Agenda item

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Economi a Chymuned. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd bod holl bolisïau a chynlluniau strategol yr Adran yn cyfrannu at amcanion y Strategaeth Iaith, megis Strategaeth Datblygu Economaidd Gwynedd sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw penodol at bolisïau eraill megis Fframwaith Adfywio Ardal Ni, Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy, Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd: Tirlun Llechi Cymru yn ogystal â Chynllun Diwylliant Gwynedd sydd ar ffurf drafft ar hyn o bryd.

 

Atgoffwyd bod yr Adran yn arwain ar nifer o brosiectau sydd yn rhan o Gynllun y Cyngor gan bwysleisio bod ystyriaeth i’r iaith Gymraeg yn ganolog iddynt oll. Amlygwyd mai’r prosiectau hynny yw:

 

·       Gwynedd Llewyrchus

o   Hyrwyddo ein diwylliant ac economi ymweld gynaliadwy

o   Adfywio cymunedau a chanol trefi

o   Creu’r amgylchiadau gorau posibl yng Ngwynedd i fusnesau a mentrau cymunedol ffynnu, a chefnogi pobl Gwynedd mewn i waith.

·       Gwynedd Ofalgar

o   Cefnogi Llesiant Pobl

 

Cadarnhawyd bod asesiadau ieithyddol yn cael eu cyflawni pan mae’r adran yn gweithredu ar gynlluniau a gweithdrefnau mawr, gan gydnabod bod lle i wella er mwyn asesu i ba raddau maent yn llwyddo i wneud hynny gyda phrosiectau llai. Pwysleisiwyd bod hyn yn drafodaeth reolaidd o fewn tîm rheoli’r Adran er mwyn sicrhau bod mwy o asesiadau ieithyddol yn cael eu cyflawni ar brosiectau llai i’r dyfodol.

 

Yn sgil natur amrywiol ac eang yr Adran, eglurwyd bod pob rheolwr oddi fewn i’r Adran wedi cyflwyno diweddariad ar sut mae eu gwasanaethau yn gweithredu i gyfrannu tuag at amcanion y strategaeth iaith. Tynnwyd sylw at rai meysydd penodol megis Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd a Neuadd Dwyfor sydd yn chwarae rhan allweddol i gefnogi pobl i ddysgu Cymraeg, cael mynediad at adnoddau a gwybodaeth Cymraeg tra hefyd yn dysgu am ddiwylliant, treftadaeth a chynnig gweithgareddau. Yn yr un modd, eglurwyd bod prosiect ‘LleCHI Lle Ni: Ein Safle Treftadaeth y Byd, Ein Balchder, Ein Dyfodol’ yn hybu’r Gymraeg yn gymunedol tra hefyd yn ffocysu ar bedair egwyddor gref i hyrwyddo’r Gymraeg.

 

Ymhelaethwyd drwy gyfeirio at y Gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau sydd wedi bod yn cyhoeddi erthyglau sydd yn hyrwyddo rhinweddau arbennig ein hardal, yr iaith Gymraeg a diwylliant lleol, fel rhan o brosiect Diwyllesiant. Yn debyg, cadarnhawyd bod cyllideb ar gyfer rhaglen ARFOR bellach wedi dod i ben ond mae’r Adran yn gweithio i ddosbarthu pecynnau a grëwyd yn ystod cyfnod y rhaglen, a’u hyrwyddo er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i dderbyn anogaeth i ddychwelyd i’r rhanbarth i weithio tra hefyd yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

 

Eglurwyd bod gwasanaethau’r Adran wedi amlygu cyfleoedd i  godi statws y Gymraeg a sicrhau ei bod yn cael ei ddefnyddio. Rhannwyd enghraifft benodol o hyn drwy gyfeirio at gynlluniau’r Gwasanaeth Morwrol i: Annog a chefnogi staff i siarad a gohebu yn y Gymraeg; darparu cyfleoedd hyffordd i staff wella dysgu’r iaith gan hefyd sicrhau bod llwyddiannau yn cael eu dathlu; a gwella cynnwys dwyieithog yr harbyrau a thraethau’r Sir.

 

Amlygwyd bod heriau wedi’i amlygu o fewn y Gwasanaeth Datblygu’r Economi gan fod rhaglen ARFOR wedi dod i ben. Eglurwyd bod cyfanswm o £500,000 wedi cael ei rannu rhwng y 4 Sir sydd yn rhan o ranbarth y rhaglen er mwyn sicrhau parhad gweithgareddau’r rhaglen hyd nes etholiad Senedd Cymru 2026, gan nodi nad oes sicrwydd o barhad y rhaglen yn dilyn hynny. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod yr Adran yn ceisio ymgorffori amcanion rhaglen ARFOR i mewn i brosiectau eraill megis Llwyddo’n Lleol er mwyn sicrhau bod gwaith yn parhau er mwyn annog pobl ifanc a phobl sydd yn gallu’r Gymraeg, i ddychwelyd i Wynedd i fyw a gweithio.

 

Mynegwyd balchder bod rhai swyddogion o fewn yr Adran yn teimlo’n gyfforddus i ddefnyddio technoleg, a meddalwedd megis ‘ChatGPT’ i ddatblygu hyder yn y Gymraeg. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn ymwybodol o risgiau sydd yn bodoli wrth ddefnyddio technoleg yn y math yma, ond nodwyd ei fod yn gallu bod yn arf gwerthfawr ar gyfer datblygiad ieithyddol y staff.

 

Atgoffwyd bod llyfrgelloedd Gwynedd yn rhan o rwydwaith cenedlaethol a'u bod yn rhannu adnoddau gyda Siroedd eraill. Cyfeiriwyd at system ‘Borrowbox’ sydd yn caniatáu defnyddwyr i fenthyg adnoddau yn ddigidol gan gydnabod bod yr Adran wedi derbyn sylwadau am rai o’r termau a ddefnyddir ar y meddalwedd hwnnw, a’r angen i uchafu’r Gymraeg. Cadarnhawyd bod yr Adran yn cydweithio gyda’r cwmni er mwyn sicrhau bod eu defnydd o’r Gymraeg yn gywir a bod unrhyw wallau yn cael eu cywiro er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn derbyn sylw cyfartal.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran yn casglu gwybodaeth am ddefnydd ieithyddol a niferoedd o bobl sy’n defnyddio gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn rheolaidd er mwyn monitro perfformiad.

 

Ymfalchïwyd bod 90.6% o staff yr Adran wedi cwblhau Asesiad Iaith a bod 94.8% o’r unigolion hynny yn cwrdd â dynodiad iaith eu swyddi. Pwysleisiwyd bod trefniadau mewn lle i annog a chefnogi gweithwyr sydd ddim yn cwrdd â’r gofynion ar hyn o bryd. Eglurwyd bod y mwyafrif o aelodau staff sydd heb gyflawni'r asesiad iaith yn aelodau staff tymhorol, megis Wardeniaid Traethau, gan egluro bod y tymor cyflogaeth wedi dod i ben cyn gallu cynnig datblygiad ieithyddol gwerthfawr iddynt. Nodwyd bod y diffyg hwn yn her i’r Adran a bod ystyriaethau ar waith er mwyn canfod datrysiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Mewn ymateb i ymholiad ar sut mae’r Adran yn cefnogi busnesau ac unigolion di-Gymraeg sydd yn ymgeisio am grantiau i hybu a hyrwyddo’r iaith, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod sicrhad ac ymrwymiad i wneud hyn yn amod pendant i’r gytundeb cyn iddynt dderbyn taliad y grant. Cadarnhawyd bod yr Adran yn monitro pob cais grant sydd yn cael ei gymeradwyo er mwyn sicrhau bod dilyniant mewn ymrwymiadau i hyrwyddo’r Gymraeg. Nodwyd mai dim ond ar gyfer cyfnod gweithredol y grantiau mae modd gwneud hyn, gan egluro fod yr Adran yn ddibynnol iawn ar grantiau gan fod y gyllideb graidd yn fychan. Eglurwyd nad oes grantiau yn weithredol ar hyn o bryd ond y disgwylir y Gronfa Twf Lleol newydd yn y misoedd nesaf, gan ategu bydd hyrwyddo’r iaith yn amod pendant i ymgeiswyr y grant hwnnw hefyd. Tynnwyd sylw bod yr Adran hefyd yn hyrwyddo’r iaith mewn dulliau gwahanol, megis drwy gefnogi trefnwyr digwyddiadau byw gyda’r nod o ddylanwadu ar iaith y digwyddiad a hybu’r Gymraeg.

 

Mynegwyd balchder bod swyddogion y Gwasanaeth Monitro yn gwneud pob ymdrech i annog staff y gwasanaeth i ddysgu a meithrin eu sgiliau Cymraeg. Teimlwyd bod yr anogaeth hon yn effeithiol gan fod staff yn datblygu hyder i ddefnyddio’r iaith yn gyson ac mewn pwyllgorau. Diolchwyd i’r Adran am gefnogi’r gweithlu i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol.

 

Mewn ymateb i gais am wybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r heriau mae’r Adran yn ei wynebu er mwyn sicrhau bod staff tymhorol yn cyrraedd dynodiad iaith eu swyddi, eglurodd Pennaeth yr Adran bod hon yn derbyn ystyriaeth bellach gan swyddogion. Manylwyd ar y sefyllfa gan egluro bod yr Adran yn cyflogi oddeutu 30 o wardeniaid traethau yn dymhorol er mwyn diogelu a chynorthwyo’r cyhoedd. Nodwyd bod y rolau hyn yn cael eu cyflawni yn yr awyr agored ac nid oes gan y staff hynny fynediad at gyfarpar technolegol er mwyn gallu cyflawni hyfforddiant iaith. Pwysleisiwyd bod newid i drefniadau’r Adran yn golygu bod asesiad iaith yn cael ei gyflawni cyn i’r staff ddechrau ar eu rôl yn ffurfiol erbyn hyn. Soniwyd hefyd bod trafferthion wedi bod yn y gorffennol ar gyfer recriwtio’r wardeniaid traethau oherwydd bod y staff sydd yn ymgeisio fel arfer yn ifanc neu ddim yn gallu dreifio. Cyfeiriwyd hefyd at her gyffredin ble nad oes diddordeb ar gyfer ardaloedd penodol, gan nad yw’n lleol i ble mae’r ymgeiswyr yn byw, gan egluro bod y wardeniaid staff yn debygol o ymgeisio am swyddi ar eu traethau lleol. Cadarnhawyd nad yw’r her hwn o ddarparu hyfforddiant a chefnogi staff i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn unigryw i’r Gwasanaeth Morwrol, gan nodi gall heriau o’r un fath godi o fewn y Gwasanaeth Amgueddfeydd hefyd. Pwysleisiwyd mai nod yr Adran ar gyfer unrhyw staff tymhorol yw sicrhau bod amser digonol i staff ymateb i ymholiadau am eu gallu ieithyddol yn ogystal â mynychu hyfforddiant iaith.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar y gwaith mae’r Adran yn ei wneud i ddod ag enwau Cymraeg ar gyfer lleoliadau ac ardaloedd yn ôl i ddefnydd, eglurodd Pennaeth yr Adran eu bod yn cydweithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ar brosiect enwau lleoedd. Ymhelaethwyd eu bod wedi derbyn grant gan y Loteri Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod y prosiect hwnnw yn cael ei ddefnyddio’n weithredol ac yn cael ei hyrwyddo’n effeithiol.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar y gwaith mae’r Adran yn ei wneud o fewn y maes amaethyddiaeth i gefnogi’r gymuned cefn gwlad a hyrwyddo’r iaith, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod y sector amaeth yn rhan allweddol o Strategaeth Economaidd y Cyngor. Nodwyd hefyd bod yr undebau amaeth yn aelodau blaenllaw o’r fforwm datblygu. Cydnabuwyd bod ARFOR hefyd wedi bod yn cefnogi cymunedau gwledig a chynorthwyo busnesau a oedd yn dymuno arallgyfeirio.

 

Mewn ymateb i bryder nad yw’r Gymraeg yn derbyn sylw cyfartal o fewn drefi’r Sir, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod cefnogaeth wedi bod yn cael ei ddarparu drwy gynllun ARFOR er mwyn cynorthwyo gyda hyn gan atgoffa bod y cynllun hwnnw bellach wedi dod i ben. Cadarnhawyd nad oes unrhyw grantiau ar gael ar hyn o bryd ond tynnwyd sylw at y gefnogaeth gall Mentrau Iaith eu cynnig ar gyfer datblygu gwelededd y Gymraeg ac i gynorthwyo busnesau gydag arwyddion ddwyieithog.

 

Mewn ymateb i ystyriaethau bod data'r Gwasanaeth Morwrol yn cadarnhau lefelau isel o ohebiaeth Cymraeg, pwysleisiodd Pennaeth yr Adran bod hon yn adlewyrchiad ar iaith defnyddwyr y gwasanaethau hynny. Cadarnhawyd bod gwybodaeth a ffurflenni Cymraeg ar gael yn y ddwy iaith ac mae pob gweithdrefn ar waith er mwyn sicrhau bod defnyddwyr pob gwasanaeth o fewn yr adran yn ymwybodol bod y wybodaeth neu ffurflen maent yn chwilio amdano ar gael yn y Gymraeg.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar ddefnydd yr Adran o wasanaethau Microsoft, Cysill a ChatGPT er mwyn cynorthwyo ag ysgrifennu yn Gymraeg, pwysleisiodd Pennaeth yr Adran bod yr meddalweddau hyn dim ond yn cael eu defnyddio mewn sefyllfaoedd anffurfiol er mwyn cynyddu hyder  y gweithlu gyda’r Gymraeg. Cadarnhawyd nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer paratoi dogfennaeth nac adroddiadau ffurfiol. Rhannwyd enghreifftiau o ble mae’r meddalwedd yn cael ei ddefnyddio megis os yw aelod ar eu pen eu hunain ac angen gwirio gwybodaeth yn gyflym er mwyn delio gydag ymholiadau. Soniwyd bod defnydd anffurfiol o’r math yma yn gymorth mawr i’r staff ac yn cynorthwyo’r Adran i gyflawni gwasanaethau. Atgyfnerthwyd bod yr Adran yn ymwybodol o’r risgiau o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial gan nodi bod y sefyllfa yn cael ei fonitro’n barhaus, gyda’r nod o ddatblygu canllaw eglur ar y mater hwn. Gobeithiwyd bydd canllaw yn cael ei ddatblygu ar gyfer y Cyngor yn ehangach er eglurder ar ddefnydd meddalwedd o’r fath i’r dyfodol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Dogfennau ategol: