Agenda item

Cais ar gyfer darparu is-orsaf newydd ynghyd a seilwaith a gwaith cysylltiol i gynnwys ffordd mynediad newydd o'r A487 ac uwchraddio ffordd mynediad amaethyddol a gosod ceblau tanddaearol 132 kV newydd er mwyn cysylltu gyda'r llinnell Rhwydwaith Trydan presennol uwchben.

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Stephen Churchman a’r Cynghorydd Rhys Tudur

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i ganiatáu gyda amodau yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau cadarnhaol gan yr Uned Cefnffyrdd, yn unol a’r argymhelliad

 

1.         5 mlynedd

2.         Yn unol â chynlluniau cymeradwy

3.         Amodau llwybr troed

4.         Amodau Gwarchod y Cyhoedd

5.         Amodau bioamrywiaeth

6.         Amodau Cefnffyrdd

7.         Amodau Heneb

8.         Amodau iaith

 

Cofnod:

Cais ar gyfer darparu is-orsaf newydd ynghyd a seilwaith a gwaith cysylltiol i gynnwys ffordd mynediad newydd o'r A487 ac uwchraddio ffordd mynediad amaethyddol a gosod ceblau tanddaearol 132 kV newydd er mwyn cysylltu gyda'r llinell Rhwydwaith Trydan presennol uwchben; y bwriad hefyd yn cynnwys dargyfeirio Hawl Tramwy Cyhoeddus Dolbenmaen Rhif 18 yn barhaol ac adeiladu trac mynediad tirfeddiannwr newydd, ynghyd a compownd adeiladu dros dro.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr – yr ymgeisydd i baratoi gwybodaeth bellach sydd i gynnwys gwybodaeth traffig a mesurau lliniaru

 

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, bod y bwriad yn rhan o brosiect ehangach sy'n cwmpasu atgyfnerthu llinellau a cheblau uwchben ar y cylchedau presennol rhwng is-orsafoedd Pentir a Thrawsfynydd yng ngogledd-orllewin Cymru. Eglurwyd bod y Prosiect yn rhan o'r uwchraddiadau trawsyrru rhwydwaith ehangach sydd eu hangen i hwyluso’r gwaith o gysylltu 50 Gigawat o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030 – cynyddu capasiti ar y llinell drawsyrru bresennol rhwng is-orsafoedd Pentir a Thrawsfynydd wedi cael ei nodi fel cam y mae angen ei gymryd ar frys i ddarparu mwy o gapasiti trawsyrru. Ategwyd bod hyn wedi cael ei gydnabod gan Ofgem, oedd wedi nodi bod y gwaith angenrheidiol yn Fuddsoddiad Trawsyrru Strategol Cyflym (ASTI).

 

Adroddwyd bod y safle wedi'i leoli ar dir cymharol wastad sydd yn cynnwys caeau pori yn bennaf, gydag ardal o laswelltir corsiog. Amlygwyd bod cynnig tebyg wedi'i gymeradwyo o'r blaen o dan gyfeirnod C17/0772/36/LL (a chaniatâd dilynol i ymestyn y cyfnod amser ar gyfer dechrau gwaith o dan C22/1102/36/AC), yn parhau i fod yn ‘fyw’, ond nad oedd y caniatâd  bellach yn diwallu anghenion y prosiect.

 

Nodwyd, gan fod y gwaith arfaethedig yn rhan o'r Prosiect ehangach, a rhan ohono yn cynnwys  ailosod ceblau trydan foltedd uchel o dan Glaslyn (sy’n destun cais ar wahân), wedi'i gadarnhau, bod Datganiad Amgylcheddol (ES) wedi'i baratoi ar gyfer y prosiect cyfan. Oherwydd maint y safle, diffiniwyd y cais fel datblygiad mawr a derbyniwyd adroddiad ymgynghori cyn gwneud cais fel rhan o'r cais.

 

Byddai’r gwaith arfaethedig yn elfen hanfodol o brosiect Atgyfnerthu Pentir i Drawsfynydd; y capasiti ychwanegol yn cefnogi trosglwyddiad effeithiol o ynni adnewyddadwy ar draws y rhanbarth, gan gyfrannu at leihau carbon a thargedau Sero Net. Heb yr is-orsaf newydd a'r seilwaith 132 kV cysylltiedig, byddai'r rhan yma o'r cynllun yn cyfyngu'r rhwydwaith ac yn atal amcanion y prosiect rhag cael eu cyflawni; y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol mewn egwyddor ar yn cael ei gefnogi gan Bolisi Cynllunio Cenedlaethol a Lleol.

 

Gyda’r bwriad yn un sylweddol, cydnabuwyd y gall unrhyw seilwaith newydd o fewn lleoliad gwledig arwain at newid gweledol, fodd bynnag, yn yr achos yma ystyriwyd bod yr Asesiad Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol wedi amlygu na fyddai newid o'r fath o faint digonol i achosi niwed sylweddol i gymeriad neu ymddangosiad y dirwedd amgylchynol. Rhoddwyd pwyslais sylweddol hefyd ar angen clir y datblygiad fyddai’n rhan o seilwaith ynni o bwys cenedlaethol ac yn cael ei gefnogi gan amcanion polisi cynllunio cenedlaethol a lleol sy'n ymwneud â diogelwch ynni a datgarboneiddio.

 

Tynnwyd sylw at  y bwriad i dirlunio ynghyd a’r sefyllfa wrth gefn a gynrychiolir gan y caniatâd cynllunio cyfredol ar gyfer is-orsaf ar y safle. Byddai'r cynllun hwnnw a ganiateir yn arwain at lefel debyg o effaith weledol, er gyda gogwydd a dyluniad gwahanol. Yn y cyd-destun hwn, ni fyddai'r datblygiad arfaethedig yn gwaethygu'r amodau gwaelodlin gweledol yn sylweddol ac, o'u hasesu'n gronnus, ystyriwyd bod y manteision a nodwyd yn amlwg yn fwy nag unrhyw effeithiau andwyol cyfyngedig, dros dro.

 

Cydnabuwyd y byddai’r cyfnod gwaith ar gyfer y bwriad yn gallu achosi effaith ar fwynderau’r trigolion cyfagos, ac ystyriwyd y gellid rheoli’r effeithiau hynny yn effeithiol drwy osod amod cynllunio i sicrhau fod Cynllun Rheoli Effaith Amgylcheddol yn cael ei gytuno ymlaen llaw.

 

Nodwyd bod y  bwriad yn cynnwys newid mynedfa fferm bresennol o'r A487 sy'n Gefnffordd er mwyn darparu mynediad addas i draffig adeiladu. Bydd y fynedfa wedyn yn cael ei chynnal a'i defnyddio i ddibenion cynnal a chadw. Amlygwyd bod ymateb yr Uned Cefnffyrdd yn gofyn am fwy o fanylion ar gyfer asesu addasrwydd y fynedfa oherwydd ei fod yn gynllun gwahanol i’r safonau arferol. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn paratoi gwybodaeth bellach sydd i gynnwys gwybodaeth traffig a mesurau lliniaru gyda bwriad i gyflwyno eu bwriad o flaen panel ym mis Mehefin. (disgwylir ymateb cadarnhaol gan yr Uned Cefnffyrdd yn dilyn cyfarfod y panel). O ganlyniad, roedd argymhelliad y cais ar gyfer dirprwyo’r hawl i ganiatáu gydag amodau yn ddarostyngedig i dderbyn ymateb cadarnhaol gan yr Uned Cefnffyrdd yn parhau o ganlyniad i’r diweddariad yma.

 

Yng nghyd-destun materion sydd yn ymwneud â dargyfeirio llwybr, hydroleg, bioamrywiaeth, archeoleg a’r Iaith ystyriwyd fod y materion yma yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau cynllunio. Ystyriwyd  fod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a gofynion polisïau lleol a chenedlaethol. Argymhellwyd dirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais gydag amodau yn ddarostyngedig i dderbyn ymateb cadarnhaol gan yr Uned Cefnffyrdd parthed y fynedfa.

 

ch)       Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

  Mewn ymateb i sylw bod y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) yn ‘chwarae lawr’ rhagdybion yr RCP8.5 oedd wedi eu cynllunio fel senario allyriadau gwaethaf posibl, a sut effaith byddai hyn yn ei gael ar bolisïau sydd ynghlwm a chyflenwad dibynadwy o egni, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod y polisïau oedd yn berthnasol i’r cais yma yn cyd-fynd a pholisïau lleol a chenedlaethol; bod caniatâd byw eisoes ar y datblygiad a’r datblygiad hwnnw yn cyd-fynd a’r polisïau perthnasol.

 

  PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i ganiatáu gydag amodau yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau cadarnhaol gan yr Uned Cefnffyrdd, yn unol â’r argymhelliad

 

1.         5 mlynedd

2.         Yn unol â chynlluniau cymeradwy

3.         Amodau llwybr troed

4.         Amodau Gwarchod y Cyhoedd

5.         Amodau bioamrywiaeth

6.         Amodau Cefnffyrdd

7.         Amodau Heneb

8.         Amodau iaith

 

Dogfennau ategol: