Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CJC) a Delyth Jones-Thomas, Rheolwr Buddsoddi i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad ar gyfer 2025/26.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu ei fod yn darparu trosolwg o weithgareddau Rheolaeth Trysorlys y CBC ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26.
Eglurwyd, yn ystod y flwyddyn ariannol 2025/26, yr arhosodd gweithgaredd rheolaeth trysorlys y CBC o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn y strategaeth ym mis Mehefin 2025. Ychwanegwyd bod £1.9m o log ar y buddsoddiadau wedi ei dderbyn.
Cadarnhawyd bod sefyllfa ar 31 Mawrth 2026 yn gryf iawn gyda buddsoddiadau o £56.4 miliwn sef yn bennaf arian y Cynllun Twf a Parth Buddsoddi sydd heb ei wario eto.
Cydnabuwyd y mathau o fuddsoddiadau sy’n cael ei wneud ar ran y CBC, a chadarnhawyd bod y rhain yn gyson gyda’r strategaeth a'r math o fuddsoddiadau mae Cyngor Gwynedd yn buddsoddi ynddynt sydd yn cynnwys Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Awdurdodau Lleol, Cronfeydd Marchnad Arian a Swyddfa Rheoli Dyledion.
Tynnwyd sylw at yr adroddiad cydymffurfio sydd yn cadarnhau bod y gweithgaredd buddsoddi wedi cydymffurfio’n llawn gyda’r cyfyngiadau penodol a osodwyd.
Gofynnwyd am fanylion bellach ynghylch buddsoddiadau o fewn gwahanol siroedd, ac ynghylch hyd y telerau buddsoddi. Eglurwyd bod y telerau’n amrywio, ond eu bod fel arfer yn fuddsoddiadau tymor byr. Ychwanegwyd bod Arlingclose, sef ymgynghorwyr rheoli trysorlys y CBC, yn darparu gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar y siroedd y buddsoddir ynddynt.
Gofynnwyd sut mae’r Strategaeth Buddsoddi a’i dull yn cael ei asesu. Cadarnhawyd bod diogelwch yn dod cyn hylifedd a thwf, a lle mae buddsoddiadau tebyg yn cael eu hasesu a’u canfod yr un mor ddiogel â’i gilydd, dewisir y buddsoddiad gyda’r twf uchaf.
Gofynnwyd a oedd unrhyw fantais mewn buddsoddi yng Nghynghorau Gogledd Cymru yn unig. Eglurwyd nad ydynt yn buddsoddi mewn datblygiad economaidd yr awdurdodau lleol eraill, ond yn buddsoddi er mwyn caniatáu iddynt barhau â’u gweithrediadau. Amlygwyd bod buddsoddiadau mewn gwahanol gynghorau yn well na buddsoddiadau gan fanc, ac fel arfer maent yn fwy diogel. Ymhelaethwyd fod y buddsoddiadau hyn bob amser yn fyrdymor.
Gofynnwyd a fyddai buddsoddiad hirdymor yn cael ei ystyried i ddarparu Strategaeth Buddsoddi fwy cytbwys. Eglurwyd bod y Strategaeth Buddsoddi yn cynnwys yr arian parod nad yw wedi’i wario ar y Fargen Twf na’r Parth Buddsoddi. Nodwyd fod gan y CBC syniad eisoes o broffil gwariant y Fargen Twf a’r Parth Buddsoddi, ac mae’n fater o gydbwyso’r arian parod dros ben a chynllunio pryd y bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi yng Ngogledd Cymru ac yn natblygiad economaidd y rhanbarth.
Mewn ymateb i drafodaeth ynglŷn â chytundeb gyda Arlingclose, eglurwyd bod Arlingclose yn rhan o gytundeb Cyngor Gwynedd yn wreiddiol ond bod ganddynt bellach gytundeb ar wahân i roi cyngor yn uniongyrchol i’r CBC. Eglurwyd ei fod yn gytundeb 12 mis ac y bydd yn cael ei adolygu pan fydd y cytundeb yn dod i ben.
Mynegwyd pryder ynghylch sut mae’r CBC yn sicrhau bod
buddsoddiadau’n cael eu hystyried o ran methiannau llywodraethu corfforaethol
mewn mannau eraill. Esboniwyd bod gan Arlingclose
restr o bartïon cymeradwy a rhestr o awdurdodau lleol na ddylai’r CBC fuddsoddi
ynddynt. Pwysleisiwyd bod Arlingclose yn arbenigwyr
yn y maes ac yn gwneud llawer o ymchwil, gan flaenoriaethu diogelwch pob tro.
Dogfennau ategol: