Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Huw Wyn Jones

Penderfyniad:

 

 

 

Derbyn yr adroddiad ac ystyried y sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2025/26:

 

 

Gan nodi bod gwariant sylweddol uwchlaw’r gyllideb gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd a’r Adran Amgylchedd yn 2025/26 (Gweler colofn A yn y tabl uchod). Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2) –

 

· Yr adrannau sydd yn gorwario i dderbyn cymorth ariannol un tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ymlaen gan yr Adran i £100k (Gweler colofn B yn y tabl uchod).

· Cadarnhau'r cymorth ariannol o £269k uwchlaw’r taliad cytundebol i Gwmni Byw’n Iach (Gweler colofn C yn y tabl uchod).

· Cyllido’r gorwariant o £1.256 miliwn yn y maes Gwastraff trwy ddefnyddio £786k o'r Gronfa Adennill Enillion Cyfrannol Parc Adfer a £470k o'r Gronfa Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd pecynnu (Gweler colofn CH yn y tabl uchod).

· Dyrannu bid ariannol o hyd at £800k i’r Adran Tai ac Eiddo i gyllido’r pwysau ar y gwasanaeth llety argyfwng yn 2026/27.

· Ar gyllidebau Corfforaethol:

- defnyddio (£2.8 miliwn) o’r tanwariant ar gyllidebau corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2025/26.

- y gweddill o (£3.174 miliwn) sydd ei angen i gyllido’r holl ofynion i gael ei gyllido o Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor.

– y tanwariant o (£914k) ar Bremiwm Treth Cyngor yn cael ei drosglwyddo i gronfa Premiwm Treth Cyngor gyda'i ddefnydd i'w benderfynu gan y Cabinet.

 

Cymeradwywyd y symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” yng ngholofn D uchod ac yng ngholofn D Atodiad 1).

 

Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o'r Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd:

-  £6.6 miliwn yn cael ei symud i falansau cyffredinol y Cyngor

-  £1.5 miliwn yn cael ei symud i gronfa Diogelu Adeiladau.

 

Cofnod:

 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones. 

 

PENDERFYNIAD

 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad ac ystyried y sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2025/26:

 

Llun yn cynnwys testun, llun sgrin, rhif, bedyddfaen

Gall cynnwys a gynhyrchwyd gan AI fod yn anghywir.

 

Gan nodi bod gwariant sylweddol uwchlaw’r gyllideb gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd a’r Adran Amgylchedd yn 2025/26 (Gweler colofn A yn y tabl uchod). Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2) –

 

· Yr adrannau sydd yn gorwario i dderbyn cymorth ariannol un tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ymlaen gan yr Adran i £100k (Gweler colofn B yn y tabl uchod).

· Cadarnhau'r cymorth ariannol o £269k uwchlaw’r taliad cytundebol i Gwmni Byw’n Iach (Gweler colofn C yn y tabl uchod).

· Cyllido’r gorwariant o £1.256 miliwn yn y maes Gwastraff trwy ddefnyddio £786k o'r Gronfa Adennill Enillion Cyfrannol Parc Adfer a £470k o'r Gronfa Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd pecynnu (Gweler colofn CH yn y tabl uchod).

· Dyrannu bid ariannol o hyd at £800k i’r Adran Tai ac Eiddo i gyllido’r pwysau ar y gwasanaeth llety argyfwng yn 2026/27.

· Ar gyllidebau Corfforaethol:

- defnyddio (£2.8 miliwn) o’r tanwariant ar gyllidebau corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2025/26.

- y gweddill o (£3.174 miliwn) sydd ei angen i gyllido’r holl ofynion i gael ei gyllido o Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor.

– y tanwariant o (£914k) ar Bremiwm Treth Cyngor yn cael ei drosglwyddo i gronfa Premiwm Treth Cyngor gyda'i ddefnydd i'w benderfynu gan y Cabinet.

 

Cymeradwywyd y symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” yng ngholofn D uchod ac yng ngholofn D Atodiad 1).

 

Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o'r Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd:

-  £6.6 miliwn yn cael ei symud i falansau cyffredinol y Cyngor

-  £1.5 miliwn yn cael ei symud i gronfa Diogelu Adeiladau.

 

 

 

TRAFODAETH

 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y caiff talfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau yn Atodiad 1 o’r adroddiad.

 

Manylwyd ar gynnwys Atodiad 2 gan adrodd rhai o’r prif bwyntiau. Nodwyd bod gwariant yn y meysydd lleoliadau all-sirol plant, gwastraff, gofal preswyl a gofal cartref wedi parhau i fod yn uwch na’r gyllideb a ddyrannwyd iddynt. Amlygwyd bod y tanwariant ar gyllidebau corfforaethol yn cynorthwyo i leddfu'r sefyllfa ariannol ar gyfer y Cyngor yn ei gyfanrwydd. Ychwanegwyd y bydd angen defnyddio £3.2 miliwn o’r Gronfa Strategaeth Ariannol i fantoli sefyllfa o ddiffyg ariannol yr adrannau.

 

Datganwyd bod diffyg cyllidebol yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesant wedi lleihau i £1.4 miliwn, gan adnabod bod y pwysau ar y gwasanaethau darparu yn gyfrifol am ran helaeth o’r pwysau adrannol.

 

Wrth gyfeirio at yr Adran Plant a Theuluoedd, esboniwyd y bu cynnydd o 11 o leoliadau all-sirol gan gynnwys achosion eithriadol o leoliadau heb gofrestriad. Ategwyd bod hyn yn fwy costus ac wedi arwain at gynnydd yn y diffyg cyllidebol adrannol i £3.4 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Yn ogystal, soniwyd bod pwysau cynyddol ar gyllideb y Gwasanaeth Ôl-16 ac ar gefnogaeth cynlluniau cefnogol a gweithwyr maes.

 

Adroddwyd ar ddiffyg cyllidebol o £407k gan yr Adran Priffyrdd Peirianneg ac YGC. Crybwyllwyd bod lleihad yn y gwaith a gaiff ei gomisiynu gan asiantaethau allanol wedi cael effaith negyddol ar incwm y gwasanaethau Priffyrdd.

 

Aethpwyd ymlaen i drafod yr Adran Amgylchedd, gan amlygu diffyg cyllidebol o £1.38 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn. Esboniwyd bod tueddiad gorwariant yn y maes gwastraff yn parhau, ac yn gyfrifol am £1.26 miliwn o’r sefyllfa adrannol. Soniwyd bod cynlluniau arbedion mewn nifer o wasanaethau yn llithro, sydd hefyd yn rhan o’r darlun. Nodwyd bod y gorwariant yn y maes gwastraff i’w gyllido o’r enillion ail-ariannu Parc Adfer ac incwm o ardoll ar ddeunyddiau pacio i gynhyrchwyr a mân-werthwyr.

 

Tynnwyd sylw at yr Adran Tai ac Eiddo, ynghyd â’r  pwysau sylweddol sy’n wynebu’r gwasanaeth llety argyfwng. Datganwyd bod y sefyllfa ariannol hon yn dilyn ystyried cyllideb ychwanegol o £4.2 miliwn a ddyrannwyd o bremiwm treth cyngor, yn ogystal â chyllideb un-tro ychwanegol o £859k a ddyrannwyd fel rhan o'r drefn bidiau i gynorthwyo â'r pwysau cynyddol.

 

Soniwyd bod balansau’r ysgolion wedi gweld gostyngiad o £1.2 miliwn, ac amlygwyd bod gan saith ysgol gynradd a thair ysgol uwchradd ddiffyg ar ddiwedd blwyddyn ariannol 25/26.

 

Adroddwyd ar y trosglwyddiadau sydd i’w gweithredu o gronfeydd y Cyngor, fel a gaiff eu hamlinellu yn Atodiad 3.

 

Nodwyd gan y Pennaeth Cyllid ei fod o’r farn y dylid cynyddu balansau cyffredinol y Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Pwysleisiwyd mai’r un yw’r stori yn sgil tan gyllido gwasanaethau’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda phwysau cynyddol ar y gwasanaethau hyn. Amlygwyd mai darparu ar gyfer trigolion fwyaf bregus y sir yw’r flaenoriaeth.

·       Soniwyd am y galw cynyddol sydd ar y gwasanaeth plant a chefnogi teuluoedd, sy’n arwain at gostau uwch. Nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i geisio lleihau’r ddibyniaeth ar leoliadau all-sirol, a cheisio cefnogi’r plant yn eu cymunedau lle bu hynny’n bosib. Esboniwyd bod diogelu plant yn flaenoriaeth i’r Cyngor, a bod y defnydd o gronfeydd wrth gefn yn pwysleisio’r flaenoriaeth hon.

·       Pryderwyd am y gost sylweddol o leoli plant yn all sirol, a’r diffyg cefnogaeth ychwanegol gan y Llywodraeth i ymateb i hyn. Pwysleisiwyd bod dyletswydd foesol i gartrefu unrhyw blentyn sydd angen y cymorth hwn, ac felly bod angen mynd a’r sgwrs am gyllido’r maes ymhellach na ffiniau’r Cyngor.

·       Soniwyd bod y gwariant ar ddigartrefedd yn creu pryder. Adnabuwyd bod y Llywodraeth flaenorol wedi addo ariannu’n gost ychwanegol i wasanaethau a fydd yn deillio o’r ddeddfwriaeth newydd, a’i bod felly yn allweddol i’r Llywodraeth newydd gadw at yr addewid hon. Amlygwyd bod y Cyngor wedi cymryd camau i brynu adeiladau, felly rhagwelwyd y bydd y gwariant ar ddigartrefedd yn lleihau yn sgil hynny.

·       Rhybuddiwyd gan yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned y bydd angen gwariant sylweddol ar isadeiledd adeiladau Byw’n Iach yn y blynyddoedd nesaf.

·       Adnabuwyd mai helpu pobl Gwynedd yw’r brif flaenoriaeth, ond bod tan gyllido blynyddol yn arwain at gael yr un drafodaeth yn flynyddol. Wrth gyfeirio at San Steffan, nodwyd bod y baich dreth ar y wlad yn uchel ond bod penderfyniadau i beidio ariannu gwasanaethau angenrheidiol a gaiff eu darparu gan Gynghorau yn cael effaith fawr ar bobl o fewn ein cymunedau. Eglurwyd bod angen cofio mai dyrannu arian y maent yn ei gael gan San Steffan mae Llywodraeth Cymru, a phryderwyd na fydd llawer mwy o arian yn cael ei roi gan San Steffan.

 

Awdur:Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid

Dogfennau ategol: