Agenda item

MORLO LOUNGE, MAES YR ORSAF, PWLLHELI

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

Dydd Sul 08:00 – 00:30

Dydd Llun 08:00 – 00:30

Dydd Mawrth 08:00 – 00:30

Dydd Mercher 08:00 – 00:30

Dydd Iau 08:00 – 00:30

Dydd Gwener 08:00 – 00:30

Dydd Sadwrn 08:00 – 00:30

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy:

 

Lluniaeth hwyr yn y nos - Tu mewn a’r Tu Allan

Dydd Sul 23:00 – 00:00

Dydd Llun 23:00 – 00:00

Dydd Mawrth 23:00 – 00:00

Dydd Mercher 23:00 – 00:00

Dydd Iau 23:00 – 00:00

Dydd Gwener 23:00 – 00:00

Dydd Sadwrn 23:00 – 00:00

 

Cyflenwi Alcohol - Ar ac oddi ar yr Eiddo

Dydd Sul 08:00 – 00:00

Dydd Llun 08:00 – 00:00

Dydd Mawrth 08:00 – 00:00

Dydd Mercher 08:00 – 00:00

Dydd Iau 08:00 – 00:00

Dydd Gwener 08:00 – 00:00

Dydd Sadwrn 08:00 – 00:00

 

Mesurau ychwanegol:

  • Rhaid cau'r ardal eistedd allanol ar Ffordd y Cob (Embankment Road) ar ôl 22:00 a gweddill yr ardaloedd tu allan i gau am 23:00.
  • Ni fydd diodydd mewn gwydr yn cael ei weini yn yr ardal tu allan ar Ffordd y Cob ( Embankment Road)

 

  • Ni chaniateir gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r adeilad trwyddedig rhwng yr oriau  22:00 - 07:00 . Bydd y poteli yn cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip neu fin gyda chaead.
  • Rhestr lawn o'r mesurau fel y nodir yn Rhan M o'r cais ac a gynigiwyd gan yr ymgeisydd i hyrwyddo'r Amcanion Trwyddedu i'w cynnwys fel amodau ar y drwydded

 

Nodyn: I gynnal Cynllun Rheoli Sŵn ysgrifenedig, gan sicrhau y bydd ar gael ar gais swyddogion awdurdodedig, a chymryd camau priodol i sicrhau diogelwch.

 

Cofnod:

Cais amrywiad trwydded eiddo - Morlo Lounge, Maes yr Orsaf, Pwllheli

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)               Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am amrywiad trwydded eiddo gan Loungers Uk Ltd. Eglurwyd bod yr eiddo, hyd yn ddiweddar wedi bod yn glwb nos a bwyty trwyddedig.

 

Amlygwyd bod y drwydded gyfredol yn nodi oriau agor hyd 03:00 a 04:00 nos Sadwrn / bore Sul ac yn cynnwys yr hawl i gynnal cerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi ei recordio a pherfformiadau dawns tan 02:45, a 3:45 ar nos Sadwrn / bore Sul; gwerthiant alcohol a lluniaeth hwyr y nos tan 02:30 (3:30 nos Sadwrn / fore Sul) a digwyddiadau chwaraeon hyd 23:45. Ategwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi nodi newid yn oriau'r drwydded arfaethedig ac nid oedd gwybodaeth wedi ei gyflwyno ynglŷn â’r oriau y bwriedir eu gweithredu.

 

Cyfeiriwyd at gynlluniau diwygiedig i ymestyn ardal drwyddedig yr eiddo i gynnwys ardal o balmant tu allan i’r eiddo, ond nid oedd gwybodaeth wedi ei dderbyn gan asiant yr ymgeisydd o ran perchnogaeth y darn yma o balmant cyhoeddus. Er hynny, nodwyd bod cais am drwydded adran 115 ar gyfer defnydd dodrefn stryd wedi ei gyflwyno.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Cynigiwyd sylwadau gan BIPBC oedd yn mynegi pryder ynglŷn ag oriau hwyr y drwydded ac o ganiatáu gwerthiant alcohol i’w yfed tu allan tan 23:00 ar y palmant; y byddai cyfyngu'r gofod cerdded yn tanseilio diogelwch cerddwyr ac / neu gynyddu’r risg o ymddygiad gwrth gymdeithasol, aflonyddwch sŵn ac amlygiad plant a theuluoedd i amgylchiadau lle mae alcohol yn cael ei yfed.

 

Nid oedd gan Heddlu Gogledd Cymru wrthwynebiad i’r cais, ond yn mynegi pryder bod oriau agor y clwb nos yn parhau mewn grym ac y byddai trwydded hwyr yn cynyddu risg o ddigwyddiadau trosedd ac anrhefn a thrais sy’n gysylltiedig ag alcohol. Roeddynt hefyd wedi nodi nad oedd mesurau mewn lle i reoli defnydd gwydr yn yr ardal allanol.

 

Yng nghyd-destun materion Cynllunio, derbyniwyd sylwadau gan yr Adran Cynllunio yn gwrthwynebu’r cais gan fod yr estyniad arfaethedig oedd yn cynnwys ardaloedd allanol ychwanegol yn mynd tu hwnt i’r hyn oedd yn gyfreithlon o ran defnydd tir ar y caniatâd Cynllunio cyfredol.

 

Roedd Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd hefyd wedi mynegi pryderon ynglŷn â diffyg Asesiad Effaith Sŵn fyddai’n cefnogi'r cais cynllunio a hefyd am ddefnydd yr ardaloedd allanol fydd gyda photensial o gynyddu sŵn cwsmeriaid, neu sŵn cerddoriaeth fyddai’n effeithio trigolion cyfagos. Roedd y gwasanaeth wedi cynnig amodau sŵn er mwyn rheoli’r risgiau pe byddai’r cais yn cael ei ganiatáu

 

Roedd y swyddogion, yn argymell i’r Is-bwyllgor ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd gan yr awdurdodau cyfrifol yn ofalus. Ystyriwyd fod y pryderon a amlinellwyd  gan yr Awdurdodau Cyfrifol yn rhai dilys, yn gymesurol a rhesymol, ac na fyddent yn cyfyngu ar ffyniant y busnes. Pe byddai’r Is Bwyllgor yn penderfynu caniatáu y cais, gellid cynnwys  amodau ychwanegol i gyfarch y pryderon a nodwyd ar atodlen weithredol y drwydded; yn unol â’r hyn a ganiateir o dan y Ddeddf  Drwyddedu 2003.

 

Ers cyhoeddi’r adroddiad, amlygwyd bod cyfaddawd wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd ynglŷn â’r oriau trwyddedadwy, oedd yn nodi newid;

·        Yr awr derfynol ar gyfer gwerthu alcohol i 00:00.

·        Yr awr derfynol ar gyfer lluniaeth hwyr y nos i 00:00

·        Yr oriau agor hyd at 00:30

 

Ategwyd bod BIPBC wedi ymateb i’r addasiad gan  gytuno gyda’r newid i’r oriau gwerthu alcohol, gan ei fod yn unol â safleoedd tebyg oedd yn canolbwyntio ar fwyd yn yr ardal.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

·          Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·          Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·          Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·          Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·          Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·          Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·          Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.

·          Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais

 

b)           Wrth i gynrychiolydd y Cyngor ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Is-bwyllgor, dangoswyd lluniau diweddar o’r safle a’r ardal gyffiniol oedd yn amlygu’r lleoliad, maint y palmant, ardal y lleoliadau allanol, yr addasiadau strwythurol a’r gwaith adeiladu.

 

Nodwyd bod ymgynghoriad eang wedi ei weithredu yn unol â gofynion statudol, oedd yn cynnwys hysbysebu am 28 diwrnod, arddangos hysbyseb ar yr eiddo, hysbyseb ar wefan y Cyngor ac yn y papurau newydd lleol. Cadarnhawyd nad oedd sylwadau / gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan drigolion lleol.

 

Nodwyd bod tafarndy a bwyty Weatherspoons wedi ei leoli gyferbyn â lleoliad bwriadedig Morlo Lounge, ond bod ei fformat a’i ddyluniad yn wahanol gyda drysau plyg o flaen yr adeilad yn rhoi’r argraff o ‘yfed tu allan’.

 

c)           Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod Morlo Lounge yn rhan o’r cysyniad Clio Lounge; yn gwmni sydd yn creu awyrgylch o lolfa oddi cartref, gan gynnig lle clyd i fwyta, yfed a chyfarfod ffrindiau mewn awyrgylch hamddenol

·         Ni fydd adloniant rheoledig yn cael ei gynnal ar yr eiddo

·         Gwasanaeth bwrdd fydd yn cael ei weithredu gyda chwsmeriaid yn archebu bwyd a/neu ddiod i’r bwrdd drwy ap neu weinyddes / weinyddwr

·         Bod cais cynllunio wedi ei gyflwyno – yn aros am y penderfyniad

·         Bod cais am drwydded palmant wedi ei gyflwyno i gyfarch disgwyliadau cwsmeriaid i eistedd tu allan. Y bwriad yw ymestyn yr ardal bresennol a chyflwyno byrddau a chadeiriau ar y palmant tu allan

·         Bydd yr eiddo yn cynnig brecwast canol bore, cinio a swper gyda’r oriau bellach wedi eu haddasu yn sylweddol

·         Bod gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r adeilad trwyddedig rhwng yr oriau bellach wedi ei wahardd rhwng yr oriau 22:00 - 07:00

·         Nad oedd bwriad defnyddio gwydrau yn yr ardaloedd allanol

·         Yn dilyn ymgysylltu gyda’r Heddlu a’r Bwrdd Iechyd, yr ardaloedd allanol i gau am 23:00

·         Bod y palmant  yn lwybr aml ddefnydd - ei fod yn balmant lletach na’r arfer

·         Mewn ymateb i sylwadau’r Adran Cynllunio, nid oedd bwriad defnyddio’r llawr cyntaf fel rhan o’r eiddo trwyddedig

·         Bydd y defnydd yn hollol wahanol i ddefnydd yr eiddo blaenorol fel clwb nos. Ni fydd materion gwasgaru yn codi ar ddiwedd noson

·         Ei fod yn annog yr Is-bwyllgor i gefnogi’r fenter fydd yn dod a budd i’r economi leol; yn welliant sylweddol ac yn safle mwy cynhwysol, wedi ei reoli

 

Ategodd yr ymgeisydd, bod gan y cwmni safleoedd ym Mangor, Prestatyn a Llandudno – yn cynnig ardal gyfeillgar i deuluoedd ac i ffrindiau. Byddai cyflwyno lolfa i Bwllheli yn rhywbeth positif i’r dref.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth yw cyfanswm y nifer pobl pan fydd yr eiddo yn llawn, nodwyd, yn fras y bydd lle i hyd at 80 o bobl eistedd yn yr ardaloedd allanol a lle i hyd at 120 o bobl eistedd tu mewn. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â nifer staff a’r bwriad o gyflogi yn lleol, nodwyd ei fod yn rhagweld yr angen am  30 - 40 o swyddi gyda bwriad o gynnig cyflogaeth leol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rheoli sefyllfa o beidio defnyddio gwydr tu allan a sut bydd yr ardal allanol orllewinol yn cael ei reoli o safbwynt diogelwch cwsmeriaid a defnyddwyr llwybr ar benwythnosau prysur, nodwyd nad tafarn oedd yma yn cynnig diwylliant o yfed - bydd yr ardaloedd yn cael eu rheoli gyda rheolau llyn ac yn cael eu cadw yn glir a thaclus bob amser. Ni fydd ardaloedd ysmygu ar y safle ac nid oeddynt yn rhagweld unrhyw faterion o anrhefn.

 

ch)    Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt:

 

Ffion Lewis: Swyddog Gwarchod y Cyhoedd

 

·        Bod y safle yn trosi o glwb nos i gaffi / bar ac felly pryderon yn codi am ddefnydd y drwydded gyfredol a’r diffyg gwybodaeth

·        Fel clwb nos, roedd drysau a ffenestri priodol wedi eu gosod i atal amhariad sŵn ar drigolion cyfagos

·        Petai’r drwydded yn cael ei chaniatáu am yfed alcohol tu allan, byddai hyn yn caniatáu cerddoriaeth fyw tu allan

·        Bod y cynllun rheoli sŵn a gyflwynwyd yn nodi byddai’r ardaloedd allanol i gau am 22:00 yn wahanol i’r cais sydd yn nodi 23:00

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd na fydd cerddoriaeth fyw yn cael ei chwarae ar yr eiddo. Dim adloniant rheoledig. Yng nghyd-destun amseroedd cau'r ardaloedd allanol, ategodd y bydd ardal eistedd allanol ar Ffordd y Cob (Embankment Road) yn cau ar ôl 22:00 a gweddill yr ardaloedd tu allan yn cau am 23:00.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phwy sydd yn berchen ar y tir i’r ochr orllewinol, lle bydd byrddau a chadeiriau yn cael eu gosod, cadarnhawyd mai’r Cyngor sydd yn berchen rhan fwyaf o’r ardal ac felly dyna pam bod cais am drwydded dodrefn stryd wedi ei gyflwyno. Nodwyd bod y maes parcio a’r ardal allanol i gefn yr adeilad ym mherchnogaeth y busnes.

 

d)      Yn manteisio ar yr hawl i grynhoi ei hachos nododd y Rheolwr Trwyddedu bod y cais a gyflwynwyd yn un am amrywiad trwydded, ond bod y drwydded mewn gwirionedd angen ei hystyried fel un o’r newydd. Er hynny, nododd bod ymateb a chyfaddawdu gyda sylwadau’r ymatebwyr yn bwysig iawn gan iddynt gyflwyno pryderon dilys oedd angen sylw. Ategwyd;

·        bod yr elfennau cynllunio yn dal yn aros am benderfyniad gan yr Adran Cynllunio

·        yn dilyn trafodaethau cyfaddawdu, bod yr oriau wedi eu lleihau yn sylweddol

·        bod newid defnydd i’r eiddo

 

Yn manteisio ar yr hawl i grynhoi ei achos nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd,

·        bod y gweithgareddau trwyddedadwy yn gorffen am 00:00

·        Ni fydd adloniant rheoledig

·        Defnydd y llawr isaf yn unig

·        Bod caniatâd cynllunio yn disgwyl penderfyniad

·        Eu bod yn derbyn yr amodau

·        Bod angen ychwanegu geiriad i Adran M. Rhan D: ‘bydd pob bwrdd a chadair yn ardal allanol Ffordd y Cob (Embankment Road) yn cael eu gwneud yn anaddas i'w defnyddio ar ôl 22:00 bob dydd’

 

dd)        Cymerodd y Swyddog Cyfreithiol y cyfle i grynhoi a chadarnhau gofynion y cais. Derbyniwyd sylwadau ar yr amodau a gynigiwyd. Cytunwyd i ddileu amod 3 (arbed sŵn) ac addasu amod 2 (gwaredu gwastraff) oedd wedi eu cynnig gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd, y Rheolwr Trwyddedu, y Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu, a’r Swyddog Cydymffurfiaeth Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti oedd yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                             i.         Atal trosedd ac anhrefn

                           ii.         Atal niwsans cyhoeddus

                          iii.         Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                          iv.         Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais

 

Oriau Agor:

Dydd Sul 08:00 – 00:30

Dydd Llun 08:00 – 00:30

Dydd Mawrth 08:00 – 00:30

Dydd Mercher 08:00 – 00:30

Dydd Iau 08:00 – 00:30

Dydd Gwener 08:00 – 00:30

Dydd Sadwrn 08:00 – 00:30

 

Gweithgareddau Trwyddedadwy:

 

Lluniaeth hwyr yn y nos - Tu mewn a’r Tu Allan

Dydd Sul 23:00 – 00:00

Dydd Llun 23:00 – 00:00

Dydd Mawrth 23:00 – 00:00

Dydd Mercher 23:00 – 00:00

Dydd Iau 23:00 – 00:00

Dydd Gwener 23:00 – 00:00

Dydd Sadwrn 23:00 – 00:00

 

Cyflenwi Alcohol - Ar ac oddi ar yr Eiddo

Dydd Sul 08:00 – 00:00

Dydd Llun 08:00 – 00:00

Dydd Mawrth 08:00 – 00:00

Dydd Mercher 08:00 – 00:00

Dydd Iau 08:00 – 00:00

Dydd Gwener 08:00 – 00:00

Dydd Sadwrn 08:00 – 00:00

 

Mesurau ychwanegol:

·        Rhaid cau'r ardal eistedd allanol ar Ffordd y Cob (Embankment Road) ar ôl 22:00 a gweddill yr ardaloedd tu allan i gau am 23:00.

·        Ni fydd diodydd mewn gwydr yn cael ei weini yn yr ardal tu allan ar Ffordd y Cob ( Embankment Road)

·        Ni chaniateir gwaredu gwastraff poteli neu ganiau i gynhwysydd y tu allan i'r adeilad trwyddedig rhwng yr oriau  22:00 - 07:00 . Bydd y poteli yn cael eu cadw oddi fewn i gwrtil yr eiddo mewn sgip neu fin gyda chaead.

·        Rhestr lawn o'r mesurau fel y nodir yn Rhan M o'r cais ac a gynigiwyd gan yr ymgeisydd i hyrwyddo'r Amcanion Trwyddedu i'w cynnwys fel amodau ar y drwydded

 

Nodyn:

·        I gynnal Cynllun Rheoli Sŵn ysgrifenedig, gan sicrhau y bydd ar gael ar gais swyddogion awdurdodedig,

·        Cymryd camau priodol i sicrhau diogelwch.

 

Yng nghyd-destun Rhwystro Trosedd ac Anrhefn, ni gyflwynodd yr Heddlu unrhyw sylwadau mewn ymateb i’r cais ac ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth bellach oedd yn

berthnasol i’r egwyddor hwn.

 

Yng nghyd-destun materion Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor yma.

 

Yng nghyd-destun Atal Niwsans Cyhoeddus, derbyniwyd sylwadau gan  Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd yn amlygu pryder ynglŷn ag oriau agor y bwyty a’r effaith sŵn, ond yn dilyn newid i’r cais a chytundeb o ran amodau perthnasol a gynigiwyd ganddynt mewn ymateb i’r cais, roedd y pryderon wedi ei lleddfu. 

 

Derbyniwyd gwrthwynebiad gan yr adran Gynllunio yn datgan pryder am y defnydd o

lawr y teras. Nodwyd nad oedd y rhan yma wedi ei gynnwys yn yr amrywiad i'r drwydded. Bydd angen i'r ymgeisydd hefyd sicrhau bod caniatâd cynllunio a thrwydded dodrefn stryd yn cael eu caniatáu cyn gweini bwyd tu allan.

 

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor yma.

 

Nodwyd, petai unrhyw broblemau yn codi mewn cysylltiad â’r egwyddorion trwyddedu bod y Ddeddf yn caniatáu cyfeirio trwydded i’w hadolygu gan yr Awdurdod.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad

 

 

Dogfennau ategol: