhelaethwyd bod swyddogion wedi cael cyfarfod cychwynnol gyda’r cwmni yn ddiweddar gan ymfalchïo bod y trefniant yn un cadarnhaol iawn.

 

Manylwyd ar faterion staffio gan egluro bod adolygiad o strwythur staffio Hafan wedi cael ei gyflawni yn ddiweddar mewn ymgynghorid gyda’r gwasanaeth Adnoddau Dynol a’r undebau llafur. Pwysleisiwyd nad oes unrhyw unigolyn wedi colli eu swydd, bod codiad cyflog wedi cael ei nodi ar gyfer rhai rolau ac bod rhai aelodau’r tîm wedi symud yn fewnol i rolau newydd. Tynnwyd sylw bod y gobeithir penodi ar gyfer dwy swydd ychwanegol yn fuan iawn, sef Rheolwr Prosiect a Chynorthwyydd Gweithrediadau. Nodwyd bod staff presennol wedi cael gwybod am y swyddi hyn a’u hystyried i gyflawni’r rolau wrth gynnal yr adolygiad o’r strwythur staffio.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:

 

Mynegwyd balchder bod mwy o swyddogion yn cael eu cyflogi i gynorthwyo ar faterion yr harbwr. Ymhelaethwyd bod gwasanaethau’r harbwr yn cael eu cynnal 7 diwrnod yr wythnos ac ei fod yn hanfodol bod digon o staff ar gael i gynorthwyo er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth gorau yn cael ei ddarparu ar pob achlysur.

 

Amlygwyd bod cyfeiriad post yr Hafan yn mynd ag ymwelwyr i’r ystâd ddiwydiannol gerllaw, yn hytrach nac i’r ardal forwrol. Hyderwyd bydd cyfrifoldebau’r Rheolwr Prosiect newydd yn galluogi adeiladu ar yr ymdeimlad o groeso i ardal yr Hafan a hysbysu ymwelwyr eu bod mewn ardal forwrol yn gynharach. Trafodwyd y posibilrwydd o addasu cod post yr Hafan i fod yn wahanol er mwyn arwain ymwelwyr i’r man cywir a nododd Reolwr Hafan a Harbwr Pwllheli bod camau cychwynnol ar waith gan y gwasanaeth Cynllunio er mwyn addasu’r cod post.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar bwy sydd yn cael defnyddio’r lolfa newydd yn ystafell Erch, cadarnhaodd Reolwr Hafan a Harbwr Pwllheli mai dim ond unigolion gydag angorfeydd bydd yn cael ei ddefnyddio yn y tymor byr. Fodd bynnag, nodwyd bod swyddogion yn ymwybodol o sylwadau nad yw’r harbwr yn gwneud digon i gysylltu gyda’r dref ac ystyriwyd gall y defnydd o’r lolfa hon gynorthwyo gyda gwella’r berthynas honno. Mewn ymateb i ymholiad pellach, cadarnhaodd Reolwr Hafan a Harbwr Pwllheli bod y gyllideb o’r gwaith adnewyddu i’r lolfa yn cael ei ariannu o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF). Derbyniwyd sylwadau y gallai agor defnydd yr ystafell i’r cyhoedd arwain at drafferthion, ond cytunwyd nad oedd rhwystrau posib digonol wedi cael eu codi i beidio parhau gyda threfniadau.

 

Penderfynwyd:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a godwyd yn ystod y drafodaeth, gan eithrio materion carthu’r Harbwr, oherwydd bydd y materion hynny yn cael eu trafod mewn cyfarfod anffurfiol ar 18 Mawrth 2026.

 

Dogfennau ategol: