Dymchwel
estyniadau cefn a chodi estyniad deulawr newydd ag addasiadau mewnol i'r prif
adeilad
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r
amodau canlynol :
1. 5 mlynedd
2. Unol â’r
cynlluniau.
3. Amodau
heneb
4. Manylion
gwydriad eilradd i’w cytuno o flaen llaw.
5. Cytuno i
ail-ddefnyddio deunyddiau o’r adeilad i’w ddymchwel
6. Nwyddau
dŵr glaw alwminiwm
7. Manylion
manwl y paneli solar
8. Manylion
unrhyw oleuadau i’w cytuno
9. Manylion
unrhyw arwyddion i’w cytuno
10. Rhaid
cyflwyno manylion i sgrin wrth y grisiau cyn eu gosod
11. Rhaid cyflwyno manylion o sut i gofnodi
hoel y gampfa cyn eu dymchwel
12. Cyflwyno
samples o’r deunyddiau
13. Defnyddio
calch gydag unrhyw waith pwyntio / render
Cofnod:
Cais adeilad rhestredig i ddymchwel estyniadau cefn a chodi estyniad
deulawr newydd ag addasiadau mewnol i'r prif adeilad
a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod rhan o’r prif adeilad, sy’n weladwy o Ffordd Ffriddoedd, yn
adeilad deulawr trawiadol iawn o garreg ac wedi ei godi oddeutu 1899. Adroddwyd
bod tystiolaeth yn bodoli yn dangos fod yr ysgol wedi esblygu a datblygu dros
amser, ac erbyn y 1940au dyma’r adeilad sydd mewn bodolaeth - adeilad wedi ei
restru gradd II. Nodwyd bod dau adeilad
arall ar wahân yn ffurfio rhan o’r safle, ond nid ydynt yn ffurfio rhan o’r
cais.
Y bwriad yw dymchwel y rhan deulawr cefn a ychwanegwyd yn y 1930au a
chodi estyniad deulawr newydd, modern er galluogi cael ystafelloedd dysgu i
fyny at safonau modern. Byddai’r estyniad wedi ei orffen yn gymysg o bric llwyd
golau / coch a chladin alwminiwm coch. Bydd yr edrychiad blaen, sef yr
edrychiad deheuol sydd yn wynebu Ffordd Ffriddoedd yn parhau fel y mae, gan mai
hwn yw’r darn gwreiddiol. Ar ochr orllewinol y prif adeilad, bwriedir tynnu’r
porth ceir presennol ynghyd a thynnu offer peirianyddol awyru oddi ar y to a
gosod awyrellau newydd.
Yng nghyd-destun addasiadau mewnol, bwriedir tynnu llawer o waith modern
sydd wedi ychwanegu dros amser, cau agoriadau presennol ac agor rhai newydd,
tynnu nenfydau ffug, gosod waliau rhannol newydd, tynnu wal fewnol ond cadw’r
rhannau ar yr ochr, atgyweirio’r ffenestri ynghyd â thynnu plaster modern oddi
ar y waliau. Mae sawl drws gwreiddiol
hefyd yn bodoli a bwriedir eu cadw a’i ail-ddefnyddio.
Cyflwynwyd gwybodaeth fel rhan o’r cais oedd yn amlygu bod rhan o’r adeilad a fwriedir ei
ddymchwel yn eithaf cyfoes efo’r prif adeilad, fodd bynnag, oherwydd diffyg
sylweddol o ran gwaith cynnal a chadw dros amser, nodwyd bod y rhan yma mewn
cyflwr gwael ac nid yw maint a gofod yr ystafelloedd yn addas i ofynion y
Brifysgol fel neuadd ddarlithio. Ategwyd er bod cofnod helaeth wedi ei wneud
o’r adeilad, gyda rhannau cefn yn bwysig o ran datblygiad a hanes y safle, nid
yw’n bosib trosi'r rhain i ddefnydd darlithio ac ystyriwyd y byddai eu dymchwel
a darparu gofod mwy addas yn darparu dyfodol hir dymor i’r safle. Nodwyd hefyd
bod ymdrech wedi ei wneud i ail-ddefnyddio’r deunyddiau o’r rhan sydd i’w
ddymchwel a chadw hoel siâp y gampfa ar y llawr o fewn yr estyniad newydd i
gadw tystiolaeth o’r lleoliad. Bydd y gwaith mewnol yn golygu dileu nodweddion
anaddas modern ac adfer elfennau hanesyddol a nodweddiadol yr adeilad.
Eglurwyd bod yr estyniad o ddyluniad modern sy’n gweddu nodweddion
dyluniad a lliwiau gorffeniad y prif adeilad; y cynllun o’r edrychiad blaen yn
dangos rhannau o’r estyniad newydd yn weladwy, ac yn dilyn derbyn gwybodaeth
ychwanegol sy’n rhoi ystyriaeth i natur y tir sydd yn codi oddi ar y brif
ffordd, ni fydd yr estyniad yn weladwy o’r blaen. Er yn weladwy o’r ochrau
eraill, ystyriwyd y byddai hyn yn dderbyniol o ran gweld yr adeilad yn ei
gyfanrwydd ac ni fyddai’r estyniad yn tynnu oddi ar edrychiad na phwysigrwydd y
prif adeilad, ond yn hytrach yn dangos
esblygiad yr adeilad dros amser, fel sydd wedi digwydd gydag estyniadau
hanesyddol i’r adeilad.
Wedi ystyried pwysigrwydd a rhoi pwysau sylweddol i'r ddyletswydd
statudol i gadw'r adeilad rhestredig, arwyddocâd yr ased, maint y niwed,
cyfiawnhad dros y gwaith, a'r buddion cyhoeddus, roedd y Swyddogion yn nodi bod
y datblygiad arfaethedig yn cynrychioli ymyrraeth gyfiawn a chymesur ac yn
cydymffurfio â pholisïau cynllunio cenedlaethol a lleol. Roeddynt yn argymell
caniatáu’r cais gydag amodau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol ei bod yn gefnogol i’r cais
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
PENDERFYNWYD
Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol
1. 5 mlynedd
2. Unol â’r cynlluniau.
3. Amodau heneb
4. Manylion gwydriad eilradd i’w cytuno o
flaen llaw.
5. Cytuno i ail-ddefnyddio deunyddiau o’r
adeilad i’w ddymchwel
6. Nwyddau dŵr glaw alwminiwm
7. Manylion manwl y paneli solar
8. Manylion unrhyw oleuadau i’w cytuno
9. Manylion unrhyw arwyddion i’w cytuno
10. Rhaid cyflwyno manylion i sgrin wrth y
grisiau cyn eu gosod
11. Rhaid
cyflwyno manylion o sut i gofnodi hoel y gampfa cyn eu dymchwel
12. Cyflwyno samples o’r deunyddiau
13. Defnyddio calch gydag unrhyw waith
pwyntio / render
Dogfennau ategol: