Dymchwel
estyniadau cefn a chodi estyniad deulawr newydd ynghyd a gwaith tirluno, codi
adeilad beics a sbwriel ac ail-osod y maes parcio.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Hawl i weithredu - caniatáu gydag amodau yn
ddarostyngedig i dderbyn gwybodaeth bellach a sylwadau cadarnhaol gan yr Uned
Draenio
1. 5 mlynedd
2. Unol a’r
cynlluniau.
3. Amod
archeolegol
4. Manylion
gwydriad eilradd i’w gytuno o flaen llaw.
5. Cytuno i
ail-ddefnyddio deunyddiau o’r adeilad i’w ddymchwel
6. Nwyddau
dwr glaw alwminiwm
7. Manylion
manwl y paneli solar
8. Manylion
unrhyw oleuadau i’w gytuno
9. Manylion
unrhyw arwyddion i’w gytuno
10. Rhaid
cyflwyno manylion y sgrin wrth y grisiau cyn eu gosod
11. Rhaid cyflwyno manylion o sut i gofnodi
hoel y gampfa cyn eu dymchwel
12. Cyflwyno
samplau o’r deunyddiau
13. Defnyddio
calch gydag unrhyw waith pwyntio / render
14. Amod
priffyrdd
15. Amodau Dwr
Cymru
16. Amodau
Iaith
17. Amodau Bioamrywiaeth gan gynnwys cytuno
mesurau lliniaru a gwelliannau
18. Cytuno
Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP) cyn cychwyn gwaith – i gynnwys oriau gwaith
Cofnod:
Dymchwel estyniadau cefn a chodi estyniad
deulawr newydd ynghyd a gwaith tirlunio, codi adeilad beics a sbwriel ac
ail-osod y maes parcio.
Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr
(sylwadau gan Uned Draenio Tir)
a)
Amlygodd
y Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd gyda bwriad o ddymchwel rhan ddeulawr cefn o’r adeilad a chodi estyniad
deulawr newydd modern i alluogi cael ystafelloedd dysgu i fyny at safonau
modern. Byddai’r estyniad newydd yn gymysg o frics llwyd golau / coch a chladin
alwminiwm coch i gynnwys dwy neuadd darlithio fawr, ystafell ddysgu
cyffredinol, toiledau ac ardaloedd eistedd ynghyd a choridorau, grisiau a
drysau allanol a lifft newydd. Ar ail lawr yr estyniad bydd gofod o’r ddwy
neuadd darlithio ynghyd ag ardaloedd eistedd, toiledau, ystafelloedd offer a
storfeydd - i gyd yn cysylltu yn ôl gyda’r prif adeilad. Eglurwyd bod rhan
gwaith adfer mewnol o fewn y prif adeilad hefyd yn rhan o’r cais, ond nad oedd
angen hawl cynllunio ffurfiol ar gyfer y gwaith, ond ei fod wedi ei asesu o
fewn y cais adeilad rhestredig cysylltiedig (C25/0706/11/CR). Ategwyd bod asesiad adeilad rhestredig wedi ei gwblhau
ar y gwaith dymchwel ac adeiladau’r estyniadau
Adroddwyd bod yr
adeilad yn un sylweddol a thrawiadol iawn, gyda phwyslais ar ei edrychiad
blaen. Ni fydd newid i’r edrychiad blaen gan fydd y gwaith dymchwel i gefn yr
adeilad yn golygu dymchwel estyniad
sylweddol o’r 1930au; fodd bynnag bydd y gwaith dymchwel yn golygu bod modd
codi estyniad sy’n darparu gofod pwrpasol ar gyfer sicrhau defnydd hirdymor o’r
adeilad gan Brifysgol Bangor fel rhan o’u campws presennol. Nodwyd bod gwaith
tirlunio, ail-osod y ddarpariaeth parcio a chreu mannau beics hefyd yn ffurfio
rhan o’r cais gyda bwriad i hwyluso’r cysylltiad drwy greu llwybr newydd i
gysylltu safleoedd y Brifysgol.
Saif y safle o fewn ffin ddatblygu Dinas Bangor ond
tu allan i’r ardal ganolig. Amlygwyd bod safleoedd y Brifysgol ger y safle
ynghyd a thai preswyl cyfagos. Yr adeilad yn adeilad rhestredig gradd II.
O ystyried defnydd blaenorol y safle fel ysgol a
choleg, y polisi perthnasol oedd Polisi ISA 3 sy’n datgan y caniateir cynigion
ar gyfer cyfleusterau newydd neu estyniadau i adeiladau presennol ar gyfer
dibenion academaidd neu gefnogol cyn belled bod ystyriaeth i raddfa, lleoliad,
dyluniad, mwynderau a chludiant.
O ran materion
dyluniad, ystyriwyd bod yr estyniad wedi ei ddylunio o gwmpas nodweddion
presennol yr adeilad oedd yn cynnwys defnydd lliw coch sydd o gwmpas y
ffenestri; yn ddyluniad modern cyfoes wedi ei leoli i gefn y prif adeilad fel
estyniad atodol. Ategwyd mai’r prif
adeilad fyddai’n parhau i fod y prif ffocws, a chyda nodweddion megis y to brig
ar yr estyniad yn cyd-fynd a’r hen adeilad, ystyriwyd fod y dyluniad yn
dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda pholisïau PCYFF 2, PCYFF 3 a PS 20.
Yng nghyd-destun
materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod datganiad trafnidiaeth wedi ei
gyflwyno gyda’r cais yn mynegi nad oedd bwriad newid nag addasu’r mynediad
cerbydol presennol, ond i ail-osod y llecynnau parcio presennol o fewn y safle
- nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth
unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad. Ategwyd, er bod gwasanaethau cludiant cyhoeddus
yn pasio’r safle yn aml a bod llwybrau ar gyfer gerddwyr a beicwyr, fodd
bynnag, ystyriwyd mai rhesymol fyddai cynnwys amod i gytuno i greu llwybr diogel
i feicwyr er mwyn gwella’r sefyllfa gyfredol. Roedd y bwriad yn cyfarch
gofynion polisïau TRA 2 a TRA 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).
Yng nghyd-destun
materion Bioamrywiaeth, nid oedd gan yr Uned Bioamrywiaeth unrhyw wrthwynebiad
i’r bwriad wedi iddynt dderbyn a chymeradwyo cynllun yn arddangos lleoliadau’r
blychau nythu adar ac ystlumod. Fodd bynnag, amlygwyd pryder dros osodiad dau o’r
blychau ar flaen y prif adeilad ac er bod cytundeb gyda’r Uned Bioamrywiaeth
i’w hail-leoli, ystyriwyd y byddai gosod amod i gytuno’r lleoliad newydd cyn eu
gosod yn dderbyniol. Cyfeiriwyd at sylwadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn
cyd-fynd a hyn, ond yn cynnig amodau perthnasol er mwyn dilyn y mesurau
priodol.
Yng nghyd-destun
materion Archeolegol, cyfeiriwyd at sylwadau Heneb oedd yn awgrymu, oherwydd
gwaith dymchwel ar y safle, gosod amod ar gyfer sicrhau cynllun gweithredu
addas o flaen llaw. Ystyriwyd bod hyn yn rhesymol a’r bwriad felly yn
cydymffurfio gyda gofynion polisi PS20 o’r CDLl.
Wrth drafod materion
Draenio, nodwyd bod bwriad cychwynnol ar gyfer cysylltu’r dŵr wyneb i’r
brif garthffos, ond amlygwyd bod Dwr Cymru wedi nodi nad yw hyn yn dderbyniol.
Roedd yr Uned Draenio Tir wedi cadarnhau bod y datblygwr bellach wedi cyflwyno
cais SAB ar gyfer y datblygiad ond nad oeddynt mewn sefyllfa i gymeradwyo'r
cais gan fod angen ymchwiliad pellach. O
dderbyn sylwadau newydd gan yr Uned Draenio Tir (ffurflen sylwadau hwyr) oedd
yn nodi na ellid sicrhau bod modd delio
gyda’r dŵr wyneb o’r safle mewn ffordd dderbyniol, ac yn unol â gofynion
Nodyn Cyngor Technegol 15 heb wybodaeth bellach a chymeradwyaeth Corff
Cymeradwyo SDC, diwygiwyd yr argymhelliad.
Tynnwyd sylw at y
datganiad iaith oedd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais gyda’r Uned Iaith wedi
darparu sylwadau cadarnhaol. Ystyriwyd mai priodol fyddai gosod amodau i
sicrhau bod arwyddion sy’n hyrwyddo’r datblygiad yn ddwyieithog, ac felly yn
cydymffurfio gyda pholisi PS 1 a’r CCA perthnasol.
Roedd y Swyddogion yn argymell caniatáu’r cais
gydag amodau yn ddarostyngedig i dderbyn gwybodaeth bellach a sylwadau
cadarnhaol gan yr Uned Draenio.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Yn
croesawu’r syniad o adeiladu Ysgol Fusnes Albert Gubay, ac yn dymuno pob lwc i
Brifysgol Bangor efo’r fenter. Y Brifysgol yn sicr o elwa a rhoi budd i Fangor.
Gwych.
·
Serch
hynny, nifer o bryderon wedi codi, ac felly’n hoffi gweld amodau pellach ar y
cais wrth ei ganiatáu.
·
Yn
llwyr gytuno gyda phryderon yr Uned Draenio - angen eu cyfarch cyn symud ymlaen
·
Ei bod
wedi ymgynghori’n bersonol a threfnu cyfarfod penodol gyda’i chyd-gynghorwyr
ward a swyddogion y Brifysgol, lle mynegwyd pryderon am draffig, dŵr,
effeithiau ecolegol ac amgylcheddol, asbestos, aflonyddwch ar drigolion lleol a
diffygion y broses ymgynghori’n lleol. Er bod cyfarfod wedi ei gynnal ym
Mhontio yn ystod yr haf, ystyriwyd nad oedd hyn yn ddigonol fel ymgynghoriad
lleol, a bod angen cyfarch pryderon
cymuned Maestryfan sydd wedi ei leoli gyferbyn a’r safle (llythyrwyd holl
drigolion Maestryfan yn dilyn y cyfarfod efo’r swyddogion).
·
Gan
dynnu sylw at fap o’r safle nodwyd bod y darn tir gyferbyn a hen ysgol Friars
yn llecyn o dir a roddwyd i bobl Bangor, mewn ewyllys gan ddoctor lleol. Nodwyd
bod cyfamod ar y tir fel na all neb adeiladu arno ( y doctor yn gredwr cryf fod
angen mannau gwyrdd ar drigolion). Hyd 2021, roedd yn ddarn o dir diffaith,
lle'r oedd cŵn yn bawa a phobl yn defnyddio cyffuriau. Yn 2021, sefydlwyd
Grŵp Cymunedol Maestryfan, ac o
dderbyn grant, gweithiodd y gymuned yn galed i greu gardd gymunedol,
hardd allan o racsyn o dir. Byddai chwalu’r ardd yn chwalu calon y gymuned ac
felly angen gofalu nad yw’r holl adeiladu, y baw a’r llwch, yn amharu ar yr
ardd.
·
Er nad
yn siŵr os oedd ystlumod yn byw yn y coed gerllaw, yn sicr bod adar yn
nythu yn y coed ac yn y bocsys nythu sydd o gwmpas yr ardd, ac felly dim eisiau
gweld y rhain yn cael eu hamharu.
·
Naratif
y gymuned wedi newid ers creu’r ardd - o fod yn gymuned oedd yn teimlo bod pawb
wedi anghofio amdani, i fod yn gymuned bositif, obeithiol, yn llawn brwdfrydedd
a gofal am ei gilydd. Yr ardd yn symbol o’r gwaith cymunedol dwys sydd wedi, ac
yn digwydd yn ddyddiol yng nghymuned Maestryfan; yn symbol o lwyddiant menter
gymunedol ac y bydd effeithiau o’i cholli yn bellgyrhaeddol, ac yn ddinistriol
i enaid y gymuned.
·
Gwaredu
asbestos – yn disgwyl bydd y Brifysgol yn sicrhau nad yw clirio’r asbestos yn
cael effeithiau niweidiol ar y gymuned gyfagos.
·
Yn
croesawu’r sicrhad nad oedd cynlluniau i ddatblygu’r cae gwyrdd sydd agosaf at
yr adeiladwaith.
·
Bod
Ffordd Ffriddoedd yn brif ffordd mewn i ddinas Bangor, yn goridor strategol
dinesig; yn cynnwys llwybr bysiau penodol mewn ac allan o’r ddinas. Ar oriau
brig, defnyddir y ffordd gan dros 2000 o ddisgyblion ysgol a’u rhieni a’r
staff, sydd yn mynd a dod o ddwy ysgol uwchradd, ysgol gynradd, ac ysgol
annibynnol - i gyd o fewn tafliad carreg i’r datblygiad. Rhaid, wrth greu
Cynllun Rheoli Traffig mewn ac allan o’r safle,
ystyried diogelwch plant, ac oedolion, yn gerddwyr, seiclwyr, a gyrwyr
ceir
·
Bod
nant danddaearol o dan Rhodfa Belmont sy’n rhedeg lawr am y cae chwarae wrth
ymyl hen ysgol Friars. Rhaid ystyried hyn wrth gynllunio unrhyw beth yn y
cyffiniau ac unrhyw newidiadau yn y llif dwr tanddaearol, dadleoli dŵr
wyneb a risgiau llifogydd o ganlyniad i aflonyddu’r tir.
·
Yn
tynnu sylw bod yr Uned Ddraenio yn cynnig gwrthod y cais tan fod archwiliadau
pellach wedi eu cwblhau a’r argymhelliad
wedi ei ddiwygio
·
Gofynnwyd
am yr effaith benodol ar Coed Menai. Er bod sylwadau wedi eu nodi am ystlumod
ac adar, nid oedd unrhyw sylwadau tuag at wiwerod a thylluanod gwynion.
Angen ystyriaeth i’r rhywogaethau hyn
hefyd.
·
Mewn
egwyddor, o’r farn bod modd cefnogi’r datblygiad, ond bod angen amodau pendant
ar nifer o faterion. Yn gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio oedi ar wneud
penderfyniad, er mwyn caniatáu amser i gyfarch y materion yn llawn neu osod
amodau tynn wrth ganiatáu - amodau fydd yn ystyried diogelwch y cyhoedd,
effeithiau andwyol ar ecoleg, amgylchedd a’r gymuned leol ac eiddo cyfagos;
-
Cyfarch
pryderon yr adran ddraenio’n llawn, gan ystyried y nant danddaearol, patrymau
llif dwr yn yr ardal ac ati,
-
gwaredu
asbestos yn ddiogel
-
Ystyried
a rhoi cynlluniau manwl gerbron i osgoi niweidio’r amgylchedd presennol
fyddai’n cynnwys yr ardd gymunedol, adar gerddi cyfagos ac unrhyw rywogaethau
gwyllt eraill
-
Diogelwch
y Cyhoedd. Bod angen rhoi cynllun gerbron sy’n ystyried dwysedd traffig yn
gyffredinol ar Ffordd Ffriddoedd, yn enwedig ar oriau brig
-
Ystyried
budd cymunedol teilwng i’r gymuned leol ddifreintiedig hon
-
Gwneud
yn iawn / digolledu’r gymuned am unrhyw ddifrod i’r ardd.
c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais yn ddarostyngedig i gynnwys amod ychwanegol am gynllun rheoli amgylcheddol cyn dechrau’r gwaith -
i gynnwys oriau gwaith, sŵn a llwch
ch) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod y
buddsoddiad yn un sylweddol i Fangor
·
Yn
croesawu bod yr adeilad at bwrpas addysg
·
Angen
sicrhau bod yr ychwanegiadau modern yn gweddu a’r hen adeiladau
·
Angen
cadw urddas yr adeilad a pheidio tynnu oddi ar yr olwg drawiadol
·
Dim
eisiau gweld dirywiad pellach i’r adeilad fyddai yn arwain at ei ddymchwel
PENDERFYNWYD caniatáu
gydag amodau yn ddarostyngedig i dderbyn gwybodaeth bellach a sylwadau
cadarnhaol gan yr Uned Draenio
1. 5 mlynedd
2. Unol a’r cynlluniau.
3. Amod archeolegol
4. Manylion gwydriad eilradd i’w
gytuno o flaen llaw.
5. Cytuno i ail-ddefnyddio deunyddiau
o’r adeilad i’w ddymchwel
6. Nwyddau dwr glaw alwminiwm
7. Manylion manwl y paneli solar
8. Manylion unrhyw oleuadau i’w gytuno
9. Manylion unrhyw arwyddion i’w
gytuno
10. Rhaid cyflwyno manylion y sgrin wrth
y grisiau cyn eu gosod
11. Rhaid
cyflwyno manylion o sut i gofnodi hoel y gampfa cyn eu dymchwel
12. Cyflwyno samplau o’r deunyddiau
13. Defnyddio calch gydag unrhyw waith
pwyntio / render
14. Amod priffyrdd
15. Amodau Dwr Cymru
16. Amodau Iaith
17. Amodau
Bioamrywiaeth gan gynnwys cytuno mesurau lliniaru a chwblhau’r gwelliannau
18. Cytuno Cynllun Rheoli Amgylcheddol
Adeiladu (CEMP) cyn cychwyn gwaith – i gynnwys oriau gwaith
Dogfennau ategol: