I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Adroddwyd bod y
Gwasanaethau Cyfreithiol yn gyfrifol am briodoldeb (gan gynnwys rôl Swyddog
Monitro, gwasanaethau cyfreithiol, Tîm Etholiadau a Chofrestru Etholiadol yn
ogystal â Chefnogaeth Crwner.) Tynnwyd sylw at waith rhanbarthol mae’r
Gwasanaeth wedi bod yn ei gyflawni yn y blynyddoedd diwethaf, drwy ddarparu
cefnogaeth i GwE, y Cynllun Twf a Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd
(CBC).
Cydnabuwyd bod
gofynion cyfreithiol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi cynyddu
yn sylweddol, ac er mwyn ymdopi gyda’r gwaith hynny mae’r CBC wedi ffurfio tîm
cyfreithiol annibynnol, gyda Gwasanaethau Cyfreithiol Cyngor Gwynedd bellach
wedi tynnu’n ôl o’r bartneriaeth. Pwysleisiwyd bod Gwasanaethau Democratiaeth a
Chyllid yn parhau i gefnogi’r CBC. Ymfalchïwyd bod presenoldeb yn y broses o
ddatblygu gweithdrefnau a systemau CBC wrth iddo gael ei ffurfio, yn hanfodol
er mwyn sicrhau dwyieithrwydd a bod y Gymraeg yn derbyn sylw cyfartal, gan fod
arferion da wedi cael eu harddangos a’u gweithredu.
Eglurwyd bod y Tîm
Etholiadol yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn mynnu bod dwyieithrwydd yn cael ei
sicrhau ar bob achlysur. Rhannwyd enghreifftiau o bwysigrwydd dwyieithrwydd
megis ar ddogfennaeth, hyfforddiant, a pan mae canlyniadau etholiadol yn cael
eu cyhoeddi ar lafar. Mynegwyd balchder bod y Tîm Etholiadol yn llwyddo i
hyrwyddo’r iaith yn llwyddiannus a bod y gwaith yn treiddio i sicrhau bod
systemau dwyieithog y Comisiwn Etholiadol bellach yn safonol. Pwysleisiwyd bod
lle i wella gan amlygu bod y Tîm Etholiadol yn pwysleisio nad yw darpariaeth
uniaith Saesneg o ddogfennaeth na hyfforddiant yn dderbyniol.
Diolchwyd i’r
Crwner, sydd yn gweithio ar lefel genedlaethol a hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg
drwy ei gwaith. Eglurwyd nad yw Gwasanaeth Crwneriaid Gwynedd a Môn wedi cael
ei ymgorffori i gorff rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru oherwydd y pwyslais
ieithyddol sydd yn cael ei roi gan y Crwner yn yr ardal hon, gan nodi bod hyn
yn adlewyrchiad o bwysigrwydd yr iaith i’r Gwasanaeth. Mynegwyd balchder bod y gwaith hwn yn gallu
dylanwadu ar ardaloedd Crwneriaid eraill drwy sicrhau bod dogfennaeth ar gael
i’w defnyddio yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mynegwyd balchder
bod y Gwasanaethau Cyfreithiol bellach yn gallu cyflawni holl elfennau o’i
ddyletswyddau yn ddwyieithog, megis agweddau mwyaf technegol o’r gwaith,
darparu cytundebau a thrawsgrifiadau achosion llys ar gyfer gwaith yng Ngwynedd
ac yn rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru. Atgoffwyd nad oedd hyn yn bosib yn y
blynyddoedd diwethaf oherwydd bod cyfreithwyr dros dro (locum) wedi bod yn cael
eu penodi er mwyn cynorthwyo gyda gwaith rhanbarthol, ble roedd yr angen am
arbenigedd penodol yn trechu’r angen am sicrhau bod yr unigolion hynny yn
medru’r Gymraeg. Cydnabuwyd bod y Gwasanaeth Cyfreithiol wedi profi heriau
recriwtio yn y blynyddoedd diwethaf, ond pwysleisiwyd bod anghenion recriwtio
bellach wedi lleddfu a bod y Gwasanaeth
yn llwyddo i ddenu staff profiadol ac sydd yn meddu â sgiliau’r Gymraeg pan mae
unrhyw drosiant staff yn codi, gan ymfalchïo fod y gweithlu yn frwdfrydig a
gweithgar iawn.
Ystyriwyd bod yr
heriau ieithyddol sydd yn wynebu’r gwasanaeth yn gyffelyb i Adrannau eraill y
Cyngor. Cadarnhawyd bod rhai heriau y tu hwnt i reolaeth y gwasanaeth a’r
Cyngor yn ehangach tra bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn dylanwadu’n
ieithyddol mewn mannau eraill, fel y
nodwyd eisoes. Cydnabuwyd bod rhai heriau ieithyddol yn deillio o’r angen i
gydweithio gyda chwmnïau allanol, cenedlaethol ac arbenigol, ble nad yw o hyd
yn bosib sicrhau bod arbenigedd perthnasol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd
bynnag, pwysleisiwyd bod y cydweithio hwn yn cael ei wneud yn y Gymraeg os yw’r
gwasanaeth ar gael. Tynnwyd sylw mai dim ond un agwedd o waith y gwasanaeth
yw’r cydweithio hwn gydag arbenigwyr gan ymfalchïo fod y mwyafrif helaeth o waith yn cael ei gyflawni
yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Cadarnhawyd bod y
Gwasanaeth yn manteisio ar y cyfleoedd mae’r Cyngor yn ei ddarparu megis
Cynllun Yfory a Phrentisiaid, er mwyn datblygu staff cymwysedig a phrofiadol
drwy gyfrwng y Gymraeg. Eglurwyd bod dau brentis wedi eu cyflogi gyda’r
Gwasanaeth ar hyn o bryd, mewn rôl o fewn y Tîm Etholiadol ac fel rôl para
gyfreithiol a bod ystyriaeth barhaus yn cael ei roi er mwyn adnabod cyfleoedd
newydd.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Mewn ymateb i
ymholiad, eglurodd Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol nad oedd gwybodaeth wedi
cael ei gyflwyno i’r pwyllgor ar yr hyn sydd angen sylw yn ystod y flwyddyn
nesaf er mwyn codi statws y Gymraeg a sicrhau cyfleoedd i bobl Gymraeg, o fewn
yr adroddiad hwn gan nad oes unrhyw enghreifftiau penodol o weithgarwch
ymarferol a ellir ei nodi o fewn y Gwasanaeth ar hyn o bryd.
Mewn ymateb i
ymholiad, eglurodd Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol y byddai’n croesawu ehangu
ar y cyfleoedd i brentisiaid a phrofiad gwaith i fyfyrwyr y gyfraith. Ategwyd
bod dau prentis yn gweithio o fewn y Gwasanaeth eisoes a byddai’r Gwasanaeth yn
ymdrechu i gymryd mantais o’r cyfleoedd hyn yn y dyfodol yn unol â’r
angen. Fodd bynnag, eglurwyd mai’r brif
her o fewn y maes profiadau gwaith byr dymor yw sicrhau mynediad i systemau
electronig y gwasanaethau am amser digonol, pan mae unigolion profiad gwaith
dim ond yn y swyddfa am gyfnod cyfyngedig. Cadarnhawyd bod unigolion wedi bod
ar brofiad gwaith yn y gorffennol a bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn canfod
ffordd o allu cynnig hynny yn y dyfodol.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: