Agenda item

Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Ystyriwyd y wybodaeth a'r penderfyniadau a geisiwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan fanylu ar sefyllfa alldro'r elfennau Cynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chorfforaethol eu natur. Cadarnhawyd bod cyfanswm y sefyllfa alldro net ar gyfer yr elfennau yma yn danwariant o £1.067 miliwn, a bod £600mil o’r tanwariant yma yn deillio o grantiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn gyda rhain yn cael eu defnyddio i ariannu costau a oedd wedi’u cyllidebu yn wreiddiol.

 

Eglurwyd eu bod yn gofyn am gymeradwyaeth y Cydbwyllgor Corfforedig i drosglwyddo’r tanwariant i’r gronfa wrth gefn i ariannu gwariant yn y blynyddoedd dilynol wrth i weithgareddau a swyddogaethau'r Cydbwyllgor Corfforedig gynyddu. Ymhelaethwyd bod y Cydbwyllgor Corfforedig eisoes wedi cymeradwyo i dros £600mil o’r gronfa hon gael ei defnyddio fel rhan o gyllideb 2026/27 a byddai hyn wedyn yn gadael balans o tua miliwn yn y gronfa.

 

Tynnwyd sylw at sefyllfa alldro'r Cynllun Twf a’r ffrydiau ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn. Nodwyd bod cyfanswm y tanwariant yn £543mil gyda’r prif danwariant o dan y pennawd gweithwyr. Atgoffwyd Aelodau bod cyfraniadau partneriaid yn cyfateb i tua 20% o’r gyllideb yn unig, sy’n ffynonellau ariannu parhaol a ffynonellaua ddisodlir  yn unig yw’r gweddill. Eglurwyd bod gofyn ar y Cydbwyllgor Corfforedig i beidio â defnyddio £61mil o’r gronfa wrth gefn ac i leihau y cyfraniad o’r grant Cynllun Twf i £868 mil, er mwyn gadael sefyllfa niwtral am y flwyddyn. Ychwanegwyd bydd y ffynonellau yma yn cael eu defnyddio i ariannu gwariant mewn blynyddoedd i ddod  ac felly yn lleihau'r risg o fod angen cynyddu cyfraniadau'r partneriaid i’r dyfodol.

 

Cyflwynwyd diweddariad ar symudiad mewn cronfeydd y Cynllun Twf yn ystod y flwyddyn ynghyd â’u balansau ar 31 Fawrth 2026. Eglurwyd bod gronfa llog o £5m wedi’i neilltuo i ariannu costau benthyca yn y blynyddoedd i ddod a hynny wrth i’r gwariant ar y cynlluniau cyfalaf gymryd lle cyn derbyn yr arian grant gan y Llywodraeth. Cydnabuwyd bod balans y gronfa adnoddau ar 31 Mawrth 2026 yn £4.4m, ac mae bron i filiwn o’r gronfa yma wedi ei chlustnodi i’w defnyddio yng nghyllideb 2026/27.

 

Darparwyd diweddariad ar adolygiad diwedd blwyddyn rhaglen gyfalaf y Cynllun Twf ar gyfer 2025/26 a’r proffil gwariant o 2026/27 ymlaen. Nodwyd bod cyfanswm o £30.64miliwn o wariant wedi ei wneud ar y Cynllun Twf erbyn diwedd 2025/26. Ychwanegwyd bod gostyngiad net o £14.28m yn y gwariant ar gyfer 2025/26 o’i gymharu â’r gyllideb a gymeradwywyd yn Chwefror 2025 yn sgil  llithriad ar brosiectau.

 

Cyflwynwyd sefyllfa ariannol y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, sydd yn dangos sefyllfa niwtral am y flwyddyn gyda’r gwariant o £290 mil yn cael ei ariannu gan grant llywodraeth Cymru.

 

Cadarnhawyd bod y cyllid grant yn swm penodol ac nad yw’n cynyddu gyda chwyddiant.

 

Gofynnwyd a dderbyniwyd unrhyw sylwadau ynghylch yr eitem yng Nghyfarfod y Bwrdd Portffolio ar 24 Ebrill ac yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor Lles Economaidd ar 15 Mai. Cadarnhawyd na ofynnwyd unrhyw gwestiynau yn ystod Cyfarfod y Bwrdd Portffolio, ond bod cwestiwn wedi’i godi yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor Lles Economaidd ynghylch sicrwydd bod yr arian yn y cronfeydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

 

Gofynnwyd a oes canllaw ar gyfer canran y cronfeydd wrth gefn y dylai’r CBC eu dal yn erbyn y trosiant. Cadarnhawyd nad oes canllaw o’r fath yn bodoli, ond rheol gyffredinol yw bod angen 2.5% - 5% o gronfa wrth gefn yn erbyn y gwariant gros. Nodwyd ymhellach fod £600 mil o gronfeydd wrth gefn wedi’u cynnwys er mwyn cadw’r ardolli lawr.

 

Esboniwyd bod dwy gyllideb ar gyfer y CBC yn bodoli, sef cyllideb y Cynllun Twf sy’n cael ei hariannu drwy grant gan y Llywodraeth, yr awdurdodau lleol, a’r pedwar corff addysg, a cyllideb y CBC sy’n cael ei gyflawni trwy godi ardoll ar y chwe chyngor. Pwysleisiwyd eu bod yn gwneud eu gorau i roi sicrwydd i’r awdurdodau lleol a’r CBC ynglŷn â sut mae’r reserfau yn cael eu defnyddio ac mae hwn yn cael ei ddangos  yn y Cynllun Gwaith Tymor Canolig.

 

Gofynnwyd a oedd llithro mewn rhai prosiectau oherwydd ffactorau mewnol neu allanol, a beth fydd yr effaith ar y blynyddoedd i ddod. Cadarnhawyd bod unrhyw lithriad ynghylch y Cynllun Twf oherwydd ffactorau allanol amrywiol a rhoddwyd sicrwydd bod diwydrwydd dyladwy yn cael ei wneud bob amser, er y gall hyn arafu’r broses.

 

Mynegwyd pryder ynghylch natur uchelgeisiol cychwyn ar a chwblhau unrhyw brosiect cyfalaf o fewn un flwyddyn ariannol, gyda ffocws penodol ar brosiect Porthladd Mostyn gwerth £4 miliwn a gynlluniwyd ar gyfer 2026/27. Sicrhawyd mai’r cyfraniad ariannol gan y Cynllun Twf yw’r prosiect, ac nad yw adlewyrchiad o’r Rhaglen Ddatblygu. Cadarnhawyd y byddai’r prosiect yn cael ei adolygu’n gyson.

 

Cadarnhawyd y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cydbwyllgor Corfforedig am gymeradwyaeth ar 19 o Fehefin.

 

Dogfennau ategol: