Agenda item

I ddiweddaru Aelodau am sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn y flwyddyn ariannol bresennol (2025-26), rhannu gwybodaeth ar newidiadau i lywodraethiant y Gronfa yn sgil diwygio’r ddogfen Fframwaith a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, ac i ddewis aelodau newydd ar gyfer Panel y Gronfa.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn. Tynnwyd sylw at y prif faterion canlynol:

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, 2025-26. Cadarnhawyd bod cyfanswm o £95,000 yn y Gronfa ar ddechrau’r blwyddyn ariannol gan nodi bod cyfran helaeth o’r arian wedi cael ei ddyrannu i brosiectau lleol yn yr ardal, sef:

 

·       1st Mate Amgueddfa Forwrol Llŷn (£4,506)

·       Bws Fflecsi Llŷn (£25,000)

·       Llwybrau aml ddefnydd Nefyn (£11,450)

·       Pŵer solar Enlli (£9,572)

·       Cae Chwarae Llanbedrog (£22,145)

·       Clwb rhwyfo Porthdinllaen (£750)

·       Dadgarboneiddio neuadd Rhiw (£2,250)

·       Menter Rabar (£4,995.37)

·       Gardd Antur Aelhaearn (£1,000)

·       Gwefan Tafarn y Fic, Llithfaen (£2,439)

 

Adroddwyd bod y cyfanswm a ddyrannwyd i’r prosiectau hyn yn £84,107.37. Atgoffwyd bod hawl gan yr Uned AHNE i hawlio grant o £9,500 ar gyfer gweinyddu’r gronfa. Cadarnhawyd mai gwir gyfanswm o’r arian sydd wedi cael ei ddyrannu o’r gronfa yw £93,607.37, os yw pob prosiect yn hawlio’n llawn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Mynegwyd balchder bod £95,000 wedi cael ei ddyrannu gan Lywodraeth Cymru i’r Gronfa ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026-27 gan gadarnhau’r angen i gynnal cyfarfod yn fuan er mwyn ystyried ceisiadau newydd sydd wedi dod i law.

 

Tynnwyd sylw bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Dogfen Fframwaith diwygiedig sydd yn cynnwys nifer o newidiadau arwyddocaol i lywodraethiant y gronfa, megis:

 

·       Mae’n ofynnol i 60% o gyllideb y Gronfa gael ei glustnodi ar gyfer prosiectau sydd yn mynd i’r afael neu ymateb i argyfwng natur a hinsawdd a cholledion bioamrywiaeth.

·       Rhoddir pwyslais ar gyd-weithio gyda thirweddau eraill, y sector wirfoddol a chymunedau ynghyd â phartneriaeth eraill.

·       Mae angen cynnwys gwybodaeth am y Gronfa ar wefan a ddiweddarwyd yn gyson gyda mynediad clir i ymgeisio a wybodaeth bellach. Cadarnhawyd bod AHNE Llŷn yn gweithredu hyn eisoes.

·       Newidiadau i Aelodaeth - eglurwyd rhaid cael rhwng 3 a 5 aelod ar Banel y Gronfa, gyda gofyniad i bob Aelod wasanaethu am o leiaf dwy flynedd ac uchafswm o 4 mlynedd yn olynol. Nodwyd yr angen i adolygu’r aelodaeth bob 2 flynedd. Tynnwyd sylw ei fod yn ofynnol i bob aelod fynychu unrhyw hyfforddiant a drefnir gan Lywodraeth Cymru er mwyn bod yn ymwybodol o’i flaenoriaethau.

·       Cadarnhawyd bod y Panel yn atebol i’w benderfyniadau ac yn gallu darparu cyfiawnhad am eu penderfyniadau. Nodwyd bydd penderfyniadau yn cael eu hysbysebu ar y wefan.

 

Cadarnhawyd bod y newidiadau hyn yn weithredol o flwyddyn ariannol 2026-27 ymlaen gan nodi’r angen i addasu aelodaeth y Panel ar fyrder. Atgoffwyd yr Aelodau o aelodaeth y Panel gan egluro bod modd i’r Cynghorwyr Angela Russell a John Brynmor Hughes barhau fel aelodau am y tro gan nad ydynt wedi gwasanaethu am bedair blynedd. Fodd bynnag, eglurwyd nad oes modd i’r Cynghorwyr Gruffydd Williams, a Gareth Williams, Morgan Jones Parry, Sian Parri na Noel Davey fod yn aelodau mwyach oherwydd eu bod wedi gwasanaethu am 4 mlynedd yn olynol neu fwy.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:

 

Trafodwyd aelodaeth y Panel gan gadarnhau’r Aelodau fel a ganlyn:

·       Y Cynghorydd Angela Russell (Pencampwr Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd)

·       Jina Gwyrfai (Cyngor Cymuned Trefor a Llanaelhaearn)

·       Eirian Allport (Cyngor Cymuned Clynnog Fawr)

·       Seimon Jones (Cyfeillion Llŷn)

 

Cadarnhawyd bydd swyddogion yn cadarnhau os bydd y Cynghorydd John Brynmor Hughes yn bwriadu parhau fel aelod o’r Panel yn dilyn y cyfarfod hwn. Ymhelaethwyd bod canllawiau ar gyfer y Panel yn caniatáu rhwng 3 a 5 Aelod gan gadarnhau bydd modd cynnal cyfarfodydd y Panel gyda’r aelodaeth newydd hwn.

 

Derbyniwyd sylwadau bod canllawiau newydd Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar eu blaenoriaethau yn hytrach na chaniatáu i gymunedau lleol allu cymeradwyo’r prosiectau hynny a fyddai o fwyaf o fudd cymunedol i’w drigolion ac ymwelwyr.

 

Diolchwyd i’r Swyddogion am grynodeb o’r prosiectau a gefnogwyd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol, gan ategu cais i dderbyn gwybodaeth am nifer o flynyddoedd ariannol pan gyflwynir yr adroddiad hwn yn y dyfodol. Eglurwyd byddai hyn yn caniatáu i aelodau’r Cyd-bwyllgor gymharu pa brosiectau sydd wedi cael eu cymeradwyo, y mathau o brosiectau sydd yn ymgeisio ac yr ardaloedd sydd yn manteisio ar y cyfleoedd mae’r Gronfa yn ei gynnig. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Swyddog AHNE Llŷn bod modd casglu’r gwybodaeth ac y byddai’n cael ei gynnwys mewn adroddiadau i’r dyfodol.

 

            PENDERFYNIAD

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

·       Gofyn bod gwybodaeth am y prosiectau a gefnogwyd gan y Gronfa dros gyfnod o o leiaf 3 mlynedd yn cael ei gyflwyno fel atodiad i’r Adroddiad hwn i’r dyfodol.

·       Ethol yr unigolion canlynol i fod yn aelodau o Banel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy:

·       Y Cynghorydd Angela Russell (Pencampwr Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd)

·       Jina Gwyrfai (Cyngor Cymuned Trefor a Llanaelhaearn)

·       Eirian Allport (Cyngor Cymuned Clynnog Fawr)

·       Seimon Jones (Cyfeillion Llŷn)

·       Y Cynghorydd John Brynmor Hughes (os dymunir)

 

Dogfennau ategol: