PORTMEIRION CYFYNGEDIG, CAE DREIF A MAES PARCIO CASTELL DEUDRAETH, PORTMEIRION, MINFFORDD, PENRHYNDEUDRAETH, LL48 6EN
I ystyried y cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais
Oriau Agor
Dydd Sul –
Dydd Llun –
Dydd Mawrth –
Dydd Mercher –
Dydd Iau –
Dydd Gwener 18:00 – 23:00
Dydd Sadwrn 18:00 – 23:00
Gweithgareddau Trwyddedig:
Cerddoriaeth Fyw – Awyr Agored
Dydd Sul –
Dydd Llun –
Dydd Mawrth –
Dydd Mercher –
Dydd Iau –
Dydd Gwener 18:00 – 23:00
Dydd Sadwrn 18:00 – 23:00
Digwyddiadau tymhorol – Mai – Medi
Uchafswm o bedwar digwyddiad mewn blwyddyn
Cerddoriaeth wedi’i Recordio
Dydd Sul –
Dydd Llun –
Dydd Mawrth –
Dydd Mercher –
Dydd Iau –
Dydd Gwener 18:00 – 23:00
Dydd Sadwrn 18:00 – 23:00
Digwyddiadau tymhorol – Mai – Medi
Uchafswm o bedwar digwyddiad mewn blwyddyn
Cyflenwi Alcohol - Ar yr Eiddo
Dydd Sul –
Dydd Llun –
Dydd Mawrth –
Dydd Mercher –
Dydd Iau –
Dydd Gwener 18:00 – 23:00
Dydd Sadwrn 18:00 – 23:00
Digwyddiadau tymhorol – Mai – Medi
Uchafswm o bedwar digwyddiad mewn blwyddyn
Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w
cynnwys fel amodau gan gynnwys yr amod ychwanegol i reoli sŵn isod:
Amodau Rheoli Sŵn
1. Ni fydd lefel y sŵn adloniant a gynhyrchir yn ystod digwyddiad goruwch yr hyn a fanylir yn nhabl 1 isod, rhwng 18:00 a 23:00, 1 medr o bared unrhyw eiddo sensitif i sŵn yn yr ardal leol.
Tabl 1
|
Paramedr Mesur |
Oriau caniataëdig |
Lefel Pared (dB) |
Lefel Cae Agored (dB) |
|
LAeq, 15 munud
(“) |
10:00 – 23:00 |
65 |
62 |
|
Band octif 31.5Hz (*) |
10:00 – 23:00 |
70 |
67 |
|
Band octif 63 Hz (*) |
10:00 – 23:00 |
70 |
67 |
|
Band octif 125 Hz (*) |
10:00 – 23:00 |
70 |
67 |
2.
Bydd unrhyw fesur sŵn i sefydlu
cydymffurfiaeth gyda’r amod uchod i ddilyn y canllawiau mesur sy’n gynwysedig
yn Safon Brydeinig 4142:2019
3.
Bydd nifer y digwyddiadau wedi eu cyfyngu i 4
dros unrhyw gyfnod o 12 mis.
4.
Ni chaniateir mwy na 2 ddigwyddiad yn olynol
dros unrhyw gyfnod o 7 diwrnod.
(“) Diffinnir y paramedr mesur LAeq
fel ;
Y lefel sŵn cymharol di dor mewn lleoliad dros amser
penodol sydd gyda’r un egni sŵn a sŵn sy’n amrywio dros yr un cyfnod
yn yr un lleoliad.
(*)Ni ddylid rhoi pwysedd amledd i’r mesuriadau band octif. Dylid mesuriadau band octif
(amledd canol) 31.5 Hertz, 63 Hertz and 125Hertz fod yn unionlin.
Amodau yn seiliedig ar ganllawiau'r Cod Ymarfer ar gyfer
Rheoli Sŵn amgylcheddol o gyngherddau (Cyngor Sŵn, 1995)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad
Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo gan
Portmeirion Cyf i gynnal hyd at bedwar digwyddiad awyr agored yn flynyddol
rhwng mis Mai a mis Medi. Bydd bwriad
cynnal digwyddiadau trwyddedadwy fydd yn cynnwys cerddoriaeth wedi ei recordio,
cerddoriaeth fyw a gwerthu alcohol i’w yfed ar yr eiddo.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod
Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion
Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r
amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y
drwydded.
Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf
Drwyddedu 2003, yn argymell i’r Pwyllgor ganiatáu y cais yn unol â’r cytundeb
sydd wedi bod gyda’r ymgeisydd i ychwanegu mesurau rheoli sŵn ar y
drwydded.
Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor.
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion
·
Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd
·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig
·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.
·
Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais
b)
Wrth
ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod y cais yn un ar gyfer cynnal hyd at 4
digwyddiad yn Cae Dreif
·
Bod y digwyddiadau yn rhan o ddathliadau
canmlwyddiant Portmeirion ac yn fodd o nodi’r achlysur
·
Y digwyddiadau yn gyfle i ddarparu adloniant a
mwynhad i’r pentref i gyd-ddathlu
·
Y gobaith yw cynnal pedair noson yn flynyddol wedi
hyn
·
Eu bod yn cytuno gyda’r amodau rheoli sŵn –
wedi cynnal trafodaethau gyda’r trefnwyr a swyddogion y Cyngor
c) Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn
bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig
ganddynt:
Alun Evans (Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd)
·
Yn
cadarnhau bod yr amodau wedi eu cytuno
·
Bod yr amod yna i warchod
yr amcan Trwyddedu o Atal Niwsans Cyhoeddus a thrigolion cyfagos o lygredd
sŵn
·
Yn
diolch i Portmeirion am eu cydweithrediad
ch) Cymerodd y Swyddog
Cyfreithiol y cyfle i grynhoi gofynion y cais
· Yn
gais syml am drwydded cerddoriaeth wedi ei recordio, cerddoriaeth fyw a gwerthu
alcohol i’w yfed ar yr eiddo
· Y mesurau fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys
fel amodau ar yr atodlen weithredol ynghyd a’r amod ychwanegol o reoli sŵn
Ymneilltuodd cynrychiolwyr yr ymgeisydd,
Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i
aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
Wrth gyrraedd y
penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau
ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog
Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn
y gwrandawiad. Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r
Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol
i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu
2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch
cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag
niwed
Diystyrwyd y sylwadau a
ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.
PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais
Oriau Agor
Dydd Sul –
Dydd Llun –
Dydd Mawrth –
Dydd Mercher –
Dydd Iau –
Dydd Gwener 18:00 – 23:00
Dydd Sadwrn 18:00 – 23:00
Gweithgareddau Trwyddedig:
Cerddoriaeth Fyw – Awyr Agored
Dydd Sul –
Dydd Llun –
Dydd Mawrth –
Dydd Mercher –
Dydd Iau –
Dydd Gwener 18:00 – 23:00
Dydd Sadwrn 18:00 – 23:00
Digwyddiadau tymhorol – Mai – Medi
- Uchafswm o bedwar digwyddiad mewn blwyddyn
Cerddoriaeth wedi’i Recordio
Dydd Sul –
Dydd Llun –
Dydd Mawrth –
Dydd Mercher –
Dydd Iau –
Dydd Gwener 18:00 – 23:00
Dydd Sadwrn 18:00 – 23:00
Digwyddiadau tymhorol – Mai – Medi
- Uchafswm o bedwar digwyddiad mewn blwyddyn
Cyflenwi Alcohol - Ar yr Eiddo
Dydd Sul –
Dydd Llun –
Dydd Mawrth –
Dydd Mercher –
Dydd Iau –
Dydd Gwener 18:00 – 23:00
Dydd Sadwrn 18:00 – 23:00
Digwyddiadau tymhorol – Mai – Medi
- Uchafswm o bedwar digwyddiad mewn blwyddyn
Y mesurau ychwanegol, fel y nodir
yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau gan gynnwys yr amod ychwanegol i reoli
sŵn isod:
Amodau Rheoli Sŵn
1.
Ni fydd lefel y sŵn adloniant a gynhyrchir yn ystod digwyddiad goruwch yr
hyn a fanylir yn nhabl 1 isod, rhwng 18:00 a 23:00, 1 medr o bared unrhyw eiddo
sensitif i sŵn yn yr ardal leol.
|
Paramedr
Mesur |
Oriau caniataëdig |
Lefel
Pared (dB) |
Lefel Cae
Agored (dB) |
|
LAeq, 15 munud (“) |
10:00 – 23:00 |
65 |
62 |
|
Band octif 31.5Hz (*) |
10:00 – 23:00 |
70 |
67 |
|
Band octif 63 Hz (*) |
10:00 – 23:00 |
70 |
67 |
|
Band octif 125 Hz (*) |
10:00 – 23:00 |
70 |
67 |
2. Bydd unrhyw fesur sŵn i sefydlu
cydymffurfiaeth gyda’r amod uchod i ddilyn y canllawiau mesur sy’n gynwysedig
yn Safon Brydeinig 4142:2019
3. Bydd nifer y digwyddiadau wedi eu
cyfyngu i 4 dros unrhyw gyfnod o 12 mis.
4. Ni chaniateir mwy na 2 ddigwyddiad yn
olynol dros unrhyw gyfnod o 7 diwrnod.
(“) Diffinnir y paramedr mesur
LAeq fel - Y lefel sŵn cymharol di dor mewn lleoliad dros amser penodol
sydd gyda’r un egni sŵn a sŵn sy’n amrywio dros yr un cyfnod yn yr un
lleoliad.
(*)Ni ddylid rhoi pwysedd amledd
i’r mesuriadau band octif. Dylid mesuriadau band octif (amledd canol) 31.5
Hertz, 63 Hertz and 125Hertz fod yn unionlin.
Yr amodau yn seiliedig ar
ganllawiau'r Cod Ymarfer ar gyfer Rheoli Sŵn amgylcheddol o gyngherddau
(Cyngor Sŵn, 1995)
Yng nghyd-destun Rhwystro
Trosedd ac Anrhefn, ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor yma.
Yng nghyd-destun
materion Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth
oedd yn berthnasol i'r egwyddor yma.
Yng nghyd-destun Atal
Niwsans Cyhoeddus, derbyniwyd sylwadau gan Gwasanaeth Llygredd Gwarchod y
Cyhoedd. Er nad oedd gwrthwynebiad i’r cais mewn egwyddor roedd pryder am
botensial sŵn cerddoriaeth chwyddedig o’r cyngherddau fyddai’n creu
niwsans cyhoeddus i unrhyw eiddo preswyl cyfagos. Argymhellwyd amodau i reoli
sŵn ac roedd yr ymgeisydd wedi cytuno i’w derbyn (yr amodau yn ychwanegol
wedi eu nodi uchod).
Yng nghyd-destun Gwarchod
Plant Rhag Niwed, ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn
berthnasol i'r egwyddor yma.
Adroddodd y Cyfreithiwr y
byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd
wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl
i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor.
Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif
Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan
gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn
cadarnhau’r penderfyniad
Dogfennau ategol: