I dderbyn
diweddariad llafar gan y cynrychiolydd perthnasol ar gaterion sy’n ymwneud â Phlas
Heli.
Cofnod:
Derbyniwyd
diweddariad llafar ar faterion Plas Heli gan gynrychiolydd Clwb Hwylio
Pwllheli. Tynnwyd sylw at y materion canlynol:
Edrychwyd ymlaen
at dymor prysur yn yr harbwr gydag wyth digwyddiad mawr yn cael ei gynnal ym
Mhlas Heli. Ymfalchïwyd bod grwpiau yn ymarfer ar gyfer y digwyddiadau hynny ar
benwythnosau ym Mhlas Heli, gan nodi balchder bod y safle yn brysur pob
diwrnod.
Cadarnhawyd bod
gwaith paratoi, cynnal a chadw yn parhau, gan nod bod y safle wedi derbyn
archwiliad ac adroddiad gan Walcon Marine ar gyflwr yr angorfeydd. Nodwyd bod
yr archwiliad hwnnw wedi arwain at restr o argymhellion a fydd yn cael ei
gyflawni gan Walcon Marine. Ymhelaethwyd bod costau rhai o’r gweithrediadau hyn
oddeutu £5,000. Yn debyg, eglurwyd bod tystysgrif trydanol wedi cael ei
gyflawni ar gyfer pob pontŵn, am gost o oddeutu £5,000.
Cyfeiriwyd at
ddigwyddiadau cymunedol gan nodi y derbyniwyd cais i ddefnyddio’r safle ar
gyfer sesiynau cofrestru y ‘She Ultra’ yn ogystal â defnyddio’r safle ar gyfer
dechrau a gorffen y digwyddiad. Eglurwyd bod y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal
ym mis Ebrill a disgwylir oddeutu 3,500 o bobl fod ynghlwm ag o ar y safle. Yn
debyg, nodwyd bod y safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cychwyn a gorffen Rali
Llŷn ym Mhlas Heli ym mis Mawrth, gan gadarnhau y disgwylir i’r safle fod
yn wag ac wedi ei glirio erbyn 8yb yn dilyn y digwyddiad. Soniwyd hefyd am
ddigwyddiad sydd yn cael ei gynnal ar gyfer pysgotwyr masnachol ar y safle, ble
fydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal a stondinau addysgol a meddygol ar gael yno.
Tynnwyd sylw bod amryw o gyfarfodydd eraill yn cael eu cynnal ar y safle gan
mynegi balchder bod staff Plas Heli wedi cael yr amser i adnewyddu rhai
ystafelloedd a throsi swyddfa i fod yn ystafell gyfarfod ychwanegol er defnydd
cyhoeddus.
Adroddwyd y
bwriedir gosod parapet newydd ar falconïau’r adeilad. Nodwyd bod y gwaith hwn
yn angenrheidiol gan fod y pren gwreiddiol wedi prydu. Ymhelaethwyd bod gwaith
yn cael ei wneud i godi’r balconi er mwyn adnewyddu ei seiliau i gyd fynd gyda
gweddill yr adeilad, tra mae’r gwaith hwn yn cael ei gwblhau. Cadarnhawyd bod y
gwaith hwn bron a’i gwblhau.
Sicrhawyd bod
gwaith tirlunio yn parhau er mwyn sicrhau bod edrychiad y safle yn gwella yn
flynyddol.
Mynegwyd pryder
bod tractorau yn cludo cychod i’r traeth heibio prif fynedfa a maes parcio'r
safle gan greu problemau iechyd a diogelwch, rhag ofn byddai pobl yn
defnyddio’r un llwybr ar gyfer lawnsio badau cwch personol a’r defnydd o
drelars modur (motorised Trailers) yn yr un modd. Cadarnhawyd bod carreg fawr
wedi cael ei osod ger y fynedfa hon i’r traeth er mwyn delio gyda hyn.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:
Eglurwyd bod
treial wedi cael ei gynnal yn ddiweddar gyda threlars modur, ble roeddent yn
cael eu rheoli o bell, gan gwmni a oedd wedi bod mewn cyswllt gyda’r Tîm
Traethau am ganiatâd. Cydnabuwyd y dylid cynnwys Plas Heli mewn ymgynghoriadau
a chynlluniau cyffelyb yn y dyfodol. Mewn ymateb i’r sylwadau hyn cadarnhaodd
cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli y buasai’r treial hwn wedi cael ei wneud
drwy ddefnyddio’r ffordd wasanaeth (Service road) er diogelwch, ac i arbed
dinistrio gwaith tirlunio gwair. Fodd bynnag, tystiolaethwyd bod pobl yn mynd
heibio prif fynedfa’r adeilad a’r maes parcio yn gyson gan arwain at osod y
garreg ar fynedfa’r traeth i’w hatal.