Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Dewi Jones

Penderfyniad:

Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy hysbysiad statudol sef - “Cau Ysgol Y Garreg ar 31 Awst 2026 a dynodi Ysgol Cefn Coch fel yr ysgol amgen o 1 Medi 2026,”  yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.

 

PENDERFYNIAD

 

Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy hysbysiad statudol sef - “Cau Ysgol Y Garreg ar 31 Awst 2026 a dynodi Ysgol Cefn Coch fel yr ysgol amgen o 1 Medi 2026,”  yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018. 

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd adrodd ar yr hyn a ddeilliodd o’r cyfnod gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod ar y cynnig i gau Ysgol y Garreg.

 

Mynegwyd bod y penderfyniad ynglŷn ag Ysgol y Garreg yn un o’r penderfyniadau anoddaf yr oedd wedi ei ystyried fel Aelod Cabinet Addysg. Nodwyd nad oedd neb yn mynd i’r maes addysg gyda’r bwriad o gau ysgolion, gan fynegi ei uchelgais i weld ysgolion yn ffynnu, plant yn llwyddo a chymunedau yn gryf. Cydnabuwyd y teimladau cryf a oedd wedi amlygu eu hunain yn ystod y broses hon a’r tristwch yr oedd llawer yn ei deimlo.

 

Nodwyd bod Ysgol y Garreg wedi gwasanaethu ei chymuned yn ffyddlon dros flynyddoedd lawer. Talwyd teyrnged i’r staff, y llywodraethwyr, rhieni a’r gymuned a oedd wedi gweithio mor galed dros yr ysgol am dros ganrif a mwy. Er hyn, mynegwyd cyfrifoldeb i edrych yn onest ar y sefyllfa fel yr oedd hi heddiw, nid fel y byddem yn dymuno iddi fod.

 

Nodwyd bod yr heriau demograffig sy’n wynebu rhai o’n cymunedau gwledig yn real ac yn ddwys. Er ei bod yn boenus, mynegwyd yr angen i gydnabod y ffeithiau a oedd gerbron, yn enwedig sefyllfa ddifrifol Ysgol y Garreg. Nodwyd bod lles a chyfleoedd plant yn ganolog wrth wneud penderfyniadau addysgol, a dyna oedd yr egwyddor a oedd wedi arwain drwy’r broses hon. Tanlinellwyd yr angen i sicrhau bod plant yn cael mynediad at addysg gynaliadwy, ystod eang o brofiadau ac amgylchedd dysgu a allai ddiwallu anghenion heddiw ac i’r dyfodol.

 

Pwysleisiwyd nad oedd y penderfyniad ynglŷn ag Ysgol y Garreg yn un yr oedd y Cabinet yn dymuno ei wneud, ond yn un yr oedd amgylchiadau wedi arwain ato. Nodwyd, pe bai’r sefyllfa, y niferoedd a’r rhagolygon yn wahanol, na fyddai’r penderfyniad yn cael ei ystyried. Pwysleisiwyd bod Gwynedd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y plant dros y degawd diwethaf, a bod dyletswydd i wneud penderfyniadau cyfrifol ar gyfer yr hirdymor, hyd yn oed pan oedd y penderfyniad yn anodd ac yn amhoblogaidd.

 

Argymhellwyd felly y penderfyniad i gau Ysgol y Garreg, gan gydnabod cyfraniad nifer fawr o bobl at yr ysgol dros y blynyddoedd, a’r angen i weithredu er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth ysgol orau a mwyaf cynaliadwy i blant y dyfodol yng Ngwynedd.

 

Ategwyd tristwch y sefyllfa gan Aelod Lleol Ward Glaslyn, a nodwyd bod yr ysgol wedi bod yn gwasanaethu’r gymuned ers oddeutu 143 o flynyddoedd. Pwysleisiwyd y newid hwn mewn demograffeg a’r lleihad yn nifer y plant yn ein cymdeithas, gyda dim ond dau ddisgybl yn Ysgol y Garreg ym mlwyddyn 6 ac yn symud i’r ysgol uwchradd ym mis Medi 2026. Diolchwyd i staff Ysgol y Garreg am eu hymroddiad i’r ddau ddisgybl mewn amgylchiadau anodd, gan gynnig profiadau addysgol gwych a difyr iddynt. Tynnwyd sylw at farn y corff llywodraethu yn yr adroddiad, gan annog y Cyngor i ystyried ailstrwythuro adeilad yr ysgol fel canolfan arbenigol ar gyfer disgyblion sy’n cael trafferth ymgartrefu mewn ysgolion prif lif, ond nad ydynt yn gymwys ar gyfer ysgol anghenion dysgu ychwanegol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

  • Ynglŷn â’r Gymraeg, nodwyd y sylw y byddai’r Gymraeg yn fwy naturiol ym mywydau’r ddau ddisgybl wrth iddynt symud i ysgol fwy, gyda mwy o weithgareddau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Pwysleisiwyd bod hyn yn beth cadarnhaol. Mewn ymateb, nodwyd bod yr asesiad effaith ynglŷn â’r Gymraeg wedi edrych ar yr agweddau cadarnhaol ar symud y ddau unigolyn i ddosbarthiadau llawer mwy, lle cânt fwy o gyfle i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Pryderwyd, ynglŷn â chapasiti Ysgol Cefn Coch, sef yr ysgol amgen newydd o 1 Medi 2026, ar gyfer y dyfodol pe byddai cynnydd yn nemograffeg y dalgylch. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod capasiti digonol yn Ysgol Cefn Coch i wasanaethu’r dalgylch ac nad oedd unrhyw bryderon ynglŷn â hyn.
  • Talwyd teyrnged i staff, pobl ifanc a’r gymuned a oedd wedi bod yn rhan o’r broses hyd yma, gan nodi bod y broses wedi bod yn un anodd ond, er hynny, wedi ei gwneud gydag urddas.
  • Cwestiynwyd beth fyddai dyfodol adeilad Ysgol y Garreg, gan nodi bod cynsail i adeiladau tebyg gael eu trosi’n ganolfannau cymunedol. Mewn ymateb, nodwyd bod polisi ôl-ddefnydd yn bodoli ar gyfer sefyllfaoedd o’r fath. Cadarnhawyd mai’r Adran Addysg fyddai’n cael y dewis cyntaf ynglŷn ag a oedd ganddi fwriad i wneud defnydd o’r adeilad, ac os nad oedd, byddai’r adeilad yn cael ei gynnig ar gyfer defnydd cymunedol. Tanlinellwyd yr ymwybyddiaeth, yn yr achos hwn, bod darpariaeth gymunedol yn agos iawn at yr adeilad, ac nad oedd honno o reidrwydd yn cael ei defnyddio’n llawn. Felly, byddai’n rhaid adolygu unrhyw gais ynglŷn â’r adeilad yn ofalus iawn wrth symud ymlaen.
  • Amlygwyd tuedd yn ddiweddar ynglŷn ag ysgolion yn ail-hysbysebu ar gyfer swyddi penaethiaid. Cwestiynwyd a oedd recriwtio penaethiaid yn fwy o her mewn ysgolion bychain. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod recriwtio penaethiaid yn heriol ar hyn o bryd ar draws y sector addysg, yn y cynradd ac yn yr uwchradd. Amlygwyd nad oedd hyn yn eithriad i Wynedd o’i gymharu ag awdurdodau eraill, gan nodi bod prinder unigolion sy’n fodlon arwain ysgolion am amryw o resymau. Cydnabuwyd bod arwain ysgol fach fel Ysgol y Garreg yn her, gan nodi bod y gwaith sy’n gysylltiedig ag ysgol fach o ran cynllunio a pharatoi yr un mor ymdrechgar ag mewn ysgol fwy o ran maint. Cadarnhawyd bod y pryder hwn ynglŷn â recriwtio penaethiaid ar restr risg yr Adran. Nodwyd bod pennaeth Ysgol y Garreg wedi llwyddo i gael swydd mewn ysgol arall fel pennaeth parhaol.
  • Cwestiynwyd ynglŷn â faint o swyddi penaethiaid a oedd yn wag ar draws y sir. Mewn ymateb, nodwyd bod o leiaf dair swydd yn wag, gyda nifer cynyddol o benaethiaid mewn gofal dros dro, a’r ganran yn tueddu i gynyddu o dymor i dymor.
  • Cwestiynwyd a oedd y ddau ddisgybl yn Ysgol y Garreg wedi cael eu hymgynghori â hwy. Mewn ymateb, nodwyd bod barn y ddau ddysgwr wedi ei derbyn a’i chrynhoi yn yr adroddiad.
  • Mynegwyd tristwch ynglŷn â’r sefyllfa, gan nodi bod symud ysgol yn brofiad anodd, yn enwedig mewn sefyllfa lle roedd rhaid symud i ysgol â nifer llawer mwy o ddisgyblion. Cwestiynwyd pa gefnogaeth fyddai ar gael i ddau ddisgybl Ysgol y Garreg. Mewn ymateb, nodwyd bod y disgyblion, yn yr achos hwn, wedi bod yn cael profiadau gyda phlant o ysgolion eraill eisoes dros y misoedd diwethaf, er mwyn hwyluso’r broses bontio a meithrin perthynas. Cadarnhawyd y byddai’r Adran yn dibynnu ar staff yr ysgol, a oedd eisoes yn adnabod y disgyblion yn dda, ynglŷn â’r ffordd orau o’u cefnogi drwy’r broses.
  • Cwestiynwyd ynglŷn â threfniadau cludiant y ddau ddisgybl i’r ysgol amgen newydd. Mewn ymateb, nodwyd y byddai trefniadau perthnasol yn cael eu gwneud er mwyn i’r ddau ddisgybl gyrraedd eu hysgol newydd.

·       Cwestiynwyd a oedd gan yr Adran Addysg unrhyw awgrym ynglŷn â sut roedd tuedd demograffeg Gwynedd yn debygol o newid yn y dyfodol, ac a oedd unrhyw arwydd bod y sefyllfa am wella neu barhau i waethygu, gyda mwy o ysgolion bychain yn gorfod ystyried cau. Mewn ymateb, nodwyd bod dyfodol demograffeg yn anodd ei ragweld. Cadarnhawyd bod ffigurau 2025 bellach yn gyhoeddus, gyda gostyngiad mewn genedigaethau i 925 yng Ngwynedd. Mynegwyd bod y duedd yn parhau i ostwng yn gyson ac na ragwelid newid cyfeiriad o ran niferoedd. Amlygwyd, gan fod ysgolion Gwynedd yn gymharol fach o’u cymharu ag awdurdodau eraill eisoes, eu bod yn debygol o wynebu sefyllfa lle byddai angen gwneud penderfyniadau ynglŷn â chau ysgolion yn gynt yn y sir nag mewn siroedd eraill.

Awdur:Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg

Dogfennau ategol: