Dylan Griffiths, Rheolwr, Cronfa Ffyniant Gyffredin
Gogledd Cymru (Rheolwr, Gwasanaeth Datblygu Economaidd) Cyngor Gwynedd i
gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu mai 2025/26 yw blwyddyn olaf y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF). Nodwyd bod yr SPF wedi darparu bron i £169 miliwn i gefnogi datblygiad economaidd a chymunedol yng Ngogledd Cymru ers 2022, ond o’r 1af Ebrill 2026 bydd Cronfa Twf Lleol (LGF) yn cymryd ei le. Esboniwyd y bydd yr LGF yn cael eu cyllido am gyfnod o dair blynedd, gyda’r gobaith gan Lywodraeth Cymru ei fod yn parhau tu hwnt i hynny.
Eglurwyd bod symudiad o SPF i LGF yn cynnwys llawer o newidiadau i fwriad ag i drefn ar gyfer yr arian, gan gynnwys y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi cyllid LGF i Lywodraeth Cymru, sydd, yn ei dro, yn bwriadu trosglwyddo’r cyllid i’r rhanbarthau yng Nghymru. Ychwanegwyd bydd bwriad i ganolbwyntio llawer mwy ar sicrhau twf.
Esboniwyd bod Llywodraeth Cymru yn dymuno i’r awdurdodau lleol arweiniol, sef Cyngor Gwynedd yng Ngogledd Cymru, barhau yn eu rôl ar gyfer y tymor bir. Ymhelaethwyd bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu’r rhan fwyaf o’r cyllid i’r CBC o 2027/28 ymlaen, a bydd arian ychwanegol yn dod i’r CBC yn 2026/27 er mwyn cynllunio a pharatoi.
Nodwyd bod cyfansoddiad yr arian yn newid yn sylweddol, gan fod yn symud o fod yn bennaf yn arian refeniw mewn natur i fod yn arian cyfalaf yn bennaf. Hysbyswyd bod newid wedi’i bod i’r swm sydd wedi’i gyflwyno yn adran 4.12 o’r adroddiad yn dilyn camgymeriad gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod yr adroddiad yn nodi swm o £35.69 miliwn, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai £33.78 miliwn yw’r swm cywir, gan nodi gostyngiad o tua £1.9 miliwn.
Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i baratoi cynllun gweithredu ar gyfer blwyddyn gyntaf y Gronfa, wrth weithio ar y cyd gyda Chyngor Gwynedd, swyddogion o’r awdurdodau lleol dros y rhanbarth, swyddogion o’r CBC, a swyddogion o Lywodraeth Cymru. Pwysleisiwyd mai bwriad Cyngor Gwynedd yw cael trefn mor gyson â phosib i’r dull sydd wedi’i ddilyn ar gyfer yr SPF. Amlygwyd mai awgrym Cyngor Gwynedd ydi parhau i roi penderfyniadau i’r awdurdodau lleol, sicrhau bod awdurdodau lleol yn elwa ar yr adnoddau sydd ar gael iddynt, a bod unrhyw ddewis yn ymwneud efo’r gwaith rhanbarthol yn cael eu gwneud ar sail dewis y rhanbarthau.
Ychwanegwyd pan fydd cynllun gweithredu wedi’i dderbyn gan
Lywodraeth Cymru, bydd rhaid sefydlu cytundeb newydd rhwng y siroedd.
Mynegwyd pryder am benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddyrannu’r cyllid trwy’r CBC o 2027/28 ymlaen. Nodwyd nad yw hyn yn adlewyrchiad ar y CBC, ond yn hytrach yn gred cryf mewn datganoli ac yn gred bod anfon arian i’r CBC yn lle’r awdurdodau lleol yn tynnu pwerau gwneud penderfyniadau oddi ar yr awdurdodau lleol. Gofynnwyd am farn y Swyddog Monitro, ynghylch pa hawl sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau ariannol ar gyfer y dyfodol o ystyried Etholiad Senedd ym mis Mai 2026.
Eglurwyd gan fod y cyllid yn dod o Lywodraeth Cymru, dewis y Llywodraeth yw penderfynu sut mae’r arian yn cael ei ddyrannu. Nodwyd os bydd newid gweinyddiaeth yn digwydd yn dilyn Etholiad Senedd ym mis Mai, yna gall y dull ariannu newid hefyd o bosib gan efallai beidio cynnwys corff rhanbarthol fel y CBC yn y broses neu gall newid i ba raddau y mae’r CBC yn ymwneud â’i swyddogaethau statudol sy’n ymwneud â lles economaidd.
Mynegwyd rhwystredigaeth a siom ynghylch yr anawsterau ariannol y mae awdurdodau lleol eisoes yn eu hwynebu. Gofynnwyd sut y gall camgymeriad gan Lywodraeth Cymru o ran y gostyngiad sylweddol yn y dyraniad dangosol y LGF ar gyfer 2026/27 gael i wneud, ac os oes modd gohirio penderfyniad tan ar ôl Etholiad Senedd ym mis Mai.
Hysbyswyd yr aelodau nad oes rhwymedigaeth i dderbyn y cyllid, ond fel corff rhanbarthol sydd â mandad cyfreithiol i sicrhau lles economaidd ac yn cael cynnig yr adnodd i gyflawni’r dyletswydd statudol hynny, mae’n debygol y bydd y CBC yn wynebu goblygiadau drwy beidio â derbyn y cyllid. Nodwyd mai mater i’r CBC yw penderfynu a ddylid gohirio’r penderfyniad a’i peidio.
Amlygwyd er gwaethaf y gostyngiad cyllid, y bydd angen i’r CBC gymeradwyo’r penderfyniad a geisir er mwyn osgoi unrhyw oblygiadau posibl. Yn ogystal, nodwyd bod yn rhaid i’r CBC fod yn ystyriol o sut mae Llywodraeth bresennol Cymru yn gweithredu, a chyfrifoldeb y CBC yw gwneud y gorau y gallent gyda’r adnoddau sydd ganddynt.
Adroddwyd bod Cyngor Gwynedd wedi cael eu hysbysu yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru mai camgymeriad syml yw’r swm anghywir yn adran 4.12 o’r adroddiad, gan fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio allan y dosbarthiad rhwng rhanbarthau Cymru ar y sail anghywir.
Atgoffwyd yr aelodau fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi £200,000 i’r CBC yn 2026/27 i fwrw ymlaen gyda’r gwaith yma. Awgrymwyd y gallai’r CBC chwilio am ffordd o ymgysylltu â’r awdurdodau lleol unigol er mwyn cyd-ddatblygu a chyd-weithio.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Dogfennau ategol: