Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 – Adolygiad 2026/27.  

Cofnod:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad gan nodi fod y cynllun yn fap a fydd yn arwain y ffordd i ble mae’r Cyngor yn dymuno ei fod. Pwysleisiwyd fod y blaenoriaethau yn cynnwys Gwynedd gyfartal, lewyrchus, ofalgar, ac effeithlon. Tynnwyd sylw penodol at flaenoriaeth newydd Gwynedd Gyfartal. Amlygwyd ei fod rhoi’r egwyddor o drin pawb yn deg wrth wraidd popeth a bod prosiectau megis Merched mewn Arweinyddiaeth yn mynd i weithredu i fynd i’r afael a’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar gyfloedd pobl.

 

Eglurwyd bod y Cynllun wedi ei fabwysiadu pum mlynedd yn ôl, a gyda’r byd yn newid mor gyflym ei bod yn naturiol i adolygu a diweddaru’r Cynllun. Nodwyd fod gweithdai wedi ei gynnal ddechrau’r flwyddyn gydag Aelodau Cabinet er mwyn cytuno ar addasiadau cyn rhannu ar holl aelodau i dderbyn eu sylwadau. Ymhelaethwyd drwy nodi fod nifer o’r sylwadau ac awgrymiadau wedi eu hymgorffori yn y cynllun.

 

Tynnwyd sylw at faes blaenoriaeth Gwynedd Yfory, gan bwysleisio ei bwysigrwydd i sicrhau’r cychwyn gorau i blant a phobl ifanc Gwynedd. Ynghyd a hynny ychwanegwyd ei fod yn holl bwysig fod Gwynedd yn sir sy’n blentyn cyfeillgar ac yn sir trawma wybodus a diolchwyd i’r Is-Arweinydd am ei arweiniad yn y maes.

 

Amlygwyd prosiect newydd ym mlaenoriaeth Gwynedd Gymraeg, sef ‘Nol i Wynedd’ sydd a’i nod o gryfhau poblogaeth Gwynedd er mwyn cyfrannu at gymunedau bywiog a thwf yn nefnydd y Gymraeg.

 

Nodwyd fod Cynllun Ymateb: Cyfiawnder drwy ein Dewrder wedi ei gynnwys ar ddechrau’r Cynllun er mwyn tanlinellu’r ffaith fod y gwaith hwn yn ymrwymiad parhaus. Diolchwyd i’r holl aelodau, gweithlu’r Cyngor, partneriaid a chymunedau am weithio yn galed dros y sir a’r trigolion.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Nodwyd balchder drwy gyflwyno’r flaenoriaeth newydd, a'i fod yn gam ymlaen er mwyn gwneud pethau yn wahanol, i wrando ar leisiau trigolion a bod penderfyniadau yn cael ei gwneud gyda phawb mewn golwg ac nid y mwyafrif bob amser. Tynnwyd sylw at y gwaith sydd yn cael ei wneud i greu sir plentyn cyfeillgar gydag ymwybyddiaeth trawma a fod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar blant y Gwynedd. Pwysleisiwyd fod gwaith wedi ei wneud ond fod mwy i'w wneud. Mynegwyd fod gweledigaeth Llechen Lan yn amlygu’r awydd sydd gan y Cyngor o feddwl a buddsoddi yn y dyfodol, gydag un uchelgais sef i sicrhau'r gwasanaeth gorau i bobl Gwynedd. 

 

Amlygwyd blaenoriaeth Gwynedd Ofalgar sydd a’r ffocws o wella gwasanaethau gofal a hybu annibyniaeth i bobl fregus o fewn eu cymunedau. Ategwyd fod y buddsoddiad a’r datblygiadau i greu gwasanaethau modern yn holl bwysig, ond hynny drwy'r cyd-weithio cyson holl bwysig gyda phartneriaid i ddarparu’r gofal gorau. Diolchwyd i holl staff gofal a holl ofalwyr y sir.

 

Mynegwyd fod gwasanaethau megis gofal oedolion a phlant ac addysg yn wasanaethau drud i’w rhedeg, ac mai yma mae mwyafrif o gyllideb y Cyngor yn cael ei wario. Croesawyd adolygiad i’r Gwasanaethau Ieuenctid, sydd wedi derbyn toriad enbyd dros y blynyddoedd diwethaf, gan amlygu ei fod yn waith ataliol holl bwysig a gobeithio y bydd modd ail fuddsoddi yn dilyn yr adolygiad.

 

Cefnogwyd y gwaith o fod yn sir trawma ymwybodol a’r Cynllun Awtistiaeth yn benodol, gan fod trawma yn effeithio plant tu hwnt i’r maes gofal yn unig. Ychwanegwyd o ran y cynllun Awtistiaeth, ei bod yn anodd cael diagnosis ond wedi hynny bod angen cymorth i gael y gefnogaeth arbenigol gywir gan fod y sbectrwm mor eang.

 

Pwysleisiwyd yr angen i’r cynllun fod yn fwy ‘na geiriau a bod angen gweld  cynllun gweithredu ynghyd a sicrhau fod digon o arian i gefnogi’r holl gynlluniau.

 

Nodwyd fod nifer o ddeunydd da i’w gweld yn y Cynllun hwn, er hynny fod angen cynnwys Erthygl 4, gan fod y mater wedi costio cymaint i’r Cyngor a bod angen amlinellu beth aeth o’i le. Yn yr un modd, ychwanegwyd fod rhoi lle i’r adroddiad ymarferiad diogelu plant ar ddechrau’r adroddiad yn ddi-chwaeth a bod gwendidau’r Cyngor yn cael ei gyfleu yn gryfderau.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 – Adolygiad 2026/27

 

 

Dogfennau ategol: