I rannu gwybodaeth a diweddaru aelodau ar gynnydd prosiect Tirlun Byw.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog Gweithgareddau AHNE Llŷn. Tynnwyd sylw’n fras at y
prif fanylion canlynol:
Eglurwyd bod
Tirlun Byw yn brosiect sydd yn cael ei ariannu ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol
Cymru a Cyngor Gwynedd am gyfnod o dair blynedd hyd at 2027. Ymhelaethwyd mai
nod y prosiect yw i hyrwyddo natur byw tirlun yr AHNE gan gynnal gweithgareddau
i bobl sydd yma yn gweithio, byw neu’n ymweld. Nodwyd bod y prosiect yn ymateb
i nifer o amcanion megis Cynllun Rheoli’r AHNE, amcanion Cyfoeth Naturiol Cymru
a Llesiant Llywodraeth Cymru yn ogystal â meysydd blaenoriaeth Cynllun Cyngor
Gwynedd 2023-28.
Cyflwynwyd data
am y gweithgareddau sydd wedi cael eu cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd â
niferoedd yr unigolion sydd wedi eu mynychu. Ymhellach cyflwynwyd lluniau o’r
digwyddiadau hynny er mwyn cael blas o’r hyn sydd wedi cymryd lle. Darparwyd
copïau o gerddi sydd wedi cael eu cyfansoddi gan ysgolion lleol yn dilyn
prosiect a wnaed gyda chymorth Meirion Macintyre Huws er mwyn hyrwyddo’r awyr
dywyll a’i bwysigrwydd o fewn yr AHNE. Cadarnhawyd bod y prosiect hwnnw wedi
derbyn adborth cadarnhaol iawn gan yr ysgolion.
Manteisiwyd ar y
cyfle i amlygu rhai digwyddiadau sydd ar y gweill megis sesiwn wybodaeth
rhywogaethau ymledol ar 30 Ebrill yn ogystal a sesiwn wybodaeth ar gynnal
teithiau tywys yn llwyddiannus ar 14 Mai.
Cadarnhawyd bod
cynlluniau ar waith i baratoi rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn 2026/27 gan
groesawu cynigion am ddigwyddiadau a fyddai’n fuddiol i’w cynnal yn ystod y
cyfnod hwnnw.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:
Mewn ymateb i
ymholiad, cadarnhaodd Swyddog Gweithgareddau AHNE Llŷn y gobeithir bydd y
cerddi a gyfansoddwyd gan ddisgyblion ysgol fel rhan o’r prosiect, yn cael eu
cyhoeddi mewn rhifyn o bapur bro Llanw Llŷn. Fodd bynnag, cadarnhawyd nad
oes modd eu cyhoeddi yng nghylchlythyr Llygad Llŷn oherwydd byddai angen
eu cyfieithu gan fod y newyddlen honno yn cael ei gyhoeddi yn ddwyieithog. Er
hyn, gobeithiwyd bydd cyfle yn y dyfodol ar gyfer cyhoeddi’r cerddi hyn
ymhellach.
Mewn ymateb i
ymholiad, cadarnhaodd Swyddog
Gweithgareddau AHNE Llŷn bod modd i aelodau’r Cyd-bwyllgor hwn dderbyn
gwahoddiad i’r gweithgareddau hyn drwy gais cyfarfod i’w calendr yn hytrach na
neges dros e-bost, os ydynt yn dymuno hynny, gan ofyn i unrhyw aelod i gysylltu
gyda’r Swyddog Gweithgareddau.
Mewn ymateb i
ymholiad, pwysleisiodd Swyddog Gweithgareddau AHNE Llŷn bod pob ymdrech yn
cael ei wneud er mwyn sicrhau bod pob gweithgaredd yn cael ei gynnal yn
ddwyieithog. Er hyn, cydnabuwyd bod un digwyddiad wedi ei gynnal ble nad oedd y
gyflwynwraig yn medru’r Gymraeg ac nid oedd amser digonol wedi bod er mwyn
cyfieithu ei chyflwyniad ac felly y bu i’r digwyddiad gael ei gynnal yn
Saesneg.
Amlygwyd y
byddai sesiwn gwybodaeth ar enwau coed, blodau ac adar yn y Gymraeg yn fuddiol
fel rhan o’r rhaglen waith, ac os nad yw’n bosib, bod tudalen yn cael ei greu
ar y wefan yn cynnwys yr holl wybodaeth fel nad yw’r enwau hynny yn cael eu
colli.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: