Ystyried
unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o
dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.
Cofnod:
Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau
Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)
(1)
Cwestiwn
Y Cynghorydd Jina Gwyrfai
Mater o bryder i lawer ohonom yw’r cynnydd amlwg yn nifer
dysgwyr yn ein hysgolion sy’n cael eu diarddel oherwydd ymddygiad annerbyniol,
peryglus neu’n fygythiol. Serch hynny, mae’n statudol bod pob plentyn yn derbyn
addysg hyd at 16 oed. Rhywbeth dros dro yw diarddel i fod, felly, ac y mae
amrywiaeth o strategaethau gan yr Adran Addysg- ar y cyd efo Asiantaethau
eraill- i ddelio gyda’r dysgwyr hyn, a’r nod o alluogi’r dysgwyr i ddychwelyd i
ysgol a pharhau i dderbyn addysg a fydd yn eu harfogi i’r dyfodol.
A fedrwch amlinellu’r holl strategaethau sydd ar gael yng
Ngwynedd i ddelio gyda’r bobl ifainc hyn; a hefyd darparu data i ddangos a)
faint yw’r broblem, a b) pha mor effeithiol yw’r ddarpariaeth bresennol ?
Ateb yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Dewi
Jones
Ymatebwyd drwy nodi ei fod yn rhannu’r pryder a bod
ymddygiad anerbyniol a pryderus ar draws sir. Mynegwyd fod cefnogaeth angen ei
roi i’r plant sydd methu ymdopi yn yr ysgol am amryw reswm, ond pwysleisiwyd
mai nifer bychan yw’r rhain. Amlygwyd fod arwydd o oleuni gyda niferoedd sy’n
cael ei gwahardd yn lleihau a bod ffordd newydd yr adran o edrych ar gynhwysiad
wedi cyfrannu at hyn. Tynnwyd sylw at y ddwy ganolfan sydd yn Llanwnda ac yn
Nyffryn Nantlle i gefnogi'r bobl ifanc. Eglurwyd fod 220 o bobl ifanc yn agored
i wasanaethau, a bod mwy o achosion wedi cau eleni na sydd wedi ei hagor.
Nodwyd fod y broblem bell o gael ei datrys ond ei fod yn mynd i’r cyfeiriad
cywir.
Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Jina Gwyrfai
Diolchwyd am yr ateb, ond un peth bach i godi, y plant sydd
ar amserlen rhan amser gofynnwyd beth sy’n digwydd gweddill yr amser a pwy sy’n
gyfrifol am eu gofal tra mae rhiant yn gorfod gweithio.
Ateb yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Dewi
Jones
Nodwyd fod nifer o wasanaethau ar gael a bod pob achos yn
cael ei drin yn unigol. Ategwyd fod gweithwyr yn gweithio gyda phlant a
theuluoedd er mwyn dod o hyd i’r datrysiad addas i’r achos yn unigol. Ategwyd
fod achosion weithiau yn cymryd amser i sicrhau fod y plant yn ôl mewn amser
llawn amser.
(2) Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur
Mae Cymdeithasau Tai yn ddiweddar wedi cael neu yn ceisio
caniatâd am godi nifer o dai di gynsail mewn ceisiadau unigol ym mhentrefi
Dwyfor, Botwnnog (18), Trefor (20), Nefyn (20), Chwilog (25), Ffor (27),
Abererch (24), a hynny yn wyneb gwrthwynebiad lleol o ddatblygiadau sydd tu
hwnt i raddfa sy’n addas i faint y pentrefi ac sy’n dyblu nifer y tai
cymdeithasol yno dros nos ac yn her i hyfywedd y Gymraeg. Oes yna unrhyw
dystiolaeth i ddangos bod y Cyngor yn awr yn gwrando a’u bod ddim yn gwbl
glustfyddar i’r lleisiau lleol rheini, yn enwedig pan fo’r cynghorau cymuned
wedi gwrthwynebu’r ceisiadau a phan fo deisebau efo dros 150 o enwau wedi eu
hel?
Ateb yr Aelod Cabinet
Tai ac Eiddo, Y Cynghorydd Paul Rowlinson
Mae’n ofynnol fod y pwyllgor cynllunio yn gwneud
penderfyniadau o fewn fframwaith cyfreithiol. Golygai hyn ddyfarnu ceisiadau yn
unol â’r cynllun datblygu oni bai fod
ystyriaethau materol cynllunio yn nodi fel arall. Rhaid hefyd sicrhau fod y canfyddiadau yma yn
rhesymol a gyda seiliau tystiolaeth eglur.
Nid yw nifer neu darddiad cefnogaeth neu wrthwynebiad yn ei
hun yn ystyriaeth gynllunio berthnasol.
Fodd bynnag, rhoddir sylw llawn i ystyriaethau cynllunio
perthnasol a ddaw i’r amlwg o sylwadau a dderbynnir mewn ymateb i
ymgynghoriadau ar geisiadau cynllunio, gan gynnwys sylwadau gan y cyhoedd, y
Cyngor Cymuned ac ymgynghorai eraill.
Mae datblygiadau tai fforddiadwy yn rhan allweddol o Gynllun
Gweithredu Tai'r Cyngor sydd wedi’i gymeradwyo gan y Cabinet, gyda’r nod o
ddatblygu 700 o dai fforddiadwy erbyn diwedd oes y Cynllun 2020/21-2028/29. Mae
Gwynedd mewn argyfwng tai, ac mae datblygiadau tai fforddiadwy yn ymateb i
angen sylweddol sydd wedi’i adnabod ar draws y sir, gyda 4,107 o unigolion ar y
gofrestr dai ar hyn o bryd.
Mae’r Cyngor yn llwyddo i ddenu oddeutu £13m o grant bob
blwyddyn, sy’n galluogi i’r Cyngor roi opsiynau tai i’r rheiny sydd mewn angen
cartref trwy gydweithio’n agos gyda’r Cymdeithasau Tai fel rhan o Bartneriaeth
Dai llwyddiannus y Cyngor.
Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Rhys Tudur
O ystyried bod y Gymraeg yn iaith leiafrifol sydd o dan
bwysau'r iaith fwyaf grymus yn y byd a bod codi stadau o 15 - 20 tŷ ar y
tro mewn pentrefi bach yn ormod o her i hyfywedd y Gymraeg, ar allu i graffu
ieithyddol, a bod canran siaradwyr Cymraeg y sir wedi gostwng yr un adeg a’r
Cynllun Datblygu Lleol a bod deisebau Cynghorau Cymuned yn unfrydol yn
gwrthwynebu a lleisio'r pryder ieithyddol. A ydym yn dweud fod barn y deisebau,
Cynghorau Cymuned a Chynghorwyr lleol oll yn hollol anghywir ac yn amherthnasol,
neu a yw’r Cyngor am sicrhau ein bod am gael data iaith ar gyfer rhestrau aros
ac ein bod am newid y Cynllun Datblygu fel mai ond mewn amgylchiadau hynod
eithriadol y ceir codi 15 - 20 o dai mewn pentrefi bach.
Ateb yr Aelod Cabinet
Tai ac Eiddo, Y Cynghorydd Paul Rowlinson
Ymatebwyd drwy bwysleisio fod gweithredoedd y Cyngor wedi ei
seilio ar ffeithiau a thystiolaeth, a bod rôl gan Gynghorwyr i ddangos
arweiniad i gyfleu’r ffeithiau i’r cyhoedd fel bod barn gyhoeddus yn gorffwys
ar seiliau cadarn. Mynegwyd fod llawer o bobl ddim yn awyddus i gael tai
cymdeithasol yn ei hardaloedd ond fod dyletswydd ar y Cyngor i ddiwallu’r
angen, ac mae dros 4 mil o bobl ar restrau aros tai cymdeithasol. Nodwyd fod y
Cynllun Datblygu Lleol yn nodi’r nifer o bobl sydd yn aros ymhob ardal, a bod
effaith cadarnhaol ieithyddol wedi bod hyd yma o ganlyniad i Gynllun Datblygu
Tai. Ychwanegwyd fod adroddiad a aeth i’r Pwyllgor Iaith yn dangos fod canran
uwch o siaradwyr Cymraeg i’w gweld yn y stadau newydd o’i gymharu â chymunedau
o’u hamgylch. Nodwyd nad oes modd gofyn cwestiynau am iaith yn rhan o’r broses
o ddyrannu tai yn unol â rheoliadau. Mynegwyd balchder o weld arweinyddiaeth
newydd yn Llywodraeth Cymru a fydd gobeithio yn deddfu i gael cartref i bawb a
chodi miloedd o dai cymdeithasol newydd er mwyn i’r afael ac yr argyfwng tai.
(3) Cwestiwn Y Cynghorydd Gruffydd Williams
Gofynnais yn flaenorol os oedd y Cyngor, yn dilyn y ffaith
bod erthygl 4 wedi ei ddiddymu gan lys o
ganlyniad i’r hyn sydd wedi dyfarnu’n gynnyrch camarweiniol gan y Cyngor hwn,
am ymddiheuro i ymgyrchwyr a fu frwydro
mor galed i gael erthygl 4 mewn grym, a ni fu ymddiheuriad. Erbyn hyn,
mae’r hawl i’r Cyngor i apelio wedi ei wrthod. A yw’r Cyngor felly o’r diwedd
am ymddiheuro i ymgyrchwyr tros erthygl 4, gwladgarwyr, ieithegwr a threthdalwyr, yn dilyn y ffaith bod hi’n
nawr yn glir fod diffyg yn y gwaith papur allweddol wedi achosi i Erthygl 4
gael ei ddiddymu a bod arian wedi ei wastraffu am swm o dros hanner miliwn.
Ateb yr Aelod Cabinet
Amgylchedd, y Cynghorydd Craig ab Iago
Diolchwyd am y cwestiwn a nododd nad oedd wedi newid ei
feddwl. Tywyswyd drwy’r daith o ran Erthygl 4 o’r camau cyntaf o greu adroddiad
o waith mewnol a oedd yn edrych ar effaith ail gartrefi ac eiddo gwag,i ymgyrch
cyhoeddus a amlygodd y broblem ymhellach, i’r Erthygl yn dod i rym, i herio
cyfreithiol, i golli’r her cyfreithio ac i golli’r apêl. Amlygwyd fod y Barnwr
wedi nodi nad oedd y dogfennau a gyflwynwyd yn ddigon clir ac eglur ac felly
bod y penderfyniad wedi ei ddiddymu. Ategwyd fod y penderfyniad ddim o
ganlyniad i ddiffyg tystiolaeth nac yr angen lleol i weithredu ond yn hytrach
diffiniad a defnydd o eiriau a oedd yn creu’r penderfyniad.
Mynegodd nad oedd am ymddiheuro ac nad oedd yn deall pwy y
buasai yn ei helpu.
Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Gruffydd Williams
O ystyried yr ateb ar anallu parhaus i ymddiheuro a hefyd y
gwastraff ariannol sylweddol a gododd yn sgil y papurau a ddyfarnwyd yn
gamarweiniol, methiant y Cyngor i nodi yn ffurfiol ble yn union y bu’r methiant
yn y broses oruchwylio a pha lefel o oruchwyliaeth sefydliadol ddylai fod wedi
sicrhau cywirdeb y papurau er mwyn atal y gwastraff hwn rhag digwydd ac wrth
fod y llys apêl a’r uchel lys wedi dyfarnu yn erbyn y Cyngor yn y mater hwn, a
bod ateb yr aelod cabinet yn gyndyn o roi ffocws ar ffeithiau’r Cyngor. A yw'n
credu fod dyfarniad y llysoedd yn
anghywir, bod y Cyngor yn gwybod yn well ‘na’r barnwr, os nad yw’n credu hynny
pa bryd mae am ymddiheuro?
Ateb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Craig ab
Iago
Mynegwyd nad oedd yn rhan o’i swydd i anghytuno a’r Barnwr,
ond ei swydd yw cynorthwyo pobl leol i fyw yn eu cymunedau. Fel aelod Cabinet
ar y pryd, roedd yn ymwybodol o beth oedd y penderfyniad ond fod barn y Barnwr
yn anghytuno. Mynegwyd nad yw ymddiheuro am gynorthwyo neb, a chredai nad oedd
yn wastraff amser gan ei fod yma i gynorthwyo pobl i fyw yn eu cymunedau, i fod
yn arloesol ac i flaenoriaethu anghenion lleol.
Dogfennau ategol: