Agenda item

A)   RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD EINIR WILLIAMS

 

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Einir Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Amddiffyn Enwau Lleoedd Cymraeg ar Fapiau’r Arolwg Ordnans

 

Dwi eisiau mynegi pryder dwfn ac angerddol ynghylch polisi presennol yr Arolwg Ordnans (AO) sy’n arwain at ddileu, tanseilio ac anwybyddu enwau lleoedd Cymraeg sydd wedi bod yn rhan o’n tirwedd ers canrifoedd.

Ar hyn o bryd, mae mapiau Arolwg Ordnans yn:

·         Disodli enwau Cymraeg hanesyddol â ffurfiau Saesneg nad oes ganddynt sail na thraddodiad, e.e. The Mushroom Garden am Goed Cerrig y Frân, Heather Terrace Path am Lwybr Gwregys.

·         Rhoi enwau Saesneg ochr yn ochr ag enwau Cymraeg, gan greu’r argraff bod yr enwau Cymraeg yn ddewisol neu’n eilradd, e.e. Cwm Cneifion / Nameless Cwm, Bala Lake / Llyn Tegid. ‘Snowdon/Yr Wyddfa (er gwaethaf y ffaith nad yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn defnyddio'r enw Snowdon bellach.)'

 

Mae’r Cyngor hwn yn beirniadu’r arferion hyn, gan eu bod yn cyfrannu’n uniongyrchol at golli enwau Cymraeg, ac felly’n tanseilio ein hiaith, ein hanes a’n hunaniaeth genedlaethol. Pan fo’r Arolwg Ordnans yn mabwysiadu enw Saesneg, mae’n ymddangos ar wefannau, arwyddion, cyhoeddiadau, a’r cyfryngau ac o ganlyniad, mae’r enw Cymraeg yn cael ei wthio i’r cysgod.

Mae hyn yn digwydd hyd yn oed ymhlith siaradwyr Cymraeg ifanc, sydd yn aml yn cael eu harwain i gredu mai’r enw Saesneg yw’r “safonol”. Dyma sut mae iaith yn cael ei gwanhau,  nid mewn un ergyd, ond mewn mil o gamau bach.

 

Mae enwau lleoedd Cymraeg yn rhan o’n DNA diwylliannol. Maent yn adrodd hanes y tir, y bobl, y chwedlau, y gwaith, y bywyd. Nid oes gan neb hawl i’w dileu na’u disodli.

 

Felly, dwi eisiau rhoi cynnig i’r cyngor hwn heddiw ein bod ni yn :

1.    Ysgrifennu at yr Arolwg Ordnans i alw arnynt i roi diwedd ar y polisi niweidiol presennol, ac i fabwysiadu egwyddor glir a syml a defnyddio enwau lleoedd tirweddol Cymraeg yn unig ar fapiau yng Nghymru.

2.    Galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn ffurfiol ac i sicrhau bod yr Arolwg Ordnans yn parchu ac yn diogelu enwau Cymraeg hanesyddol.

 

Nid yw hyn yn fater o fapiau yn unig.  Mae’n fater o hunaniaeth, parch a chyfiawnder diwylliannol.

 

B)   RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD NIA JEFFREYS

 

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Nia Jeffreys yn cynnig fel a ganlyn:-

 

 

Mae’r Cyngor yn nodi llofruddiaeth yr Aelod Seneddol, Jo Cox ar 16/06/2016, ddeng mlynedd yn ôl eleni. (Bu i’r AS David Amess hefyd gael ei lofruddio ar 15/10/2021).

 

Mewn byd sy’n gynyddol dreisgar ac ymosodol, trist yw’r ffaith bod aelodau etholedig, o bob plaid ac ar bob lefel o lywodraeth, yn gynyddol agored i sarhad a chamdriniaeth. Dengys ymchwil diweddar fod 72% o Gynghorwyr wedi dioddef ryw fath o fygythiad - boed yn eiriol neu’n waeth - yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

Mae’r Cyngor hwn yn credu nad oes lle i ymddygiad bygythiol na threisgar mewn gwleidyddiaeth. Mae Cynghorwyr Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i fodelu’r safonau uchaf o barch a chwrteisi wrth ymwneud â’n gilydd ac â’r cyhoedd, ac rydym yn dymuno i’r un parch gael ei ddangos tuag atom.

 

Galwn ar aelodau’r Cyngor hwn ac aelodau Cynghorau Cymuned a Thref drwy Wynedd i gefnogi ymgyrch Un Llais Cymru, NALC a SLCC  “Adduned Parch a Chwrteisi”.

 

Un Llais Cymru