Agenda item

Pwrpas yr eitem yw cyflwyno’r adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

Penderfyniad:

  1. Derbyn a nodi’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gadeirydd y Panel. Amlygwyd ganddo bwysigrwydd gwaith y Panel a chydnabuwyd y bu’r flwyddyn ddiwethaf yn heriol o safbwynt diogelu. Nodwyd pwysigrwydd bod camau’n cael eu cymryd i sicrhau craffu digonol o holl weithdrefnau’r Cyngor yn ogystal.

Cyfeiriwyd at yr ystadegau a gaiff eu nodi ar dudalen gyntaf yr Adroddiad, ac ymfalchïwyd yn y cynnydd yn nifer o’r staff sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant diogelu a’r ganran o ysgolion sydd wedi cyflwyno hyfforddiant diogelu i’r holl staff. Adnabuwyd yn ogystal bod cynnydd sylweddol i’w weld yn nifer y cyfeiriadau i wasanaethau plant. Soniwyd am ymgais staff y gwasanaeth i gyrraedd targedau yn amserol gan roi sylw i bob achos, ond bod y cynnydd cenedlaethol o’r math hwn yn rhoi straen ar adnoddau.

 

Amlygwyd bod mwy o staff wedi cymhwyso i allu cynnal asesiadau DoLS (Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid) erbyn hyn, a holwyd tybed pryd fydd modd gweld lleihad yn y niferoedd sy’n disgwyl am asesiadau o ganlyniad. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod arian ychwanegol wedi ei dderbyn y llynedd er mwyn mynd i’r afael â’r rhestr aros am asesiad DoLS. Soniwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i recriwtio swyddogion cymwys, er y trafferthion a gafwyd wrth geisio gwneud hynny, ac felly bod y ffigyrau yn dechrau lleihau o ganlyniad. Ymhelaethwyd ar hyn gan grybwyll dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys yn erbyn achos adnabyddus yn y maes gofal. Er bod y canllawiau ynghylch y penderfyniad hwn eto i gael eu datblygu, mynegwyd balchder am y penderfyniad gan ragweld y bydd yn newid arfer yn ogystal â’r disgwyliadau sydd ar y gwasanaethau cymdeithasol.

Tynnwyd sylw at y ffaith nad oes aelod allanol yn rhan o aelodaeth y Panel, a gofynnwyd a yw’r aelodaeth yn ddigon cadarn o ganlyniad. Pwysleisiwyd bod ystyriaeth wedi ei roi i hyn ac i gylch gorchwyl y Panel, ond amlygwyd mai Panel strategol mewnol ydyw er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gwneud ei waith yn gywir. Er nad oes aelodau allanol yn rhan o’r Panel hwn, mae dod a’r adroddiad gerbron y Pwyllgor Craffu yn rhoi cyfle i’r aelodau herio a chynnig barn ar waith y Panel. Cynigiwyd y dylai’r Cyngor allu bodloni ei hun ei fod yn gallu craffu’n fewnol ar ei waith. Cyfeiriwyd at rôl y Bwrdd Ymateb a Chadeirydd Annibynnol y Bwrdd wrth graffu ar waith y Cyngor yn ogystal. Cydnabuwyd na all y Bwrdd hwn barhau am byth, ond nodwyd bod pobl o gyrff allanol yn edrych ar waith y Cyngor yn aml. Er mai Panel mewnol ydyw, cefnogwyd edrych yn fanylach ar rôl posib i aelodau allanol fel rhan o’r Panel hwn. 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â faint o’r rheiny ar y rhestr aros DoLS sy’n aros am asesiad cyntaf a faint sy’n aros am ail asesiad, nodwyd bod y gwasanaeth wedi bod yn blaenoriaethu o ran risg o ganlyniad i bwysau’r rhestr aros.                             Wrth drafod y pwysau sydd ar staff yn y maes hwn, manylwyd bod trosiant staff a demograffeg Gwynedd yn heriol. Tynnwyd sylw at y niferoedd amrywiol sy’n ymgeisio am rolau hyfforddai yn ogystal. Ategwyd bod y niferoedd cynyddol o gyfeiriadau sy’n cyrraedd yr adran blant yn rhoi pwysau sylweddol ar yr Adran, ar adnoddau, ac ar yr holl weithdrefnau diogelu a chefnogi plant. Cadarnhawyd bod arian ychwanegol wedi ei dderbyn er mwyn buddsoddi mewn creu swyddi i gynorthwyo â’r pwysau hwn. Ychwanegwyd bod recriwtio gweithwyr cymdeithasol cymwys yn profi’n heriol, ac felly bod gwaith i’w wneud o ran cynllunio’r gweithlu i sicrhau parhad. Nodwyd bod nifer o’r swyddi hyn yn ymwneud â’r maes Rhan 5 a’r maes diogelu’n gyffredinol, er mwyn gallu mynd i’r afael â rhai o’r argymhellion a’u hadnabuwyd gan adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder. Manylwyd ymhellach ar swydd sydd wedi ei chreu, gan nodi mai rhai o brif gyfrifoldebau’r swyddog fydd arwain ar gadeirio cyfarfodydd Rhan 5 ac arwain ar waith y fframwaith sicrwydd ansawdd ar draws yr Adran Blant.  

Aethpwyd ymlaen i drafod y nifer cynyddol o blant sy’n cael eu haddysgu gartref, a holwyd am y sefyllfa o ran sicrhau bod dim risg i’r plant hyn. Datganwyd bod gan rieni hawl i dynnu plentyn o’r ysgol neu beidio anfon eu plentyn i’r ysgol. Esboniwyd bod swyddogion yn monitro’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y plentyn, ond heblaw bod pryder diogelu, mae hawl gan riant i wrthod y monitro hwn. Mynegwyd pryder o ran y diffyg hawliau sydd gan y Cyngor yn y maes hwn. Ychwanegwyd bod y cynnydd yn y niferoedd a gaiff eu haddysgu gartref i’w weld yn genedlaethol yn ogystal, a chadarnhawyd ei fod yn un o fesuryddion herio perfformiad yr Adran Addysg. Adnabuwyd bod amryw o deuluoedd yn gwneud gwaith arbennig wrth addysgu eu plant gartref, ond pryderwyd nad yw hynny’n wir ar gyfer pob plentyn sy’n derbyn addysg gartref. Cydnabuwyd bod rhai rhieni’n credu nad yw eu plentyn yn derbyn cefnogaeth ddigonol mewn ysgolion, ac felly eu bod yn penderfynu tynnu’r plentyn allan o’r ysgol. Adnabuwyd yr heriau ariannol sy’n golygu efallai nad yw ysgolion yn gallu cyrraedd disgwyliadau o ran rhoi’r gefnogaeth orau i bob plentyn ym mhob achlysur. Gobeithiwyd y gall y Llywodraeth newydd ddatblygu datrysiadau i’r heriau hyn sy’n wynebu awdurdodau addysg.

Mewn ymateb i gwestiwn am ystod oedran y plant hynny a gaiff eu haddysgu gartref, cadarnhawyd bod rhai plant yn penderfynu dad gofrestru a gadael yr ysgol ac eraill byth yn dechrau mynychu’r ysgol yn y lle cyntaf. Yn ogystal, eglurwyd bod Gwynedd wedi bod yn rhan o gynllun peilot er mwyn dod i ddeall mwy am sefyllfaoedd y plant hynny sydd ddim mewn wedi eu cofrestru mewn ysgol. Manylwyd ar y cyngor a’r gefnogaeth a gaiff ei gynnig i’r rheiny sy’n dewis addysgu eu plant gartref, gan nodi bod swyddogion ar gael i gefnogi ac y cynhelir sesiynau a gweithgareddau ar bynciau penodol i’r plant yn ogystal. Pwysleisiwyd mai cynnig yw’r ddarpariaeth hon ac nad oes gan y Cyngor hawl i’w orfodi ar neb. Aethpwyd ymlaen i nodi mai 124 plentyn sydd yn newydd ar y gofrestr addysg gartref ers mis Medi 2025.

Cwestiynwyd a yw’r Panel yn fodlon gyda’r cynnydd sydd wedi ei wneud gan y Bwrdd Ymateb. Cadarnhawyd bod Cadeirydd Annibynnol y Bwrdd yn adrodd i’r Cabinet bob chwarter ar gynnydd y Bwrdd, a’i bod wedi amlygu ei bodlonrwydd gyda’r cynnydd hwn wrth adrodd yn ôl. Sicrhawyd bod swyddog gwahanol yn arwain ar waith pob ffrwd, a chânt eu herio am gynnydd amserol y ffrwd honno. Diolchwyd am y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn yn ogystal. Mynegwyd balchder o’r cynnydd a gaiff ei wneud gan y Bwrdd, gan nodi bod sylwedyddion annibynnol a Llywodraeth Cymru wedi nodi eu bodlonrwydd â’r cynnydd hwn yn ogystal.                                                              

Tynnwyd sylw at y ffaith bod 4 person ifanc yng Ngwynedd wedi eu lleoli mewn lleoliad heb gofrestriad, a holwyd sut y mae’r Cyngor yn sicrhau diogelwch yr unigolion hyn. Cydnabuwyd bod diffyg lleoliadau cofrestredig yn genedlaethol, a nodwyd bod dau o’r unigolion mewn lleoliadau sydd yn y broses o gael eu cofrestru ar hyn o bryd. Sicrhawyd bod y cwmnïau sy’n cael eu llogi i ddarparu gofal yn rai cenedlaethol, ac felly yn destun i’r prosesau a threfniadau diogelwch angenrheidiol. Ychwanegwyd bod yr holl brosesau diogelu eraill yn digwydd yn unfath ac y byddai mewn lleoliadau cofrestredig. Crybwyllwyd yr angen am gynllun digonolrwydd a’r angen i ystyried beth yn union yw anghenion yr Awdurdod. Datgelwyd yn ogystal bod enghreifftiau o leoliadau’n gwrthod plant gan na fyddai’n bosib iddynt ddiwallu anghenion y plentyn hwnnw. Esboniwyd bod dim cynnydd yn y niferoedd sydd mewn lleoliad heb gofrestriad yn y blynyddoedd diwethaf. Pwysleisiwyd nad yw’r Cyngor eisiau i unrhyw blentyn fod mewn lleoliad sydd heb ei gofrestru felly bod gwaith cynllunio yn mynd rhagddo er mwyn gweld sut y mae sicrhau bod anghenion bob plentyn yn cael ei ddiwallu, a bod digon o leoliadau dielw yng Ngwynedd.  

Adnabuwyd bod cyd-weithio cryf rhwng y Cyngor â’r Heddlu yn gyffredinol, ac amlygwyd bod swyddogion o’r Heddlu hefyd yn aelodau o rai o bwyllgorau’r Cyngor. Datganwyd bod cytundeb drafft yn cael ei datblygu yn dilyn yr adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, er mwyn edrych ar sut y bydd posib secondio staff ar draws y sefydliadau pe byddai ymchwiliadau mawr yn y dyfodol. Nodwyd bod cyd-weithio cyffredinol da rhwng y Cyngor â’r Bwrdd Iechyd, ond y gall gwaith cynllunio strategol, er enghraifft, fod yn heriol ar adegau. Soniwyd bod lle i gryfhau cyd-weithio mewnol rhyngadrannol yn ogystal.

Datganwyd bod gwaith wedi ei gomisiynu er mwyn gweld a yw’r gwasanaethau trais domestig yn gydlynol ac yn gweithio’n dda, ac asesu unrhyw ffordd well o gyflawni. Gan fod rôl Comisiynydd yr Heddlu yn dod i ben mewn rhai blynyddoedd, eglurwyd bod ymgynghoriad ar y gweill gan y Llywodraeth er mwyn edrych ar sut i sicrhau’r gwasanaethau hyn, a’r system fydd mewn lle ar draws Cymru wrth fynd ymlaen. Gobeithiwyd y caiff yr arian a oedd yn flaenorol yn cael ei roi i Gomisiynydd yr Heddlu ei ddyrannu i’r Awdurdodau Lleol, fel bod modd creu pecyn cyflawn o’r gwasanaethau hyn mewn un lle.

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Derbyn a nodi’r adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: