Agenda item

Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran.

Penderfyniad:

  1. Derbyn yr adroddiad a nodi’r sylwadau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant.

 

Amlygwyd bod yr Adran yn gweithio ar Gynllun Cyngor Gwynedd 2023-2028, a bod yr adroddiad yn cynnwys trosolwg o’r 6 prif brosiect hyn. Soniwyd bod yr adroddiad hefyd yn trafod gwaith dydd i ddydd yr Adran, a’r sefyllfa gyllidol. Ymfalchïwyd ym mhrif lwyddiannau’r adran, gan restru rhai ohonynt:

·       Cynnydd mewn darpariaeth gofal o fewn y Sir

·       Dau dŷ newydd ar gyfer unigolion gyda ADY wedi agor yn Harlech a Penrhyndeudraeth, gyda gwaith yn symud ymlaen ym Mhenyberth.

·       Defnydd cynyddol o dechnoleg a theleofal i alluogi pobl fwy yn annibynnol.

·       Cynnydd yn y nifer o asesiadau cymdeithasol a lleihad yn y rhestr therapi galwedigaethol.

·       Dementia Actif yn llwyddiannus iawn, gyda gofalwyr hefyd yn cymryd rhan.

·       Cyfradd llenwi gwelyau mewn cartrefi mewnol wedi cynyddu’n ôl i 87%.

·       Rhestr aros Diogelu rhag Amddiffyn Rhyddid (DoLS) yn lleihau gyda swyddogion newydd wedi cymhwyso.

·       Rhagolygon diffyg cyllidebol gwreiddiol wedi gwella erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, ond bod pwysau ar wasanaethau’r Adran yn parhau.

 

Symudwyd ymlaen i drafod rhai o’r pryderon, gan gyfeirio’n benodol at y galw uchel sydd am ofal cartref, gyda heriau recriwtio yn parhau. Nodwyd yr awydd am waith i wella’r gefnogaeth i ofalwyr di-dâl, gan gydnabod eu cyfraniadau gwerthfawr.

 

Adnabuwyd bod diffyg cyllideb yr Adran yn £1.4miliwn am y flwyddyn, a bod toriadau gwerth £1.5miliwn wedi eu cynnwys yn y gyllideb. Adroddwyd bod y pwysau ar y gwasanaethau darparu yn gyfrifol am £1m o’r pwysau adrannol, sy’n bennaf ar orwariant staff a defnydd o staff asiantaeth o fewn gofal preswyl. Pwysleisiwyd bod rhaid i’r Adran ddarparu ar gyfer y bobl sydd angen y gwasanaethau, ac felly nad arian sy’n gyrru’r gwasanaethau hyn. Pryderwyd am y rhestrau aros o safbwynt ariannol, a’r cynnydd yn yr angen. Cyfeiriwyd at yr ansicrwydd sydd o ran yr arian RIF sy’n allweddol i’r modd y caiff y gwasanaethau hyn eu hariannu, a soniwyd am y risg o ran yr arbedion sydd eto i’w cyflawni yn ogystal.

 

Croesawyd llwyddiannau’r Adran gan gadarnhau bod ymwybyddiaeth o’r tan gyllido sy’n eu wynebu. Eglurwyd nad oes posib dweud a fydd yr arian ychwanegol a dderbyniwyd eleni yn gwella sefyllfa’r Adran, oherwydd nad oes modd rhagweld pa bwysau ychwanegol neu achosion cymhleth sydd am gyrraedd yr Adran.

Manylwyd bod oddeutu £6miliwn o arian RIF yn dod i Wynedd, gan nodi bod yr arian hwn ar gyfer Oedolion a Phlant yn ogystal.

 

Er bod gofal cartref yn cael ei ail strwythuro, sylwyd bod y ffigyrau yn dal i gynyddu. Mewn ymateb i hyn, eglurwyd bod cymhlethdod achosion yn cynyddu, ac er y bydd y tai gofal ychwanegol yn cynorthwyo â hyn, bydd angen amser i allu gweld y newid. Adroddwyd bod yr Adran yn delio â newidiadau parhaus, a bod gwaith adolygu yn mynd rhagddo er mwyn edrych ar yr opsiynau wrth fynd ymlaen. Cynigiwyd y byddai modd blaen graffu’r maes hwn pan gaiff yr adroddiad ei gyhoeddi. Ychwanegwyd ei fod yn faes lle mae problemau yn ddynamig ac yn symud o ardal i ardal, megis heriau staffio neu ddarparwr yn methu.

 

Soniwyd am heriau staffio mewn perthynas â’r rhestrau aros hyn. Cadarnhawyd bod yr Adran wedi bod yn gweithio gyda mudiad Community Catalyst i gefnogi pobl sy’n awyddus i ddatblygu mentrau gofal bach eu hunain, er mwyn cynorthwyo gyda'r pwysau. Er bod y cytundeb hwn wedi dod i ben erbyn hyn, datganwyd bod y gwaith yn cael ei wneud yn fewnol bellach, gydag arweinydd wedi ei benodi mewn perthynas â’r gwaith. 

Trafodwyd y ganran o’r gwlâu preswyl sy’n cael eu defnyddio yng nghartrefi gofal y Sir, gan nodi ei fod yn ganran isel. Mewn ymateb, eglurwyd bod awydd i gynyddu’r ffigwr eto, ond crybwyllwyd y nifer o’r ffactorau sy’n effeithio ar y defnydd hwn megis gwaith uwchraddio ac ail gofrestru, a chyfrannau staffio. Pryderwyd bod y gwaith uwchraddio yn cymryd amser hir i’w gwblhau, a chwestiynwyd a oes posib iddo gael ei flaenoriaethu’n well fel bod modd cael defnydd o’r gwlâu. Cytunwyd â’r pryder hwn, gan sicrhau y bydd camau’n cael eu cymryd i geisio gwneud y system yn gyflymach ac yn fwy effeithiol. Cyfeiriwyd at ganfyddiadau adroddiad Llechen Lân - bod cynnydd yn y galw am wasanaeth ond dim digon o weithlu i ymateb i hynny. Ategwyd bod yr heriau staffio hyn yn gyfuniad o nifer o ffactorau eang. Aethpwyd ymlaen i nodi bod Gwynedd yn fwy tebygol o roi pobl mewn cartrefi henoed neu nyrsio na siroedd eraill, felly y dylid cwestiynu a yw hyn yn beth da ynteu yn cymryd annibyniaeth pobl yn gyn amserol, sy’n llenwi nifer o leoliadau heb angen.

Cydnabuwyd bod angen newid o fewn y system i hybu annibyniaeth ac er mwyn galluogi gweithredu gwell a chyflymach.

 

Holwyd am y sefyllfa o ran swyddi gwag o fewn y gwasanaeth, a chynhigiwyd y dylai cynghorwyr fod yn hyrwyddo’r swyddi hyn drwy eu platfformau ar gyfryngau cymdeithasol. Nodwyd bod nifer o swyddi yn cael eu hysbysebu ar y funud, ond er mwyn gallu mynd i’r afael â’r rhestrau aros a’r galw cynyddol, y byddai angen recriwtio llawer mwy na hynny. Adnabuwyd bod nifer uchel o wlâu gwag mewn rhai cartrefi yn ganlyniad i ddiffyg lefelau staffio digonol. Er mwyn mynd i’r afael â hynny, byddai angen mwy o gyllideb er mwyn gallu recriwtio mwy o staff.

 

Pryderwyd am y diffyg gwlâu nyrsio ym Mhen Llyn a’r diffyg gwlâu mewn ysbytai, gan grybwyll y straen a gaiff ei roi ar ofalwyr di-dâl yn ogystal.

Gobeithiwyd am sicrwydd o ran amserlen gwaith safle Penrhos cyn gynted a phosib.  Amlygwyd gan Aelod bod cyflogau isel o fewn y sector ofal yn un o’r rhesymau nad oes posib llenwi’r swyddi hyn. Nodwyd bod pethau’n symud yn eu blaen yn dda o ran y cartref nyrsio ym Mhenrhos, a chadarnhawyd gan yr Aelod Cabinet ei fod yn rhan o drafodaethau rhanbarthol o ran gofalwyr di-dal, a thegwch cyflogau ac amodau gwaith staff yn y maes gofal.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am fesur ansawdd y gofal a ddarperir, cadarnhawyd bod yr Adran yn trafod yn aml â’r rheiny sy’n derbyn y gwasanaeth ac yn holi trigolion am yr hyn sy’n bwysig iddynt hwy o ran darpariaeth. Ehangwyd ar hyn gan nodi bod Tîm Sicrwydd Ansawdd yn monitro ansawdd y gofal a ddarperir gan ddarparwyr a holi pobl am y gwasanaeth hwnnw.

 

Sylwyd bod amrywiaeth yn anghenion y rheiny sydd ar y rhestr aros am ofal cartref, gyda nifer o unigolion ar y rhestr ond nad ydynt yn barod am ofal am resymau megis bod eu heiddo yn anaddas. Soniwyd y bydd y ffigyrau hyn yn destun dadansoddiad manylach er mwyn dod i’w deall yn well. Nodwyd mai oddeutu hanner yr unigolion sydd ar y rhestr aros sy’n barod am ofal ar hyn o bryd, felly fod y ffigyrau ychydig yn gam arweiniol.

 

Gofynnwyd sut y caiff y bobl sy’n disgwyl am y pecynnau gofal hyn eu cefnogi yn y cyfamser. Mewn ymateb, eglurwyd bod technoleg benodol sy’n cynnig cymorth i’r unigolion hynny, ond bod angen datblygu pecyn i’w gynnig tra maent yn disgwyl am ofal. Y flaenoriaeth yw diogelwch yr unigolion wrth iddynt ddisgwyl, ac ychwanegwyd y dylid gwneud mwy i fynd i’r afael â’r rhestr aros. Yn ogystal, amlygwyd bod rhai o’r rheiny sydd ar y rhestr aros yn unigolion sy’n derbyn gofal yn barod ond yn awyddus i newid amser y gofal, ond efallai nad yw’r cwmni sy’n darparu’r gofal yn gallu darparu yn ystod yr amser hwnnw.

 

Mynegwyd balchder bod nifer cynyddol yn cymryd mantais o’r gwasanaeth Dementia Actif, gan holi am y ddarpariaeth sydd ar gael a natur y gweithgareddau a gaiff eu cynnal yn y sesiynau. Cadarnhawyd y caiff y sesiynau eu darparu mewn amrywiol leoliadau ar draws y sir, a disgrifiwyd y nifer o weithgareddau hwyliog a’r gwaith symudedd a gaiff eu cynnal yn y sesiynau hyn. Datgelwyd bod grŵp i ddynion wedi cychwyn yn ddiweddar, gyda nifer o’r rheiny sy’n mynychu yn ddynion ifanc sy’n dechrau dangos symptomau o ddementia. Canmolwyd y gwaith mae’r tîm o 5 yn ei wneud, ond adroddwyd bod trafodaethau yn mynd rhagddo am y ffordd ymlaen gan fod y cyllid sy’n ariannu gwaith y tîm yn dod i ben y flwyddyn nesaf. Gobeithiwyd y bydd modd datblygu ar waith y tîm er mwyn bod yn fesur ataliol i bobl sy’n dechrau dangos symptomau yn ogystal.

 

Sicrhawyd y bydd yn Pwyllgor yn rhan o’r gweithredu yn dilyn adroddiad Housing LIN, a fydd yn amlinellu’r galw am lety gofal. Nodwyd bod y canfyddiadau yn debygol o fod yn heriol ac o awgrymu bod angen nifer eiddo arbenigol i bobl hŷn ar draws y sir.

 

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Derbyn yr adroddiad a nodi’r sylwadau

 

 

 

Dogfennau ategol: