Cais o dan Adran 73 i amrywio amodau 2, 5 a 37
o ganiatâd cynllunio C12/0495/36/MW er mwyn ymestyn yr amser ar gyfer cloddio a
gweithio deunydd hyd at 31/12/2030 ac adfer y safle erbyn 31/12/2031, cynyddu allbwn blynyddol o ddeunydd o'r safle
i 100,000 tunnell ar gyfradd gyfartalog o 14 llwyth y diwrnod a defnyddio
deunydd sydd heb ddeillio o'r gweithgareddau sydd wedi eu caniatáu o fewn
cynllun adfer
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Stephen Churchman
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo pwerau i Bennaeth yr Adran Amgylchedd i gymeradwyo'r cais, gydag
amodau. Noder nad yw Amod 1 o ganiatâd cynllunio C12/0495/36/MW, sy'n gofyn i'r
datblygiad gychwyn ymhen pum mlynedd, yn berthnasol mwyach gan fod y datblygiad
wedi cychwyn eisoes.
Nodyn:
Sicrhau cytundeb cynnal a chadw cyflwr ffyrdd
Cofnod:
Cais o dan Adran 73 i amrywio amodau 2, 5 a
37 o ganiatâd cynllunio C12/0495/36/MW er mwyn ymestyn yr amser ar gyfer
cloddio a gweithio deunydd hyd at 31/12/2030 ac adfer y safle erbyn
31/12/2031, cynyddu allbwn blynyddol o
ddeunydd o'r safle i 100,000 tunnell ar gyfradd gyfartalog o 14 llwyth y diwrnod
a defnyddio deunydd sydd heb ddeillio o'r gweithgareddau sydd wedi eu caniatáu
o fewn cynllun adfer
Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr
a)
Amlygodd
y Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff mai
cais ydoedd i amrywio amodau
ar ganiatâd presennol ar gyfer
chwarel dywod a graean ger Bryncir sydd wëid ei
leoli ar dir amaethyddol blaenorol ac yn parhau i gael
ei adfer i ddefnydd amaeth.
Adroddwyd nad oedd y mwyn yn
cael ei brosesu
ar y safle ei hun ond
yn Chwarel Bryncir gerllaw. Er bod y datblygiad yn dod o fewn
categorïau Atodlen 2 o’r Rheoliadau Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA), daethpwyd i’r casgliad nad
oedd yr effeithiau posibl yn ddigon
sylweddol i ofyn am EIA.
O
ran egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y cais yn cynnwys ymestyn
oes y chwarel, cynyddu’r allbwn blynyddol, mwy o symudiadau traffig, a chaniatáu defnyddio deunyddiau allanol ar gyfer adfer.
Byddai ymestyn y cyfnod gweithredu hyd at 2030 yn
unol â pholisïau’r CDLl ar y Cyd a Pholisi PS 22, sy’n mynnu cynnal banc tir digonol o dywod
a graean. Nodwyd bod Polisi
Cynllunio Cymru (PCC) hefyd yn
pwysleisio’r angen i sicrhau cyflenwad
cynaliadwy o fwynau wrth ddiogelu’r amgylchedd a llesiant pobl, a sicrhau safon uchel o adfer
safleoedd. Ategwyd bod y
Datganiad Technegol Rhanbarthol
(RTS) yn nodi diffyg yn y cyflenwad tywod a graean yng Ngwynedd (6.7 mlynedd o fanc tir yn
lle’r gofyn o 7 mlynedd), gan bwysleisio’r
angen i gynnal
a chynyddu’r cyflenwad. Ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol gan
y bydd yn helpu i gynnal
cyflenwad hanfodol o dywod a graean i’r economi adeiladu
leol ac yn cyfrannu at ofynion rhanbarthol fyddai fel arall yn
cael ei golli.
Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol a thirwedd adroddwyd bod y polisïau perthnasol yn gofyn
am asesu effaith ar y dirwedd a gwelededd. Er bydd ymestyn oes y chwarel
yn ymestyn yr effeithiau hyn dros gyfnod hirach,
ni ystyriwyd y bydd yn creu
effeithiau ychwanegol arwyddocaol gan fod y safle eisoes
yn weithredol. Ategwyd bod adfer y safle wedi bod yn llwyddiannus hyd yma, gyda’r
tir yn cael
ei ddychwelyd yn bennaf i
ddefnydd amaethyddol ac yn integreiddio’n dda â’r dirwedd.
Byddai diwygiadau i amod 37 yn
caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth adfer drwy ganiatáu
mewnforio deunyddiau addas,
ond o dan reolaeth lem a chymeradwyaeth ymlaen llaw. Bydd
hyn yn sicrhau
nad yw gwastraff
anaddas yn cael ei ddyddodi
ac nad yw’r datblygiad yn newid
ei natur. Yn ychwanegol, bydd gofyn cadw cofnodion
o symudiadau deunyddiau yn sicrhau tryloywder
a monitro effeithiol. Ystyriwyd na fydd
y newidiadau’n cael effaith sylweddol ychwanegol ar y dirwedd, a’r cynnig
yn cydymffurfio â’r polisïau cynllunio
perthnasol.
Wrth ystyried mwynderau preswyl, nodwyd bod Polisi MWYN 3
yn mynnu na ddylai estyniadau
i safleoedd mwynau achosi niwed
annerbyniol i fwynderau trigolion, megis sŵn, llwch, dirgryniad, golau neu draffig. Er bod un eiddo o fewn 100m i’r safle, mae’r
ardaloedd agosaf eisoes wedi’u cloddio
a’u hadfer, a’r gwaith sy’n
weddill y tu allan i’r pellter
byffer a argymhellwyd.
Tynnwyd sylw at yr asesiad trafnidiaeth oedd yn dangos
y bydd tua 14 llwyth HGV y dydd ar gyfartaledd (uchafswm 28), sy’n unol â’r caniatâd
presennol ac felly ni fydd cynnydd cyffredinol
mewn traffig. Bydd y llwybr cludo
yn aros yr un fath. O ystyried bod y safle eisoes yn gweithredu
heb broblemau sylweddol, a gydag amodau priodol i reoli sŵn,
llwch ac oriau gwaith, ystyriwyd na fydd y cynnig
yn niweidio mwynderau lleol ac yn cydymffurfio â’r polisïau perthnasol.
Yng nghyd-destun
materion trafnidiaeth nodwyd bod y cais yn cynnwys cynyddu’r
allbwn blynyddol o 50,000 i 100,000 tunnell ond mai dim ond
Cam 4 o’r safle sy’n weddill, gyda
thua 347,040 tunnell o adnoddau ar gael.
Ni gyflwynwyd unrhyw wrthwynebiad gan yr awdurdodau priffyrdd, ac ystyriwyd bod y rhwydwaith ffyrdd yn ddigonol
i ymdrin â’r traffig; y cais yn dderbyniol
o safbwynt trafnidiaeth ac yn cydymffurfio â’r polisi perthnasol.
O ran materion
hydroleg, amlygwyd nad yw’r cais
yn newid y trefniadau hydrolegol presennol ac er bod Nodyn Cyngor
Technegol (TAN 15) newydd wedi’i
gyhoeddi yn 2025, rhaid oedd asesu’r
cais yn ôl
fersiwn 2004 oherwydd dyddiad cyflwyno’r cais. Eglurwyd bod rhannau bach o’r
safle mewn parth llifogydd, ond ni chodwyd
unrhyw bryderon gan ymgynghorwyr statudol; ystyriwyd na fydd y datblygiad
yn cynyddu’r risg llifogydd nac yn effeithio’n
niweidiol ar nodweddion hydrolegol.
Lleolir y safle mewn ardal amaethyddol
gyda safleoedd bioamrywiaeth gerllaw, sydd yn cynnwys
Safle Bywyd Gwyllt Ymgeisiol a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Llystyn Gwyn. Fodd bynnag, mae’r cais
yn un dan Adran 73 ac nid yw’n newid ardal
y gwaith, y dulliau gweithredu na’r cynllun adfer presennol;
yr amodau ecolegol a hydrolegol presennol yn parhau mewn
grym ac yn darparu mesurau diogelu digonol, gan gynnwys gofynion
monitro a “stand-off” o’r tabl dŵr. Ni fydd colled cynefin
ychwanegol na risgiau newydd sylweddol, a’r trefniadau presennol ar gyfer atal
llygredd a diogelu cyrsiau dŵr yn parhau’n berthnasol.
O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd angen
mesurau ecolegol pellach a’r cynnig
yn cydymffurfio â’r polisïau cynllunio
perthnasol.
Cyflwynwyd asesiad archeolegol gyda’r cais gwreiddiol, a’r gwaith archeolegol
angenrheidiol eisoes wedi’i gymeradwyo ac yn parhau i
gael ei weithredu.
Ategwyd bod y fframwaith presennol yn darparu
mesurau lliniaru addas ar gyfer unrhyw
effeithiau ar dreftadaeth archeolegol; nid oedd angen
newidiadau pellach, a’r cynnig yn
cydymffurfio â Pholisi AT 4
y CDLl.
Yng
nghyd-destun materion yr
Iaith Gymraeg, cyflwynwyd Datganiad Iaith Gymraeg gyda’r cais. Nid yw’r
bwriad yn creu swyddi newydd
nac yn ehangu’r
safle, ond yn addasu caniatâd
presennol ac felly nid yw’n debygol o gael effaith negyddol
ar yr iaith Gymraeg, gan y bydd y gweithlu presennol yn parhau
a’r safle eisoes wedi’i sefydlu.
O safbwynt economaidd, mae’r datblygiad yn bwysig i
gynnal cyflenwad mwynau ac yn gwneud
cyfraniad sylweddol i’r economi leol
a chyflogaeth ac wrth gefnogi cymunedau lleol a’r defnydd
o’r Gymraeg.
Cyfeiriwyd at yr hanes Cynllunio perthnasol
gan adrodd bod oediad cyn gwneud
penderfyniad ar y cais yn deillio’n
bennaf o ddatblygiad anawdurdodedig ar y safle. Yn 2023, canfuwyd bod gwastraff nad oedd
yn tarddu o’r safle wedi’i
ddyddodi yng Ngham 3, a hynny yn groes i
amodau’r caniatâd cynllunio. Cadarnhawyd bod y deunydd yn dod
o Chwarel Bryncir ac felly’n anawdurdodedig o safbwynt cynllunio. Ystyriwyd nad yw
caniatâd ôl-weithredol yn debygol, ond
oherwydd natur anadweithiol y deunydd, nid yw’n peri risg
amgylcheddol sylweddol. Caniateir i’r deunydd
aros yn ei le gan y gall ei symud
achosi mwy o niwed. Bydd unrhyw
benderfyniad ar y cais presennol yn gorfod cydymffurfio
â gofynion CNC ac ni fydd yn amharu
ar reoleiddio’r safle.
Ystyriwyd bod y cais yn dderbyniol gan nad yw’n creu
effeithiau annerbyniol ychwanegol ac yn cydymffurfio â’r polisïau cynllunio perthnasol. Roedd y swyddogion yn argymell
caniatáu gydag amodau.
b)
Nid
oedd yr Aelod Lleol yn bresennol, ond roedd wedi cynnig sylwadau yn ystod y
cyfnod ymgynghori. Rhannwyd y sylwadau hynny gan y Pennaeth Cynorthwyol.
·
Ei fod
yn rhannu pryderon trigolion
·
Ei fod
yn cydnabod y bydd cyfleoedd cyflogaeth yn parhau yn sgil parhad gweithredu yn
y chwarel
·
Pryder
am faint y cerbydau, maint y llwyth, y cynnydd mewn llwythi a’r deunydd sydd yn
cael ei golli ar y palmant / ffordd
·
Nad
oedd ymestyn y cyfnod echdynnu i 2030 yn dderbyniol i drigolion oherwydd yr
effaith parhaus ar fwynderau preswyl
·
Nad
oedd yn gallu cefnogi’r cais fel a gyflwynwyd, ond pe byddai’r Pwyllgor yn
penderfynu caniatáu y cais y bydd hynny yn ddarostynedig
i amodau fyddai yn goresgyn y pryderon.
c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais
d)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Yn unol
â sylwadau’r Cyngor Cymuned, bod angen sicrhau bod y ffordd a’r palmant yn cael
eu glanhau yn rheolaidd
Mewn ymateb i’r sylw nododd y Pennaeth
Cynorthwyol bod y cwmni, dros y blynyddoedd wedi bod yn ysgubo’r ffyrdd, ond
nad oedd modd i ddweud yn bendant mai’r chwarel yma oedd yn bennaf gyfrifol.
Ategwyd bod trefniant ffurfiol i ymdrin â’r mater law yn llaw a
chyfrifoldebau’r Uned Priffyrdd ac nad oedd hawl gorfodi hyn o fewn y drefn
cynllunio. Nid oedd ganddo wrthwynebiad i osod nodyn i annog trefniant cytundeb
cynnal a bod amod safonol ar gyfer chwareli yn cael ei gynnwys. Mewn ymateb i
gwestiwn ategol ynglŷn â monitro'r gwaith cynnal, nodwyd bod hyn yn cael
ei wneud yn ffurfiol unwaith y flwyddyn ond pe byddai cwynion yn cael eu derbyn
gan drigolion bydd yr Adran yn cysylltu gyda’r cwmni. Nodwyd bod yr Aelod Lleol
hefyd yn cysylltu â rhannu cwynion gyda’r cwmni.
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo pwerau i Bennaeth yr Adran Amgylchedd i gymeradwyo'r cais, gydag
amodau. Noder nad yw Amod 1 o ganiatâd cynllunio C12/0495/36/MW, sy'n gofyn i'r
datblygiad gychwyn ymhen pum mlynedd, yn berthnasol mwyach gan fod y datblygiad
wedi cychwyn eisoes.
1. Daw'r gwaith
o echdynnu gwastraff a'r gweithrediadau ategol i ben erbyn 31/12/2030. Adfer y safle erbyn 31/12/2031
2. Yn unol â'r cynlluniau a
gymeradwywyd.
3. Cynnal a chadw’r ffordd fynediad.
4. Dim mwy na
100,000 tunnell o ddeunydd y flwyddyn yn cael ei waredu o'r safle ar gyfradd
gyfartalog o ddim mwy na 14 llwyth y dydd.
5. Plannu llwyni a choed cyn echdynnu
yng Ngham 4.
6. Cynnal a chadw’r llwyni a'r coed a
blannwyd (amod 5).
7. Rhybudd
ysgrifenedig ymlaen llaw; cychwyn datblygiad, baeau pasio, gwaith draenio,
strip pridd, gwaredu'r gorlwythiad, echdynnu mwynau,
adfer.
8. Yn unol â'r manylion a'r
cynlluniau cymeradwy.
9. Marcio ffin yr ardal echdynnu.
10. Adfer ac ôl-ofal yn unol â'r
manylion cymeradwy.
11. Cyfyngiad ar Rannau 19 a 21 y GPDO.
12. Oriau Gwaith.
13. Adolygiad ffurfiol blynyddol o
weithrediadau.
14. Cyfyngiadau Sŵn.
15. Hysbysiad am waith dros dro a allai
fod yn uwch na'r cyfyngiadau sŵn.
16. Monitro sŵn blynyddol.
17. Gosod larymau bagio sŵn gwyn ar
offer symudol a cherbydau.
18. Yr holl
gerbydau, offer a pheiriannau i'w gweithredu yn unol â manylebau'r
gweithgynhyrchwr, ac wedi'u ffitio â sgriniau lleihau sŵn priodol, ‘caseworks’, ‘silences’, ac ati.
19. Rhoi dŵr
ar yr ardaloedd lle mae cerbydau'n gyrru drostynt, neu drin yr ardaloedd i atal
llwch rhag dianc.
20. System ddraenio dŵr yn unol â'r
cynlluniau cymeradwy.
21. System
ddraenio i gasglu a gwaredu'r holl ddŵr sy'n mynd i mewn i'r safle neu
sy'n codi ynddo.
22. Olew, tanwydd,
iraid, paent, sylweddau neu unrhyw gemegolion eraill ar y safle i'w storio mewn
ardal wedi'i bwndio'n addas er mwyn atal halogiad.
23. Arfarniad Effaith Hydrolegol i'w
gyflwyno os bydd dŵr daear yn codi.
24. Cynnal arolwg o'r Rhywogaethau
Ymledol a'u trin.
25. Gwaith yng Nghamau 3 a 4 i'w gynnal
yn unol â'r Fanyleb Archeolegol.
26. Mynediad yn
cael ei roi i archeolegwyr i gynnal gwaith lliniaru a chofnodi archeolegol ac
adroddiad ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio.
27. Ni
fydd unrhyw offer neu gerbydau yn croesi unrhyw ardal o dir heb ei stripio ac
eithrio lle mae traffig o'r fath yn hanfodol neu le nad oes modd ei osgoi er
mwyn ymgymryd â'r gweithrediadau a ganiateir.
28. Bydd yr holl
uwchbridd ac isbridd y deuir ar ei draws yn cael ei gadw yn unol â'r cynigion
datblygu sy'n cael eu disgrifio yn y manylion cymeradwy.
29. Bydd yr holl
lystyfiant, uwchbridd ac isbridd sy'n cael ei stripio o bob cam gwaith ac
ardaloedd wedi'u heffeithio gan waith echdynnu, ardaloedd storio, gwaith
adeiladu, lleiniau caled ac adeiladwaith arall yn cynnwys ffyrdd mynediad a
llwybrau cludo cerbydau dros dro, yn cael eu storio yn yr ardaloedd sy'n cael
eu clustnodi ar gyfer y diben hwnnw, fydd wedi'u cytuno yn ysgrifenedig ymlaen
llaw gan yr Awdurdod Cynllunio Mwynau.
30. Bydd yr holl
uwchbridd ac isbridd sydd wedi'i stripio a'i storio yn unol â'r amod uchod yn
cael ei ddefnyddio yn y gwaith o adfer ac ni fydd deunyddiau o'r fath yn cael
eu gwaredu o'r safle heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Awdurdod
Cynllunio Mwynau.
31. Bydd yr
uwchbriddoedd yn cael eu cadw mewn sypiau storio, ddim uwch na 2m, gyda'r
isbridd a'r gorlwythiadau wedi hynny yn cael eu cadw
mewn sypiau storio ar wahân ac yn cael eu cadw rhag cymysgu.
32. Bydd yr
Awdurdod Cynllunio Mwynau yn derbyn o leiaf 48 awr o rybudd ysgrifenedig o'r
dyddiad pan fo unrhyw weithrediadau stripio pridd am gychwyn ar unrhyw ran o'r
tir o fewn ardal y caniatâd. Ni fydd y pridd yn cael ei symud oni bai ei fod
mewn cyflwr sych a brau a phan fo amodau'r ddaear yn sych.
33. Bydd y sypiau
storio uwchbridd ac isbridd a'r rhannau hynny o'r safle lle nad yw uwchbridd ac
isbridd yn cael ei stripio yn cael eu cadw'n rhydd o chwyn / llystyfiant sy'n
cystadlu a bydd pob cam angenrheidiol yn cael ei gymryd i ddinistrio chwyn ar
gam cynnar o'u tyfiant fel nad ydynt yn hadu.
34. Bydd yr holl
ffiniau caeau newydd ar ffurf waliau cerrig sych a chloddiau pridd wedi'u creu
o ddeunyddiau sy'n tarddu neu wedi'u hadfer o'r ffiniau caeau presennol yn
Llecheiddior Uchaf a Llecheiddior Ganol.
35. Gweithredir
mesurau osgoi rhesymol wrth ddymchwel ffiniau caeau a waliau cerrig er mwyn
sicrhau bod ymlusgiaid yn cael eu gwarchod.
36. Dim ond
gwastraff mwynau sy'n codi o'r gwaith echdynnu yn Llecheiddior, yn cynnwys
deunydd wedi'i gludo a'i broses yn Chwarel Bryncir dan ganiatâd cynllunio
C09D/0375/36/LL, fydd yn cael ei ddyddodi yn y safle er dibenion adfer. Ni fydd
unrhyw ysbwriel, gwastraff cyffredinol neu ddeunyddiau gwastraff anadweithiol o
ffynonellau allanol yn cael eu cludo i'r safle. Gellir defnyddio priddoedd neu
ddeunyddiau sy'n ffurfio priddoedd er dibenion adfer yn unig, a dim ond lle mae
eu haddasrwydd fel cyfrwng tyfu wedi'i gytuno yn ysgrifenedig ymlaen llaw gan
yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Ni fydd cyfanswm cyfaint y deunydd a ddyddodir yn
fwy na'r hyn sydd ei angen i gyflawni'r amlinellau adfer cymeradwy. Bydd y
gweithredwr yn cynnal cofnod manwl o'r holl wastraff mwynau a deunydd pridd
wedi'i gludo i'r safle neu oddi yno, yn cynnwys ei darddiad, lleoliad, cyfaint
a phwrpas. Bydd
crynodeb o'r cofnodion hyn yn cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol bob
chwe mis, neu ar unrhyw amlder sy'n cael ei gytuno yn ysgrifenedig gan yr
Awdurdod.
37. Oni bai y
cytunir yn ysgrifenedig fel arall, o leiaf 3 mis cyn y bwriad i amnewid
priddoedd ar unrhyw ran o'r ardal i'w hadfer i ôl-ddefnydd amaethyddol, bydd y
gweithredwr yn cyflwyno er cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Mwynau, gynllun
yn dangos yr amlinelliad terfynol i'w cyflawni yn y cynllun adfer.
38. Bydd cynnydd a
hyd yn oed ail wasgaru’r gorlwythiad yn cael ei wneud
yn ystod cyfnod y gwaith mwynau.
39. Pe byddai'r
gwaith echdynnu mwynau yn dod i ben yn gynnar ar unrhyw gam o'r datblygiad,
bydd cynllun diwygiedig ar gyfer adfer y safle yn cael ei gyflwyno i'w
gymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Mwynau i gynnwys cynllun yn dangos yr
amlinelliad terfynol i'w gyflawni yn y cynllun adfer.
40. Ar ôl
ffurfio'r tirffurf terfynol yr amlinelliadau cymeradwy, bydd deunydd sylfaen y
ddaear wreiddiol yn cael ei rwygo yn gynhwysfawr i isafswm dyfnder o 50cm i
dorri i fyny ar unrhyw gywasgiad arwyneb cyn bod unrhyw ddeunydd pridd yn cael
ei wasgaru.
41. Bydd y deunydd
pridd (uwchbridd ac isbridd) sydd wedi'i glustnodi ar gyfer adfer amaethyddol
yn cael ei wasgaru yn unffurf ac yn y drefn gywir dros y deunydd sylfaen a
bydd, lle bo'r angen, wedi'i wreiddio a'i sgriffio
i'r dyfnder llawn heb achosi cymysgu rhwng haenau gwahanol o bridd. Bydd
dyfnder pridd isaf o 280mm (110mm o isbridd, 170mm o uwchbridd) uwchben y
deunydd sylfaen yn cael ei ddarparu dros yr holl ardaloedd.
42. Bydd yr holl
rwygo deunyddiau, gwasgaru pridd a gweithrediadau amaethu yn cael eu gwneud yn
y fath ddull er mwyn isafu'r cywasgiad.
43. Bydd unrhyw
ran o'r safle sydd wedi'i adfer er dibenion amaethyddol sy'n destun setlo lleol
ac sy'n cael effaith andwyol ar yr ôl-ddefnydd amaethyddol yn cael ei
ail-raddio yn cynnwys ail-adeiladu'r proffil pridd i'r fanyleb gymeradwy.
44. Bydd y safle yn cael ei ddwyn i'r
safon ofynnol ar gyfer defnydd amaethyddol.
45. Cyflwyno cynllun ôl-ofal.
46. Dadansoddiad cemegol ar ôl amnewid
yr uwchbridd.
47. Ail-gynnal
y dadansoddiad cemegol yn y flwyddyn gyntaf a'r bedwaredd flwyddyn o ôl-ofal.
48. Bydd y
tir yn cael ei reoli yn unol â rheolau hwsmonaeth dda ac yn unol â'r canllawiau
wedi'u hamlinellu yn Atodlen B, Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (Cymru) 1:
Agregau.
49. Ni chadwir
unrhyw dda byw ar y tir oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod
Cynllunio Mwynau.
50. Bydd yr holl
dir yn y safle sydd wedi'i gloddio, wedi'i ddefnyddio i storio pridd neu ffyrdd
neu sydd wedi'i droedio gan offer trwm, yn cael ei ddarparu â chyflenwad
dŵr a chyfleusterau draenio tir digonol, yn cynnwys cyrsiau dŵr,
ffosydd caeau a system tan-ddraeniad wedi'i phibellu,
os yw'n cael ei hystyried gan yr Awdurdod Cynllunio Mwynau i fod yn hanfodol er
mwyn adfer y safle yn foddhaol.
51. Sicrhau gorchudd ar gefn loriau
Nodyn:
Sicrhau cytundeb cynnal a chadw cyflwr ffyrdd
Dogfennau ategol: