Cais am ganiatâd adeilad rhestredig [LBC] ar
gyfer gwaith dad-adeiladu a dymchwel rhannol yr adeilad yn raddol, a’r gwaith
cynhaliaeth sydd ei angen i sefydlogi y strwythur sydd yn weddill
AELODAU LLEOL: Cynghorydd John Pughe a’r Cynghorydd Anne Lloyd Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu
gydag amodau
Cofnod:
Cais am ganiatâd adeilad rhestredig [LBC] ar
gyfer gwaith dad-adeiladu a dymchwel rhannol yr adeilad yn raddol, a’r gwaith
cynhaliaeth sydd ei angen i sefydlogi'r strwythur sydd yn weddill
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, wedi derbyn rhagor o wybodaeth, bod cyfanswm y gwaith dymchwel wedi'i
leihau a'i fod bellach ond yn berthnasol i ran gefn yr adeilad yn unig.
Eglurwyd bod adeilad yn hen westy, sydd wedi
ei restru gradd II, ac o fewn ffin datblygu Tywyn, yn strwythur sylweddol sy'n
wynebu Sgwâr Corbett, gyda thalcen sy'n wynebu Stryd Maengwyn ac ychwanegiadau
diweddarach i ochr chwith yr adeilad ac i'r cefn. Nodwyd hefyd bod eiddo
preswyl cyfagos a'r dalcen yr adeilad ar Stryd Maengwyn. Ystyriwyd bod yr
adeilad mewn perygl yn unol â chofrestr Adeiladau Rhestredig sydd Mewn Perygl,
a gedwir gan Cadw.
Daeth defnydd o’r adeilad fel gwesty i ben
tua 2009, a bu fawr ddim cynnal a chadw ar yr adeilad yn y blynyddoedd wedi
hynny. Erbyn hyn, mae’r adeilad yn mynd â'i ben iddo, gyda rhannau o gefn yr
adeilad wedi disgyn yn Ionawr a Chwefror 2025.
Cyflwynwyd gyda’r cais adroddiad arolwg
strwythurol, methodoleg dymchwel a dadosod yn ogystal ag Asesiad Effaith
Treftadaeth. Cyfeiriwyd at ôl troed yr adeilad cyfan oedd wedi'i rannu'n 8
parth er mwyn cyfeirio atynt yn haws. Adroddwyd bod bwriad dymchwel parthau 1-5
yn seiliedig ar sefydlogrwydd strwythurol yr adeilad oherwydd rhesymau iechyd a
diogelwch yn dilyn cwymp diweddar, gyda pharthau 2 a 4 yn ardaloedd a gwympodd
ym mis Ionawr a Chwefror 2025.
Nodwyd bod y cynnig diwygiedig yn gofyn am
ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer dymchwel Parthau 1, 2, 4 a rhan o Barth 5
(a nodwyd fel 5A), ynghyd â gwaith cysylltiedig i sefydlogi'r strwythur sy'n
weddill a'i ddiogelu rhag y tywydd. Ategwyd bod y cynllun presennol yn
cynrychioli gostyngiad sylweddol yng ngraddfa'r gwaith dymchwel a fwriadwyd yn
wreiddiol, yn dilyn ymatebion i'r ymgynghoriad a chyflwyno rhagor o wybodaeth
strwythurol.
Amlygwyd, wrth benderfynu ar y cais, roedd
angen ystyried yn ofalus a fyddai’n ddymunol gwarchod yr adeilad rhestredig, ei
leoliad ac unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig
sydd gan yr adeilad, yn unol ag adran 96(2) Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol
(Cymru) 2023. Ategwyd nad oedd cadw adeilad neu ased hanesyddol yn golygu bod
rhaid ei gynnal yn ddigyfnewid, ond bod ei arwyddocâd yn cael ei gynnal ar
gyfer y dyfodol; y dyletswydd statudol wedi derbyn cryn bwysigrwydd a phwysau wrth
gyrraedd yr argymhelliad.
Mynegwyd y byddai'r gwaith arfaethedig yn
arwain at golli ffabrig hanesyddol o fewn y parthau a nodwyd gan achosi niwed i
arwyddocâd yr adeilad rhestredig. Fodd bynnag, atgoffwyd yr Aelodau bod Parthau
2 a 4 eisoes wedi disgyn yn rhannol, bod Parth 1 yn cynnwys ystafell haul
cyfoes o werth treftadaeth ddibwys, a bod Parth 5A wedi'i gyfaddawdu'n
strwythurol ac yn uniongyrchol gysylltiedig â'r ardaloedd sydd wedi cwympo.
Bydd y bwriad yn cadw'r prif ddrychiadau a rhan fwyaf o'r ffabrig hanesyddol
sy'n diffinio cymeriad ac arwyddocâd yr adeilad, ac mae'r niwed sy'n deillio
o'r cynigion yn cael ei asesu fel llai na sylweddol.
Mynnai bolisi cenedlaethol y dylai dymchwel
adeilad rhestredig fod yn rhywbeth eithriadol, a bod y penderfyniad wedi'i
gefnogi gan gyfiawnhad clir ac argyhoeddedig; yn cael ei wneud fel dewis olaf
yn unig. Cefnogwyd y cais gan wybodaeth arolwg strwythurol, tystiolaeth o
gwympiadau diweddar Ionawr a Chwefror 2025, a phryderon parhaus ynghylch
ansefydlogrwydd strwythurol a pherygl i ddiogelwch y cyhoedd (yn enwedig o
ystyried lleoliad yr adeilad ger priffordd). Ategwyd bod data monitro ac
ailasesu dilynol wedi llywio dull diwygiedig sy'n lleihau maint y gwaith
dymchwel yn sylweddol ac yn canolbwyntio ar yr ardaloedd hynny sydd eisoes wedi
disgyn neu sy'n amlwg yn ansefydlog.
Adroddwyd bod yr Awdurdod wedi ystyried yn
ofalus a ellid sefydlogi ac atgyweirio'r adeilad heb waith dymchwel, neu a
fyddai llai o ymyrraeth yn ddigonol. Er bod ymgynghorwyr wedi codi pryderon
ynghylch digonoldeb sail y dystiolaeth a chwestiynu os oedd y dewisiadau amgen
wedi cael eu hystyried yn ddigonol, ystyriwyd bod y cynnig diwygiedig yn
adlewyrchu ymateb mwy cymesurol fyddai’n targedu'r elfennau hynny lle nad oes
modd eu cadw heb risg annerbyniol. Ar y sail yma, daethpwyd i'r casgliad bod y
gwaith arfaethedig yn cynrychioli lleiafswm yr ymyrraeth sy'n angenrheidiol i
ddiogelu'r adeilad a bod y prawf "dewis olaf" wedi'i fodloni.
Byddai'r gwaith arfaethedig yn darparu
buddion cyhoeddus sylweddol a chlir ac yn yr achos hwn, ystyriwyd bod buddion
sefydlogi'r adeilad, mynd i'r afael â phryderon diogelwch ar unwaith gan
sicrhau cadw prif ffabrig hanesyddol yr adeilad yn yr hirdymor yn gorbwyso'r
niwed sy'n deillio o golli'r ardaloedd sydd wedi'u heffeithio. Ategwyd, fel
ystyriaeth berthnasol, heb ymyrraeth, byddai dirywiad a chwymp pellach yn
debygol o ddigwydd, gan arwain at niwed sylweddol fwy, gan gynnwys colli'r
adeilad yn gyfan gwbl.
Cydnabuwyd bod y porth blaen wedi cael ei
dynnu heb ganiatâd adeilad rhestredig ac amlygwyd bod ystyriaeth i’r gwaith
anawdurdodedig hwn yn yr asesiad; byddai’n angenrheidiol gosod amod sy'n gofyn
am fanylion ar gyfer adfer y porth a'r nodweddion cysylltiedig er mwyn mynd i'r
afael â'r niwed.
Roedd y swyddogion yn ystyried bod y bwriad
yn cydymffurfio â pholisi cynllunio lleol a chenedlaethol ac yn argymell
caniatáu’r cais gydag amodau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol:
·
Ei fod yn Beiriannydd
Strwythurol Siartredig, yn aelod llawn o'r Institute of Historic Building
Conservation (IHBC) a’r Conservation Accreditation register for Engineers
(CARE). Yn aelod o banel cynghori arbenigol yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol, yn
gyfarwyddwr peirianwyr ymgynghorol i gwmni Mann Williams a chanddo dros 30
mlynedd o brofiad o asesu, gofalu ac atgyweirio adeiladau hanesyddol.
·
Ei fod wedi bod yn
darparu cyngor cadwraeth strwythurol i SAVE Britains Heritage mewn perthynas
â'r Corbett Arms, a’i fod yn siarad ar ran SAVE.
·
Ei fod wedi gweithio ar
nifer o adeiladau rhestredig mewn gwahanol gyflyrau atgyweirio, ac yn cydnabod
yn llawn yr heriau sy'n wynebu'r Corbett Arms. Nid yw'r heriau'n anarferol a
gellid mynd i'r afael â hwy. Gellid achub a diogelu'r adeilad.
·
Er bod SAVE yn cefnogi'r
cynnig arfaethedig gydag amodau, maent yn teimlo bod yr amodau yn agored i
ddehongliad ac felly bod angen eglurhad llawnach er mwyn sicrhau bod yr amodau
yn gadarn a digonol.
·
Tynnwyd sylw at yr amod
oedd yn nodi y dylid cyflogi gweithiwr proffesiynol sydd yn gymwys mewn
cadwraeth i gyflwyno a chytuno ar
fethodoleg fanwl a chynllun graddol o'r gwaith dymchwel, i gynnwys manylion ar
gyfer diogelu a gwarchod yr adeilad cyn dechrau'r gwaith.
Nododd bod gan gyrff proffesiynol gymwysterau
a chynlluniau achredu sy'n canolbwyntio ar waith adeiladu hanesyddol. I
beirianwyr, y cymhwyster yw CARE, sydd yn cael ei weinyddu gan IStructE, ICE ac
Engineers Ireland. Fe awgrymwyd bod gan gynghorwyr cyfredol yr achos hwn
brofiad 'cyfwerth' - mae hyn yn parhau yn fater o farn ddadleuol. Tybiwyd bod
yr amod yn ei gwneud yn ofynnol i beiriannydd cofrestredig CARE gael ei gyflogi
gan yr ymgeisydd i gyflawni gofynion methodoleg
fanwl sy'n gysylltiedig â pheirianneg. Dylid egluro'r geiriad 'yn addas'
er mwyn osgoi amwysedd, dryswch neu gamddealltwriaeth ac ystyriwyd yn hanfodol
gosod amod bod peiriannydd cofrestredig CARE yn cael ei gyflogi.
·
Yn croesawu bod yr
amodau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol cael methodoleg fanwl a chynllun
graddol ar gyfer y gwaith dymchwel, ac i gyflwyno a chytuno ar fanylion diogelu
ac amddiffyn yr adeilad cyn i'r gwaith ddechrau. Dylai’r manylion hefyd gynnwys
cynllun i adfer y porth a'r ardd o fewn y wal, ynghyd â manylion am ddeunyddiau
i’w hadfer.
·
Yn cwestiynu er hynny,
sut y gellid asesu unrhyw fethodoleg sydd i'w gymeradwyo pan mae'r ymgeisydd yn
parhau i wrthod mynediad ar gyfer craffu annibynnol. Dylai
gwiriadau priodol i’r fethodoleg gael eu
gwirio i sicrhau mai dim ond y gwaith lleiaf angenrheidiol sy'n digwydd.
·
Bod SAVE yn ceisio
amddiffyn Gwesty’r Corbett Arms.
·
Bod cefnogaeth i'r cais
i ddatgymalu cyfyngedig hanfodol yn seiliedig ar well eglurhad o’r ymrwymiad
cadarn sydd gan yr ymgeisydd i atgyweirio ac amddiffyn yr adeilad.
·
Gan weithredu ar ran
SAVE, roedd wedi ceisio ymgysylltu'n adeiladol ac yn rhagweithiol gydag
ymgynghorwyr y Cyngor, gan gydnabod bod angen gweithredu ar frys i amddiffyn yr
adeilad.
·
Bod ceisiadau i gael
mynediad i adolygu’r adeilad wedi cael eu gwrthod dro ar ôl tro gan yr
ymgeisydd a bod unrhyw awgrymiadau oedd wedi eu cynnig i’r ymgynghorwyr wedi cael eu gwrthod. Bod gwrthod ymgysylltu
neu ganiatáu mynediad yn diystyru craffu rhesymol.
·
Yn nodi bod y porth a'r
ardd o fewn y wal wedi cael eu tynnu heb ganiatâd adeilad rhestredig ac felly
yn croesawu bod amodau yn ei gwneud yn ofynnol i’w hadfer yn llawn. Fodd
bynnag, mae amheuaeth bod tynnu'r elfennau hyn wedi bod yn angenrheidiol, ac ni
chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau'r gwaith anawdurdodedig.
·
Byddai darparu manylion
yr adferiad yn cael ei ystyried yn amod rhesymol i gymeradwyo’r cais cyfredol
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Bod yr adeilad a’r
sefyllfa bresennol gyda sgaffaldiau o gwmpas y safle yn creu aflonyddwch i
drigolion y dref
·
Bod gwyriadau traffig ar
lonydd cul yn creu anrhefn yng nghanol y dref.
·
Bod busnesau lleol, yn
cynnwys y sinema a’r golchdy, yn colli refeniw
·
Gyda malurion yn cwympo,
rhaid oedd diogelu’r eiddo, diogelu bythynnod drws nesaf i’r adeilad a
diogelu’r cyhoedd. Rhaid gwneud ardal y safle yn ddiogel ac osgoi sefyllfa
fyddai yn mynd o ddrwg i waeth - dyma’r flaenoriaeth
·
Er bod sgaffaldau i fyny
ers 12 mis, trigolion y dref yn deall bod diogelwch yn angenrheidiol
·
Wedi cael mynediad i’r
adeilad gyda’r Heddlu a’r Gwasanaeth Tân, y difrod yn sylweddol. Difrod
dŵr wedi gwneud rhai rhannau yn ansefydlog iawn
·
Bod perchennog yr eiddo
yn anhysbys
·
Bod yr adeilad yn hardd ac
eiconig – yr eiddo yn llawn atgofion da
·
Bod angen gofal yn ystod
y gwaith dymchwel – cais am luniau a diweddariadau cyson
·
Dim profeb, felly pwy
fydd yn talu am y gwaith adluniad?
ch) Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais
d)
Cynigwyd ac eiliwyd
cynnal ymweliad safle.
Trafodwyd y cynnig gan amlygu y byddai ymweld
â’r safle yn gyfle gwerthfawr i’r holl Aelodau weld yr effaith y mae’r adeilad
yn ei ffurf bresennol yn ei gael ar fusnesau ac isadeiledd y dref, ac i gael
gwell eglurhad o’r sefyllfa; pa werth fydd dymchwel rhannau o’r adeilad yn ei
gael ar y sefyllfa a pha bosibiliadau eraill y gellid eu hystyried.
Mewn ymateb i’r cynnig nododd y Pennaeth
Cynorthwyol bod manylion y cais yn seiliedig ar dystiolaeth gan arbenigwyr a
pheirianwyr strwythurol. Eglurodd bod y cais yn un anarferol, oherwydd bod
sefyllfa wedi codi lle bu rhaid i’r Cyngor gamu i mewn a chymryd cyfrifoldeb
dros yr adeilad i sicrhau diogelwch y cyhoedd. Er yn derbyn bod y sefyllfa yn
creu aflonyddwch yn y dref, bod hyn o ganlyniad i ymateb ar frys i faterion
iechyd a diogelwch. Os bydd y cais yn cael ei ganiatáu yna bydd modd symud
ymlaen gan ail ymweld ag ail asesu’r sefyllfa.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chostau
sgaffaldau i drethdalwyr, nodwyd nad oedd costau yn ystyriaeth cynllunio ond
bod y Cabinet wedi cymeradwyo arian o Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor i
gyllido gwaith i ddiogelu’r adeilad.
Mewn ymateb i sylw a wnaed gan y
gwrthwynebydd, bod ‘diffyg archwilio i ddewisiadau amgen’ a bod angen ymrwymiad
i gydweithio gyda SAVE a thynhau amodau i sicrhau’r weithred orau, nodwyd bod
barn a sylwadau cyrff allanol wedi eu hystyried a bod y bwriad terfynol wedi ei
ddiwygio mewn ymateb i’r sylwadau hynny. Ategodd nad y Cyngor oedd perchennog
yr adeilad a bod yr ymateb yn unol â gofyn statudol adeilad rhestredig.
dd) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau;
·
Diogelwch pobl Tywyn
yw’r flaenoriaeth - rhaid gwneud y safle
yn ddiogel
·
Ar ôl dymchwel, gellid
ailasesu’r sefyllfa ac ystyried y camau nesaf
·
Byddai ymweld â’r safle
ac ail gyflwyno cais yn oediad pellach i’r broses
e)
Pleidleisiwyd ar y
cynnig i gynnal ymweliad safle. Disgynnodd y cynnig.
Yn unol â’r drefn, gofynnwyd i’r cynigydd a’r eilydd oedd wedi
argymell caniatáu y cais gadarnhau eu cynnig
f)
Gofynnwyd am gadarnhad
gan y swyddogion os mai sylwadau Cyngor Tref Tywyn yntau Cyngor Tref Aberdyfi
oedd wedi eu cyflwyno 08-07-25 - cadarnhawyd mai sylwadau Cyngor Tref Aberdyfi
oedd y rhai a gyflwynwyd.
ff) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau;
·
Mai trist yw gweld bod
rhan o’r adeilad yn cael ei ddymchwel, yn enwedig rhan 5A
·
Bod angen symud ymlaen -
byddai hyn o leiaf yn ddechrau i’r broses
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau
1. 5 mlynedd
2. Yn unol â'r cynlluniau
3. Cyflwyno a chytuno ar fethodoleg fanwl
a chynllun graddol o'r gwaith dymchwel, i gynnwys manylion ar gyfer diogelu a
gwarchod yr adeilad cyn dechrau'r gwaith. Dylai'r manylion hefyd gynnwys
cynllun i adfer y porth a'r ardd ynghyd â manylion achub deunyddiau.
4. Dylid cyflogi gweithiwr cadwraeth
broffesiynol gymwysedig i oruchwylio a chytuno ar y fethodoleg a'r gwaith
dymchwel wrth iddynt ddechrau, ac i gael ei gytuno gyda'r Awdurdod Cynllunio
Lleol (ACLl) cyn i'r gwaith ddechrau
5. Dylai'r ACLl gytuno yn ysgrifenedig ar
fanylion y bolltau angori neu'r angorau pinio cyn iddynt gael eu gosod
6. Cwblhau cofnod adeilad hanesyddol Lefel
3 o Westy'r Corbett Arms. Yn amodol ar uniondeb strwythurol gyda'r adeilad
wedi'i wneud yn ddiogel ac yn saff, dylid cynnwys cofnod ffotograffig o'r tu
mewn yn y cofnod hwn.
Dogfennau ategol: