Agenda item

I rannu diweddariad am brosiectau cyfalaf AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn ac Warden Cefn Gwlad – AHNE Llŷn, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod yr holl brosiectau a gyflwynwyd yn yr adroddiad yn cael eu hariannu drwy geisiadau at gynllun grant ‘Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy’ Llywodraeth Cymru sydd ar gael ar gyfer Tirweddau Dynodedig Cymru - Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ymhelaethwyd bod Llywodraeth Cymru wedi gosod themâu ar gyfer y grant ar gyfer 2025-27 sef ‘Hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer natur’, ‘Hwyluso datgarboneiddio’ a ‘Gwelliannau cyffredinol yn ymwneud hefo mynediad, isadeiledd a phwysau yn sgil ymwelwyr’. Tywyswyd yr Aelodau drwy’r prosiectau llwyddiannus a gyflwynwyd gan AHNE Llŷn yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol, gan gadarnhau bydd gwybodaeth bellach ar gael i’r cyhoedd drwy newyddlen Llygad Llŷn.

 

Plannu Coed Cynhenid

Adroddwyd bod plannu coed cynhenid megis coed derw, draenen ddu, draenen wen, celyn, cyll, bedw arian a rhywogaethau eraill, yn cynnig buddion sylweddol i’r amgylchedd megis creu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, amsugno carbon o’r amgylchedd, puro a rheoli dŵr a darparu adnodd cynaliadwy i’r dyfodol.

 

Cydnabuwyd bod yr Uned AHNE Llŷn wedi wynebu her wrth ganfod lleoliadau addas i blannu’r coed hyn, gan nad oedd digon o dir addas ar gael ym meddiant y Cyngor i wneud hynny’n briodol. Ymhelaethwyd bod Swyddogion wedi cydweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn derbyn caniatâd i blannu coed yn Tŷ’n Parc, ger Plas yn Rhiw. Diolchwyd hefyd i swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru am gynorthwyo’r prosiect gan obeithio bydd modd parhau gyda’r cynllun yn y flwyddyn nesaf ar diroedd Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Cadarnhawyd bod y gwaith wedi cael ei gyflawni eleni ym Mhlas yn Rhiw a Thŷ’n Parc (y Rhiw) yn ogystal ag ardaloedd ger y fynwent a’r ardd gymunedol yn Nefyn, gan ddiolch i bawb sydd wedi ymgymryd â’r gwaith.

 

Rhywogaethau Ymledol Estron

Eglurwyd bod y prosiect hwn yn ddilyniant i waith ymchwil a wnaed ar y rhywogaethau ymledol estron sydd yn niweidiol i fywyd gwyllt cynhenid AHNE Llŷn, gan ymgeisio i’w gwaredu gan eu bod yn fygythiad mewn mannau. Pwysleisiwyd bod y prosiect hwn yn un heriol gan fod y rhywogaethau ymledol estron i’w gweld mewn sawl ardal ar hyd yr AHNE.

 

Tynnwyd sylw penodol at waith a wnaed i waredu jac y neidiwr (himalayam balsam) mewn ardaloedd ym Mhistyll a Penllech gan ddiolch i Gyfoeth Naturiol Cymru ar eu cydweithrediad. Fodd bynnag, nodwyd bod y rhywogaeth hwn wedi cael ei ganfod mewn ardaloedd eraill megis yn Nefyn, gan bwysleisio ei fod allan o reolaeth yn yr ardal honno, gan egluro bydd cyllideb i waredu’r rhywogaeth yn cael ei ddefnyddio mewn ardaloedd ble mae hyder y byddai’n cael ei waredu, yn hytrach nag ymgeisio i’w waredu mewn ardaloedd ble mae’r sefyllfa allan o reolaeth.

 

Yn debyg, cadarnhawyd bod gwaith wedi cael ie wneud i waredu canglwm siamaneaidd (japanese knotweed), gan dynnu sylw penodol at y gwaith a wnaed yn ardal Trefor. Eglurwyd y credir ei fod yn llai o her i waredu’r rhywogaeth hwn, gan egluro bod posibilrwydd na fydd y gyllideb gyfan yn cael ei wario yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf gan fod swyddogion mewn rheolaeth o’r sefyllfa. Anogwyd unrhyw un sydd yn gweld y rhywogaeth o fewn yr AHNE i gysylltu gyda’r Uned er mwyn ei waredu.

 

Yn yr un modd, eglurwyd bod gwaith wedi cael ei wneud i waredu coed rhododendron mewn ardaloedd ger Garn Boduan a thraeth Llanbedrog, gan gadarnhau cynlluniau i barhau i waredu’r rhywogaeth yn ystod y flwyddyn nesaf.

 

Dadgarboneiddio neuaddau / canolfannau pentref

Adroddwyd mai bwriad y prosiect hwn oedd cynorthwyo neuaddau pentref a chanolfannau i ddad-garboneiddio drwy gyflwyno mesurau megis insiwleiddio, newid i oleuadau ynni isel LED, systemau gwresogi di-garbon a chreu systemau i storio ynni adnewyddol. Eglurwyd byddai cyflawni’r newidiadau hyn hefyd yn arwain at arbedion ariannol i’r adeiladau hynny. Tynnwyd sylw at dri adeilad sydd wedi elwa o’r prosiect yn ystod 2025-26 sef:

 

·       Canolfan Edern – uwchraddio goleuadau i rai LED.

·       Neuadd Goffa Sarn – cyflwyno system storio trydan o’i paneli solar er mwyn arbed arian yn hytrach na’i werthu yn ôl i’r grid.

·       Y Ganolfan, Trefor – cynnal archwiliad o’r adeilad cyn gosod paneli solar, system storio, insiwleiddio yn ogystal ag uwchraddio’r goleuadau i rai LED.

 

            Abergeirch

Nodwyd bod yr ardal hon ger pentref Edern wedi cael ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn sgil ei lystyfiant tir gwlyb corsiog arbennig.

 

Cynhaliwyd adroddiad asesiad ecolegol ar y safle a ddangoswyd bod dirywiad wedi bod yng nghyflwr y rhinweddau arbennig sydd i’w gweld yno. Ymhelaethwyd bod yr adroddiad wedi argymell gwelliannau posib i’r ardal, gan gadarnhau bydd rhain yn cael eu cyflawni yn ystod y flwyddyn nesaf.

 

Prosiectau cyffredinol ac ar y cyd

Tynnwyd sylw at brosiectau bychan eraill sydd wedi cael eu cyflawni megis adfer llwybr aml-ddefnydd a gosod meinciau picnic ym Mhorthor, gwella llwybr lleol ger Bodwrdda Aberdaron, gwella llwybrau allweddol yng Nghlynnog ac adnewyddu rheiliau haearn a oedd wedi rhydu ar y cei yn Nhrefor.

 

Eglurwyd hefyd bod AHNE Llŷn wedi elwa o brosiectau ar y cyd gyda Thirweddau Dynodedig eraill megis prosiect ‘Yr Awyr Dywyll’ a ‘Tirlun 2 - Pecyn Addysg Tirwedd’.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod yr Uned yn werthfawrogol o gymorth gwirfoddolwyr ar y prosiectau hyn pan yn briodol, gan gydnabod nad oes modd derbyn gwirfoddolwyr ar gyfer pob prosiect, megis cynlluniau i wella llwybrau yng Nghlynnog.

 

Tynnwyd sylw swyddogion at nifer o faterion i’w hystyried fel prosiectau cyfalaf megis ardaloedd o ganglwm siapaneaidd yng Ngharreg y Defaid ac yn Mynytho, yr angen i osod rheiliau haearn ar y ffordd i draeth Llanbedrog bod coed Rhododendron ger rhaeadr Gyrn Goch yn ogystal â’r angen i ailbeintio arwyddion a cherrig filltir yn ardal Mynytho. Cynigiwyd hefyd y dylai swyddogion gysylltu gyda Plas Glyn y Weddw er mwyn gweld os buasent yn dymuno i goed cynhenid gael eu plannu yno, gan bod difrod wedi bod i’w coedwig yn y blynyddoedd diwethaf yn dilyn tywydd garw.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod dolen i brosiect Pecyn Addysg Tirwedd wedi cael ei rannu gyda holl ysgolion sydd o fewn yr AHNE, gan gadarnhau bydd y ddolen yn cael ei rannu gydag aelodau’r Cyd-bwyllgor er gwybodaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Swyddog ANHE Llŷn bod Cynghorau Cymuned wedi derbyn gwybodaeth o’r holl brosiectau hyn wrth iddynt ddatblygu, gan nodi y gobeithiwyd bod aelodau Cynghorau Cymuned sydd yn aelodau o’r Cyd-bwyllgor hwn hefyd yn adrodd gwybodaeth yn ôl i’w cyfarfodydd.

 

            PENDERFYNIAD

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

·       Sicrhau bod dolen i brosiect ‘Tirlun 2 – Pecyn Addysg Tirwedd’ yn cael ei rannu gyda’r Aelodau.

 

Dogfennau ategol: