Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid, i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Bennaeth Cynorthwyol Cyllid
PENDERFYNIAD
· Nodi sefyllfa alldro’r Cynllun Twf
ar gyfer 2025/26 gan nodi, oherwydd tanwariant, peidio â defnyddio £60,990 o’r
gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi, a defnyddio swm llai o £867,731 o grant
Cynllun Twf Gogledd Cymru, i ddangos sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.
· Nodi sefyllfa cronfeydd y Cynllun
Twf.
· Nodi adolygiad cyfalaf diwedd
flwyddyn y Cynllun Twf ar 31 Mawrth 2026.
· Nodi sefyllfa alldro y Parth
Buddsoddi ar gyfer 2025/26.
· Nodi sefyllfa alldro y
Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer 2025/26.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Hysbysu’r Is-bwyllgor Lles Economaidd am sefyllfa ariannol y Cynllun Twf
(gan gynnwys y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chynllun Ynni Ardal Leol), y Parth
Buddsoddi a’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer refeniw a chyfalaf yn
2025/26.
TRAFODAETH
Tywyswyd
yr aelodau drwy sefyllfa refeniw a chyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf, Parth
Buddsoddi a’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer y flwyddyn ariannol
2025/26.
Sefyllfa
Alldro Net Terfynol
Adroddwyd
bod tanwariant o £543,000 o fewn y sefyllfa alldro net terfynol, gyda’r prif
danwariant yn deillio o bennawd ‘gweithwyr’. Ymhelaethwyd bod oddeutu £90,000
o’r tanwariant hwn yn deillio o staff sydd yn gweithio cyfran o’u hamser ar y
Cyd-bwyllgor Corfforedig, £39,000 yn ymwneud a staff sy’n gweithio ar y
Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a £156,000 yn ymwneud â staff a ariannwyd gan
brosiectau’r Cynllun Twf. Cadarnhawyd bod swyddi gwag wedi arwain at danwariant
o oddeutu £255,000.
Nodwyd
hefyd bod tanwariant yn erbyn pennawd ‘rolau llywodraeth ychwanegol’ oherwydd,
er bod penodiadau wedi cael eu gwneud yn ystod y flwyddyn, eglurwyd eu bod yn
cael eu hariannu o’r Gronfa Adnoddau ac felly bu i gyllideb y gronfa honno gael
ei haddasu i gyfateb â’r tanwariant. Cyfeiriwyd hefyd at danwariant o £181,000
ar y gwariant cefnogol i brosiectau.
Amlygwyd
mai prif ffrydiau incwm ar gyfer y flwyddyn oedd: cyfraniadau partneriaid,
grant Cynllun Twf Gogledd Cymru, grant ynni Llywodraeth Cymru, y Gronfa
Ffyniant Gyffredin, y gronfa Wrth Gefn a’r Gronfa Adnoddau. Atgoffwyd mai
cyfraniadau partneriaid yw’r unig ffynhonnell ariannu barhaol ar gyfer y
Cyd-bwyllgor Corfforedig a'u bod yn gyfanswm o 20% o’r gyllideb lawn. Adroddwyd
bod y cyfraniadau gan bartneriaid wedi eu cymeradwyo fel rhan o’r Cytundeb
Cyflawni ac Ariannu gan yr holl bartneriaid perthnasol.
Cyfeiriwyd
at ffynonellau ariannu tymor byr megis y Grant Cynllun Twf. Eglurwyd bod hanner
yr arian a dderbyniwyd fel rhan o’r grant hwnnw wedi cael ei ddynodi i wariant refeniw,
gan nodi ei fod eisoes wedi cael ei ddefnyddio ym mhum mlynedd gyntaf y rhaglen
- gyda 10 mlynedd yn weddill. Pwysleisiwyd pwysigrwydd amrywiaeth ffynonellau
ariannu i’r dyfodol.
Ystyriwyd
defnyddio’r tanwariant hwn er mwyn gadael sefyllfa niwtral ar ddiwedd y
flwyddyn. Nodwyd byddai modd gwneud hyn drwy leihau cyfraniad o’r grant Cynllun
Twf o £1,350,000 i oddeutu £868,000 ac i beidio defnyddio £61,000 o’r gronfa
Wrth Gefn. Eglurwyd byddai’r ffynonellau hyn yn cael eu defnyddio i ariannu
gwariant o fewn y blynyddoedd dilynol ac yn lleihau’r risg o’r angen i gynyddu
cyfraniadau partneriaid yn y dyfodol agos.
Cronfeydd
Adroddwyd
ar y symudiad o fewn cronfeydd yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys balansau’r
cronfeydd hynny ar 31 Mawrth 2026.
Atgoffwyd
bod Cronfa Llog gwerth oddeutu £5miliwn wedi’i neilltuo er mwyn ariannu costau
benthyca yn y blynyddoedd nesaf, gan nodi bod y balans hwn wedi ei gymryd i
ystyriaeth wrth gyfrifo costau benthyca'r partneriaid yng nghyllideb y flwyddyn
ariannol 2026/27.
Cadarnhawyd
bod balans y Gronfa Adnoddau yn £4.4miliwn ar 31 Mawrth 2026, gan adrodd bod
oddeutu £1miliwn wedi ei glustnodi i’w ddefnyddio yng nghyllideb 2026/27.
Sefyllfa
Cyfalaf Terfynol y Cynllun Twf
Adroddwyd
bod £30.64miliwn o wariant wedi ei wneud ar y Cynllun Twf erbyn diwedd y
flwyddyn ariannol 2025/26. Nodwyd bod hyn yn ostyngiad net o £14.28miliwn o’i
gymharu â’r gyllideb a gymeradwywyd ym mis Chwefror 2025, yn dilyn llithriad ar
brosiectau. Er hyn, nodwyd bod y gwariant ar brosiect Cydnerth wedi ei wneud yn
gynt na ragdybiwyd, gyda £8.87miliwn yn arddangos yng ngwariant 2025/26 yn
hytrach na rhwng dwy flwyddyn ariannol fel y proffiliwyd yn wreiddiol.
Cadarnhawyd bod cyllideb y Cynllun Twf a ddynodwyd ar gyfer gwariant refeniw yn
2025/26 wedi cael ei ostwng i £0.87miliwn er mwyn adlewyrchu ffigyrau’r alldro
refeniw terfynol.
Gwariant
ac Incwm gwirioneddol y Parth Buddsoddi
Eglurwyd
bod oddeutu £323,000 o wariant wedi ei nodi yn erbyn Cyngor Sir y Fflint a
Wrecsam ar y ddogfennaeth, ond yn dilyn gwybodaeth fwy diweddar, cadarnhawyd
bydd y ffigwr hwn yn cael ei addasu i £230,000 erbyn i’r wybodaeth gael ei
gyflwyno’n derfynol am gymeradwyaeth. Soniwyd bod y ffigwr gwreiddiol yn
cynnwys £93,000 o ymrwymiadau a fyddai’n cael ei arddangos fel rhan o wariant
2026/27. Ymhelaethwyd bydd swm y Grant Parth Buddsoddi a ddefnyddir hefyd yn
cael ei addasu i adlewyrchu hyn, fel na fyddai’n cael effaith ar sefyllfa net y
flwyddyn.
Y
Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
Cadarnhawyd
bod sefyllfa ariannol y bartneriaeth yn dangos sefyllfa niwtral am y flwyddyn,
gan fod grant o £290,000 yn cael ei ariannu gan arian grant Llywodraeth Cymru.
Cadarnhawyd
bydd y wybodaeth a gyflwynwyd o fewn yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r
Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 04 Mehefin cyn ennyn cymeradwyaeth
terfynol gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar 19 Mehefin.
Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Mewn
ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol bod tanwariant yn
parhau mewn gwirionedd, er bod modd cadarnhau sefyllfa niwtral ar falansau
2025/26. Fodd bynnag, nodwyd bod y tanwariant hwn o £543,000 yn galluogi’r
ffynonellau ariannol a nodwyd o fewn yr adroddiad i barhau i fod ar gael i’r
dyfodol.
Diolchwyd
am yr adroddiad.
Dogfennau ategol: