Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr Harbwr.

 

(1)    Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r Pwyllgor ar faterion yr Harbwr am y cyfnod 2025/26.

 

Data Perfformiad

 

Nodwyd bod cytundebau angori ym Mhorthmadog bellach wedi cynyddu i 109. Cadarnhawyd bod y ffigurau a ddarparwyd yn parhau i fod yn gyson â’r rhai a rannwyd yng nghyfarfod mis Hydref. Fodd bynnag, yn ystod y gaeaf, derbyniodd Swyddfa’r Harbwr nifer o ymholiadau ynglŷn ag angorfeydd gan gwsmeriaid newydd yn Harbwr Porthmadog.

 

Atgoffwyd y byddai’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer ceisiadau angori, cofrestru cychod pŵer ac adnewyddu trwyddedau angori yn ailagor ar 1 Ebrill. Gofynnwyd i unrhyw gwsmeriaid newydd alw i mewn i’r swyddfa er mwyn darparu gwybodaeth am eu cwch i’r Harbwrfeistr cyn cwblhau’r ffurflen ar-lein.

 

 

Nodwyd bod arwyddion gyda chodau QR wedi eu lleoli o amgylch yr harbwr i dderbyn sylwadau gan ddefnyddwyr ynglŷn â’u profiad o’r harbwr. Nodwyd bod ffigurau boddhad wedi cynyddu’n sylweddol ers cyfnod 2023/24. Rhagwelwyd y byddai nifer yr ymatebion adborth a gyflwynir drwy’r holiadur cod QR yn gostwng dros gyfnod y gaeaf. Serch hynny dirywiad yn nifer yr ymatebion adborth a gyflwynwyd drwy’r holiadur cod QR dros gyfnod y gaeaf. Serch hynny, cadarnhawyd bod adborth a dderbyniwyd drwy ohebiaeth e-bost a thrafodaethau wyneb yn wyneb wedi bod yn gadarnhaol iawn ac wedi ei groesawu.

 

Cyfeiriwyd at sylw penodol a dderbyniwyd yn canmol y gwasanaeth ardderchog a ddarparwyd gan y gwasanaeth dros gyfnod y gaeaf, gan nodi bod staff profiadol y gwasanaeth wedi defnyddio cerbydau morwrol yn ystod tywydd garw er mwyn cefnogi preswylwyr mwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod. Roedd hyn wedi galluogi gofalwyr o’r gwasanaethau oedolion i deithio i gartrefi preswylwyr ac i’w gweithleoedd. Diolchwyd yn ddiffuant i’r holl staff am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod heriol hwn.

 

Cyfeiriwyd at sylw pellach yn ymwneud â’r cymorth a’r wybodaeth a ddarparwyd gan swyddogion yr harbwr i gynorthwyo gydag arolwg hydrograffeg o Harbwr Pwllheli.

 

 

Diogelwch yr Harbwr

 

Adroddwyd, yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Hydref, fod yr aelodau wedi eu hysbysu ynglŷn â phenodiad Mr Owen Morgan, Rheolwr Harbwr ar gyfer Cyngor Ceredigion, fel ein ‘Person Dynodedig’ newydd. Cynhaliodd Mr Owen Morgan archwiliadau o’r harbyrau o dan awdurdod yr Adran Forwrol, sef harbyrau Aberdyfi, Abermaw, Porthmadog a Hafan Pwllheli, ym mis Chwefror. Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth bellach mewn sefyllfa i gyflwyno ei ‘Ddatganiad Cydymffurfio’ cyn diwedd mis Mawrth, ac i gyhoeddi ei ddogfennaeth PMSC ar wefan Cyngor Gwynedd.

Nodwyd bod addasiadau wedi eu gwneud i’r PMSC yn ystod 2025, gyda’r newidiadau wedi’u cynllunio i sicrhau bod unrhyw gynlluniau a systemau rheoli diogelwch morol sy’n gorgyffwrdd yn cyd-fynd yn effeithiol â’i gilydd . O ganlyniad, cyhoeddwyd ymarfer cydymffurfio cenedlaethol i’r holl harbyrau er mwyn cadarnhau eu bod yn cadw at eu codau unigol, ac i sicrhau bod mesurau priodol yn eu lle i ymdrin ag unrhyw addasiadau angenrheidiol.

 

Stormydd y Gaeaf

 

Adroddwyd bod yr ardal, yn ystod gaeaf 2025/26, unwaith eto wedi profi cynnydd yn nifer y stormydd, yn bennaf o gyfeiriad y De-De-Ddwyrain. Nodwyd bod stormydd o’r fath yn dod yn fwy cyffredin, gyda llai o fwlch rhyngddynt. Nodwyd mai un digwyddiad yn unig a gofnodwyd yn ystod y cyfnod hwn, yn ymwneud â chwch a suddodd wrth ochr wal yr harbwr oherwydd glaw trwm a gwyntoedd cryfion. Ymhelaethwyd na nodwyd unrhyw bryderon amgylcheddol, ac y cafodd y cwch ei adfer a’i ddychwelyd i'w le ar y cyfle cyntaf posib.

 

Gofynnwyd i ddefnyddwyr yr harbwr sicrhau eu bod yn cysylltu â’r Harbwrfeistr i gael gwybodaeth am unrhyw newidiadau i’r sianel, gwirio statws y Cymhorthion Mordwyo, ac ymgyfarwyddo ag unrhyw Rybuddion i Forwyr a gyhoeddir ar wefan y Cyngor.

 

Materion Ariannol

 

Cyflwynwyd crynodeb byr o ffioedd 2026/27 a chyllidebau’r Harbwr ar gyfer y cyfnod 01/4/25 i 31/03/26, a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad. Nodwyd yn benodol:

 

•       Bod ffioedd wedi cynyddu yn unol â chwyddiant.

•       Bod ffi cychod ymwelwyr wedi cynyddu i £16 y noson i gwsmeriaid Cyngor Gwynedd ac i £22 i bob cwch ymweladiol arall.

•       Bod ffi cofrestru blynyddol wedi codi i £80.

•       Bod ffi trwydded lansio flynyddol wedi codi i £196.50.

•       Bod ffi lansio ddyddiol wedi codi i £24.

•       Bod gorwariant bychan o dan y pennawd ‘gweithwyr’ o £3,834. Nodwyd bod y gorwariant hwn yn deillio o gostau goramser a salwch.

•       Nad oedd y pennawd ‘adeiladau’ yn cynnwys costau a oedd yn ymwneud â’r gwaith ar swyddfeydd yr harbwr, ac felly bod tanwariant o £7,724 yn ymddangos.

•       Bod tanwariant o dan y pennawd ‘cludiant’ o £468.

•       Bod tanwariant sylweddol o dan y pennawd ‘gwasanaethau a chyflenwadau’ o £8,722.

•       Bod £31,914 wedi ei wario o’r gronfa wrth gefn i uwchraddio swyddfeydd yr harbwr er mwyn sicrhau llesiant y staff ac i uwchraddio’r compownd.

•       Ar y cyfan, bod y gwasanaeth cyfan yn gorwario £18,835 dros y targed a osodwyd ar gyfer y cyfnod. Serch hynny, roedd incwm yr harbwr yn sylweddol, ac felly roedd hynny wedi arwain at danwariant cyffredinol o £9,404 ar gyfer rhedeg yr Harbwr yn ei gyfanrwydd.

 

Pwysleisiwyd bod cryn arbenigedd ymhlith staff yr Harbwr, megis sgiliau weldio a defnyddio peiriannau arbenigol, ac felly nad oedd angen cyflogi contractwyr ym mhob achos. Nodwyd bod hyn wedi arwain at arbedion sylweddol.

 

 

 

Materion Allweddol Eraill

 

Yn ystod y cyflwyniad, rhannwyd fideo drôn o’r sianel, yn benodol ardal banc tywod ‘Danger Rock’. Nodwyd bod cerrynt cryf yn dod o Afon Dwyryd, sy’n creu ‘eddies’ ac yna drobwll wrth y cerrig. Nodwyd bod hyn yn gallu achosi problemau mordwyo ar adegau. Gofynnwyd i gychod mwy fynd i mewn i’r harbwr dros y banc tywod yn ystod cyfnodau o ddŵr uchel er mwyn sicrhau eu diogelwch.

Diolchwyd i’r staff am eu hymateb i ddigwyddiad amgylcheddol yn ardal Cricieth yn ystod y gaeaf. Ymhelaethwyd bod staff sydd wedi’u hyfforddi ar sut i ymateb i ollyngiadau olew wedi defnyddio bwmau, matiau amsugno a deunyddiau eraill i atal y gollyngiad a lleihau’r effaith amgylcheddol.

 

Cadarnhawyd  bydd yr ‘adweithydd shynt ‘nesaf yn cael ei ddanfon gan y 'Terra Marique' yn ystod 2026. Bwriedir gweithredu hyn ar draeth Morfa Bychan, lle bydd y cwch yn glanio ar y traeth cyn cludo’r adweithydd ar hyd y ffordd i Drawsfynydd.

Nodwyd nad oes dyddiad pendant wedi ei gadarnhau hyd yma, ond y disgwyl yw y bydd yn digwydd yng nghanol y flwyddyn, pan fydd amodau’r môr yn fwy ffafriol.

 

Cadarnhawyd bod cytundeb ffurfiol rhwng y Clwb Rhwyfo a’r Gwasanaeth Morwrol bellach wedi ei gymeradwyo yn dilyn cais i ddefnyddio’r tir yn ardal y lloc. Nodwyd bod y Clwb Rhwyfo wedi defnyddio’r ardal ar gyfer storio cychod ers nifer o flynyddoedd, ac roedd y gwasanaeth yn falch bod cytundeb swyddogol bellach yn ei le rhwng y ddwy ochr.

 

Trafodaeth

Diolchwyd am yr adroddiad.

Mynegwyd diolch gan drigolion Porthmadog am gymorth swyddogion yr Harbwr yn ystod y gaeaf. Mynegwyd y farn bod y ffigurau boddhad cwsmer yn dangos bod y gwasanaeth yn fodlon mynd yr ail filltir a gweithio fel un Cyngor, un tîm.

Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y gwasanaeth wedi bod yn cefnogi’r Gwasanaeth Oedolion ers sawl blwyddyn yn ystod tywydd garw, yn enwedig yn ardaloedd Dolgellau a Blaenau Ffestiniog. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw niwed i staff na cherbydau wedi digwydd yn ystod cyfnod y gaeaf eleni.

Cyfeiriwyd at y ffaith bod ffigurau boddhad cwsmer wedi cynyddu’n sylweddol o 40% ‘Rhagorol’ yn 2023/24 i 68% yn 2025/26 yn ystod cyfnod heriol yn ariannol, gan ddangos cryfder y gwasanaeth. Mynegwyd balchder bod y gwasanaeth wedi cwblhau gwaith uwchraddio’r swyddfeydd, gan ddarparu lle taclus a chyfforddus i staff weithio. Mynegwyd hefyd glod am y gytundeb ffurfiol a gytunwyd gyda’r Clwb Rhwyfo.

Cwestiynwyd am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r llong Terra Marique. Mewn ymateb, cadarnhawyd y bydd y llong yn ymweld â Morfa Bychan unwaith eto ym mis Gorffennaf, ac nad oedd gan y gwasanaeth unrhyw bryderon ynglŷn ag ymweliad y cwch. Nodwyd y byddai angen cau’r brif fynedfa am gyfnod, ond bod mynedfa amgen yn bodoli. Ymhelaethwyd bod ymweliad y cwch yn ffynhonnell incwm i’r gwasanaeth, ac y byddai’r gwasanaeth yn derbyn ad-daliad am unrhyw gostau cysylltiedig.

Awgrymwyd y dylid rhannu’r fideo drôn ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Mewn ymateb, nodwyd bod bwriad i greu fideos drôn o’r ffordd i mewn i’r sianel ym mhob harbwr, a’u cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor at ddibenion mordwyo. Cwestiynwyd ymhellach pa mor aml yr oedd y banc tywod yn newid, gan awgrymu y byddai diweddaru’r fideo drôn yn chwarterol o fudd i forwyr. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y banc tywod yn symud yn rheolaidd, yn dibynnu ar nifer o ffactorau, a bod adolygu’r sianel yn arfer cyffredin. Cadarnhawyd mai bwriad y gwasanaeth yw rhannu’r wybodaeth gyda morwyr yn dilyn adnewyddu gwefan y Cyngor. Atgoffwyd bod rhybuddion i forwyr yn cael eu cyhoeddi pan fod pryderon am ddiogelwch, a bod y rhain yn cael eu rhannu ar wefan y Cyngor.

Holwyd ynglŷn â’r gollyngiad olew yn ardal Cricieth, gan ofyn am darddiad yr olew. Cwestiynwyd ymhellach a fyddai’r gwasanaeth yn gymwys ac yn barodi i ymateb i ollyngiadau olew mewn afonydd. Mewn ymateb, nodwyd bod olew o fusnes lleol wedi gollwng i mewn i ffrwd ac yna i’r traeth. Cadarnhawyd mai Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn arwain ar ymateb i'r digwyddiad, yn enwedig mewn perthynas a’r ardal tu hwnt i'r traeth. Nodwyd bod costau sylweddol ynghlwm â’r gwaith glanhau, ond bod gan y gwasanaeth ddyletswydd, fel rhan o’r Cod Diogelwch Morol, i gadw offer gwrthlygredd priodol. Mynegwyd gobaith y byddai’r costau a gafwyd yn cael eu hadennill.

 

(2)      Cyflwynwyd adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol, ynghyd â’r gwaith cynnal a chadw a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi 2025 a mis Mawrth 2026. Nodwyd yn benodol:

•       Bod bwi rhif 1 wedi dod i’r lan ers cynhyrchu’r adroddiad.

•       Bod gwaith dros dro i farcio’r sianel gyda bwiau melyn yn mynd yn ei flaen, a gobeithir y bydd y tywydd yn ffafriol yr wythnos nesaf er mwyn gosod y bwiau parhaol.

•       Bod bwriad i gyhoeddi Rhybuddion i Forwyr ar wefan y Cyngor yn fuan, er mwyn eu dosbarthu’n haws i ddefnyddwyr yr harbwr. Ar hyn o bryd, mae anhawster technegol gan fod maint y ffeiliau yn rhy fawr i’w hanfon.

•       Bod gobaith y bydd modd prynu bwiau newydd, gan fod nifer o’r rhai presennol yn dangos arwyddion o ddirywiad oherwydd eu hoedran.

•       Bod agoriad Afon Dwyryd wedi symud, gan arwain at broblemau gyda chefnennau tywod yn ardal ‘Danger Rock’.

•       Bod staff yr harbwr yn croesawu ac yn gwerthfawrogi’r gwelliannau a’r gwaith uwchraddio a wnaed i Swyddfa’r Harbwr.

•       Bod peiriant talu ac arddangos newydd wedi ei brynu, a fydd yn cael ei osod yn maes parcio’r harbwr cyn cyfnod y Pasg.

•       Bod decin cyfansawdd wedi ei osod o amgylch lloc yr harbwr, a bod y coed griselinia a blannwyd yno yn sefydlu ac yn tyfu’n dda.

•       Gobeithir gosod camera teledu cylch cyfyng newydd fis nesaf ar ochr adeilad yr harbwr.

Trafodaeth

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am waith yr Harbwrfeistr dros y cyfnod.

 

Mynegwyd dymuniad i dderbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â’r her sy’n gysylltiedig â chychod sydd wedi eu gadael, gyda’r cyfrifoldeb amdanynt wedyn yn disgyn ar yr Harbwr a’r Cyngor. Cyfeiriwyd yn benodol at y sefyllfa ym Mhorthmadog, ond nodwyd hefyd fod y mater yn berthnasol ledled Cymru. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod hyn yn broblem gynyddol, gyda llawer o gychod bach yn cael eu gadael ar draethau Gwynedd. Eglurwyd mai cyfrifoldeb y Gwasanaeth Morwrol yw trefnu eu gwaredu a chwrdd â’r costau cysylltiedig.

 

Holwyd hefyd ynghylch y system teledu cylch cyfyng a’r ffordd y caiff y recordiadau eu storio a’u defnyddi. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y recordiadau teledu cylch cyfyng ar gael yn swyddfa’r harbwr, ond nad ydynt yn cael eu monitro’n barhaus. Yn hytrach, cânt eu hadolygu pan fo digwyddiad penodol yn codi neu pan dderbynnir cais am ddata gan yr heddlu yn dilyn trosedd. Mynegwyd y farn bod y teledu cylch cyfyng wedi bod yn hynod werthfawr ers ei osod, gan fod sawl digwyddiad wedi digwydd ym Mhorthmadog ac Abermaw. Ychwanegwyd bod y camerâu dashcam a chamerâu corff hefyd wedi bod yn asedau buddiol i'r gwasanaeth , a bod yr holl asesiadau diogelu data mewn lle i gefnogi eu defnydd.

 

Diolchwyd am waith staff yr harbwr yn cynnal a chadw’r diffibriliwr yn ystod y gaeaf.

 

Nodwyd ymhellach fod y gwasanaeth wedi tynnu mwyafrif o’r ffonau argyfwng ar draws yr arfordir, yn dilyn tystiolaeth ystadegol a ddangosai mai prin iawn oedd eu defnydd. Mynegwyd y gobaith y bydd y cam hwn yn arwain at arbedion cost ac yn lleihau gwariant diangen.

 

 

PENDERFYNWYD Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: