I ystyried yr adroddiad
a nodi'r wybodaeth.
Cofnod:
Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi mai adroddiad ydoedd er
gwybodaeth yn nodi’r datblygiadau o fewn Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Er
bod adborth o gyfarfodydd Ymgysylltu Cadeiryddion Bwrdd Pensiwn, sy’n cael eu
cynnal bob 6 mis, yn cael ei rannu gyda’r Bwrdd, ystyriwyd gyda’r nifer
datblygiadau diweddar mai addas a phwysig fyddai i’r Aelodau dderbyn
diweddariad rheolaidd.
Atgoffwyd yr Aelodau, o ganlyniad i Ddeddfwriaeth San
Steffan ‘Addas i’r Dyfodol’, bod PPC wedi gorfod mynd ati i ffurfio cwmni
buddsoddi newydd sydd bellach yn cael ei adnabod fel ‘WPP Investment Management
Company’ (WPP IMCo). Adroddwyd bod oediad
mewn cymeradwyo’r Ddeddfwriaeth ac o ganlyniad nid oedd y cwmni wedi ei
lansio - ymddengys mai ar ôl yr etholiad bydd y lansiad bellach.
Cyfeiriwyd at drefniadau newydd y cwmni buddsoddi gan
fynegi yn gryno y bydd yn gyfrifol am weithredu pob agwedd a chynghori ar
Strategaeth Fuddsoddi’r wyth Awdurdod Cyfansoddol. Yng nghyd-destun Llywodraethiant y Bartneriaeth,
tynnwyd sylw at strwythur lywodraethu’r Bartneriaeth unwaith bydd y cwmni
buddsoddi yn weithredol ynghyd a sut bydd y Pwyllgor Pensiynau, yr Awdurdodau
Cyfansoddol unigol, a’r Bwrdd Pensiwn yn cyfrannu i’r strwythur. Cyfeiriwyd at
a) strwythur y cyfranddalwyr (sef y swyddogion, a’r Aelodau Etholedig) gyda’r
Bwrdd Cyfranddalwyr yn cael ei greu i warchod hawliau’r Awdurdodau Cyfansoddol
- bydd y Bwrdd ynteu yn cynnwys Swyddog Adran 151 neu Uwch Swyddog CPLlL o bob
un o’r Awdurdodau Cyfansoddol; a b) strwythur y cwmni newydd gyda Bwrdd WPP
IMCo yn atebol i Bwrdd y Cyfranddalwyr.
Cyflwynwyd Cynllun Busnes Cychwynnol WPP IMCo oedd
eisoes wedi ei gymeradwyo gan y
Cyd-Bwyllgor Llywodraethu, a Phwyllgor Pensiynau Cronfa Bensiwn Gwynedd. Nodwyd
bod y Cynllun yn manylu ar sut mae’r cwmni yn mynd i gyflawni wyth amcan
strategol ac yn gosod cynllun i gyflawni nodau penodol megis llywodraethu a goruchwylio, crynodeb ariannol, dull rheoli
buddsoddiadau, gweithrediadau a staffio, rheoli risg a chydymffurfiaeth a
buddsoddi cyfrifol.
Diolchwyd am yr adroddiad
Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ddilynol:
·
Bod costau staffio yn ymddangos yn aruthrol o
uchel
·
Croesawu bod
Bwrdd y Cyfranddalwyr gyda grym i herio perfformiad WPP IMCo
·
Bod angen
sicrhau bod y Pwyllgor Pensiynau a’r Bwrdd Pensiwn yn craffu yn effeithiol ac
yn adnabod problemau yn gynamserol - angen cryfhau rôl o fewn y strwythur i fod
yn actif a gweithredol.
Mewn ymateb i gwestiwn os oedd y swyddogaethau
allweddol wedi ei llenwi, nodwyd bod nifer bellach wedi eu penodi a’r Uwch
Swyddog Buddsoddi wedi dechrau yn ei rôl newydd ac eisoes yn adeiladu
cysylltiadau wythnosol gyda swyddogion yr Awdurdodau Cyfansoddiadol. Mewn
ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn ag a fyddai costau’r strwythur yn cynnig
gwerth am arian nodwyd bod y sefyllfa yn un unigryw - bod cwmni yn cael ei greu
o’r newydd ac felly amser a ddengys beth fydd canlyniadau’r sefyllfa. Ategwyd
nad oedd swyddogion y Gronfa Bensiwn wedi cael mewnbwn i’r strwythur newydd.
Mewn ymateb i gwestiwn, o ystyried bod oediad mewn
sefydlu’r cwmni, a phwy felly fydd yn talu cyflogau’r staff, nodwyd mewn
amgylchiadau o’r fath bod trefniant mewn lle i’r Cyngor Lletyol dalu dros y
cyfnod byr ac anfonebu’r Awdurdodau Cyfansoddiadol am ad-daliad. Ategwyd bod
rhaid hefyd cael cymeradwyaeth o’r gwariant gan yr Awdurdod
Ymddygiad Ariannol (FCA) i symud
ymlaen i sefydlu trefn gytunedig.
Yng nghyd-destun Bwrdd y Cyfranddalwyr a phryd bydd
enwebiadau yn cael eu cyflwyno, nodwyd bod enwau wedi cael eu cyfeirio ymlaen at
yr FCA fydd yn gyfrifol am y broses ffurfiol o gyfweld a chymeradwyo’r
enwebiadau.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfrifoldebau’r
Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn i Aelodau Cronfa Pensiwn Gwynedd a’r angen i fonitro
cynllun busnes WPP IMCo a’r cynnydd sylweddol mewn costau, nodwyd bod rôl y
Bwrdd yn aros yr un fath gan flaenoriaethu cefnogaeth i swyddogion weinyddu
Cronfa Bensiwn Gwynedd. Er yn derbyn bod y costau yn uchel, bod y graddfeydd
cyflog yn gyfatebol i gyflogau o fewn y sector ac felly bydd disgwyliad i
swyddogion WPP IMCo wneud gwaith da a chael y gorau i aelodau’r Gronfa. Ategwyd
bod trefniadau llywodraethu yn eu lle a bod pob ymgais yn cael ei wneud i
adrodd yn dryloyw ac agored ar y sefyllfa.
Nodwyd mai Llywodraeth y DU, trwy drefn gyfreithiol
oedd wedi gorfodi’r trefniant newydd ac felly nid oedd dewis ond gwario.
Awgrymwyd bod y gwariant eisoes yn bodoli o fewn ffioedd ac y byddai’r drefn
newydd yn fwy tryloyw.
Derbyniwyd yr adroddiad a nodwyd y wybodaeth
Dogfennau ategol: