Cyflwynwyd gan:Cyng Dewi Jones
Penderfyniad:
Ystyriwyd cynnwys yr
adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol (Adroddiad Ymgynghori) ar y
cynnig i gau Ysgol Nebo ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol
Llanllyfni o 1 Ionawr 2027 ymlaen, a chymeradwywyd cyhoeddi hysbysiad statudol
ar y cynnig, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.
PENDERFYNIAD
Ystyriwyd cynnwys yr
adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol (Adroddiad Ymgynghori) ar y
cynnig i gau Ysgol Nebo ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol
Llanllyfni o 1 Ionawr 2027 ymlaen, a chymeradwywyd cyhoeddi hysbysiad statudol
ar y cynnig, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddatgan ei fod yn nodi canlyniad
proses hir, drylwyr ac emosiynol iawn. Diolchwyd i’r rheiny sydd wedi cymryd
rhan yn yr ymgynghoriad.
Cyfeiriwyd at bwysigrwydd ysgolion gwledig i gymunedau
Gwynedd, ond nodwyd bod cyfrifoldeb yn ogystal i ystyried realiti’r sefyllfa yn
onest. Aethpwyd ymlaen i dynnu sylw at y gostyngiad sylweddol yn nifer y plant
sydd yng Ngwynedd, gan amlygu bod y gostyngiad hwn hefyd yn wir ar draws y
wlad. Ategwyd yr effaith y caiff hyn ar gynaliadwyedd ysgolion o fewn y Sir.
Esboniwyd bod nifer o resymau am y lleihad mewn genedigaethau, gan grybwyll
materion sy’n ymwneud ag ail gartrefi, diffyg swyddi da mewn ardaloedd gwledig
a’r argyfwng costau byw parhaus.
Wrth gyfeirio at Ysgol Nebo’n
benodol, cydnabuwyd yr heriau addysgol, ariannol a gweithredol sy’n deillio o’r
niferoedd isel o ddisgyblion. Pwysleisiwyd nad yw hyn yn adlewyrchiad o safon
gwaith y staff nac ar ymrwymiad y gymuned. Amlygwyd natur gynhennus ac anodd
penderfyniad o’r natur hwn, ond datganwyd yr angen i sicrhau’r cyfleoedd
addysgol gorau posib i blant Gwynedd a diogelu dyfodol addysg yn y sir.
Pe bai’r Cabinet yn cytuno i symud ymlaen â’r broses, bydd
cyfnod gwrthwynebu ffurfiol o 28 diwrnod cyn y daw’r mater yn ôl gerbron y
Cabinet. Sicrhawyd y bydd camau’n cael eu cymryd i wneud y trosglwyddiad yn
ofalus a chefnogol i’r plant, a chymuned ehangach yr Ysgol.
Croesawyd Aelod Lleol Ward Clynnog i’r cyfarfod. Diolchwyd
i’r gymuned, y staff a’r Corff Llywodraethol am y ffordd adeiladol a pharchus y
maent wedi delio â’r sefyllfa anodd hon. Cydnabuwyd y niferoedd isel yn yr
Ysgol a’r costau uchel sy’n wynebu’r Cyngor, ond pryderwyd bod y drafodaeth
ynglŷn â dyfodol yr Ysgol wedi bod yn gul ac yn canolbwyntio ar rifau yn
unig. Credwyd bod y cynnig gafodd ei gyflwyno gan y Corff Llywodraethol, sef
datblygu Nebo fel darpariaeth fwy meithringar ar gyfer plant gydag anghenion
cymdeithasol, emosiynol a llesiant, wedi haeddu mwy o ystyriaeth. Yn sgil y
pwysau cynyddol sydd ar wasanaethau plant ac oedolion, cynigiwyd gan yr Aelod
Lleol y dylid ystyried ysgolion fel Nebo fel rhan o ymyrraeth gynnar ac atal.
Yn ogystal, pryderwyd am effaith cau’r Ysgol ar y Gymraeg yn y gymuned.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Holwyd a oes ymgynghori wedi cymryd lle gyda
phlant yr Ysgol ac os yw llais y plentyn wedi’i ystyried yma. Sicrhawyd bod
rhaid i lais y plentyn gael ei glywed fel rhan o’r broses statudol a datganwyd
bod hwylusydd annibynnol wedi’i gomisiynu er mwyn cwblhau’r gwaith hwn. Nodwyd
bod rhaid pwyso a mesur y farn sydd wedi’i roi gan blant yn erbyn y darlun
ehangach sydd gerbron y Cabinet.
·
Mewn ymateb i gwestiwn am y cynlluniau sydd i
baratoi a chefnogi plant at unrhyw newid o’r math hwn, amlygwyd bod yr Adran
wedi bod yn gweithio gyda phlant a theuluoedd i gynllunio ar gyfer y newid a
thrafod unrhyw gefnogaeth a fydd ei angen.
·
Mynegwyd tristwch am y mater gerbron, a
gofynnwyd am sicrwydd o ran cynlluniau i gefnogi’r gymuned pe bai cymeradwyaeth
i’r penderfyniad gerbron. Cadarnhawyd bod yr asesiadau effaith yn rhan o
ddogfennaeth yr ymgynghoriad, ac ychwanegwyd bod yr Adran wedi ail ymweld â’r
asesiadau effaith hyn yn dilyn y sylwadau a dderbyniwyd yn yr ymgynghoriad gan
gyfarch rhai pryderon. Ategwyd pwysigrwydd adeilad yr Ysgol fel adnodd
cymunedol yn Nebo, gan nodi y byddai’r Polisi Ôl-ddefnydd ar waith a
chefnogaeth bellach yn cael ei rhoi i’r gymuned pe bai cymeradwyaeth gan y
Cabinet.
·
Cyfeiriwyd at y ganmoliaeth sydd am y
ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol o fewn Ysgol Nebo, a gofynnwyd am
sicrwydd y bydd y ddarpariaeth hon yn parhau yn yr ysgol amgen. Nodwyd bod y
Cyngor yn edrych ar ei strwythurau o ran anghenion dysgu ychwanegol a
chynhwysiad, ac yn edrych i gryfhau’r gefnogaeth i’r holl ysgolion. Amlygwyd
bod heriau ariannol a strwythurol yn y maes hwn, ond mai’r nod yw sicrhau fod
pob ysgol yn gynhwysol.
·
Cadarnhawyd bod capasiti
digonol gan Ysgol Llanllyfni i ymgymryd â’r nifer disgyblion a fyddai’n ymuno o
Ysgol Nebo. Tynnwyd sylw at y ffaith fod gan rieni yr hawl i anfon eu plant i
unrhyw ysgol, felly does dim gorfodaeth ar ddisgyblion Ysgol Nebo i ymuno â
Ysgol Llanllyfni pe bai’r cynnig yn dod yn weithredol.
·
Nodwyd mai 9 o blant sydd yn nalgylch Ysgol
Nebo, a bod nifer o ffactorau cymdeithasol yn effeithio ar ddewis rhieni o ba
ysgol i anfon eu plant. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phryder plant o
gael eu bwlio mewn ysgol fwy, cadarnhawyd bod cynlluniau o ran integreiddio
plant i ysgolion eraill. Ychwanegwyd bod trafodaethau gyda’r ysgolion sy’n
derbyn y plant yn mynd rhagddo, i sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth
angenrheidiol.
Awdur:Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg
Dogfennau ategol: