Agenda item

I rannu gwybodaeth am Adroddiad o Gyflwr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn.

 

Nodwyd mai bwriad yr adroddiad yw derbyn darlun llawn a chlir o gyflwr yr ardal gan gynnwys y tirlun, byd natur, pobol, gwaith, amgylchedd hanesyddol, iaith a’r diwylliant. Adroddwyd bod yr adroddiad yn sail ar gyfer y broses o adolygu’r Cynllun Rheoli newydd yr AHNE, gan fod y cynllun presennol wedi dyddio cryn dipyn.

 

Atgoffwyd bod yr adroddiad cyntaf ar gyflwr yr AHNE wedi cael ei ddatblygu yn 2014, gydag adolygiad ohono wedi ei wneud yn 2021. Nodwyd bod y Cyd-bwyllgor wedi cyflwyno nifer o sylwadau ar yr adroddiad hwnnw a phenderfynu diweddaru’r ddogfen er mwyn derbyn gwybodaeth gyfredol. Cadarnhawyd bod cwmni Craggatack o ardal Cumbria wedi cael eu penodi i gynnal y gwaith o ddatblygu adroddiad o’r newydd, yn dilyn proses tendro.

 

Eglurwyd bod yr Adroddiad Cyflwr yr AHNE a gyflwynwyd yn y cyfarfod hwn yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd yn 2025, gydag ystod eang o wybodaeth yn derbyn sylw gan gynnwys: lleoliad, llygredd, ynni adnewyddol, llifogydd, treftadaeth naturiol a diwylliannol, dynodiadau cynefinol, yr iaith a diwylliant yn ogystal â pobl a materion iechyd.

 

Tynnwyd sylw y gobeithir parhau i ddatblygu Cynllun Rheoli  yr AHNE yn dilyn derbyn gwybodaeth o’r Adroddiad Cyflwr. Eglurwyd bydd angen ystyried y broses o gyflawni'r gwaith hwnnw drwy gomisiynu unigolion ac ymgynghorwyr, yn ddibynnol ar dderbyn sicrwydd o gyllidebau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:

 

Mynegwyd pryder am yr angen i warchod tai a bythynnod traddodiadol o fewn yr AHNE, gan gynnig bod y Cyd-bwyllgor yn ysgrifennu at Bwyllgor Polisi Cynllunio Cyngor Gwynedd i amlygu’r angen i gyflwyno polisïau llymach er mwyn eu gwarchod fel nad oes modd i berchnogion newydd eu dymchwel yn ddi-sail. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio bod y Gwasanaeth Polisi Cynllunio yn cynnal cyfnod o ymgysylltu cyhoeddus ar ddrafft o’r Polisi Cynllunio ar hyn o bryd ac yn annog aelodau’r Cyd-bwyllgor i gyflwyno eu sylwadau drwy’r cyfrwng hwnnw er mwyn sicrhau ei fod yn derbyn ystyriaeth briodol, a’u cynnwys o fewn y polisi arfaethedig.

 

Ystyriwyd bod rhannau o’r adroddiad yn gynhwysfawr iawn, megis data ar geisiadau cynllunio a gwybodaeth am Yr Awyr Dywyll. Fodd bynnag, ystyriwyd bod lle i wella wrth ymdrin ag effaith economaidd meysydd carafanio a gwersylla, egni adnewyddadwy, ysgolion, iaith a diwylliant ac ail-gartrefi. Teimlwyd nad yw’r meysydd yma wedi derbyn ystyriaeth deg o fewn yr adroddiad. Ystyriwyd os oedd yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer datblygu’r adroddiad ar gael i’r cwmni.

 

Mynegwyd pryder bod gwybodaeth anghyflawn wedi cael ei gynnwys gan y cwmni ar gyfer llunio adroddiad, gan dynnu sylw penodol at ran o’r adroddiad a oedd yn cadarnhau mai dim ond 8 o safleoedd carafanau ac 1 maes gwersylla oedd yng Ngwynedd yn 2025. Yn debyg, ystyrir bod y wybodaeth a gyflwynwyd am niferoedd a meintiau aneddiadau hefyd yn ddiffygiol. Cyfeiriwyd at drydedd ran o’r adroddiad sydd yn nodi nad oes digon o wybodaeth ar gael i fanylu ar niferoedd o dai haf sydd yn ardal Botwnnog ac Aberdaron. Yn debyg i sylwadau blaenorol, ystyriwyd os oes gan aelodau’r Cyd-bwyllgor a swyddogion Cyngor Gwynedd y wybodaeth i lawr er mwyn rhannu gyda’r cwmni er mwyn sicrhau bod eu hadroddiad yn gywir ac yn adlewyrchiad teg o wir gyflwr yr AHNE, er mwyn sicrhau bod gwaelodlin gywir ar gyfer y gwaith yn cael ei bennu.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Swyddog yr AHNE y bwriedir i’r Cynllun Rheoli gael ei gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor hwn yn y dyfodol ond bod pwysau ar gapasiti’r Uned AHNE i gyflawni’r gwaith yn arwain at y bwriad o gomisiynu ymgynghorwyr allanol i gyflawni’r gwaith. Yn dilyn yr ymateb, gofynnwyd os oes modd i’r Cyd-bwyllgor hwn ymgymryd â mwy o rôl yn y broses o ddatblygu’r Cynllun Rheoli gan bod nifer o aelodau yn awyddus i gefnogi’r Uned er mwyn sicrhau bod y gwybodaeth a gynhwysir o fewn yr Adroddiad Cyflwr yn gyflawn a chynhwysfawr. Mewn ymateb, cadarnhaodd Swyddog yr AHNE bod sylwadau sydd wedi cael eu cyflwyno gan aelodau’r Cyd-bwyllgor wedi cael eu nodi gan yr AHNE ac eu bod yn cael eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer y gwaith o ddatblygu Cynllun Rheoli newydd, ar y cyd gyda’r cynllun presennol. Gobeithiwyd penodi ymgynghorwyr annibynnol er mwyn mynd drwy’r holl wybodaeth er mwyn cychwyn y gwaith o asesu’r sefyllfa er mwyn cyflwyno Cynllun Rheoli safonol. Cydnabuwyd nad oes modd cadarnhau amserlen ar gyfer yr adroddiad ar hyn o bryd, gan obeithio bydd modd cyflwyno amserlen drafft i gyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor hwn, pan bydd materion cyllido wedi cael eu cadarnhau.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar rôl i gynghorau cymuned i fewnbynnu gwybodaeth i’w gynnwys o fewn yr adroddiad, eglurodd Swyddog yr AHNE mai tystiolaeth ffeithiol sydd ei angen ar hyn o bryd er mwyn gosod gwaelodlin ac nid yw’r wybodaeth hynny ar gael gan y cynghorau cymuned. Fodd bynnag, nodwyd bydd modd iddynt ddarparu sylwadau yn y dyfodol.

 

Cyflwynwyd syniad i gysylltu gyda gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth Cyngor Gwynedd er mwyn gofyn a yw’r wybodaeth sydd yn ddiffygiol o fewn yr Adroddiad, ar gael er mwyn gallu datblygu’r broses o greu Cynllun Rheoli.

 

Mewn ymateb i gynnig i wrthod adrannau diffygiol yr adroddiad, eglurodd Swyddog yr AHNE bod yr adroddiad hwn yn un sydd wedi cael ei gomisiynu gan Cyngor Gwynedd ac mai penderfyniad y gwasanaeth byddai i barhau yn seiliedig ar y wybodaeth oddi fewn iddo. Ymhelaethwyd yr ystyrir parhau gyda’r broses o lunio Cynllun Rheoli gan ddefnyddio’r  adroddiad hwn, gan annog aelodau’r Cyn-bwyllgor i ddod i gyswllt ar unrhyw faes ble maent yn credu y dylid canfod gwybodaeth ychwanegol, er ystyriaeth i’r Uned AHNE Llŷn. Derbyniwyd nifer o sylwadau pellach gan Aelodau nad oeddent yn credu bod modd derbyn yr adroddiad ar hyn o bryd gan ei fod yn ddiffygiol, gan obeithio bydd sicrhau cywirdeb yn cynorthwyo Uned AHNE Llŷn wrth fynd ati i ddatblygu Cynllun Rheoli’r AHNE.

 

            PENDERFYNIAD

 

·       Gwrthod adrannau diffygiol yr adroddiad gan ofyn i Uned yr AHNE brysuro i sicrhau cywirdeb data ar fyrder, gyda cymorth yr Aelodau.

·       Gofyn i Swyddog yr AHNE lythyru Pwyllgor Polisi Cynllunio Cyngor Gwynedd a’r Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar ran y Cyd-bwyllgor hwn, yn gofyn yn ffurfiol am warchodaeth i gymeriad tai a bythynnod yr AHNE wrth ddatblygu polisi cynllunio newydd, gyda chymorth y Cynghorydd Gruffydd Williams.

·       Annog Aelodau i gymryd rhan mewn digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus y Gwasanaeth Polisi Cynllunio.

 

Dogfennau ategol: