I dderbyn diweddariad gan gynrychiolwyr:
· Network Rail
· Trafnidiaeth Cymru
· Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
· Arall
Cofnod:
Trafnidiaeth Cymru (TrC)
Croesawyd James Nicholas (Partner Cefnogi
Busnes, Trafnidiaeth Cymru) i’r cyfarfod.
Fflyd Trenau newydd Dosbarth 197
·
Bydd y trenau newydd yn cael eu
cyflwyno i wasanaeth ym mis Medi 2026.
Nododd y byddai trenau Dosbarth 197 yn fwy dibynadwy ac yn perfformio yn well –
wedi eu cynllunio i fod yn fwy hygyrch na'r trenau Dosbarth 158 hŷn; bod
drysau canolog ar y trenau yn cynorthwyo teithwyr i fynd ar ac oddi ar y trên
yn haws, yn ogystal â symud rhwng cerbydau. Er y gallu i deithio ar gyflymder o
100mya, ni fydd addasiadau i’r amserlen, ond y gobaith yw y bydd y trenau yn
cyrraedd a gadael ar amser
·
Bod bwriad gyrru un o’r trenau
newydd i Aberystwyth yn ystod yr haf gan wahodd rhanddeiliaid i weld y trên a
chwrdd â rhai aelodau o’r Tîm Gweithrediadau sydd wedi bod yn gweithio ar y
prosiect.
·
Hyfforddiant gyrwyr yn parhau, a
hyfforddiant rheolwyr trên yn dechrau ym mis Mehefin
·
Bod gosod CET (tanciau gwaredu gwastraff toiledau), wedi'i
gymeradwyo ar gyfer Pwllheli gyda gobaith i’r gwaith gael ei gwblhau ym mis
Awst.
·
Twmpathau Harrington yn cael eu
gosod mewn 6 gorsaf ar yr arfordir
·
Platfform yn cael ei addasu yng
ngorsafoedd Abermaw, Harlech a Phorthmadog
Yng nghyd-destun perfformiad, adroddwyd bod
482 o wasanaethau wedi eu rhedeg rhwng Ebrill a Mai, oedd yn fwy nag unrhyw
gyfnod arall yn y flwyddyn. Ategwyd bod perfformiad ‘cyrraedd ar amser’ wedi
gostwng ychydig, ond yn parhau i fod yn uwch na lefelau targed Cymru. O ran
teithiau sydd wedi eu canslo, bod y rhain islaw 2%, ac eto yn well na
chyfartaledd Cymru.
Ar gyfer tymor yr Haf, bydd bwriad rhedeg
trenau 4 cerbyd ar hyd yr arfordir, yn amodol ar effaith hyfforddiant criwiau
trên ar gyfer y trenau newydd.
Bod bwriad rhedeg y trên cysgu
moethus Britannic
Explorer ar y Cambrian, gyda chynllun wedi ei
ddatblygu fel nad yw'n cael effaith ar ganslo unrhyw wasanaethau teithwyr.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn treialu addasiadau
i amserlen yr arfordir gydag ymadawiadau ychydig yn hwyrach, felly anogwyd pawb
i wirio amseroedd cyn teithio
Diolchwyd i James am y diweddariad
Sylwadau a materion yn codi o’r drafodaeth
ddilynol:
·
Yn llongyfarch Trafnidiaeth Cymru
ar welliant mewn perfformiad, er hynny nifer oriau gwasanaeth yn llawer llai o
gymharu gyda gweddill Cymru (trenau'n rhedeg oddeutu pob 2 awr (dydd Llun -
dydd Sadwrn) ac yn llai aml ar ddydd Sul).
·
Yn croesawu’r bwriad o gyflwyno
trenau 4 cerbyd dros yr Haf
·
Trenau ar amser, cynnydd yn y
defnydd, nifer digwyddiadau mewn trefi lleol yn cael eu cefnogi gan ddefnydd y
trên – y gobaith yw y gall hyn arwain at drenau yn rhedeg pob awr. Bydd cynnydd
mewn defnydd hefyd yn arwain at gynnydd mewn cyflogaeth.
·
Cais i gadw’r trenau hwyr ar
amserlen gaeaf 2026/27
·
Pryder yn y nifer achosion lle nad
yw teithwyr yn talu, neu'r tocynnwr ddim yn cyrraedd at deithwyr, ac felly nid
ydynt yn gynwysedig yn nata nifer defnyddwyr.
Y Pwyllgor yn dymuno peidio gweld cyfanswm gwerthiant tocynnau fel yr
unig fodd o fesur nifer defnyddwyr - rhaid cael ffigyrau cywir.
·
Mewn Cynhadledd ddiweddar bu i
Mark Hooper, cyn Ddirprwy Weinidog Trafnidiaeth
Llywodraeth Cymru, ddiolch i Trafnidiaeth Cymru am y buddsoddiadau i
gysylltiadau gyda Lerpwl a Manceinion er ymddengys bod llefydd yng Nghymru
angen mwy o fuddsoddiad. Er yn llongyfarch hyn, angen sicrhau cefnogaeth i
Reilffordd y Cambrian a gobaith y bydd buddsoddiad
i’r dyfodol ac ystyriaeth i drenau pob awr.
·
Ymddengys bod Phil Cauldwell (Rheolwr Croesfan Harlech) wedi ymddeol – a oes person arall wedi cael ei
benodi yn ei le?
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Chompownd Machynlleth a’r nifer sydd yn cael eu cyflogi
yno, nodwyd bod nifer o elfennau’r gwasanaeth trên yn cael eu cynnal yno - yn
ganolfan ar gyfer peirianwyr, gyrwyr, tocynwyr, glanhawyr ac arlwyo. Nid oedd
gan y swyddog wybodaeth i law, ond bod modd cael at y wybodaeth ac adrodd yn
ôl.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phrinder
biniau mewn gorsafoedd, nodwyd bod cyfraith ailgylchu yn golygu bod angen tri
bin ymhob gorsaf yn hytrach nag un ar gyfer gwastraff cyffredinol ac un ar
gyfer ailgylchu. Ategodd bod darparu lle addas ar gyfer y biniau mewn
gorsafoedd yn fater sy’n derbyn dipyn o sylw gan y Tîm Cynaliadwy sy'n gweithio
i wella materion ailgylchu; byddai hefyd yn cyfeirio’r cwestiwn at Reolwr
Gorsaf Trenau Arriva Cymru.
Mewn ymateb i gwestiwn beth oedd ystyr ‘adfer
platfform’ (platform re-instatement)
ac os oedd hyn yn ymwneud â ‘lefel’ platfform ynteu ‘hyd’ y platfform, nodwyd
mai hyd y platfform oedd yn berthnasol yma; rhai gorsafoedd gyda phlatfform
wedi ei gau i ffwrdd ac felly angen dod ag ardal yma o’r platfform yn ôl i
ddefnydd yng ngorsafoedd Porthmadog, Bermo a Harlech
Network Rail
Mynegwyd siom unwaith eto nad oedd
cynrychiolydd o Network Rail
yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno diweddariad.
Nodwyd bod cyfarfod Grŵp Partneriaeth
Ffyrdd Rheilffordd yn cael ei gynnal rhwng Swyddogion Cyngor Gwynedd a Network Rail a bod modd gwneud
cais am wybodaeth drwy’r grŵp yma i’r dyfodol.
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Nid oedd cynrychiolydd o Heddlu Trafnidiaeth
Prydeinig yn bresennol yn y cyfarfod i
gyflwyno diweddariad
Bod cyfrifoldebau Heddlu Trafnidiaeth
Prydeinig wedi eu rhannu fesul ardal ar y
Cambrian. Gwnaed cais am fwy o wybodaeth am y
rhaniad yma.