Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Economi a
Chymuned gan nodi’r rheswm dros ystyried Ardoll Ymwelwyd yw sicrhau bod y
sector dwristiaeth yn cyfannu’n deg at gostau’r pwysau mae’n ei greu ar
wasanaethau lleol, yr amgylchedd, y Gymraeg a chymunedau’r sir. Ychwanegwyd fod
yr ardoll yn fodd o ail-fuddsoddi yn yr economi ymweld er lles trigolion a
busnesau lleol.
Amlygwyd y sefyllfa bresennol, sef fod miliynau o ymweliadau
a Gwynedd bob blwyddyn yn creu pwysau cynyddol ar wasanaethau lleol mewn cyfnod
ble mae cyllidebau dan straen. Yn ôl Llywodraeth Cymru, nodwyd fod yr ardoll yn
ateb posib gan ei fod yn gofyn am gyfraniad bach gan ymwelwyd dros nos i’w ail
fuddsoddi'n lleol, gyda rheolaeth a thryloywder lleol. Pwysleisiwyd nad yw’r
cynnig yn ddatblygiad gwrth dwristiaeth, ond yn hytrach ceisio rheoli a
chryfhau’r economi mewn ffordd gynaliadwy yn y tymor hir. Ategwyd fod nifer o
ffyrdd o fesur yr economi ymweld, a bod rhain i’w gweld yn yr asesiadau
effaith, yn rhoi maint gwahanol ar economi Gwynedd ac felly yn effeithio ar
asesiadau ardrawiad effaith.
Tynnwyd sylw at y
sylwadau a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi a oedd yn
cynnwys yr angen am ymgynghoriad trylwyr yn cael ei gynnal ac ymrwymiad pendant
ar wariant yr arian.
Mynegwyd fod proses fanwl y bydd i’w fabwysiadu os yn
dymuno’r ardoll, a nodwyd mai’r gyfradd genedlaethol yw 75c heb gynnwys TAW ar
gyfer y raddfa isaf (sy’n cynnwys meysydd gwersylla a hosteli) a £1.30 heb
gynnwys TAW ar yfer y raddfa uchaf. Nodwyd y bydd disgwyl i bawb sy’n aros dros
nos dalu’r ardoll ond fod eithriadau yn bodoli. Eglurwyd fod y Cyngor wedi
ystyried y potensial o gyflwyno ardoll er nifer o flynyddoedd, gyda gwaith
ymchwil Elwa o Dwristiaeth o 2018 wedi amlygu’r ardoll fel y ffynhonnell fyddai’n
dod a’r mwyaf o incwm i Wynedd i fuddsoddi yn yr economi ymweld.
Esboniwyd mai’r gofyn heddiw yw penderfynu os dylid
gweithredu trefn ymgynghori gyhoeddus, a bydd y canlyniadau yn derbyn
ystyriaeth pan fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Cyngor Llawn.
Amlygwyd fod y Cyngor yn cyd-weithio’n agos a Chonwy ac Ynys Môn ar gynnal
ymchwil asesiadau effaith, a bod trafod wedi bod gyda Chyngor Caerdydd sydd
wedi penderfynu mabwysiadu ardoll yn dilyn proses ymgynghori.
Nodwyd fod yr asesiadau effaith wedi’u datblygu dan
arweiniad Llywodraeth Cymru, a nodwyd fod yr asesiad yn nodi y gellid gweld ar
ei waethaf golli 50 o swyddi neu greu 21 o swyddi ar ei orau. O ran y refeniw,
mynegwyd ei fod yn amrywio o £2.4m wrth ddefnyddio un set o ddata i dros £12m
os defnyddir un arall. Rhagwelir felly y bydd y swm yn uwch nac yr hyn sydd
wedi ei nodi yn y Cynnig Ardoll.
Eglurwyd fod y drefn o ymgynghori wedi’i osod yn y ddeddf,
ac mae’n gosod allan yn glir lle gellir buddsoddi incwm yr ardoll, ynghyd a’r
angen i sefydlu Fforwm Partneriaeth Ardoll ar lefel awdurdod lleol. Amlygwyd
fod y cynnig yn amlygu y dylai incwm gael ei fuddsoddi mewn prosiectau a
gweithgareddau sy’n cyd-fynd ag egwyddorion economi ymweld cynaliadwy Cynllun
Gwynedd ac Eryri 2035 megis gwella toiledau, cludiant cyhoeddus a chefnogi
digwyddiadau.
Mynegwyd os bydd cefnogaeth, y bwriad yw cynnal proses
ymgynghori ar 20fed o Fai am gyfnod o wyth wythnos cyn dychwelwyd yn ôl i’r
Cyngor Llawn ar 24 Medi. Pwysleisiwyd na wneir unrhyw benderfyniad terfynol ar
fabwysiadu'r Ardoll tan ar ôl y broses ymgynghori.
Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.
Nodwyd dealltwriaeth o’r buddiannau fydd o gael ardoll, a
chytunwyd ar syniad mewn egwyddor ond manylwyd fod pryderon yn ogystal megis
sut i’w orfodi. Nodwyd er bod yr adroddiad yn amlygu sut y bydd yn dod ag arian
i mewn nad yw’r adroddiad yn dangos sut y gall weithio heb ddod ag effaith
negyddol ar dwristiaeth yn y sir. Mynegwyd fod twristiaeth a’r maes lletygarwch
yn effeithio ar lot o fusnesau a bod cyflwyno’r ardoll yn gallu bod yn risg o
leihad mewn busnes. Pwysleisiwyd y dylid dal yn nol er mwyn gweld beth yw’r
effaith ar siroedd eraill a chasglu data cyn gwneud penderfyniad.
Atgoffwyd mai penderfynu ar fynd i ymgynghoriad mae’r
adroddiad heddiw er mwyn sicrhau fod lleisiau yn cael ei glywed, gan drigolion,
gan bobl sy’n gweithio yn y maes twristiaeth ac yn berchnogion busnesau.
Mynegwyd fod twristiaeth yn cael effaith ar feysydd megis yr iaith ac y buasai
hyn yn rhoi mewnbwn i’r costau yn lleol, ond amlygwyd nad yw hyn yn rhan o’r
penderfyniad heddiw.
Pwysleisiwyd fod llawer o ymgynghoriadau yn cael ei gynnal
gan y Cyngor. Ychwanegwyd fod treth ar ystafelloedd yn barod yn 20% i fusnesau
ac felly oes angen codi mwy. Mynegwyd fod yr economi yn fregus yn barod ac
felly bod angen bod yn ofalus nad oes negeseuon gwrth dwristiaeth yn cael ei
rhannu.
Cyfeiriwyd fod twristiaeth yn lleihau yn y sir ar hyn o bryd
o ganlyniad i benderfyniadau megis codi treth busnes ac erthygl 4, a bod angen
dal yn ôl a chael cyfnod i sefydlogi. Tynnwyd sylw at wledydd tramor ble mae
treth lletygarwch oddeutu 7% ac felly yn llawer is ‘na Gwynedd, a bod angen
data pellach.
Mynegwyd ei bod yr amser iawn i ymgynghori a tynnwyd sylw at
Gaeredin sydd ar ardoll uchaf yn Ewrop. Amlygwyd fod nifer ymwelwyr wedi codi
oherwydd bod yr arian wedi ei fuddsoddi i wella’r ddinas. Datganwyd fod hwn yn
gyfle i wella profiad ymwelwyr a thrigolion.
Croesawyd yr ymgynghoriad ond amlygwyd nad oedd yr adroddiad
yn amlygu gor-dwristiaeth sydd yn y sir. Ymhelaethwyd fod manteision o’r arian
yn cael ei ddefnyddio i liniaru'r effaith negyddol ar gymunedau a bod angen
buddsoddi mewn twristiaeth ond heb annog mwy o dwristiaeth. Mynegwyd yr angen i
eirio’r ymgynghoriad yn dda a gofynnwyd pwy fydd yn craffu ar y geiriad ei hun.
Ymatebodd y Swyddog Monitro drwy nodi’r broses yn unol â’r ddeddf.
Amlygwyd fod heriau yn amlwg gyda thwristiaeth ond fod
elfennau positif drwy’r bwrlwm mae’n ei greu a rhaid ymfalchïo fod ymwelwyr ar
draws y byd yn ymweld a’r sir. Mynegwyd fod potential gyda’r ardoll i
fuddsoddi’r arian i gefnogi busnesau a'i fod yn gyfle cyffroes i’w wario mewn
ffordd gynaliadwy ac i sicrhau fod trigolion yn gallu mwynhau byw yn yr ardal.
Cefnogwyd y penderfyniad gan nodi bydd pobl ei ward yn hapus
o weld yr arian yn dod i mewn i fuddsoddi i wella cyfleusterau ac y dylid
cymryd mantais i godi safonau ac i blismona unigolion sy’n amharchu’r ardal.
O ran y data, nodwyd nad oes data ar gael yn lleol er mwyn
gweld beth yw effaith yr ardoll ond fod data o wledydd eraill y gellir ei
ddefnyddio. Amlygwyd os yn dal yn ôl ac yn disgwyl i weld canlyniadau mewn
siroedd cyfagos gall fynd yn broses hir oherwydd prosesau’r ddeddf. Mynegwyd y
bydd yr ymgynghoriad yn creu data o farn pobl leol a busnesau a fydd yn cael ei
ddefnyddio i wneud y penderfyniad ym mis Medi.
Gofynnwyd i bobl Gwynedd, os yn cael ei gytuno heddiw, i
ymateb i sicrhau fod lleisiau yn cael eu clywed.
Cefnogwyd y syniad mewn egwyddor ond fod angen bod yn gwbl
glir i drethdalwyr. Mynegwyd pwysigrwydd cyplysu’r penderfyniad hwn ynghyd ac
Erthygl Pedwar a'r Premiwm, gan sicrhau nad oes sgil effeithiau sydd heb eu
rhagweld yn taro pobl leol yn negyddol. Pwysleisiwyd yr angen i fod yn ofalus
wrth gyflwyno, ond efallai ei fod yn ffordd decach o gynyddu incwm nac yw’r
premiwm.
Holwyd beth oedd y
risg o’i oedi am flwyddyn, ymatebwyd drwy nodi nad yw oedi am newid y sefyllfa
o ran data gan fod cyfnod paratoi o flwyddyn cyn mynd yn weithredol ac felly ni
fydd data ychwanegol ar gael.
Gofynwyd pe bai’r dreth yma yn cael ei roi ar bobl leol yn
ogystal, be fyddent yn mynd i aros yn rhan arall o’r sir ar eu gwyliau.
Ymatebwyd drwy nodi ei fod yn dreth a fydd yn cael ei roi ar unrhyw un sydd yn
aros yng Ngwynedd dros nos.
Cynigwyd gohirio'r eitem oherwydd efallai y bydd bwlch yn yr
ymgynghoriad, a bydd modd dadansoddi’r data Conwy a Môn er mwyn cael mwy o
wybodaeth. Eglurwyd y bydd modd cymryd amser er mwyn sicrhau fod ymgynghoriad
Gwynedd yn gywir. Pleidleisiwyd ar y cynnig, a bu i’r cynnig syrthio felly
pleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol.
1.
I gyhoeddi Adroddiad Cynnig Ardoll
Ymwelwyr Gwynedd;
2.
I gytuno i gynnal ymgynghoriad ar y
Cynnig i gyflwyno Ardoll yn unol â’r rhestr ymgynghoron ym mharagraff 5.4 a 5.5
o’r adroddiad yma;
3.
I hysbysu Awdurdod Cyllid Cymru, yn unol
â’r statud, o’r bwriad i ymgynghori ar gyflwyno'r Ardoll.
Dogfennau ategol: