Agenda item

Cyflwyno adroddiad Yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned.

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd ‘Gwynedd 2035: Economi Sy’n Gweithio i Bawb’ yn strategaeth datblygu economaidd i Wynedd.   

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned gan nodi fod y strategaeth wedi ei ddatblygu gan fod y Cabinet wedi adnabod bwlch o beidio cael un ddogfen sydd yn adnabod dymuniadau pobl y Sir ar gyfer economi ac i osod cyfeiriad ar gyfer datblygu’r economi. Ategwyd fod ariannu ar gyfer y maes datblygu’r economi yn gynyddol ansicr a bod pwyslais Llywodraeth Cymru wedi bod ar gyfer cydweithio rhanbarthol, a bod buddsoddiad wedi ei weld ar draws y gogledd ond dim cynlluniau cyffelyb ar gyfer Gwynedd. Nodwyd fod ansicrwydd parhaus am yr economi yn fyd-eang a bod awyrgylch tymhestlog yng Nghymru yn benodol.

 

Amlygwyd fod agweddau positif a chryf am economi Gwynedd megis potensial o fewn mentrau sydd eisoes yn bodoli, diweithdra yn isel a lefelau cymwysterau’r gweithlu yn uchel. Mynegwyd mai pwrpas y strategaeth oedd adnabod lle mae modd gwella, ac amlygwyd meysydd megis llai o bobl mewn oed gwaith yn gweithio, cyflogau isel, gormod o waith rhan-amser a tymhorol a diffyg amrywiaeth diwydiannau.

 

Manylwyd fod y broses o ddatblygu’r strategaeth wedi bod yn feintiol ac yn cynnwys ymchwil desg sylweddol gyda mewnbwn gan ystod o randdeiliad o’r sector preifat, cyhoeddus a trydydd sector. Amlygwyd fod mewnbwn wedi ei dderbyn gan Cynghorwyr drwy’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi.

 

Nodwyd yr awydd i gael economi sy’n rhoi cyfle i bawb wireddu eu llawn botensial gydag economi sy’n cryfhau cyfoeth naturiol a diwylliannol y sir. Pwysleisiwyd ei fod yn gyfle cyffroes i wneud Gwynedd yn gyrchfan rhagoriaeth mewn diwydiannau wrth barhau i feithrin ac ychwanegol at sectorau traddodiadol fel amaeth a thwristiaeth. Mynegwyd y weledigaeth o gael economi arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy’n cryfhau'r Gymraeg, creu cyfleoedd newydd a chyfrannu at lesiant. Tywyswyd drwy’r tair thema sydd wedi ei adnabod Mentergarwch, Pobl a Lles.

 

Eglurwyd er mwyn gweithredu’r strategaeth eu bod yn awyddus ffurfio Fforwm Economaidd a fydd wedi’i seilio ar y grŵp ymgynghorol llwyddiannus a lywiodd gwaith y Gronfa Ffyniant Cyffredin. Ymhelaethwyd y bydd hyn yn sicrhau llais i rannau gwahanol o Wynedd er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth ar draws y sir. Nodwyd mai'r Fforwm a fydd yn llunio'r Cynllun Cyflawni’r flynyddol, a bydd fframwaith monitro a gwerthuso yn fodd o fesur llwyddiant yn erbyn gweithgareddau.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Cefnogwyd y strategaeth gan groesawu strategaeth dda i ddenu buddsoddiad i’r sir, nodwyd ei fod yn gychwyn ardderchog ac yn edrych ymlaen at weld y targedau i weld beth sydd yn dod ohoni.

 

Croesawyd y strategaeth gan edrych ymlaen at weld y Cynllun Cyflawni. Mynegwyd siom o glywed am Uchelgais Gogledd Cymru yn tynnu allan o gynllun Glynllifon, ond amlygwyd yr angen am ddatblygiad yn ne'r Sir.

 

Gofynnwyd faint o rym fydd gan y Fforwm a beth fydd y drefn monitro er mwyn sicrhau dyraniad gwastad ar draws y sir, ac a fydd Cynghorwyr yn rhan o’r monitro. Nodwyd y bydd monitro yn rhagweithiol i ddatblygiad prosiectau a bydd gwaith yn cael ei gyfeirio at graffu. Eglurwyd y bydd y Fforwm yn rhoi arweiniad ar draws y sir. Gofynnwyd bod adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i ddangos dyraniad traws sirol.

 

Amlygwyd Hwb Trawsfynydd, a diolchwyd am y gwaith sydd yn digwydd tu ôl i’r llen. Gwahoddwyd yr holl aelodau i weld y gwaith dymchwel  sydd yn mynd rhagddi ac i weld y cynlluniau newydd sydd i’r safle.

 

Holwyd am sefyllfa Llanbedr ac os yw’r les bellach yn nwylo pobl leol. Eglurwyd fod y Llywodraeth wedi ei roi i gwmni Preifat, ond fod trafodaethau yn parhau o ran y les yn y tymor hir.

 

Pwysleisiwyd yr angen i sicrhau fod yr adran Gynllunio yn cefnogi’r economi, a’r angen i weithio yn draws adrannol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu ‘Gwynedd 2035: Economi Sy’n Gweithio i Bawb’ yn strategaeth datblygu economaidd i Wynedd. 

 

Dogfennau ategol: