Agenda item

Amnewid ceblau tanddaearol presennol a gosod ceblau tanddaearol traws-safle newydd yn is-orsaf presennol Pentir yn ogystal a gwaith cysylltiol.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

  1. 5 mlynedd
  2. Yn unol â'r cynlluniau, hol argymhellion y dogfennau ac asesiadau, a'r Datganiad Amgylcheddol a gymeradwywyd
  3. Amodau Gwarchod y Cyhoedd
  4. Amodau Cefnffyrdd
  5. Cydymffurfio â’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.
  6. Sicrhau arwyddion dwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r Gymraeg.
  7. Rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol Gynllun Rheoli Traffig Adeiladu (CTMP) fydd yn bodloni Llywodraeth Cymru, fel Sefydliad Goruchwylio ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN).

 

Cofnod:

Amnewid ceblau tanddaearol presennol a gosod ceblau tanddaearol traws-safle newydd yn is-orsaf bresennol Pentir yn ogystal â gwaith cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr -  cyfarwyddyd i osod amod gan Uned Trafnidiaeth Y Cynulliad

 

a)           Amlygodd y Swyddog Cynllunio bod y bwriad yn rhan o brosiect ehangach ar gyfer atgyfnerthu llinellau uwchben a cheblau ar y cylchedau presennol rhwng is-orsafoedd Pentir a Thrawsfynydd; y Prosiect yn rhan o'r uwchraddiadau trawsyrru rhwydwaith ehangach sydd eu hangen i hwyluso'r gwaith o gysylltu 50 Gigawat o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030.

 

Eglurwyd y byddai’r gwaith arfaethedig yn cael ei gynnwys yn llwyr o fewn ôl-troed presennol Is-orsaf Pentir ac yn defnyddio’r ffordd fynediad presennol, yr ardaloedd storio, y cyfleusterau lles, ystafelloedd swyddfa, a’r maes parcio staff. Cyfeiriwyd at y Datganiad Amgylcheddol oedd yn darparu trosolwg o'r Prosiect, y prif ddewisiadau amgen a gafodd eu hystyried wrth ddatblygu'r Prosiect (lle bo’n briodol), gwybodaeth am yr amgylchedd presennol, ac asesiad o effeithiau arwyddocaol tebygol y Prosiect. Lle bo’n briodol, nodwyd bod mesurau lliniaru wedi cael eu cynnwys i osgoi, atal, lleihau neu wrth bwyso effeithiau amgylcheddol niweidiol arwyddocaol.

 

Bydd cynyddu capasiti ar y llinell drawsyrru bresennol rhwng is-orsafoedd Pentir a Thrawsfynydd yn cael ei nodi fel cam y mae angen ei gymryd ar frys i ddarparu mwy o gapasiti trawsyrru, ac yn cael ei gydnabod gan Ofgem

 

Cyfeiriwyd at bolisi ISA 1 sydd yn gefnogol i gynigion am wasanaethau dŵr, trydan, nwy ac ati i wella’r ddarpariaeth leol, yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl. Yng nghyd-destun polisi ADN 3, er nad yw’r datblygiad yn gynllun ynni adnewyddadwy ynddo’i hun, byddai’n ffurfio rhan o’r rhwydwaith cefnogol a ellid ei ddefnyddio wrth reoli’r cyflenwad adnewyddadwy. I’r perwyl hynny gellid ei ystyried yn rhan o’r rhwydwaith ynni adnewyddadwy. Gwnaed asesiad trylwyr o’r meini prawf perthnasol ac ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol o ran egwyddor ac yn cydymffurfio gyda Maen Prawf 1 Polisi ADN3 o safbwynt  bod yr holl effeithiau wedi eu lliniaru yn ddigonol. Yn yr un modd nodwyd bod polisïau PCYFF 5, PS 5 , PS 6 a PS 7 yn gefnogol o gynlluniau i ddatblygu technolegau adnewyddadwy sy’n cyfrannu tuag at amddiffyn yr amgylchedd a lliniaru newid hinsawdd a’r cynllun yma felly yn cwrdd gydag amcanion y polisïau hyn.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, unwaith y bydd yn weithredol ni fydd unrhyw alw am fynediad cerbydol ychwanegol i’r safle ac ni fydd unrhyw effeithiau hirdymor ar ddiogelwch y briffordd yn deillio o’r datblygiad. Nodwyd bod Uned Trafnidiaeth Y Cynulliad yn fodlon gyda’r datblygiad yn ddarostyngedig i amodau ac o ganlyniad ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi TRA 2 a TRA 4 o’r CDLl o safbwynt diogelwch a hwylustod y briffordd.

 

O ran materion treftadaeth ac archaeoleg, amlygwyd bod nifer o Henebion Rhestredig yng nghyffiniau'r safle. Nododd Heneb bod yr asesiad desg yn un trylwyr iawn ac wedi’i ysgrifennu’n dda ac roeddynt yn cytuno a chasgliad yr Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA); y cais felly yn dderbyniol o dan bolisïau PS 20 -  effaith ar nodweddion treftadaeth ac AT 4 y CDLl - amddiffyn safleoedd o bwysigrwydd archeolegol rhag niwed.

 

Cyflwynwyd Datganiad Iaith Gymraeg fel rhan o’r cais oedd wedi ystyried effeithiau posibl gwaith arfaethedig Pentir ar y defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned leol. Er na nodwyd unrhyw effeithiau andwyol yn yr asesiad, cynigiwyd mesurau i sicrhau bod y defnydd o'r Gymraeg yn cael ei gynnal. Cyflwynwyd hefyd Ddatganiad Amgylcheddol oedd wedi asesu'r effaith ar yr amgylchedd, a daethpwyd i’r casgliad, gydag amodau cynllunio, y byddai modd lliniaru yn erbyn effeithiau'r datblygiad yn foddhaol, ac y gellir gwarchod nodweddion amgylcheddol.

 

Ystyriwyd bod yr effeithiau gweledol a thirwedd yn dderbyniol oherwydd bod y gwaith o fewn safle sydd wedi ei ddatblygu eisoes a bod y datblygiad yn diogelu mwynderau eiddo preswyl o amgylch y safle yn foddhaol.

 

Adroddwyd y byddai’r datblygiad arfaethedig yn ymestyn ac yn gwella cysylltiadau trydan ar draws Gogledd Cymru gyda’r buddion economaidd wedi'u cydnabod. Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, roedd y swyddogion yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau

 

b)           Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Bod y cais yn cynnwys gwaith fydd yn digwydd o fewn Is-orsaf bresennol Pentir National Grid ac yn rhan o’r Prosiect Pentir i Trawsfynydd fydd yn atgyfnerthu ac

adnewyddu'r llinell bresennol rhwng Pentir a Thrawsfynydd.

·        Bydd y gwaith yn darparu mwy o gapasiti yn y rhwydwaith, ac yn caniatáu i'r rhwydwaith fod yn fwy diogel drwy alluogi mwy o ynni glân i gyflenwi cartrefi a busnesau. 

·        Bydd y gwaith sydd yn ffurfio rhan o’r cais fel arfer yn cael ei ystyried fel 'datblygiad a ganiateir'. Fodd bynnag, oherwydd bod y gwaith yn ffurfio rhan o’r Prosiect Pentir i Trawsfynydd, gyda cheisiadau cynllunio i ddod gerbron y Pwyllgor Cynllunio yn y misoedd nesaf, mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith. 

·        Bydd y gwaith sydd yn cael ei gynnig fel rhan o'r cais yn digwydd o fewn ffiniau presennol safle Is-orsaf Pentir ac yn cynnwys amnewid y ceblau dan ddaear presennol ynghyd a gosod ceblau dan ddaear newydd ar draws y safle.

·        Bod y swyddogion cynllunio yn mynegi bod y gwaith yn dderbyniol ac yn argymell  caniatáu gydag amodau. 

·        Ei fod yn gofyn yn garedig i’r Pwyllgor gefnogi’r cais, sydd yn ffurfio rhan allweddol o’r gwaith i atgyfnerthu'r rhwydwaith rhwng Pentir a Thrawsfynydd

 

c)           Nododd y Swyddog Monitro bod yr Aelod Lleol (y Cynghorydd Menna Baines) wedi nodi mewn e-bost nad oedd ganddi wrthwynebiad i’r argymhelliad.

 

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

         PENDERFYNWYD Caniatáu gydag amodau

 

1.     5 mlynedd

2.     Yn unol â'r cynlluniau, hol argymhellion y dogfennau ac asesiadau, a'r Datganiad Amgylcheddol a gymeradwywyd

3.     Amodau Gwarchod y Cyhoedd

4.     Amodau Cefnffyrdd

5.     Cydymffurfio â’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.

6.     Sicrhau arwyddion dwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r Gymraeg.

7.     Rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol Gynllun Rheoli Traffig Adeiladu (CTMP) fydd yn bodloni Llywodraeth Cymru, fel Sefydliad Goruchwylio ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN).

 

 

Dogfennau ategol: