Agenda item

Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran.

Penderfyniad:

  1. Derbyn yr adroddiad a nodi’r sylwadau

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd. 

 

Adroddwyd gan yr Aelod Cabinet ei bod yn fodlon gyda gwaith yr Adran yn gyffredinol. Cadarnhawyd bod cynnydd cadarnhaol yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r ddau brif brosiect yr Adran, sef y Cynllun Awtistiaeth a’r Cynllun datblygu darpariaeth breswyl i blant mewn gofal mewn cartrefi grŵp bychan.

Crybwyllwyd effaith cadarnhaol y Cynllun Awtistiaeth a chyfeiriwyd at rai o’r risgiau sy’n wynebu’r Cynllun, yn benodol, cyllid y Cynllun a’r rhestr aros.

Soniwyd am ddatblygiad y ddarpariaeth breswyl, gyda chynnydd wedi ei wneud drwy ddod a chartrefi yn weithredol a chartrefi eraill ar fin dod yn weithredol, yn ddibynnol ar gofrestriad gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Nodwyd bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw ar y gwasanaethau hyn, a’r pwysau ychwanegol sydd ar staff o ganlyniad. Mynegwyd balchder bod arian ychwanegol wedi ei ddenu drwy fidiau, a fydd yn galluogi’r Adran i gryfhau’r gweithlu a’r gwasanaethau a gaiff eu darparu, a chynnig cefnogaeth well i’r plant.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr Adran yn cyd-weithio â’r Adran Addysg er mwyn ymateb i argymhellion yr adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, ac adnabuwyd bod cyllid ychwanegol wedi’i glustnodi i gynorthwyo â’r gwaith hwn.

Cynhaliwyd arolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn ym mis Tachwedd y llynedd, a oedd yn canolbwyntio ar ddiogelu. Eglurwyd bod gwaith cadarnhaol wedi ei gyflawni ond bod rhai meysydd angen sylw; nodwyd bod gwaith bellach yn mynd rhagddo i ymateb i’r canfyddiadau hyn.

 

Cwestiynwyd a oes rheswm y tu ôl i’r cynnydd yn nifer y cyfeiriadau. Mewn ymateb, amlygwyd bod hynny yn heriol i’w ateb oherwydd caiff y cyfeiriadau hyn eu gwneud o amryw o lefydd gwahanol, megis yr Heddlu, ac asiantaethau Addysg neu Iechyd. Esboniwyd bod y cynnydd hwn er gwaethaf ymdrechion ymyrraeth gynamserol, lle  bu hynny’n bosib. Crybwyllwyd yr her o ddiffyg cyfeirio amserol gan asiantaethau eraill a olygai bod cyfleoedd ataliol yn cael eu colli, ac felly bod nifer o’r plant hynny sy’n cyrraedd yr Adran yn mynd i ofal. 

 

Soniwyd am y ffaith bod yr Adran wedi methu a dod o hyd i leoliad i gynnig darpariaeth breswyl i blant mewn gofal mewn cartrefi grŵp bychan yn ne’r Sir, a holwyd a oes bwriad i ddal i chwilio am leoliad addas yn yr un ardal. Cadarnhawyd bod angen darpariaeth o’r fath ym Meirionnydd, ond ar y funud, does dim lleoliad addas wedi dod i law. Ehangwyd ar hyn gan nodi ei bod wedi profi’n heriol i ddod o hyd i leoliad addas sy’n cyd-fynd â gofynion AGC yn yr ardal. Ychwanegwyd mai canran fechan o’r plant sy’n mynd i ofal preswyl sydd o’r ardal hynny, ond ar adegau mae cael pellter rhwng cyfeiriad cartref yn fuddiol. Bwriadwyd parhau i chwilio am leoliad addas, gan gynnig y dylid symud y chwilio i ogledd Meirionnydd. Nodwyd mai amserlenni grant sy’n rhwystr rhag adeiladu tŷ addas, gan fod rhaid i arian grant gael ei wario o fewn amserlen benodol.

 

Adnabuwyd y galw cynyddol sydd am waith y Cynllun Awtistiaeth, gan bryderu am ei ddyfodol yn sgil ansicrwydd cyllidol. Nodwyd bod llythyr wedi ei ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio sicrhau cyllid, ond cadarnhawyd bod yr Adran yn edrych ar ffyrdd eraill o’i ariannu pe na fyddai modd sicrhau’r cyllid hwn. Esboniwyd bod datblygu ar y gwasanaeth hwn yn hanfodol.

 

Wrth gadarnhau bod yr heriau recriwtio sy’n wynebu’r Sir i’w gweld yn genedlaethol yn ogystal, nodwyd bod Gwynedd mewn lle da o’i gymharu â siroedd eraill.

Trafodwyd sut y bwriedir gwella’r berthynas rhwng yr Adran Blant â’r Adran Addysg, gan adnabod bod sgyrsiau agored am gael eu cynnal i drafod y ffordd orau ymlaen. Ehangwyd ar hyn gan nodi bod aelod o’r Tîm Lles Diogelu Addysg yn mynychu cyfarfodydd Tîm Rheoli'r Adran Blant yn gyson, er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth rhwng yr adrannau am flaenoriaethau a chyfrifoldebau. Yn ogystal, nodwyd bod rôl wrthi’n cael ei datblygu a fydd yn pontio’r ddwy adran.

 

Gofynnwyd am wybodaeth o ran y trafferthion i ddarganfod llety addas i’r rheiny sy’n 16+. Datganwyd bod dod o hyd i lety addas yn her, gan fod nifer yr achosion yn uchel iawn. Adnabuwyd yr asesiad ar y cyd gyda’r Adran Dai pan fu unigolyn 16/17 oed yn cyflwyno’n ddigartref fel un o’r heriau mwyaf, gyda galw yn uchel a phrinder dewisiadau lleoliad ar gyfer yr oed hwn. Datgelwyd bod cytundebau gyda GISDA a Thai Gogledd Cymru i fod yn darparu llety, sy’n gwella’r ddarpariaeth. Ychwanegwyd y bydd dadansoddiad ar y cyd gyda’r Adran Dai yn cael ei gynnal, er mwyn gweld sut mae posib gweithio drwy’r heriau i ddatblygu dewisiadau gwell.

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Derbyn yr adroddiad a nodi’r sylwadau

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: