Agenda item

Hedd Vaughan-Evans, Cyfarwyddwr Portffolio i gyflwyno’r adroddiad.  

Penderfyniad:

  1. Nodi Adroddiad perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

 

  1. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Nodi Adroddiad perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

 

2.     Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd ar nifer o uchafbwyntiau a gyflawnwyd o fewn y chwarter hwn, megis cymeradwyaeth tair o Achosion Busnes Amlinellol, Achos Busnes Llawn ar gyfer prosiect EGNI, yn ogystal â sawl Cais am Newid. Ymfalchïwyd bod digwyddiad cychwynnol wedi ei gynnal ar gyfer prosiect Defaid Llaeth Cymru yn ogystal â chyfarfod y panel buddsoddi cyntaf y Gronfa Ynni Glân ble cymeradwywyd prosiectau cyntaf ar gyfer y gronfa honno.

 

Mynegwyd balchder bod 161 o swyddi wedi cael eu creu hyd yma gan egluro bod 63 o’r rhain yn sywddi newydd a 58 ohonynt yn swyddi adeiladwaith. Nodwyd bod y niferoedd hyn ychydig yn uwch na’r hyn a ragdybiwyd. Eglurwyd bod yr Aelodau wedi debryn gwybodaeth ychwanegol am ddata swyddi y tu hwnt i ddogfennaeth y cyfarfod hwn, gan egluro bydd y wybodaeth yma yn cael ei rannu yn gyhoeddus pan bydd niferoedd swyddi yn cynyddu. Cydnabuwyd nad oes modd eu rhannu yn gyhoeddus ar hyn o bryd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw unigolyn yn gallu cael eu hadnabod o’r wybodaeth.

 

Cadarnhawyd bod y buddsoddiad i’r Cynllun Twf bellach yn £30,652,413.01 gan nodi bod y cyfanswm buddsoddi bellach dros £34.2miliwn, ac adroddwyd bod hyn yn cyfarch targedau buddsoddi ar gyfer y flwyddyn. Ymhelaethwyd bod y prosiectau bellach wedi diogelu dros £7miliwn o gyllideb refeniw.

 

Eglurwyd bod 7 prosiect bellach yn weithredol, gan gydnabod bod hyn yn llai na’r nifer o brosiectau a ddisgwyliwyd i fod yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn. Nodwyd bod oedi wedi bod ar rhai prosiectau megis Parc Bryn Cegin. Ymhelaethwyd bod rhai cynlluniau wedi oedi oherwydd rheoliadau gwleidyddol Cyfnod Cyn Etholiad: Etholiad Senedd Cymru, gan obeithio bydd y prosiectau hynny yn weithredol cyn gynted â phosib.

 

Rhannwyd bod 10 prosiect wedi cael eu cymeradwyo ond nad ydynt yn weithredol ar hyn o bryd. Sicrhawyd y disgwylir i’r mwyafrif o’r prosiectau hynny fod yn weithredol o fewn chwe mis.

 

Nodwyd hefyd bod Achosion Busnes Amlinellol yn cael eu datblygu ar gyfer 8 prosiect Cyfeiriwyd at un prosiect sydd yn parhau i adrodd yn goch ar hyn o bryd, ac o dan adolygiad o’r herwydd, sef Hwb Hydrogen Caergybi. Mynegwyd balchder bod yr Achos Busnes Amlinellol wedi cael ei ddatblygu ac yn cael ei asesu ar y cyd gyda chynghorwyr allanol.

 

Manylwyd ar Gofrestr Risg y Portffolio gan gadarnhau bod y risgiau gweddilliol ar gyfer ‘fforddiadwyedd’ a ‘newid gwleidyddol’ wedi cael eu cynyddu yn ddiweddar yn dilyn y rhyfel yn y dwyrain canol yn ogystal â’r angen i gychwyn cydweithio gydag aelodau newydd o’r Senedd yn dilyn yr etholiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Trafodwyd risgiau Fforddiadwyedd presennol yn dilyn y rhyfel yn y dwyrain canol. Tynnwyd sylw bod yr hinsawdd economaidd wedi diwygio’n sylweddol ers 2020, pan gytunwyd ar Gytundeb Ariannol ar gyfer y Cynllun Twf. Mewn ymateb i ymholiad ar y trafodaethau sydd ar y gweill gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r ‘allbynnau disgwyliedig’, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Portffolio bod swyddogion wedi bod yn cyfathrebu gyda’r Bwrdd Portffolio a’r Prif Weithredwyr Cynghorau’r rhanbarth, er mwyn cynllunio dogfen yn amlygu’r sefyllfa bresennol a pharatoi i’r dyfodol. Eglurwyd ei fod yn hanfodol i sicrhau bod gweithdrefnau i’r dyfodol yn cael eu cynllunio yn ofalus i sicrhau bod unrhyw gynlluniau sy’n mynd i’r afael a’r cynnydd i gostau a fforddiadwyedd ddim yn cael eu niweidio drwy ddatblygiadau pellach i’r rhyfel. Cadarnhawyd nad oes unrhyw drafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r Llywodraethau ar hyn o bryd, gan nodi bod swyddogion yn paratoi amdanynt. Rhannwyd dymuniadau i’r trafodaethau gael eu cynnal cyn gynted a bod modd. Ychwanegodd Sylwedydd Llywodraeth Cymru bod y Llywodraeth yn barod i gynnal y trafodaethau hyn gyda swyddogion ac yn eiddgar i chwilio am ddatrysiadau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am fanylder y data ar draws y rhanbarth. Rhannodd rai aelodau’r dyhead i dderbyn data pellach fesul siroedd y rhanbarth i’r dyfodol, er mwyn gallu cyfiawnhau’r buddsoddiad ymhellach gyda’u cyd-aelodau lleol, o’r arian cyhoeddus. Cydnabuwyd bod adrodd ar y math hwn o ddata yn gallu bod yn heriol gan fod rhai prosiectau yn fanteisiol i siroedd cyfagos a’r rhanbarth yn ei gyfanrwydd, er ei bod wedi ei leoli mewn sir arall. Fodd bynnag, ystyriwyd byddai derbyn gwybodaeth o’r math yma yn annog siroedd unigol i ganfod cyfleoedd datblygol a masnachol o’r newydd, tra hefyd yn gweithio tuag at y prif dargedau rhanbarthol. Mewn ymateb i’r sylwadau, adroddodd y Cyfarwyddwr Portffolio nad yw’r math yma o wybodaeth wedi cael ei gyflwyno o fewn y math hwn o adroddiad yn y gorffennol, fodd bynnag, bydd swyddogion yn cysylltu gydag aelodau er mwyn derbyn argymhellion am y wybodaeth y dymunir ei dderbyn o fewn yr adroddiadau chwarterol yma i’r dyfodol oherwydd bydd yr adroddiad nesaf yn adlewyrchu chwarter cyntaf y flwyddyn 2026/27. Cynhaliwyd trafodaeth ar y mater hwn ble cyflwynwyd nifer o safbwyntiau o blaid ac yn erbyn cynnwys y wybodaeth yma o fewn yr adroddiadau i’r dyfodol gan gynnwys materion poblogaeth, trafnidiaeth a manteision traws-sirol.

 

Ystyriwyd bod yr adroddiad yn gadarnhaol iawn gan nodi ei fod yn hanfodol i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o’r llwyddiannau hyn. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Portffolio bod llawer o gyfleoedd i hysbysu’r cyhoedd o’r llwyddiannau, drwy ddatganiadau i’r wasg a digwyddiadau sydd eisoes ar y gweill, gan bwysleisio nad oedd modd gwneud hynny yn yr wythnosau diwethaf oherwydd rheoliadau Cyfnod Cyn Etholiad, Etholiad Senedd Cymru.

 

Diolchwyd am yr adroddiad. 

 

Dogfennau ategol: