Agenda item

Iain Taylor (Rheolwr Rhaglen Parth Buddsoddi) i gyflwyno’r adroddiad.

Mae Atodiadau 1-3 yn eithriedig, er sylw Aelodau’r Cyd-bwyllgor yn unig, yn unol â Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Penderfyniad:

  1. Nodi’r cynnydd o ran sefydlu a gweithredu’r rhaglen Arloesi Parth Buddsoddi mewn partneriaeth agos â Phrifysgol Wrecsam, AMRC, Prifysgol Bangor a Diwydiant Sero Net Cymru.

  1. Nodi’r broses ar gyfer datblygu’r prosiectau a gynhwysir yn yr adroddiad hwn a’u bod wedi’u cytuno fel prosiectau arloesi addas ar gyfer y Parth Buddsoddi i’w cefnogi gan Fwrdd Arloesi Gogledd Cymru.

  1. Cymeradwyo’r cynnig prosiect a gyflwynwyd gan Brifysgol Wrecsam gwrth £3,645,364 a dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151, y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, i gytuno ac ymrwymo i Gytundeb Cyllid Grant rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a phrifysgol Wrecsam.

  1. Cymeradwyo’r cynnig prosiect a gyflwynwyd gan Brifysgol Bangor gwerth £1,300,000 a dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151, y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gytuno ac ymrwymo i Gytundeb Cyllid Grant rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a Phrifysgol Bangor sy’n adlewyrchu’n benodol gytundeb i weithredu unrhyw argymhellion sy’n deillio o Adolygiad Prosiect Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd o Brosiect Canolfan Prosesu Signalau Digidol y Cynllun Twf.

  1. Cymeradwyo’r cynnig prosiect a gyflwynwyd gan Ddiwydiant Sero Net Cymru gwerth £260,000 a dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151, y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i gytuno ac ymrwymo i Gytundeb Cyllid Grant rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a Diwydiant Sero Net Cymru ar ran y Bartneriaeth Datgarboneiddio Ddiwydiannol lleol (gan gynnwys NEWID a Fforwm Datgarboneiddio Glannau Dyfrdwy).

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr y Rhaglen Parth Buddsoddi

PENDERFYNIAD

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor Lles Economaidd ar gyfer y tri phrosiect cyntaf o fewn Rhaglen Arloesi Parth Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’r prosiectau hyn yn cyd-fynd a’r prosiectau arloesi newydd a gefnogir gan y Parth Buddsoddi, sydd ar y gweill ar hyn o bryd gydag AMRC a BIC Innovation, i greu Rhaglen Arloesi Parth Buddsoddi ac archwilio dichonoldeb Sefydliad Gweithgynhyrchu Cenedlaethol Cymru yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

TRAFODAETH

Eglurwyd bod tri prosiect wedi cael eu datblygu ar y cyd gyda Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam a phrosiectau er mwyn  cysylltu cwmnïau masnachol gyda ffynonellau ymchwil ac arloesol er mwyn rhoi cymorth iddyn nhw adnabod eu heriau, ehangu cysylltiadau ac i annog tyfiant arloesol o’u cwmnïau.

Cadarnhawyd bod y prosiectau hyn yn cynnwys prosiect Prifysgol Wrecsam, sydd wedi bod dan ofal y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a Bwrdd Arloesi Gogledd Cymru. Eglurwyd ei fod yn brosiect arloesol i alluogi’r brifysgol i ddarparu cymorth ac ymchwil i gwmnïau, heb gronni costau.

Cyfeiriwyd at brosiect gan Brifysgol Bangor sydd yn annog cwmnïau i gyfarch eu heriau data a chysylltedd. Nodwyd bydd y prosiect hwn yn arwain ar y dulliau gorau o wella cysylltedd ar draws y rhanbarth. Eglurwyd bod y prosiect hwn yn caniatáu’r amser i gwmnïau gynnal cyfarfodydd gyda’r brifysgol er mwyn deall unrhyw drafferthion presennol a chydweithio i’r dyfodol i’w datrys.

Adroddwyd mai’r trydydd prosiect yw prosiect Diwydiant Sero Net Cymru, sydd yn cefnogi busnesau gyda gweithdrefnau i sicrhau lleihad i allyriadau carbon a chynlluniau i fod yn sero net carbon.

Cadarnhawyd bod gwybodaeth fanwl am y prosiectau i’w cael o fewn yr adroddiad, gyda cheisiadau a gwybodaeth bellach i’w gweld yn yr atodiadau. Pwysleisiwyd bod yr atodiadau hynny yn eithriedig er sylw’r Aelodau yn unig oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif.

Diolchwyd am yr adroddiad.

Dogfennau ategol: