Agenda item

Derbyn y wybodaeth, ystyried unrhyw risgiau sy’n deillio o’r gwir wariant ac incwm yn erbyn cyllideb 2025/26.

Penderfyniad:

• Derbyn yr adroddiad a nodi’r risgiau perthnasol

• Gwahodd Penaethiaid yr Adrannau hynny sydd yn gorwario i’r Pwyllgor i adrodd ar y gorwariant

• Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor ar gostau cyfreithiol Erthygl 4

 

Cofnod:

Nodwyd bod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn 2025/26, sefyllfa alldro tanwariant neu orwariant yr adrannau unigol, a’r rhesymau am hynny. Cyfeiriwyd at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau oedd yn amlygu’r symiau i’w ‘cario ymlaen’ ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ynghyd â’r prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol. 

 

·        Gwariant yn y meysydd lleoliadau all-sirol plant, gwastraff, gofal preswyl a gofal cartref wedi parhau’n uwch na’r gyllideb a ddyrannwyd iddynt.

·        Sefyllfa ffafriol ar nifer o gyllidebau corfforaethol yn cynorthwyo i leddfu'r sefyllfa ariannol ar gyfer y Cyngor yn ei gyfanrwydd.

·        Bod angen defnyddio £3.2 miliwn o’r Gronfa Strategaeth Ariannol i fantoli sefyllfa o ddiffyg ariannol yr adrannau.

 

Adran Oedolion Iechyd a Llesiant: diffyg cyllidebol yr adran leihau i £1.4 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Pwysau ar y gwasanaethau darparu yn parhau ac yn gyfrifol am £1 miliwn o’r pwysau adrannol, sy’n bennaf ar orwariant staff a defnydd o staff asiantaeth ar ofal preswyl. Y pwysau’n parhau hefyd ar ochr breswyl gwasanaethau Iechyd Meddwl ond gwelwyd gwelliant i sefyllfa ariannol pobl hŷn a’r Gwasanaeth Anabledd Dysgu. Ceir hefyd arbedion a thoriadau gwerth £1.5 miliwn heb eu gwireddu. 

 

Adran Plant a Theuluoedd: Ers adolygiad Tachwedd bu cynnydd o 11  lleoliad all-sirol oedd yn cynnwys achosion eithriadol o leoliadau heb gofrestriad, sy’n fwy costus, ac  wedi arwain at gynnydd yn y diffyg cyllidebol adrannol o £1.9 miliwn i £3.4 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Gwelwyd pwysau cynyddol hefyd ar gyllideb y Gwasanaeth Ôl-16 ac ar gefnogaeth cynlluniau cefnogol a gweithwyr maes. Er hynny bu lleihad yn y pwysau ar Gwasanaeth Derwen sy’n parhau i fod yn gorwario £443k ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Adran Economi / Cwmni Byw’n Iach; Dros y blynyddoedd diwethaf mae Cwmni Byw’n Iach wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan y Cyngor uwchlaw’r taliad cytundebol. Er bod y swm yn is na swm y flwyddyn ddiwethaf, bydd y swm gofynnol yn £269k erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Adran Priffyrdd Peirianneg ac YGC; diffyg cyllidebol o £407k gyda lleihad yn y gwaith sy’n cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol wedi cael effaith negyddol ar incwm gwasanaethau Priffyrdd. Yn Bwrdeistrefol, cyfuniad o bwysau ychwanegol ar gyllidebau staff glanhau toiledau cyhoeddus, tra bod colledion incwm ym meysydd cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus.

 

Adran Amgylchedd; diffyg cyllidebol o £1.38 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn, gyda thuedd gorwariant yn y maes gwastraff yn parhau ac yn gyfrifol am £1.26 miliwn o’r sefyllfa adrannol. Er bu lleihad mewn diffyg incwm parcio ers y llynedd, mae’r diffyg yn parhau yn £464k. Adroddwyd bod nifer o gynlluniau arbedion mewn nifer o wasanaethau gwerth £1.27 miliwn yn llithro. Gorwariant yn y maes gwastraff i’w gyllido o’r enillion ail-ariannu Parc Adfer ac incwm o ardoll ar ddeunyddiau pacio i gynhyrchwyr a mân-werthwyr.

 

Adran Tai ac Eiddo; pwysau sylweddol ar y gwasanaeth llety argyfwng yn parhau, gyda gwariant ar y maes yn £6.1 miliwn eleni, sydd yn gyson â 2024/25. Y sefyllfa ariannol yn dilyn cyllideb ychwanegol o £4.2 miliwn sydd wedi ei ddyrannu o bremiwm treth cyngor a hefyd cyllideb un-tro ychwanegol o £859k a ddyrannwyd fel rhan o'r drefn bidiau i gynorthwyo â'r pwysau cynyddol.

 

Yn dilyn adolygiad o'r gwariant ar Ddigartrefedd, awgrymwyd y dylid dyrannu bid un tro o hyd at £800k i gynorthwyo gyda'r pwysau ar lety argyfwng yn 2026/27.

 

Am nifer o resymau adroddwyd ar danwariant un tro ar benawdau Corfforaethol

 

Ysgolion: Balansau’r ysgolion wedi gweld gostyngiad o £1.2 miliwn, gyda lleihad o £8.3 miliwn yn 2024/25 i £7.1 miliwn yn 2025/26. Bod saith ysgol gynradd a thair ysgol uwchradd gyda diffyg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 25/26 a’r Uned Gyllid a’r Adran Addysg yn gweithio gyda’r ysgolion a chyrff llywodraethol yr ysgolion hyn i adfer y diffygion. 

Cronfeydd: Adolygwyd cronfeydd penodol y Cyngor wrth gau’r cyfrifon. Adroddwyd bod dau drosglwyddiad gwerth £8.1 miliwn i’w gweithredu o'r Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol - £6.5 miliwn i gynyddu balansau cyffredinol y Cyngor a £1.5 miliwn yn cael ei symud i gronfa diogelu adeiladau yn ymwneud â Corbett Arms, Tywyn. Yr holl drosglwyddiadau, wrth gau'r cyfrifon, yn golygu bod Cronfa Strategaeth Ariannol yn lleihau i £12.7 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Cymeradwywyd yr holl argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol gan y Cabinet ar y 19eg o Fai 2026 ac o ran y camau nesaf, nodwyd bod gwaith ar y gweill i gwblhau datganiadau ariannol statudol 2025/26 i Archwilio Cymru eu harchwilio.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·        O’r £3.5 miliwn o arbedion, nid oedd cyfeiriad at faint o arbedion oedd wedi eu cyflawni yn 2025/26 – byddai’r wybodaeth wedi bod yn ddefnyddiol. Er methu newid y symiau hyn rhaid dysgu gwersi o’r blynyddoedd blaenorol.

·        Bod y setliad wedi bod yn well na’r disgwyl ac o ganlyniad yn gymorth i addasu cyllidebau rhai adrannau oedd wedi gorwario yn sylweddol, er hynny buddiol fyddai gwahodd Penaethiaid Adrannau sydd yn gorwario’n rheolaidd i egluro rhesymeg dros y gorwariant - angen atebolrwydd

·        Bod angen i Benaethiaid a Rheolwyr gymryd cyfrifoldeb dros y gorwariant – angen newid meddylfryd o ‘bydd arian ar gael’ – angen rhannu gwybodaeth a chydweithio i wella’r sefyllfa

·        Adolygu cytundebau gyda darparwyr – er yn gosod cymhelliannau bod hefyd angen cosbi – awgrym bod lle i wella yma drwy gynnal adolygiad cyfreithiol.

·        Bod angen buddsoddi mwy yn yr economi a dod a gwaith i mewn i’r ardal

·        Bod dyfodiad Cartrefi Grwpiau Bychan ar gyfer gofal plant arbennig yn ddatblygiad i’w groesawu - yn fodd o osgoi defnyddio darpariaeth allanol a lleihau costau. Yn croesawu bod dau gartref, sydd yn cartrefu 2 plentyn ymhob cartref, eisoes yn weithredol a thrydydd ar y ffordd yn 2026/27.

·        Yn croesawu cynnydd yn y balansau wrth gefn - angen ceisio cadw’r balans ar o leiaf 2.5% ar ddiwedd y flwyddyn ac i beidio ei weld fel temtasiwn i helpu mewn argyfwng. Croesawu bod y sefyllfa wedi cael ei hadolygu a lefel defnydd argyfwng wedi codi.

·        Bod angen amlygu ‘arian sydd wedi ei wario, ond ddim yn cael ei weld' e.e., costau cyfreithiol Erthygl 4. Swm sylweddol o arian yma wedi ei golli o ganlyniad i flerwch. A oes symiau eraill yn cael eu celu o fewn cyllidebau?

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pherthynas Byw’n Iach gyda Cyngor Gwynedd a pham bod y Cyngor wedi, ac yn parhau i sybsideiddio’r cwmni yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, nodwyd mai cwmni hyd braich yw Byw’n Iach wedi ei sefydlu yn wreiddiol i arbed treth busnes i’r Cyngor. Yn ystod covid,  bu i ddefnydd canolfannau hamdden leihau yn aruthrol a’r sefyllfa hyd heddiw heb ei adfer yn llawn. Cyngor Gwynedd yw perchennog Byw’n Iach ac er bod y cwmni heb berfformio o fewn ffi y cytundeb gwreiddiol (sef ffi mae’r Cyngor yn ei dalu i Byw’n Iach redeg y cwmni ar eu rhan), mae’r manteision treth busnes yn dal i fodoli.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â saith ysgol gynradd a thair ysgol uwchradd gyda diffyg ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2025/26 a beth oedd graddfa’r broblem, nodwyd bod y tair ysgol uwchradd gyda diffyg rhwng £7,000 a £786,000 (cyfanswm o £1 miliwn) a bod graddfa diffyg yr ysgolion cynradd rhwng £11 a £1,700 (cyfanswm o £80,000) - yn amrywio o ysgol i ysgol yn ddibynnol ar yr amgylchiadau. Ategwyd bod yr Adran Addysg a’r Adran Gyllid yn cydweithio i drafod y diffygion mwyaf. Cwestiynwyd sut roedd diffyg un ysgol uwchradd yn £786,000 - sut oedd y ddyled mor fawr? A pam nad oedd rheolaeth dros y gwariant?

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyllideb pa Adran sy’n gyfrifol am brynu tai yn benodol ar gyfer darparu gofal plant (Cartrefi Grwpiau Bychan), nodwyd bod y costau yn dod o dan yr Adran Plant a Theuluoedd, ond bod grant hefyd wedi ei dderbyn at y gost o brynu’r tai. Ategwyd bod costau ychwanegol yn ystod y cyfnod trosiannol o beidio defnyddio darpariaeth allanol ac agor y Cartrefi Grwpiau Bychan.

 

Ategwyd y bydd Archwilio Cymru yn cyflwyno dau adroddiad i’r Pwyllgor yn y dyfodol agos, yn ymwneud a materion oedd yn berthnasol i’r uchod  - ‘Adroddiad ar Wasanaethau Plant’ ac ‘Ariannu Llywodraeth Leol’.

 

 

PENDERFYNWYD:

·        Derbyn yr adroddiad a nodi’r risgiau perthnasol

·        Gwahodd Penaethiaid yr Adrannau hynny sydd yn gorwario i’r Pwyllgor i adrodd ar y gorwariant

·        Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor ar gostau cyfreithiol Erthygl 4

 

Dogfennau ategol: