Hedd
Vaughan-Evans, Cyfarwyddwr Portffolio, i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Cytuno i sefydlu
Cronfa Chwyddiant Costau ar gyfer 2026/27 a darparu £3.96m o gyllid y Cynllun
Twf i’r gronfa wrth gefn i’w gychwyn.
Cymeradwyo’r meini
prawf ar gyfer y Gronfa Chwyddiant Costau a’r matrics penderfyniadau a
dirprwyedig.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr
Portffolio.
PENDERFYNIAD
Cytuno i sefydlu Cronfa Chwyddiant Costau ar gyfer 2026/27 a darparu
£3.96m o gyllid y Cynllun Twf i’r gronfa wrth gefn i’w gychwyn.
Cymeradwyo’r meini prawf ar gyfer y Gronfa Chwyddiant Costau a’r matrics
penderfyniadau a dirprwyedig.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Cynnig sefydlu Cronfa Chwyddiant Costau i
gefnogi prosiectau cymeradwy (cymeradwyaeth Achos Cyfiawnhad Busnes) neu Achos
Busnes Llawn) gyda chostau uwch na ellir eu lliniaru, er mwyn sicrhau bod
prosiectau’n cael eu cyflawni yn ystod 2026/27. Byddai £3.96 cychwynnol yn cael
ei ddyrannu i’r Gronfa Chwyddiant Costau (i’w adolygu ymhen chwe mis) gan adael
£28m o gyllid heb ei ddyrannu ar gael i brosiectau’r Rhestr Wrth Gefn.
TRAFODAETH
Eglurwyd mai diben yr adroddiad yw sefydlu
Cronfa Chwyddiant Costau er mwyn cynorthwyo datblygiad prosiectau drwy gydol y
flwyddyn ariannol, yn dilyn heriau fforddiadwyedd fel
y nodwyd yn gynharach o fewn y cyfarfod hwn. Ystyriwyd byddai sefydlu’r gronfa
hon yn sicrhau bod modd parhau gyda graddfa ddatblygol prosiectau a sicrhau
momentwm i’r dyfodol wrth i fwy o Achosion Busnes gael eu cymeradwyo. Nodwyd
bod sefydlu’r gronfa hon yn deillio o brofiadau a gafwyd pan fu oediad ym
mhrosiectau yn dilyn y rhyfel yn Wcráin, ac i atal yr oediad hynny yn y
dyfodol.
Cynigiwyd dyrannu £3.96miliwn o gyllideb sydd
heb ei ddyrannu o’r Gronfa Wrth Gefn, i sefydlu’r gronfa, gan sicrhau y byddai
hyn yn cael ei adolygu ymhen chwe mis. Pwysleisiwyd byddai £28miliwn yn parhau
i fod ar gael ar gyfer y Rhestr Wrth Gefn.
Cadarnhawyd byddai meini prawf penodol yn
cael ei ddefnyddio er mwyn canfod os yw prosiectau yn gymwys am gyllideb.
Nodwyd bod y gronfa yn targedu prosiectau sydd eisoes wedi datblygu’n rhannol,
gyda chyfnodau caffael wedi ei gwblhau a bod cyflenwr wedi cael ei adnabod.
Ymhelaethwyd y disgwylir bod trafodaethau gyda chyflenwyr er mwyn lleihau
costau yn angenrheidiol ble’n bosib er mwyn bod yn
gymwys ar gyfer arian o’r gronfa. Pwysleisiwyd bod angen i unrhyw ddyraniad o’r
gronfa i brosiect arwain yn uniongyrchol at lwyddiant y prosiect hwnnw i fod yn
weithredol.
Adroddwyd byddai cyfraniad y Cynllun Twf tuag
at y cyllid ychwanegol yn cael ei gapio ar gyfradd ganrannol yr ymyrraeth
bresennol, pan fo’r Cynllun Twf yn ariannwr lleiafrifol ar y prosiect. Yn
wahanol, mewn achosion ble mai’r Cynllun Twf yw’r prif ariannwr ar gyfer y
prosiect, bydd cyfraniad y Cynllun Twf tuag at gyllid ychwanegol o’r gronfa hon
yn cael ei gyfyngu i 50% o’r cyllid ychwanegol sydd ei angen. Pwysleisiwyd bod
y cyfyngiadau hyn wedi bod yn werthfawr iawn yn y gorffennol er mwyn sicrhau
bod costau prosiectau yn cael eu rhannu gyda noddwyr prosiect ac yn fodd
llwyddiannus o sicrhau bod prosiectau yn datblygu’n effeithiol.
Eglurwyd y byddai gweithdrefnau mewn lle i
ddirprwyo penderfyniadau ar wariant y gronfa i swyddogion, mewn cydweithrediad
gyda’r Cadeirydd, Is-gadeirydd a swyddogion statudol.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn:-
Pryderwyd byddai’r defnydd o’r gronfa hon yn
arwain at ymestyn prosiectau ble fyddai posibilrwydd y byddent yn cael eu
gwrthod o fewn hinsawdd economaidd well, gan nodi byddai hynny yn disodli
cyllidebau o’r prosiectau hynny ble mae sicrwydd y byddent yn dod yn
weithredol. Nodwyd bod angen rheoli risgiau er mwyn sicrhau nad oes arian yn
cael ei wastraffu.
Derbyniwyd sylwadau gan yr Ymgynghorydd
Anweithredol a amlygwyd bod gweithredu yn gyflym mewn adegau ble mae’r hinsawdd
economaidd yn heriol, gan fod chwyddiant costau yn digwydd yn raddol dros
amser, a byddai gweithredu’n gyflym yn negydu ei
effeithiau.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Dogfennau ategol: