Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Nia Jeffreys

Penderfyniad:

Penderfyniwyd: 

 

a) Comisiynu y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a ble’n berthnasol y Swyddog Monitro i fwrw ymlaen a’r ymchwiliadau ac adolygiadau pellach a nodir yn rhan 4 o’r adroddiad hwn yn dilyn cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder gan gynnwys :

 

(a) Cytuno y cylch gorchwyl a’r camau gweithredol,

(b) Adnabod a phenodi ymchwilydd annibynnol allanol lle bo’r gofyn

(c) Trefnu i dderbyn adroddiadau terfynol a chymryd camau i’w cyflwyno i’r pwyllgorau a fforymau perthnasol

 

b) I awdurdodi’r Prif Weithredwr i barhau i gyfathrebu gyda chyrff a phartneriaid perthnasol eraill ynglŷn â pha gamau ac ymchwiliadau y maent hwy yn eu cynnal a’r gwersi a ddysgwyd allasai fod o fudd i'r Cyngor

 

c) I awdurdodi’r Prif Weithredwr i ddargyfeirio adnoddau staff i gefnogi ymchwilwyr annibynnol i gwblhau’r gwaith

 

ch) I awdurdodi’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid ac Aelod Cabinet Cyllid, i flaenoriaethu a chymeradwyo dyraniadau o’r gronfa a sefydlwyd drwy’r drefn Bidiau Un tro 2026-27 i ariannu’r ymchwiliadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd: 

 

a) Comisiynu y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a ble’n berthnasol y Swyddog Monitro i fwrw ymlaen a’r ymchwiliadau ac adolygiadau pellach a nodir yn rhan 4 o’r adroddiad hwn yn dilyn cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder gan gynnwys :

 

(a) Cytuno y cylch gorchwyl a’r camau gweithredol,

(b) Adnabod a phenodi ymchwilydd annibynnol allanol lle bo’r gofyn

(c) Trefnu i dderbyn adroddiadau terfynol a chymryd camau i’w cyflwyno i’r pwyllgorau a fforymau perthnasol

 

b) I awdurdodi’r Prif Weithredwr i barhau i gyfathrebu gyda chyrff a phartneriaid perthnasol eraill ynglŷn â pha gamau ac ymchwiliadau y maent hwy yn eu cynnal a’r gwersi a ddysgwyd allasai fod o fudd i'r Cyngor

 

c) I awdurdodi’r Prif Weithredwr i ddargyfeirio adnoddau staff i gefnogi ymchwilwyr annibynnol i gwblhau’r gwaith

 

ch) I awdurdodi’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid ac Aelod Cabinet Cyllid, i flaenoriaethu a chymeradwyo dyraniadau o’r gronfa a sefydlwyd drwy’r drefn Bidiau Un tro 2026-27 i ariannu’r ymchwiliadau.

 

 

TRAFODAETH

 

Amlygwyd bod y Cyngor yn derbyn yr Adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn llawn, a bod bwriad i weithredu ar bob argymhelliad yn yr Adroddiad. Diolchwyd i’r dioddefwyr am eu dewrder ac ymddiheurwyd am fethiannau’r Cyngor. Pwysleisiwyd bod y dioddefwyr ar flaenau meddyliau pob un wrth drafod y pwnc hwn.

 

Nodwyd mai pwrpas comisiynu’r gwaith hwn yw ychwanegu at negeseuon Adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, ac i edrych ar rai pynciau yn fanylach. Esboniwyd bod nifer o ystyriaethau wedi eu gwneud yma megis effaith ar y dioddefwyr, y gwersi a ddysgwyd, a’r hyn y gall y Cyngor ei gyflawni.

 

Cyfeiriwyd at y nifer o ymchwiliadau a restrir sydd eisoes ar waith neu sydd wedi eu cwblhau. Cadarnhawyd bod yr ymchwiliadau hyn wedi adnabod gwersi i’w dysgu. Amlygwyd yr angen i ddeall popeth sydd wedi digwydd yn iawn er mwyn gallu gwella, a phwysigrwydd bod y Cyngor yn gorffen cynnal pob ymchwiliad sydd o fewn ei rym.

 

Datganwyd bod yr adolygiad i drefniadau llywodraethiant y Cyngor yn ystyried y cyfleoedd a gollwyd, yr argymhellion a gaiff eu nodi yn adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, ac yn sefydlu a oes gwersi llywodraethiant i’w dysgu.

Aethpwyd ymlaen i drafod yr adolygiad diwylliant, gan nodi y bydd yn cynnwys tynnu at ei gilydd materion diwylliant gwaith drwy nifer o ffynonellau.  Ychwanegwyd y bydd hyn yn tynnu ar nifer o wybodaeth sydd gan y Cyngor yn barod. Bwriedir cwblhau’r gwaith hwn mewn dwy ran, a phwysleisiwyd pwysigrwydd derbyn mewnbwn gan Aelodau Etholedig cyfredol a’r rheiny a gaiff eu hethol yn yr etholiadau lleol yn 2027, staff a rhanddeiliaid eraill.

Wrth gyfeirio at Effeithiolrwydd y Gyfundrefn Llywodraethu Ysgolion, amlygwyd nad yw’r drefn bresennol o ran rhaniad cyfrifoldebau statudol wastad yn glir. Soniwyd bod y Cyngor wedi cael mewnbwn i adolygiad o drefniadau llywodraethu ysgolion Llywodraeth Cymru. Tra mae’r Cyngor yn disgwyl am ganlyniad yr adolygiad hwnnw, adnabuwyd y bydd yn edrych ar ei drefniadau mewnol a’r gyfundrefn llywodraethu ysgolion bresennol.

Adroddwyd bod cryn newidiadau wedi digwydd i drefniadau delio gyda chyfeiriadau rhan 5 y Cyngor ers cyhoeddi Adroddiad Cyfiawnder Drwy Ein Dewrder. Gobeithiwyd adrodd ar y gwaith hwn i’r Panel Strategol Diogelu ym mis Hydref 2026.

Yn dilyn o hynny, datganwyd bod bwriad i edrych yn fanwl eto ar unrhyw ysgolion a fu o dan arweinyddiaeth y troseddwr gan ehangu’r gwaith Rhan 5 i edrych ar yr ysgolion hyn. Ategwyd bod bwriad i edrych mor bell yn ôl a phosib er mwyn cwblhau’r gwaith hwn. 

Amlygwyd bod ymrwymiad i annog sefydliadau eraill i gynnal eu hymchwiliadau eu hunain, er mwyn gweld a oes gwersi ehangach i’w dysgu.

 

Cadarnhawyd gan y Swyddog Monitro ei fod wedi cael mewnbwn i’r adroddiad hwn, ac yn fodlon â phriodoldeb yr argymhellion. Petai unrhyw beth yn codi yn yr ymchwiliadau hyn sydd angen ei gyfeirio at gorff neu broses statudol arall, yna nodwyd y byddai hynny yn digwydd ac yn flaenoriaeth. Cadarnhawyd y bydd yr ymchwiliadau hyn yn cael eu cynnal gan ddal sylw at ofynion diogelu data a chyfrifoldebau at gynnal prosesau teg a phriodol.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd yr ymchwiliadau hyn. Holwyd pe bai modd crynhoi’r gwersi sydd wedi eu dysgu hyd yma, a’r camau sydd eisoes wedi eu cymryd er mwyn cryfhau trefniadau’r Cyngor. Mewn ymateb, cyfeiriwyd at adroddiadau chwarterol Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb. Aethpwyd ymlaen i sôn am gynnwys gwefan y Cyngor a’r wybodaeth sydd yno am gasgliadau’r Adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder, yr hyn sydd wedi’i gyflawni, a’r hyn sy’n mynd rhagddo fel rhan o ymateb y Cyngor. Datganwyd hefyd bod gan ysgolion y Sir fynediad at system reoli data electroneg, fel bod modd cofnodi newid ymddygiad mewn plant. Ychwanegwyd bod capasiti’r Tîm Diogelu a Lles Addysg wedi cynyddu yn ogystal. Crybwyllwyd y newidiadau i drefniadau diogelu Adran 5, ar system sy’n cael ei beilota i hwyluso cofnodi cyfarfodydd diogelu Adran 5. Soniwyd am y fideo hyfforddiant diogelu sydd wedi ei ddatblygu mewn modd hygyrch ac addas ar gyfer holl weithlu’r Cyngor. Pwysleisiwyd bod cytundeb mewn lle i alluogi cyd-weithio gyda’r Heddlu mewn argyfwng. Tynnwyd sylw penodol at y Fframwaith Sicrwydd Ansawdd a gafodd ei ddatblygu gan yr Adran Plant, gan nodi ei fod yn egluro disgwyliadau ar gyfer hyfforddiant, cefnogaeth a dysgu. Ychwanegwyd mai’r nod yw sicrhau y caiff y gefnogaeth orau ei rhoi i blant a theuluoedd, a chadarnhawyd bod y Fframwaith yn gam ymlaen wrth geisio gwreiddio diwylliant a newid hirdymor o fewn y Cyngor.

·       Pwysleisiwyd nad oes ymyrraeth wleidyddol wrth ymwneud â materion staffio o fewn y maes hwn. Cydnabuwyd bod diddordeb cyhoeddus yn y mater hwn, ond bod rhaid gweithredu yn unol â’r gyfraith a pharchu hawliau cyflogaeth unigolion. Sicrhawyd bod y Cyngor yn deall eu cyfrifoldeb ac yn gweithredu’n briodol ac yn amserol.

·       Cadarnhawyd gan Aelod Cabinet bod gwersi yn cael eu dysgu, a bod popeth posib yn cael ei wneud i sicrhau na all unrhyw beth fel hyn ddigwydd eto. Crybwyllwyd ganddo ei gred fod y Cyngor wedi gweithredu yn briodol drwy’r broses hon, gyda chyngor annibynnol wedi’i dderbyn a bod y Cyngor wedi gweithredu ar y cyngor hwnnw. Amlygwyd yr her mewn perthynas â gwneud penderfyniadau ynghylch rhagor o ymchwiliadau ac adroddiadau heb fod yn sicr o’u heffaith ar yr unigolion sydd wrth galon hyn, a heb wybod os mai dyma’r camau y byddant hwy yn ei ddymuno. Ategwyd bod y Cyngor wedi bod yn cefnogi’r teuluoedd drwy gydol y broses hon. Pryderwyd nad yw llais y plentyn yn amlwg yn y ddogfen hon. Holwyd sut y mae posib sicrhau bod penderfyniadau o fewn y maes hwn yn parchu anghenion y plant.

·       Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y Cyngor yn ceisio bod yn drawma ymwybodol ym mhob rhan o’r daith a bod lles y dioddefwyr ar frig ystyriaethau’r Cyngor. Ategwyd y cais i beidio â defnyddio llun y troseddwr yn y cyfryngau, gan bryderu am effaith posib gweld llun o’r troseddwr ar y dioddefwyr. Pwysleisiwyd yr angen i fod yn drawma ymwybodol o effaith unrhyw ymchwiliad neu adroddiad a fydd yn cael ei gynnal.

·       Cyfeiriwyd at yr adolygiad o drefniadau llywodraethu ysgolion sy’n cael ei gynnal, gan nodi ei fod yn gyfan gwbl sylfaenol i ddyfodol addysg a diogelwch plant yng Nghymru wrth fynd ymlaen. Gobeithiwyd y bydd y gwaith hwn yn parhau, ac yn mynd i wraidd systemau cyfredol. Credwyd y dylid edrych ar y rhaniad pwerau rhwng cyrff llywodraethol ac adrannau addysg o fewn awdurdodau lleol.  

 

Awdur:Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr

Dogfennau ategol: