Codi 25 o
dai fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau o'r B4354 ynghŷd â gwaith
cysylltiedig
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod y cais yn groes i’r
argymhelliad
Rheswm: Ar sail diffyg angen am y tai
fforddiadwy sydd wedi eu lleoli ar y rhan o’r safle sy’n ffurfio safle eithrio
O ganlyniad, bydd y cais yn cael ei gyfeirio
at gyfnod cnoi cil ac yn dychwelyd i’r Pwyllgor ar ddyddiad arall gydag
adroddiad yn amlygu risgiau sydd yn codi o’r rheswm gwrthod yma a’r rhesymau a
nodwyd gan yr Aelod Lleol yn ystod y Pwyllgor.
Cofnod:
Tir cyfochrog
â Brynhyfryd / Cae Capel, Chwilog, LL53
6SF
Codi 25 o dai fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau o'r B4354
ynghyd â gwaith cysylltiedig
a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod mwyafrif o ardal y cais llawn yma o fewn safle oedd wedi ei
dderbyn a’i glustnodi fel un addas ar gyfer datblygiad preswyl trwy ei
ddynodiad ffurfiol yn y CDLl ar gyfer y bwriad
penodol yma. Nodwyd bod statws pentref Chwilog (pentref a ddiffinnir fel
Pentref Gwasanaeth o fewn y CDLl) yn golygu mai tai
newydd ar gyfer gwasanaethu Gwynedd yn ei gyfarwydd sydd yn ddisgwyliedig ar
gyfer y safle fel yn achosion safleoedd cyffelyb eraill sydd wedi eu dynodi
trwy’r Sir. Tynnwyd sylw at y ffaith bod rhan yng ngogledd orllewin y safle y
tu allan i ddynodiad y ffin datblygu ei hun ac felly ystyriwyd y rhan yma fel
safle eithrio.
Eglurwyd bod ffordd gyhoeddus dosbarth 2 y
B4354 yn rhedeg yn gyfochrog gyda ffin ogleddol y safle; bod tai preswyl yn
ymylu yn uniongyrchol gyda ffin ddwyreiniol y safle, a thai preswyl hefyd yr
ochr arall i’r ffordd i’r gogledd. Nodwyd bod rhan o’r safle sydd y tu allan
i’r ffin datblygu yn ymylu gyda rhan gogledd orllewin y prif safle ac yn
bresennol yn ffurfio rhan o gwrtil eiddo preswyl cyfochrog - fferm Brynhyfryd.
Bydd y cynnig, yn benodol, yn cynnwys 6 fflat
un ystafell wely, 9 tŷ dwy ystafell wely, 8 tŷ tair ystafell wely a 2
byngalo dwy ystafell wely – y datblygiad arfaethedig yn cynnig tai 100% o dai
fforddiadwy gyda chymysgedd o ran deiliadaeth yn cael ei ddarparu. O ran
edrychiad, bydd y tai wedi’u gorffen mewn cymysgedd o ddeunyddiau i gyfleu
gwahanol arddulliau ac i amrywio’r edrychiad ar y safle.
Adroddwyd bod y Pwyllgor Cynllunio eisoes
wedi cymeradwyo'r egwyddor o ddatblygiad preswyl ar y safle dynodedig yma ar
dri achlysur yn y gorffennol, ac fe amlygwyd bod yr ystyriaethau polisi a wnaed
i’r ddau gais ddiweddar yn parhau yr un fath – ystyriwyd bod cyfiawnhad ac
angen ar gyfer y bwriad, a’i fod yn parhau i gyfarch anghenion y gymuned leol.
Cyflwynwyd gwybodaeth fel rhan o’r cais gan yr Uned Strategol Tai yn dangos yr
angen yn glir.
Yng nghyd-destun y tir sydd y tu allan i’r
ffin datblygu a’r dynodiad sy’n ffurfio safle eithrio, eglurwyd mai gofynion
polisi TAI 16 oedd yn berthnasol i’r elfen yma o leoli 4 tŷ yn y rhan yma
o’r safle (2 dŷ tair ystafell wely, 1 tŷ dwy ystafell wely ac 1
byngalo dwy ystafell wely). Ategwyd, o ran ystyriaeth i’r galw am y 4 tŷ,
mae diffiniad lleol ar eu cyfer sy’n cynnwys pentref Chwilog ei hun ynghyd a’r
ardal wledig gyfagos (sef pellter o 6km o safle'r cais a holl ardal unrhyw Gyngor
Cymuned sy'n cael ei rhannu gan y pellter 6km, gan eithrio eiddo o fewn ffin
ddatblygu unrhyw anheddiad oni bai am yr anheddiad hwnnw lle mae’r cais wedi’i
leoli). Amlygwyd bod gwybodaeth ar gyfer yr angen am dai fforddiadwy wedi ei
gyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio ac
y byddant yn cael eu darparu fel tai ar rent canolraddol a chymdeithasol -
byddai 2 uned dwy ystafell wely ar gyfer rhent cymdeithasol ar gyfer angen
lleol yn Chwilog.
Nodwyd bod ffigurau angen ar gyfer Chwilog
(rhent cymdeithasol) yn dangos rhai sydd a chysylltiad lleol gyda 7 ar y rhestr
sydd angen ty 2 ystafell wely a gyda chysylltiad
lleol. Yng nghyd-destun y 2 dŷ fyddai’n cael eu gosod ar rent canolraddol,
mae gwybodaeth oddi ar restr Tai Teg yn cadarnhau bod 3 ar y rhestr yn byw yn
Chwilog a gyda chysylltiad lleol, ac felly yn gymwys ar gyfer yr unedau. Ar
sail y wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais, ystyriwyd bod angen
addas wedi ei gadarnhau ar gyfer y datblygiad, a bod y rhan o'r bwriad sydd
wedi ei leoli y tu allan i’r ffin, yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r pentref.
Yng nghyd-destun yr Iaith Gymraeg, roedd yr
Uned Iaith yn eu hymateb i’r ymgynghoriad, yn datgan fod yr asesiad ieithyddol
a gyflwynwyd yn gynhwysfawr, gan edrych ar hanes datblygiadau yn yr ardal,
ardal astudiaeth gynhwysfawr a dadansoddiad o’r sefyllfa ieithyddol gyfredol.
Roeddynt hefyd yn nodi fod y datganiad yn cynnwys rhagdybiaethau rhuglder
darpar denantiaid, a’r effaith ieithyddol posib, a bod yr asesiad wedi
cadarnhau’r angen yn lleol. Cydnabuwyd bod pryderon wedi eu codi ynglŷn
â’r bwriad, ond nad oedd tystiolaeth anatebol wedi ei gyflwyno i ddangos y
byddai’r bwriad yn cael effaith niweidiol ar yr Iaith. O ganlyniad, ystyriwyd
bod y bwriad yn dderbyniol o ran polisi PS1 a’r canllaw cynllunio atodol
perthnasol.
Yng ngyd-destun
mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion y
pentref a ni ystyriwyd y byddai’n cael effaith weledol sylweddol ar y dirwedd
ac y byddai yn ffitio o fewn cyd-destun adeiledig yr ardal bresennol a
chydweddu gyda gweddill y pentref. Roedd y adroddiad hefyd yn cynnwys asesiad
llawn o’r bwriad diwygiedig ar fwynderau cyffredinol a phreswyl, ac ni
ystyriwyd fod y bwriad yn debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar y
trigolion cyfagos.
Ategwyd bod materion trafnidiaeth,
bioamrywiaeth, isadeiledd ac archeolegol, wedi derbyn sylw ac asesiad llawn ac
ystyriwyd fod y materion yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau cynllunio.
Yng nghyd-destun llecynnau agored, cyferiwyd at y cynllun arfaethedig oedd yn cynnwys darparu
man agored cyhoeddus yng nghornel de dwyreiniol y safle fyddai hefyd yn cynnwys
ardal draenio gynaliadwy. Eglurwyd, gan nad oedd posib darparu cyfarpar chwarae
ar y rhan yma, bydd cyfraniad ar gyfer darparu cyfarpar mewn lleoliad arall yn
berthnasol.
Yng nghyd-destun materion addysgol, nodwyd
bod capasiti ar gael o fewn yr Ysgol leol mewn
cyswllt a’r datblygiad yma, ond fel sydd wedi digwydd ar gyfer y safleoedd
eraill a ddynodwyd o fewn pentref Chwilog fe’i hystyriwyd yn hanfodol fod y tri
safle a ddynodwyd yn cael ystyriaeth o ran yr effaith ar addysg yn lleol. O
ganlyniad, amhosib fyddai darogan pa safle fyddai’n cael ei ddatblygu yn gyntaf
ac na fyddai’n rhesymol i’r datblygwr cyntaf dalu cyfraniad uwch. Felly er
tegwch, penderfynwyd y byddai’r cyfraniadau yn cael eu rhannu yn gyfartal fel y
byddai’r tri safle dynodedig yn wynebu’r un costau, ac i’r perwyl hyn roedd
angen cyfraniad addysgol ar gyfer y cais.
Ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda
gofynion polisïau lleol a chenedlaethol ac felly roedd y swyddogion yn argymell
caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytundeb 106 neu unochrog ar gyfer
cyfraniad llecyn agored ac addysgol ac i amodau perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol;
·
Bod mwyafrif o bobl Chwilog yn erbyn y cais
·
Bod llawer o stadau wedi
eu hadeiladu’n barod yn y pentref yn y blynyddoedd diwethaf ac y byddai
adeiladu mwy yn cael effaith negyddol ar y gymuned, yn cynnwys yr ysgol a’r
iaith Gymraeg
·
Nad oedd digon o
gyfleusterau yn y pentref i ganiatáu mwy o bobl yn y pentref - dim siop,
swyddfa bost na gwasanaeth bws rheolaidd
·
Pryderon iechyd a
diogelwch am asesiad risg y safle - bod y palmant o’r fynedfa yn gorffen ar
ffin clawdd y ‘telephone exchange’.
Golygai hyn bydd trigolion fydd yn defnyddio’r palmant yn gorfod camu allan i’r
ffordd i barhau a’u siwrne - peryg iawn i’r henoed, yr anabl a phlant
·
Ar ran Cadnant, bod
cwmni o’r enw SAP Transport Planning wedi gwneud arolwg o ran nifer, maint a
chyflymdra cerbydau sydd yn mynd i fyny a lawr y pentref - y data yn amlygu, o
gyfeiriad Y Ffor, ymddengys bod 85% o gerbydau yn gwneud mwy na 20mya ac o gyfeiriad
Cricieth, bod 60% yn gwneud dros 20mya - hyn angen sylw Uned Priffyrdd y
Cyngor. Yr arolwg wedi ei gwblhau ym mis Chwefror, mis distawaf y flwyddyn, a
phetai wedi ei gynnal ym misoedd prysuraf yr Haf, byddai hyn yn cyflwyno casgliadau gwahanol iawn ac yn amlygu bod y
datblygiad wedi ei leoli ar ochr ffordd brysur iawn
·
Bod y Cyngor wedi
altro'r twmpathau cyflymder yn y pentref a bod angen arolwg pellach i brofi bod
y twmpathau wedi gwneud gwahaniaeth i arafu cyflymder traffig.
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr asiant y sylwadau canlynol:
·
Bod y cais yn cael ei
gyflwyno ar y cyd rhwng Grŵp Cynefin a Williams Homes Y Bala i gyfarch yr
angen cynyddol am dai fforddiadwy.
·
Bydd y datblygiad yn
cael ei arwain gan Grŵp Cynefin gyda chefnogaeth Grant Tai Llywodraeth
Cymru o dan reolaeth Cyngor Gwynedd drwy
raglen datblygu - y grant wedi ei glustnodi i ddatblygu’r cynllun o fewn y flwyddyn
ariannol yma
·
Bod rhan fwyaf o’r safle
o fewn dyraniad tai'r CDLl ac wedi ei ddynodi ar
gyfer 20 o dai
·
Bod caniatâd cynllunio
ar gyfer 21 o dai, i gynnwys 7 tŷ fforddiadwy ar y safle ers 2017, sydd
wedi ei adnewyddu yn 2022 ac yn parhau’n ddilys a gall ei weithredu - y
caniatâd wedi ei gymeradwyo yn unol â’r CDLl sydd yn
parhau yn weithredol ac felly'r sefyllfa rhwng y caniatâd cyfredol a’r cais dan
sylw yn gymharol ac yn fater cynllunio perthnasol i’w ystyried gan y pwyllgor
·
Bod Cynefin wedi
cydweithio’n agos gyda’r Adran Tai i sicrhau bod y math a'r cymysgedd tai yn
cefnogi’r Strategaeth Tai ac yn ymateb i’r argyfwng tai
·
Bod yr Uned Strategol
Tai wedi cadarnhau bod y bwriad yn cyfarch yr angen am dai
·
Bod ymgynghori helaeth
wedi bod yn gyhoeddus; wedi cyfarfod gyda’r Cyngor Cymuned a’r Aelod Lleol cyn
cyflwyno cais; wedi trafod gyda’r Adran Cynllunio ac ymgynghorwyr statudol
·
Bod trafodaethau gyda’r
Adran Priffyrdd wedi arwain at newidiadau megis gwella diogelwch ffyrdd drwy
uwchraddio ‘speed cushion’
gerllaw i fod yn ‘raised table’
a gosod man croesi ffurfiol i gerddwyr
·
Bod asesiad ieithyddol
cynhwysfawr wedi ei gyflwyno ac nad oedd tystiolaeth y byddai’r bwriad yn cael
effaith niweidiol ar yr Iaith – yn cyfarch Polisi PS1
·
Bod y Polisi Gosod yn
cyfarch cysylltiadau lleol a chanran uchel o siaradwyr Cymraeg - y polisi wedi
derbyn ystyriaeth gan Comisiynydd yr Iaith oedd wedi nodi bod y polisi yn gwbl
briodol
·
Byddai’r bwriad yn
darparu tai i bobl leol.
ch) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr
Aelod Lleol y sylwadau canlynol:
·
Ei fod yn gwrthwynebu’r
cais
·
Bod y Cyngor Cymuned yn
unfrydol wedi gwrthod y cais
·
Bod bron pawb o’r
pentref yn erbyn y datblygiad - deiseb wedi ei llofnodi gan 160 o drigolion
mewn byr amser (nifer sylweddol mewn pentref o faint Chwilog). Bod seiliau
clir, priodol dros wrthwynebu ar y ddeiseb - y bwriad yn ddatblygiad mawr; nad
oedd tystiolaeth o’r angen lleol o’r raddfa yma; byddai’n newid cymeriad y
pentref; yn arwain at effaith ieithyddol andwyol; yn cael effaith ar draffig ac
isadeiledd
·
Dim e-bost yn nodi
sylwadau llawn y Cyngor Cymuned wedi ei gynnwys yn yr adroddiad, ond gwybodaeth
y datblygwr yn cael ei gynnwys yn llawn - dim chwarae teg i lais y gymuned leol
- hyn yn sail ynddo’i hun i wrthod
·
Bod sawl sail gwrthod:
·
Twf nas rhagwelwyd yn
iawn ac yn anghydnaws a Polisi TAI3 - hwn yn ddatblygiad o raddfa fawr ac yn mynd i newid y pentref
·
Yn groes i bolisi ISA2
ac ISA 1 - nid oes isadeiledd priodol yn ei le, dim llawer o wasanethau a dim lle digonol yn yr ysgol leol. Bod lefelau
traffig yn uchel a dim llwybrau addas allan o’r pentref i fannau eraill
·
Dynodiad tai Chwilog yn
y CDLl yw 38, ond bod 36 eisoes wedi eu hadeiladu yn
ystod bywyd y CDLl cyfredol. Byddai 25 ychwanegol
ymhell dros y dynodiad o 38 fyddai’n arwain at or-ddatblygu - cynnydd o 10% yn stoc tai y pentref a bron yn
dyblu’r stoc tai cymdeithasol mewn un cais
·
Methiant bodloni Polisi
PS1 a TAN 20 - angen asesiad trylwyr ac ystyrlon o’r effaith ieithyddol - dim
modelu meintiol effaith 25 uned na mesurau lliniaru yn cael eu hargymell e.e.,
polisi gosod lleol. Yn ogystal, nid oedd cynllun gweithredu ar gyfer y
datblygiad gyda’r Gymraeg na thystiolaeth sut caiff cymeriad ieithyddol Chwilog
ei ddiogelu. Hyn yn gwneud y datblygiad yn groes i PSI, TAI 3 ac egwyddorion
TAN 20. Dim ystyriaeth i ostyngiad canran siaradwyr dros amser gyda throsiant
tai nac ystyriaeth i drigolion y tai newydd (yn fwy na thebyg, nid yw'r rhain
wedi eu dilysu yn llwyr gan y Cyngor Sir). Nid yw’r data chwaith yn dilysu
iaith aelwydydd na defnydd iaith y pentref. Chwilog ymysg yr uchaf yn Nwyfor gyda 80% o siaradwyr Cymraeg - y cais yn groes i PS
1 is-gymal 4. Ni ddylid caniatáu ceisiadau fydd yn gwneud niwed ieithyddol -
hwn yn ddatblygiad rhy fawr, yn rhy fuan sydd yn bygwth capasiti
ieithyddol y pentref
·
Yn groes i Polisi TA1 8
is-gymal 4 - lle dylid sicrhau cymysgedd cywir o dai a deiliadaeth i ddiwallu
anghenion cymunedol presennol yr ardal -
does dim cymysgedd o ddeiliadaeth - yn dyblu'r stoc tai cymdeithasol mewn un
cais
·
Bod y data yn groes i’r
hyn sy’n cael ei argymell gan Polisi Cynllunio Cymru – sef yr angen am ddata
lleol wedi ei berthnasu yn lleol - yma
ceir data o ddiddordeb rhanbarthol eang sydd yn rhoi cam argraff o wir angen y
pentref
·
Y tai tu allan i’r ffin
datblygu - Polisi TAI 16 yn nodi bod rhaid iddynt fod yn ddarostyngedig i gymal
preswylfa leol. Addewid sydd yma - addewid gwag? Angen amod lleol 106 i sicrhau
bod y 4 tŷ i bobl leol
·
Bod sawl sail i wrthod y
cais ac felly’n annog y Pwyllgor i’w wrthod
d)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
dd) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod y bwriad yn rhan o
Strategaeth Tai Gwynedd
·
Mwyafrif o’r safle o
fewn y ffin datblygu
·
Bod caniatâd eisoes yn
bodoli ar y safle ar gyfer 21 o dai
·
Bod 79 o enwau ar y
rhestr tai
·
Y bwriad yn cynnig 100%
o dai fforddiadwy
·
Cymysgedd priodol o dai
·
Bod angen asesiad iaith
gadarn a thrylwyr. Y datganiad ieithyddol wedi ei gyflwyno gan y datblygwr -
sut felly gellid dod i gasgliad pendant?
·
Pryder am yr effaith ar
yr iaith Gymraeg. Gall dyfodiad eraill i’r pentref danseilio’r boblogaeth
Gymraeg sydd eisoes yn y pentref
·
Bod methiant i
gydymffurfio gyda Polisi TAI 3 - bod angen i’r datblygiad fod yn gymesur a
graddfa’r pentref
·
Bod rhai unedau tu allan
i'r ffin datblygu - angen mecanwaith yn ei le i sicrhau bod cytundeb 106 arnynt
·
Yn groes i Bolisi PCYFF
2 – yn creu effaith andwyol ar y gymuned leol
·
Bod 36 tŷ eisoes
wedi eu hadeiladu. Capasiti y pentref, yn unol ar CDLl, oedd 38. Byddai unrhyw beth yn fwy na 38 yn ormod ac
ni fydd Chwilog yn gallu cefnogi’r gymuned
·
Bod unrhyw ddatblygiadau
tai angen ffitio yn rhesymol i’r pentref - 25 yn ormod yn rhy sydyn
·
Bod angen edrych ar
Bolisi Gosod Tai Gwynedd
·
Byddai’r caniatâd
cyfredol o 7 tŷ fforddiadwy wedi bod yn dderbyniol - pam dim parhau gyda
hyn?
·
Sut mae tystiolaethu’r
angen lleol? Angen asesiad manwl lleol wedi ei gefnogi gan ymchwil eang - pam
nad oes sylwadau gan yr Hwylusydd Tai Lleol?
·
Yn gyffredinol, nid yw
unedau ar gyfer 1 person yn hawdd i’w llenwi
·
Nid yw’r cyfraniad
addysgol yn ddigonol
·
Bod y tai wedi eu gwasgu
at ei gilydd – hyn yn debygol o arwain at anghydfod rhwng tenantiaid
·
Nad oedd sicrwydd o’r
cyfiawnhad i dai lleol yn y safle eithriedig
·
Bod y Cyngor Cymuned
wedi gwrthod y cais yn unfrydol
·
Amheuaeth am y ‘galw
lleol’ am dai
·
Nad oedd lle digonol yn
yr ysgol
·
Bod Cymdeithasau Tai yn
‘arwain ‘ ar yr hyn sydd orau - onid y farn leol sydd bwysicaf? Y farn leol yn
yr achos yma yn hollol glir - 25 o anheddau yn ormod i bentref o faint Chwilog.
Angen gwrando ar lais y gymuned leol – deiseb wedi ei chyflwyno
·
Bod Chwilog yn ardal o
arwyddocâd ieithyddol Gymraeg
·
Tai cywir yn y lle
anghywir. Newid rhy fawr yn rhy gyflym fydd yn cael effaith ar gymeriad y
pentref
e)
Mewn ymateb i’r sylwadau
nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod gwybodaeth am gyflenwad dangosol Chwilog wedi
ei egluro yn glir yn yr adroddiad ynghyd â thystiolaeth am yr angen - bod
cyfiawnhad penodol am yr angen sirol wedi ei dystiolaethau a’r rhesymeg dros y
4 tŷ (sydd wedi eu lleoli tu allan i’r ffin datblygu) fydd yn gyfyngedig
i’r angen lleol. Ategodd bod sylwadau’r Uned Iaith yn nodi bod y datganiad
ieithyddol a gyflwynwyd yn un manwl.
Ategodd y Swyddog Monitro mai rôl statudol y
Pwyllgor oedd gwneud penderfyniadau gwrthrychol ar sail tystiolaeth. Nododd y
byddai’r 4 tŷ ar y safle eithrio gydag amodau penodol yn unol â gofynion;
bod hanes cynllunio yn amlygu bod caniatâd eisoes wedi ei roi ar gyfer 20 o dai
ar y safle dynodedig fyddai’n cynnwys 7 tŷ fforddiadwy. Gyda thystiolaeth
am yr angen a barn wedi ei fynegi am effaith ar yr iaith, rhaid i’r pwyllgor
gyflwyno tystiolaeth i’r gwrthwyneb os am wrthod y cais.
f)
Gwnaed cynnig am
bleidlais gofrestredig:
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y
bleidlais ganlynol ar y cynnig i ganiatáu’r cais:-
O blaid: 3 -
Cynghorwyr Elwyn Edwards, Edgar Owen, Anne Lloyd Jones
Yn erbyn: 10 - Cynghorwyr Elin Hywel, Cai
Larsen, Gareth A Roberts, Berwyn Parry Jones, Delyth Lloyd Griffiths, Gareth
Tudor Jones, Huw Rowlands, Louise Hughes, John Pughe Roberts a Gruffydd
Williams
Yn atal: 0
Disgynnodd y cynnig.
Cynigwyd ac eiliwyd gwrthod y cais ar sail
diffyg angen am y tai fforddiadwy sydd wedi eu lleoli ar y rhan o’r safle sy’n
ffurfio safle eithrio
Mewn ymateb nododd y Pennaeth Cynorthwyol,
petai’r cais yn cael ei wrthod byddai yn cyfeirio’r cais i gyfnod o gnoi cil.
PENDERFYNWYD
Gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad
Rheswm: Ar sail diffyg angen am y tai fforddiadwy sydd wedi
eu lleoli ar y rhan o’r safle sy’n ffurfio safle eithrio
O ganlyniad, bydd y cais yn cael ei gyfeirio at gyfnod cnoi
cil ac yn dychwelyd i’r Pwyllgor ar ddyddiad arall gydag adroddiad yn amlygu
risgiau sydd yn codi o’r rheswm gwrthod yma a’r rhesymau a nodwyd gan yr Aelod
Lleol yn ystod y Pwyllgor.
Dogfennau ategol: