Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a mabwysiadwyd Polisi Iaith Addysg Gwynedd ar
gyfer ei gyflwyno fel Polisi Iaith Addysg Enghreifftiol i ysgolion ystyried ei
fabwysiadu a’i weithredu.
TRAFODAETH
Mynegwyd balchder o’r cyfle i gyflwyno’r Polisi Iaith Addysg
Enghreifftiol newydd ar gyfer ysgolion i’r Cabinet. Nodwyd bod y polisi wedi
bod gerbron y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar fwy nag un achlysur, ac
gerbron y Cabinet yn flaenorol er mwyn cael caniatâd i ymgysylltu. Nodwyd,
bellach, bod y polisi gerbron y Cabinet yn dilyn y broses ymgysylltu honno â’r
cyhoedd a rhanddeiliaid. Nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gydag aelodau
unigol o’r Cyngor, mudiadau iaith, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a sawl
sefydliad arall er mwyn derbyn safbwyntiau gwahanol, gwrando ar bryderon ac
ystyried syniadau cyn symud ymlaen.
Nodwyd mai polisi i Wynedd oedd hwn, sy’n adlewyrchu
Gwynedd, ei gwerthoedd, ei huchelgais, ei hanghenion ac anghenion plant a phobl
ifanc y sir. Diolchwyd i’w ragflaenydd ar y Cabinet, Meirion Prys Jones, ac i’r
swyddogion am eu gwaith ar lunio’r polisi. Mynegwyd pwysigrwydd bod yn hollol
agored yn ystod y broses, yn agored i syniadau, her a chydweithio gyda
rhanddeiliaid er mwyn llunio’r polisi gorau posib.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd perswadio ac argyhoeddi yn hytrach
na mynnu neu orfodi. Nodwyd yr angen i argyhoeddi pobl o werth y Gymraeg,
ennill eu calonnau, dangos gwerth addysg Gymraeg a’r modd y mae’r Gymraeg yn
agor drysau yn hytrach na’u cloi.
Tanlinellwyd bod gwaith anhygoel wedi ei wneud dros y
degawdau diwethaf yn y maes. Nodwyd bod cenedlaethau wedi gweithio’n ddiflino i
gryfhau’r iaith, i adeiladu’r system addysg Gymraeg sydd gennym heddiw, ac i
sicrhau bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn cael y cyfle i fyw a gweithio
drwy gyfrwng y Gymraeg. Pwysleisiwyd bod y llwyddiannau hyn yn rhai i’w dathlu.
Mynegwyd gobaith bod y polisi newydd hwn yn adeiladu ar y gwaith hwnnw, ar y
llwyddiant, ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio, ar gyfleoedd, ar hyder, ac ar
adeiladu dyfodol cryfach i’r Gymraeg.
Pwysleisiwyd bod y Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, y
rhai sy’n siarad yn rhugl, y rhai sy’n dysgu, a’r rhai nad ydynt wedi cael
cyfle eto. Mynegwyd bod lle i bawb yn stori’r Gymraeg. Galwyd ar bawb i uno y
tu ôl i’r Gymraeg a rhoi cyfle i bob plentyn yng Ngwynedd brofi’r manteision
o’i chael hi, gan sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith fyw,
ffyniannus a hyderus. Galwyd ar bawb i agor drysau i fyd o gyfleoedd, profiadau
a manteision a fyddai’n aros gyda’n pobl ifanc am weddill eu bywydau.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
- Nodwyd yr angen i’r
Cabinet a’r Cyngor gefnogi’r daith er mwyn sicrhau bod adnoddau digonol yn
eu lle i gyflawni’r polisi. Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymrwymo i roi’r
gefnogaeth hon er mwyn sicrhau bod y polisi yn cael ei weithredu’n llawn.
- Mynegwyd cefnogaeth i’r
polisi, gan nodi bod llawer o fewnbwn wedi ei dderbyn ar hyd y daith
drwy’r Pwyllgorau Craffu.
- Cwestiynwyd ynglŷn
â’r gefnogaeth a oedd ar gael i ysgolion mewn dalgylchoedd lle’r oedd y
Saesneg yn fwy amlwg. Mewn ymateb, nodwyd bod cefnogaeth y gyfundrefn
drochi yn rhan bwysig o’r polisi, a’i bod bellach yn sicrhau mynediad o
Fangor i lawr i Dywyn, gyda’r nifer sy’n cael eu cyfeirio ati yn gyson
uchel. Pwysleisiwyd bod cefnogaeth ychwanegol ar gael i’r ysgolion a
adnabuwyd fel ysgolion trosiannol yn y polisi, gan nodi enghreifftiau o
Ysgol Tywyn ac ysgolion yn nalgylch Bangor, lle penodwyd tiwtoriaid
gweithlu i gefnogi. Nodwyd bod staff a oedd angen cymorth pellach yn cael
eu hannog i fanteisio ar gynlluniau sabothol. Nodwyd bod y Llywodraeth yn
hynod gefnogol i’r hyn a oedd yn cael ei wneud yng Ngwynedd, a’i bod yn
awyddus i ddatblygu gwaith yr Athrofa Dysgu Cymraeg, gyda’r nod o ddarparu
adnoddau a hyfforddiant i hyfforddi staff ac ysgolion Cymru.
- Cwestiynwyd sut y byddai
cynnydd yn cael ei fonitro wrth symud ymlaen. Mewn ymateb, nodwyd y
disgwyliad i ysgolion gyflwyno cynlluniau cyflawni o fewn y Ddeddf Gymraeg
ac Addysg, gyda pheilot yn cael ei ffurfio gyda’r Llywodraeth i symud
ymlaen â hynny erbyn 2029. Nodwyd, o fewn y cynlluniau cyflawni, fod
bwriad i ysgolion, ar y cyd â’r awdurdod, osod meini prawf, gweledigaeth a
nodau, ac y byddai’r rhain yn cael eu monitro’n statudol bob tair blynedd
ar ôl 2029. Pwysleisiwyd y byddai’r Adran yn gweithio’n agos gydag
ysgolion yn y cyfnod rhwng nawr a 2029 i sicrhau eu bod yn diwallu
anghenion ysgolion Gwynedd. Tanlinellwyd na fyddai’r cynlluniau yn
unffurf, gan fod pob ysgol yn perthyn i’w chymuned ei hun, ac felly y
byddent yn cael eu hystyried o safbwynt cymunedol a dalgylchol.
Cadarnhawyd bod pob ysgol yn dechrau o waelodlin wahanol ac y gallai
targedau amrywio o ysgol i ysgol, gyda’r nod o sicrhau bod pob ysgol yn
gwneud cynnydd.
- Cwestiynwyd sut y byddai’r
Adran yn annog ysgolion i fabwysiadu a gweithredu’r polisi enghreifftiol
hwn. Mewn ymateb, nodwyd bod mewnbwn penaethiaid ac ysgolion wedi ei
ystyried wrth greu’r polisi, ac felly nad oedd disgwyliad o wrthwynebiad
chwyrn gan y rhai a oedd wedi bod yn rhan o roi’r polisi at ei gilydd.
Mynegwyd mai’r neges gyffredinol yn y maes addysg oedd bod awydd am bolisi
clir, eglur a thraws-sirol a oedd yn rhoi blaenoriaeth i’r Gymraeg.
Cadarnhawyd y byddai’r polisi yn mynd gerbron pob corff llywodraethu ac y
byddai cyfle i drafod y polisi yng ngoleuni’r gwahaniaethau unigryw rhwng
pob ysgol. Nodwyd y byddai’r Adran yn monitro’r hyn a fyddai’n cael ei
addasu yn y polisi enghreifftiol o ysgol i ysgol.
- Cwestiynwyd pryd y
disgwylid i’r polisi gael effaith ar lawr gwlad. Mewn ymateb, nodwyd bod y
polisi yn gam pwysig ac yn sylfaen er mwyn sicrhau’r Gymraeg o fewn
ysgolion, a bod gwaith pellach i’w wneud i adeiladu ar y sylfaen hon, nid
yn unig o fewn ysgolion ond yn ehangach drwy sawl menter iaith ac o fewn y
gymuned, er mwyn sicrhau bod mwy yn gallu siarad Cymraeg ac yn defnyddio’r
Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Dechreuodd y cyfarfod am 1:00yh a daeth i ben am 1:47yh