Agenda item

Iain Taylor (Rheolwr Rhaglen Parth Buddsoddi) ac Sian Lloyd Roberts a Rees Brown o’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Nodi’r cynnydd ar roi’r Rhaglen Parth Buddsoddi ar waith mewn partneriaeth agos gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol, Coleg Cambria, Prifysgol Wrecsam a’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

 

  • Nodi’r broses ar gyfer datblygu’r prosiectau a gyflwynwyd yn nogfennaeth yr eitem hon, a’u bod wedi cael eu cytuno fel prosiectau sgiliau priodol ar gyfer y Parth Buddsoddi i gefnogi’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a’u bod yn cyd-fynd ag amcanion y Cynllun Sgiliau Parth Buddsoddi.

 

  • Cymeradwyo’r cynigion prosiect a gyflwynwyd gan Goleg Cambria gwerth hyd at £8,183,000 a dirprwyo i Brif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, y Swyddogion Monitro, a’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghorid â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gytuno ac ymrwymo i Gytundeb Cyllid Grant rhwng Cyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru a Choleg Cambria.

 

  • Cymeradwyo’r cynigion prosiect a gyflwynwyd gan Brifysgol Wrecsam gwerth hyd at £4,247,014 a dirprwyo i Brif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gytuno ac ymrwymo i Gytundeb Cyllid Grant rhwng Cyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru a Phrifysgol Wrecsam.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol a Cadeirydd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

 

PENDERFYNIAD

 

·       Nodi’r cynnydd ar roi’r Rhaglen Parth Buddsoddi ar waith mewn partneriaeth agos gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol, Coleg Cambria, Prifysgol Wrecsam a’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

 

·       Nodi’r broses ar gyfer datblygu’r prosiectau a gyflwynwyd yn nogfennaeth yr eitem hon, a’u bod wedi cael eu cytuno fel prosiectau sgiliau priodol ar gyfer y Parth Buddsoddi i gefnogi’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a’u bod yn cyd-fynd ag amcanion y Cynllun Sgiliau Parth Buddsoddi.

 

·       Cymeradwyo’r cynigion prosiect a gyflwynwyd gan Goleg Cambria gwerth hyd at £8,183,000 a dirprwyo i Brif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro, a’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghorid â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gytuno ac ymrwymo i Gytundeb Cyllid Grant rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a Choleg Cambria.

 

·       Cymeradwyo’r cynigion prosiect a gyflwynwyd gan Brifysgol Wrecsam gwerth hyd at £4,247,014 a dirprwyo i Brif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gytuno ac ymrwymo i Gytundeb Cyllid Grant rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a Phrifysgol Wrecsam.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

I geisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor Lles Economaidd ar gyfer Rhaglen sgiliau Parth Sir y Fflint a Wrecsam. Bydd hyn yn galluogi dechrau’r rhaglen sgiliau Parth Buddsoddi ar yr adeg caiff y Parth Buddsoddi ei gytuno arno rhwng Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn cyflwyno Rhaglen Sgiliau Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam a gofyn am gymeradwyaeth yr Is-bwyllgor ar gyfer y rownd gychwynnol o brosiectau er mwyn cefnogi’r Parth Buddsoddi.

 

Cadarnhawyd bod y Rhaglen wedi cael ei ddatblygu ar y cyd gyda Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Coleg Cambria, Prifysgol Wrecsam, Gyrfa Cymru a’r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol.

 

Atgoffwyd yr aelodau o’r angen i ddarparu sgiliau ar gyfer gweithwyr newydd, gan fod y gweithlu yn gyffredinol yn heneiddio, a bod angen paratoi i ymdopi gyda thechnolegau newydd. Tynnwyd sylw mai nod y Rhaglen yw ymateb i’r anghenion hynny drwy sicrhau bod addysg a sgiliau sydd yn cael ei ddarparu yn cyfarch yr hyn sydd yn ddisgwyliedig o anghenion cyflogwyr. Nodwyd y bwriedir sicrhau bod trigolion lleol yn elwa drwy gyflogaeth oherwydd y sgiliau maent yn eu datblygu o fewn y Parth Buddsoddi.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy’r prosiectau cychwynnol gan egluro eu bod yn canolbwyntio ar ‘Ymyrraethau Cyn 16’, ‘Ymyrraethau 16-18’, ‘Llwybrau ar gyfer 18+’ ac ‘Ail-sgilio ac Uwch-sgilio’. Manylwyd bod nifer o brosiectau pellach ar waith er mwyn cyfarch y prif agweddau hyn, ac eu bod wedi cael eu datblygu gan Coleg Cambria a Phrifysgol Wrecsam.

 

Nodwyd bod Coleg Cambria yn datblygu hyfforddiant ar Weithgynhyrchu Uwch, sgiliau digidol a Thechnolegau Diwydiant 4.4. Ymhelaethwyd bod y Coleg yn dymuno ehangu prentisiaethau a chryfhau’r gwaith ymgysylltu gyda chyflogwyr, yn enwedig y cwmnïau bychan a chanolig (SME). Pwysleisiwyd ei fod yn becyn cyflawn ar gyfer ymyraethau 16-18 ac 18+

 

Nodwyd bod Prifysgol Wrecsam yn canolbwyntio arlwybrau ar gyfer 18+ yn ogystal ag ail-sgilio ac uwch-sgilio gweithwyr. Cyfeiriwyd at rhai o’r cynlluniau hyn megis Prentisiaethau Gradd mewn Gweithgynhyrchu Uwch, ‘Graduate Internships’ i ddatblygu a chadw talent yn y rhanbarth, Ymchwil Meistr a PHD sydd yn cydfynd gyda blaenoriaethau’r diwydiant a chyrsiau addysg uwch sydd wedi cael eu cyd-greu gyda cyflogwyr.

 

Ystyriwyd bod y prosiectau hyn oll yn cryfhau llwybr sgiliau ar draws y ddau Awdurdod Lleol, y rhanbarth yn ehangach a sicrhau busnesau sydd yn cymryd rhan yn y Parth Buddsoddi bod gweithwyr cymwys ar gael i helpu tyfu eu busnes ac arloesi i’r dyfodol.

 

Pwysleisiwyd bod Proses Sicrwydd cadarn, clir a strwythuredig wedi cael ei gwblhau. Cadarnhawyd bod yr holl brosiectau wedi cael eu datblygu drwy Is-grŵp Sgiliau y Parth Buddsoddi gan ddefnyddio tystiolaeth ar anghenion sgiliau a drwy ddefnyddio Strategaeth Sgiliau y Parth Buddsoddi fel ffynhonnell graidd o ddata ac ymchwil.

 

Cadarnhawyd bod y prosiectau hyn wedi cael eu mireinio mewn dau gam, a’u cyflwyno mewn ffurflenni cais cyn cael eu hystyried. Ymhelaethwyd bod y camau mireinio hyn yn cynnwys Adolygiad Sicrwydd gan Medr, sef y rheoleiddiwr cyllid addysg ôl-16 yng Nghymru. Nodwyd bod cyflawni’r camau mireinio hyn gyda cefnogaeth Medr yn sicrhau bod y prosiectau yn ychwanegu gwerth i’r ardal a’r rhanbarth. Manylwyd bod y prosiectau o fewn yr adroddiad hwn wedi cael eu cyflwyno i’r Bartneriaeth Sgiliau yn ddiweddar.

 

Eglurwyd bydd gwaith yn cael ei wneud er mwyn monitro’r cynlluniau a’r prosiectau hyn, gan ofyn bod cynlluniau cyflawni blynyddol a fframweithiau gwerthuso yn cael eu cwblhau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Credwyd ei fod yn bwysig i sicrhau bod cwmnïau sydd yn recriwtio yn y rhanbarth yn cadarnhau pa sgiliau allweddol sydd ei angen ar bobl ifanc er mwyn derbyn swyddi, gan amlygu’r angen bod ysgolion yn cydweithio gyda’r Parth Buddsoddi er mwyn sicrhau bod y sgiliau cywir yn cael eu datblygu ar gyfer pobl ifanc o bob oed. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol bod addysgu sgiliau ar gyfer unigolion iau na 16 oed yn hanfodol gan ei fod yn annog unigolion i gymryd mantais o’r prosiectau sydd ar gael i bobl 16-18 ac i 18+. Pwysleisiwyd bod awdurdodau addysg Wrecsam a Fflint yn arwain ar y prosiectau hyn ynghyd â’u partneriaid gan gadarnhau eu bod yn manylu ar y cwricwlwm er mwyn sicrhau bod y sgiliau hanfodol yn cael eu haddysgu.

 

Llongyfarchwyd y swyddogion a’u partneriaid ar eu gwaith. Dymunwyd sicrhau bod gwersi yn cael eu Dysgu wrth ddatblygu prosiectau’r Is-bwyllgor Lles Economaidd er mwyn sicrhau bod y sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer y datblygiadau hynny, yn cael eu hymgorffori o fewn y Rhaglen Sgiliau i’r dyfodol. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Prif Weithredwr CBC y Gogledd bod angen uchafu sgiliau hanfodol i’r lleoliadau hynny ble mae buddsoddiad prosiectau hynny ar ei fwyaf, gan ganiatáu i bobl ifanc aros yng ngogledd Cymru ar gyfer gyrfaoedd hirdymor ar draws y rhanbarth.

 

Diolchwyd am yr adroddiad. 

 

Dogfennau ategol: